Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Anne Jenkins Rheolwr Craffu a Llywodraethu
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Rhagofynion i. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb ii. Derbyn datganiadau o fuddiant. iii. Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: i. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
Cafwyd ymddiheuriadau gan y Swyddog Monitro am absenoldeb.
ii. I dderbyn datganiadau o fuddiant.
Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.
iii. I dderbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer
Cyhoeddodd y Maer fod y Farwnes Wilcox yn sefyll i lawr fel Arweinydd y Cyngor i ymgymryd â'i rôl yn Nh?'r Arglwyddi. Diolchodd yn ffurfiol iddi ar ran y Cyngor am ei gwaith caled fel Arweinydd a chyflwynwyd anrhegion iddi gan y Prif Weithredwr ar ran uwch swyddogion a chan y Cynghorydd Mudd ar ran yr aelodau etholedig, fel arwydd o'u gwerthfawrogiad.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cadarnhau a llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Medi 2019 fel cofnod cywir.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Enwebwyd y Cynghorydd Jane Mudd gan y Cynghorydd Farwnes Wilcox; eiliwyd hyn gan y Cynghorydd R Truman. Datganwyd diddordeb gan y Cynghorydd Mudd yn yr eitem, heb unrhyw newidiadau.
Penderfynwyd: Cafodd y Cynghorydd Jane Mudd ei phenodi’n unfrydol yn Arweinydd y Cyngor.
(a) Ystyried unrhyw benodiadau eraill Yna, cyhoeddodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jane Mudd, ei phenodiadau Cabinet fel a ganlyn:-
Y Cynghorydd Jeavons – Dirprwy Arweinydd Cynghorydd Rahman – Aelod Cabinet dros Asedau Y Cynghorydd Davies – Aelod y Cabinet dros Ddatblygu Cynaliadwy.
Holodd y Cynghorydd C Townsend am gost y swydd ychwanegol, fodd bynnag, nodwyd nad oedd unrhyw swyddi ychwanegol yn cael eu creu yn y Cabinet, er bod y portffolios a theitlau Aelodau'r Cabinet wedi newid
Yna cynigiodd yr Arweinydd, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Jeavons, y dylid penodi'r Cynghorydd Hughes yn Gadeirydd newydd y Pwyllgor Trwyddedu. Nid oedd unrhyw welliannau nac enwebiadau pellach.
Penderfynwyd: bod y Cynghorydd Hughes yn cael ei benodi'n Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu
(b) Ystyried y penodiadau arfaethedig a nodir yn yr adroddiad
Cynigiodd y Cynghorydd Harvey y penodiadau a nodir yn yr adroddiad, fel y cytunwyd gan y rheolwyr Busnes, yn amodol ar y newidiadau canlynol
Penodwyd Mrs Beverly Perkins yn Llywodraethwr AALl yn Ysgol Gynradd y Gaer, yn lle'r Cynghorydd Ibrahim Hyatt.
Y Cynghorydd Ibrahim Hayat i gael ei ddisodli fel Llywodraethwr AALl ym Mharc Tredegar, a'i benodi'n Llywodraethwr AALl ar gyfer Ysgol Gyfun Gwent Is-coed.
Yn amodol ar y diwygiadau hyn, cafodd y penodiadau eu cynnig a'u heilio;
Cyfeiriodd y Cynghorydd Whitehead at benodiad Llywodraethwr Ysgol Uwchradd Casnewydd ac awgrymodd nad oedd cynrychiolaeth gan Aelodau Ward y Betws. Roedd y rhieni wedi gofyn i aelodau'r ward gynrychioli'r preswylwyr. Mewn ymateb, soniodd y Cynghorydd Harvey fod y Cynghorydd Whitehead yn sefyll i lawr fel Llywodraethwr Ysgol Uwchradd Casnewydd fel y gallai un o'i gydweithwyr ar y ward gymryd swydd.
Parthed yr eitem hon, roedd y rhan fwyaf o blaid y cynnig a'r penodiadau arfaethedig gyda phedwar yn ymatal.
Penderfynwyd: Bod y penodiadau canlynol yn cael eu cytuno.
Yn ogystal â'r penodiadau uchod, hysbysodd y Cynghorydd Harvey’r Cyngor o'r angen i gytuno ar ollyngiadau ar ... view the full Cofnodion text for item 3. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Materion yr Heddlu Neilltuir 30 munud ar gyfer cwestiynau i gynrychiolydd Heddlu Gwent.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd yr Uwcharolygydd Mike Richards ddiweddariad byr ar weithgarwch ar draws y tri sector plismona yng Nghasnewydd.
§ Roedd Tîm Canol y Ddinas yn deall pwysigrwydd Canol Dinas diogel a ffyniannus a'r effaith y byddai gweithgarwch gwrthgymdeithasol, cardota ymosodol ac anhwylderau cysylltiedig ag economi'r nos yn ei chael ynghlwm â hyn. Bu gostyngiad sylweddol o 50% mewn dwyn o siopau ac ethpwyd â phobl i’r ddalfa ynghyd â rhoi dedfrydau o garchar, a oedd yn ganlyniad cadarnhaol i fusnesau lleol. Roedd nifer cryfach o heddweision ar batrôl ar Ddydd Gwener a Sadwrn, gan ddod â'r heddlu i mewn o awdurdodau cyfagos, fel Sir Fynwy. Roedd ymgyrch Prevent wedi gweld nifer o ffyrdd dros dro yn cael eu cau yng nghanol y ddinas am gyfnod prawf dros y penwythnos a chafodd yr Heddlu adborth cadarnhaol gan berchnogion busnes. Roedd gosod bolardiau yng Nghanol y Ddinas hefyd yn cael ei ystyried fel mesur tymor hwy.
§ Cafodd tîm Dwyrain Casnewydd ychydig fisoedd prysur gyda nos Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt. Bu llawer o ymddygiad gwrthgymdeithasol a difrod i fysiau yn ddiweddar. Roedd y tîm yn ymrwymedig i ymyrryd yn gynnar ac atal. Roedd y timau'n ymweld ag ysgolion a'r prosiect Heddlu Bach yn cael canlyniad cadarnhaol. Roedd gorsaf Alway wedi agor yn ystod Calan Gaeaf gyda thema arswydus ac ymwelodd dros 100 o deuluoedd â'r orsaf. Cyhoeddwyd gwarant cyffuriau llwyddiannus yn Lilyswyry gyda gorchymyn cau ar un eiddo.
§ Mae tîm Gorllewin Casnewydd wedi gweld safleoedd yn cael eu cau yn Pottery Terrace a Clarence Place yn ymwneud â gwerthu cyffuriau. Cynhaliwyd diwrnod gweithredu amlasiantaeth yng Nghanolfan Gymunedol Maesglas a bu'n llwyddiant mawr. Roedd yr heddlu'n parhau i fonitro'r defnydd o feiciau oddi ar y ffordd yn y Betws. Yn achos Allt-yr-ynn, roedd rhai'n cysgu allan ger Llys y Goron, ac roedd pedwar ohonynt wedi'u symud ymaith. Yn olaf, roedd dau fwrgleriaeth yn y T?-Du yn ystod mis Hydref, lle cafodd cerbydau eu dwyn. Yn ffodus, gwnaed arestiadau gydag ymddangosiad llys yn yr arfaeth.
Cwestiynau gan Gynghorwyr:
Diolchodd y Cynghorydd Jeavons i'r Uwcharolygydd am y gwaith parhaus yn Llyswyry a gofynnodd a fyddai'r Heddlu'n cynorthwyo gyda'r tîm Gorfodaeth Parcio Sifil (GPS) ac yn gorfodi troseddau parcio troseddol, megis parcio peryglus y tu allan i ysgolion. Mewn ymateb, cynghorwyd eu bod yn cydweithio â swyddogion y GPS a'r Heddlu Bach; roedd menter ysgol newydd wedi bod yn ceisio addysgu gyrwyr yn ystod yr amser gadael yn yr ysgol, a oedd yn llwyddiant.
Gofynnodd y Cynghorydd Harvey i'r Uwcharolygydd ddiolch i'r Arolygydd Cawley am weithredu'n gyflym o ran galwadau dienw. Cafodd Gorsaf Heddlu Spooky dderbyniad da gan drigolion a gwnaed yr heddlu yn bobl o gig a gwaed unwait yn rhagor. Yr oedd un mater a godwyd gan y trigolion ynghylch dau ddyn; un â beic, a oedd yn galw ar breswylwyr a gofyn a allent newid eu nwy a thrydan. Cynghorodd yr Uwcharolygydd y byddai'n rhoi rhybudd i breswylwyr beidio ag ateb eu drysau yn y nos i unrhyw un a ... view the full Cofnodion text for item 4. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol - 2018/19 PDF 83 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: O dan y Ddeddf Cydraddoldeb (2010), roedd yn ofynnol i'r Cyngor adrodd yn flynyddol ar y cynnydd a wnaeth yn erbyn y naw Amcan Cydraddoldeb Strategol a gynhwysir o fewn ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol. Roedd y Ddeddf Cydraddoldeb hefyd yn gofyn Awdurdodau Lleol i gyhoeddi data cydraddoldeb staff, a oedd yn yr adroddiad hwn hefyd.
Yr adroddiad hwn, a dderbyniwyd yn flaenorol gan y Cabinet, oedd y trydydd adroddiad blynyddol ar y cynnydd a wnaed gan Gyngor Dinas Casnewydd tuag at gyflawni'r Amcanion Cydraddoldeb a nodwyd yn ail Gynllun Cydraddoldeb Strategol pedair blynedd yr awdurdod (CCS), fel y'i cymeradwywyd gan y Cyngor ar 3 Mawrth 2016.
Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a chynigodd i'r cynllun gael ei fabwysiadu gan y Cyngor, eiliodd y Cynghorydd Mayer.
Croesawodd y Cynghorydd K Thomas yr adroddiad, a theimlai ei fod wedi'i gyflwyno'n dda iawn, ac roedd yn falch o weld y pwyntiau gweithredu yn y cynllun yr ymdriniwyd â hwy.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Hughes at Ssafonau'r Gymraeg a chroesawodd y gwaith caled a wnaed gan y swyddogion, yn enwedig ar y cydweithio gyda'r tîm cydraddoldebau.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Giles gynllun gweithredu ynghyd â'r gwaith gwych gyda Chyngor Ieuenctid Casnewydd, a addawodd geisio barn pobl ifanc ar bolisïau'r Cyngor. Roedd NEETS hefyd wedi cael effaith sylweddol dros y pum mlynedd diwethaf gyda gostyngiad o 4.7% i 1.1% mewn pobl ifanc nad oeddent yn gweithio, ac roedd hyn yn is na chyfartaledd Cymru am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Diolchodd y Cynghorydd Cockeram i'r swyddogion a oedd wedi gweithio'n hynod o galed am eu hadroddiad rhagorol a chyfeiriodd at y tîm cymorth a gefnogodd 6000 o bobl i gynnal tenantiaeth o fewn Casnewydd. Roedd y rhain yn ystadegyn ardderchog, a diolchwyd i'r tîm unwaith eto.
Penderfynwyd fod y Cyngor yn unfrydol gymeradwyo'r adroddiad monitro terfynol i'w gyhoeddi ar wefan y Cyngor, yn unol â therfynau amser statudol.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Blynyddol Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd - 2018/19 PDF 148 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyngor sefydlu Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Roedd y Mesur yn rhagnodi swyddogaethau'r pwyllgor ac yn ei gwneud yn ofynnol iddo lunio adroddiad o leiaf bob blwyddyn i'r Cyngor.
Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor yr adroddiad ac amlinellodd y gwaith a wnaed gan y Pwyllgor am y flwyddyn. Nodwyd bod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn cytuno ar yr adroddiad blynyddol sydd ynghlwm fel Atodiad A ar 24 Hydref 2019.
Yn ogystal, Atodiad B oedd adroddiad blynyddol Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio, ar ran Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 24 Hydref 2019 er mwyn adolygu digonolrwydd y staff i gefnogi'r aelodau.
Cynigiodd y Cynghorydd Fouweather yr adroddiad, a eiliwyd gan y Cynghorydd H Thomas.
Cyfeiriodd y Cynghorydd M Evans at eitem y Llywydd, a aeth gerbron y Pwyllgor ar 24 Hydref 2019. Dywedodd y Swyddog Monitro y câi'r cofnodion eu cyflwyno i'r Cyngor yn dilyn y gymeradwyaeth yn y cyfarfod nesaf o'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Hourahine at y Newidiadau i'r Comisiwn Ffiniau. Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai mwy o wybodaeth am hyn yn y flwyddyn newydd.
Penderfynwyd § fod y Cyngor yn unfrydol dderbyn adroddiad blynyddol y Pwyllgor i'r Cyngor er mwyn cwrdd â gofynion y Mesur Llywodraeth Leol, fel y'i cyflwynwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.
§ Nododd y Cyngor gynnwys Adroddiad Blynyddol Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, fel tystiolaeth ategol fod y Pwyllgor wedi cyflawni ei gyfrifoldeb i adolygu digonolrwydd staff i gefnogi aelodau
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau - 2018/19 PDF 86 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yr Adroddiad a gyflwynwyd i'r Cyngor yw pumed Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2017/18. Rhoddodd yr Adroddiad Blynyddol wybodaeth i'r Cyngor am y gwaith a wnaed gan y Pwyllgor yn ystod y 12 mis blaenorol, gan nodi unrhyw faterion penodol a gododd.
Cyflwynodd y Cynghorydd H Thomas yr adroddiad blynyddol ar ran y Cadeirydd Safonau.
Cynigiodd y Cynghorydd H Thomas adroddiad, a eiliwyd gan y Cynghorydd Hourahine. Diolchodd y Cynghorydd Hourahine hefyd i Mr P Westwood am gadeirio'r Pwyllgor Safonau.
Penderfynwyd Fod y Cyngor yn unfrydol dderbyn Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2017/18 a nodi'r flaenraglen waith.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor Rhoi cyfle i gynghorwyr ofyn cwestiynau i arweinydd y Cyngor yn unol â Rheolau Sefydlog y Cyngor.
Proses:
Caiff dim mwy na 15 munud ei neilltuo yng nghyfarfod y Cyngor i ofyn cwestiynau i Arweinydd y Cyngor.
Rhaid gofyn y cwestiwn drwy’r Maer neu’r person sy’n llywyddu yn y cyfarfod ac nid yn uniongyrchol i’r person y gofynnir y cwestiwn iddo.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd yr Arweinydd y cyhoeddiadau canlynol, cyn bwrw ymlaen â chwestiynau:
Manteisiodd yr Arweinydd Newydd ar y cyfle i ddiolch i'r Farwnes Wilcox a'i chydweithwyr am eu cefnogaeth yn ystod yr enwebiad am yr Arweinyddiaeth. Diolchodd yr Arweinydd hefyd i'w theulu, a chymuned Malpas am eu cefnogaeth, oedd yn golygu llawer, yn enwedig gan ei bod yn breswylydd yng Nghasnewydd, a aned ym Malpas.
Enwodd yr Arweinydd dri unigolyn yn arbennig, gan gynnwys ei thad, David Taylor a Ron Jones.
Parhaodd yr Arweinydd i annerch y Cyngor gan sôn am y cyfnod anodd a heriol a wynebai'r Cyngor a'r angen i gydweithio.
Cwestiynau i’r Arweinydd
Diolchodd y Cynghorydd M Evans i'r Arweinydd a pharhau gyda'i gwestiwn mewn perthynas â chynigion y gyllideb, gan ofyn i'r Arweinydd ymestyn y cyfnod ymgynghori, gan fod Cyngor Caerffili wedi dechrau ar eu cyfnod ymgynghori lawer ynghynt. Yn ogystal â hyn, ar wahân i unrhyw gynnydd mewn chwyddiant, awgrymwyd y byddai cynnydd yn y dreth gyngor yn cael ei rewi i'r Cyngor hwnnw.
Ni allai'r Arweinydd roi sylwadau ar weithgareddau awdurdodau eraill a dywedodd fod swyddogion yn dal i ddatblygu cynigion ynghylch y gyllideb ddrafft. Felly, ni fyddai'n briodol iddi roi sylwadau ar hyn o bryd.
Gwahoddwyd y Cynghorydd M Evans i ofyn cwestiwn atodol, lle ailadroddodd ei fod yn gobeithio er lles trigolion Casnewydd y byddai'r unig gynnydd i'r dreth gyngor yn adlewyrchu cyfradd chwyddiant heb ddim cynnydd pellach gan y Cyngor.
Llongyfarchodd y Cynghorydd Whitehead yr Arweinydd Newydd ar ei phenodiad a chyfeiriodd at yr ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y Betws a'r diffyg darpariaeth ar gyfer ieuenctid a phlant, megis clybiau ieuenctid.
Roedd yr Arweinydd yn ymwybodol o'r heriau a wynebir gan ieuenctid ar draws y ddinas. Roedd gwasanaeth ieuenctid symudol ar waith ac roedd y cyfraniad gan wirfoddolwyr ledled y ddinas yn cael ei werthfawrogi, gan gynnwys cymorth y Cynghorydd Cleverly. Roedd cynllun yn Ysgol Uwchradd Casnewydd lle bu cyn-gapten Newport County, David Pike yn gweithio gyda phobl ifanc i fagu hyder a hunan-barch. Byddai'r Arweinydd yn fwy na pharod i siarad yn fanwl â'r cynghorydd Whitehead am y mater hwn, os hoffai wneud apwyntiad.
Gofynnodd y Cynghorydd C Townsend a oedd diweddariad ar seminar pob Aelod ar sbwriel a glanhau strydoedd fel y trafodwyd yng Nghyngor mis Gorffennaf. Roedd llawer iawn o sbwriel a thipio anghyfreithlon o hyd yng nghanol y ddinas ac ni allai un ward honni ei bod yn rhydd o sbwriel ac roedd yn berygl i iechyd y cyhoedd.
Roedd yr Arweinydd yn cydnabod ei fod yn gwestiwn pwysig a byddai'n trefnu seminar i bob aelod yn y dyfodol agos. Soniodd yr Arweinydd hefyd y byddai'n esgeulus iddi beidio â chydnabod gwirfoddolwyr sy'n helpu i gadw Casnewydd yn daclus, gan gynnwys y Cynghorydd Forsey a'r Cynghorydd M Evans. Roedd ffactorau hylendid yn bwysig iawn ac roedd angen i bob aelod fod yn ymwybodol o'r holl weithgareddau.
Gofynnodd y Cynghorydd Hughes am ddiweddariad ar adfywio ar draws y ddinas.
Tynnodd yr Arweinydd sylw at gynnydd rhai o'r prosiectau ar draws ... view the full Cofnodion text for item 8. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau i Aelodau'r Cabinet Cynnig cyfle i ofyn cwestiynau i Aelodau’r Cabinet yn unol â’r Rheolau Sefydlog.
Proses:
Caiff dim mwy na 10 munud ei neilltuo yng nghyfarfod y Cyngor i ofyn cwestiynau i bob Aelod Cabinet.
Rhaid i aelodau gyflwyno eu cwestiynau yn ysgrifenedig o flaen llaw yn unol â’r Rheolau Sefydlog. Os nad yw aelodau yn gallu gofyn eu cwestiynau ar lafar o fewn yr amser a neilltuwyd, caiff y cwestiynau sy’n weddill eu hateb yn ysgrifenedig. Caiff y cwestiwn a’r ateb eu hatodi at y cofnodion.
Rhaid gofyn y cwestiwn drwy’r Maer neu’r person sy’n llywyddu yn y cyfarfod ac nid yn uniongyrchol i’r person y gofynnir y cwestiwn iddo.
Caiff cwestiynau eu gofyn i Aelodau’r Cabinet yn y drefn ganlynol:
i. Yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau ii. Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol iii. Yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Thai iv. Yr Aelod Cabinet dros Gymunedau ac Adnoddau v. Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau’r Ddinas vi. Yr Aelod Cabinet dros Drwyddedu a Rheoleiddio vii. Yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden
Rhagor o wybodaeth: Mae crynhoad o’r atodlenni’n ymwneud â phenderfyniadau a gyhoeddwyd gan y Cabinet, Aelodau’r Cabinet a Chofnodion cyfarfodydd diweddar y Pwyllgorau wedi’u dosbarthu’n electronig i holl Aelodau’r Cyngor. . Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: i. Yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau
Gofynnodd y Cynghorydd J Watkins y cwestiwn canlynol a gyflwynwyd o flaen llaw:
'A all yr Aelod Cabinet ddatgelu cyfanswm tanwariant cyffredinol y Cyngor o'r flwyddyn ariannol ddiwethaf ac a wariwyd unrhyw swm o'r tanwariant hwnnw ar wasanaethau Addysgol Casnewydd'
Ymatebodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau:
Aeth sefyllfa Alldro Refeniw y Cynghorau i'r Cabinet ar 22 Mai ac felly mae'r wybodaeth hon wedi bod ar gael i'r cyhoedd ers cryn amser.
Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol 2018/19 cafwyd tanwariant o £ 2,383k ar refeniw. Cytunodd y Cabinet ar un ar ddeg o feysydd buddsoddi. O'r tanwariant hwn, defnyddiwyd £250k at ddibenion addysg.
Cwestiwn atodol:
Y gorwariant a ragwelwyd ar gyfer ysgolion yng nghyllideb eleni oedd tua £2.6M ac amcangyfrifwyd bod y cronfeydd wrth gefn am fod yn £2.75M. A oedd yr Aelod Cabinet, felly, yn teimlo y gallai'r tanwariant y llynedd fod wedi helpu ysgolion i ddatrys eu dyled yn hytrach na gwario ar brosiectau wrth gefn.
Cynghorodd yr Aelod Cabinet y byddai angen cyfeirio'r cwestiwn hwn at y Prif Weithredwr neu'r Pennaeth Cyllid gan y byddai'n gallu rhoi ymateb manylach.
ii. Gofynnodd y Cynghorydd Joan Watkins y cwestiwn canlynol a gyflwynwyd o flaen llaw:
'A yw'r Aelod Cabinet yn teimlo bod Ysgolion Uwchradd Casnewydd wedi'u staffio'n ddigonol gan ddigon o athrawon? '
Ymatebodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau:
Mae Cyrff Llywodraethu Unigol yn rheoli cyllidebau dirprwyedig ysgolion uwchradd ac yn gyfrifol am bennu strwythur staffio priodol yn unol â'r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol.
Mae hyn felly y tu allan i'm cylch gorchwyl fel yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau.
Atodol:
Codwyd hyn am fod un ysgol yng Nghasnewydd wedi gostyngiad o 10 aelod staff, ac nid oedd y cwbl wedi cael eu disodli gan athrawon cyflenwi.
Ailadroddodd yr Aelod Cabinet mai penderfyniad y cyrff llywodraethu oed hyn ac nid yr Aelod Cabinet neu'r Cyngor.
iii. Yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden
Nid oedd y Cynghorydd Ray Mogford yn bresennol fodd bynnag, cofnodwyd y cwestiwn a'r ymateb fel a ganlyn:
'A yw'r Aelod Cabinet dros hamdden yn credu y bydd y cynllun beiciau pedal newydd ym Mharc Tredegar yn werth da am arian'.
Ymatebodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden:
Ydy - mae'r cynllun yn rhoi gwerth am arian, gan ei fod yn cynnig tegwch drwy alluogi plant ac oedolion i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol gyda'u ffrindiau a'u teuluoedd. Mae'n galluogi mynediad cyfartal, gan helpu i weddnewid bywydau drwy chwaraeon ar gyfer pob oedran a gallu. Fel yr hyrwyddir gan Chwaraeon Anabledd Cymru, mae'r cynllun beicio yn hwyluso 'chwaraeon i bawb' drwy gefnogi amrywiaeth mewn hamdden, caniatáu i blant a'u teuluoedd neu eu gofalwyr, fwynhau gweithgaredd hamdden gyda'i gilydd, na fyddai'n bosibl o fewn lleoliad chwaraeon safonol.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pwyllgor Safonau Cofnodion PDF 79 KB Nodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau ar 11 Ebrill a 11 Gorffennaf 2019.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2019.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dyddiad y Cyfarfod Nesaf Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dydd Mawrth 28 Tachwedd am 5pm yn Siambrau'r Cyngor.
|