Agenda and minutes

Cyngor - Dydd Mawrth, 29ain Mehefin, 2021 5.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Anne Jenkins  Rheolwr Craffu a Llywodraethu

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Rhagofynion

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

1.i Ymddiheuriadau

Y Cynghorwyr Whitcutt, K Thomas, Dudley a C Evans

 

1.ii Datgan Buddiant

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiant.

 

1.iii Cyhoeddiadau'r Maer

Cynhaliodd y Maer funud o dawelwch i'r cyn Gynghorydd Peter McKim.  Peter oedd yr aelod ward Llafur dros Graig a bu'n gwasanaethu dros ddau dymor, gan adael y cyngor yn 2004. 

 

Soniodd y Maer hefyd am ymddiswyddiad diweddar aelod arall o ward Graig, y Cynghorydd Cornelious ar sail afiechyd, a dymunodd y gorau iddi i'r dyfodol.

 

Gofynnodd y Maer i'r Arweinydd gyhoeddi bod y Cynghorydd Stephen Marshall wedi cael gwahoddiad i ddod y aelod o Urdd Sant Ioan, a oedd yn gyflawniad anhygoel.  Aeth yr Arweinydd yn ei blaen i ddweud y byddai'r rhan fwyaf o'i chydweithwyr yn gwybod bod y Cynghorydd Marshall wedi bod yn wirfoddolwr gydag Ambiwlans Sant Ioan, a'i fod yn cefnogi'r rhaglen frechu.  Roedd y wobr hon hefyd yn cydnabod ei ymroddiad i hyfforddi aelodau iau.  Roedd y wobr hon wedi'i chymeradwyo gan y Frenhines, ac felly'n anrhydedd aruthrol i un o gynghorwyr Casnewydd.

 

 

2.

Cofnodion pdf icon PDF 149 KB

To confirm and sign the minutes of the meetings from 27 April and 11 May (AGM).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd bod Cofnodion 27 Ebrill a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ar 11 Mai 2021 yn gywir.

 

3.

Penodiadau pdf icon PDF 93 KB

To consider any proposed appointments.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyried y penodiadau arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad

 

Cynigiodd y Cynghorydd Harvey y penodiadau a nodwyd yn yr adroddiad, fel yr oedd y Rheolwyr Busnes wedi cytuno arnynt, yn amodol ar y penodiadau ychwanegol a nodir isod.

 

Penderfynwyd: Cytuno ar y penodiadau canlynol.

 

Penodiadau Cyrff Llywodraethol

 

Corff Llywodraethol

Nifer y Swyddi Gwag / Ailbenodiadau

Enwebiadau a Gafwyd

Ysgol Basaleg

1

Yvonne Forsey

Ysgol Gyfun Caerllion

1

Jason Hughes

Ysgol Gynradd Glan Wysg

1

Phillip Hourahine

Ysgol Gynradd Glan Wysg

1

Merille Hourahine

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Malpas

1

Laura Lacey

Ysgol Gynradd Mount Pleasant

1

Yvonne Forsey

Ysgol Gynradd Sain Silian

1

Mark Spencer

Ysgol Sain Silian

1

Graham Berry

Ysgol Gynradd Maendy

1

Richard Morgan

Ysgol Gyfun Caerllion

1

Joan Watkins

Ysgol Gynradd Crindau

1

Herbie Thomas

Ysgol Gynradd Gaer

1

Stephen Marshall

Ysgol Gynradd Langstone

1

William Routley

Ysgol Uwchradd Llanwern

1

Deborah Harvey

Ysgol Gynradd Millbrook

1

Jason Jordan

Ysgol Uwchradd Casnewydd

1

Herbie Thomas

Ysgol Gynradd Ringland

1

Malcolm Linton

Ysgol Gynradd Maerun

1

John Tobutt

Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon

1

Hywel Jones

Ysgol Gynradd Pilgwenlli

1

Debbie Jenkins

 

Penodi i Gyrff Allanol

 

Ymddiriedolaeth Charles Williams: Cynghorydd Gail Giles.

 

Yn ogystal â’r penodiadau uchod, hysbysodd y Cynghorydd Harvey y Cyngor fod angen cytuno ar oddefeb ar gyfer absenoldeb y Cynghorydd Val Dudley, oherwydd salwch ac yn unol ag adran 85 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Penderfynwyd:

Cymeradwyo chwe mis o absenoldeb i'r Cynghorydd V Dudley.

 

4.

Materion yr Heddlu

30 minutes is allocated for questions to the Gwent Police representative.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Uwcharolygydd Mike Richards y newyddion diweddaraf am flaenoriaethau plismona lleol cyfredol, cyn gofyn am gwestiynau gan yr Aelodau.

 

Estynnodd yr Arweinydd groeso i'r Uwcharolygydd Richards i gyfarfod y Cyngor, a chyfeirio at y galw am ddarpariaeth gwasanaeth a chyllid ar gyfer strydoedd saffach. Myfyriodd hefyd ar weithio mewn partneriaeth a'r camau nesaf, gan gydnabod y pwysau amrywiol wrth symud ymlaen i adfer ar ôl covid. Fel ceidwaid ein cymunedau, dylem gyfeirio materion i wasanaethau preswyl nas darperir gan yr heddlu, ac mae gennym oll rôl i'w chwarae wrth gyfeirio preswylwyr i dderbyn y gwasanaethau cywir.  Dywedodd yr Arweinydd hefyd fod recriwtio staff newydd i'r Heddlu yn newyddion gwych.

 

Gofynnodd yr Arweinydd hefyd am geisiadau teithio llesol, ac am y gallu i gyflwyno'r peilot strydoedd saffach â'r terfyn cyflymder 20mya.  Roedd preswylwyr yn dal i fynegi pryder bod pobl yn torri'r terfyn cyflymder, a gofynnwyd i MR a allem gydweithio â Gan Bwyll i orfodi cyflymder, gan nad oeddem am golli momentwm.

 

Ategodd yr Uwcharolygydd sylwadau'r Arweinydd ynghylch yr angen i'r Heddlu a'r Cyngor weithio mewn partneriaeth.

 

Cwestiynau gan y Cynghorwyr:

 

Gofynnodd y Cynghorydd Holyoake pa strydoedd ym Mhilgwenlli fyddai'n elwa ar y fenter Strydoedd Saffach ac yn cael camerâu cyflymder wedi'u gosod arnynt.  Dywedodd yr Uwcharolygydd Richards mai'r strydoedd hyn fyddai'r Heol Fasnachol a Rhodfa Francis.  Byddai'r Arolygydd Blakemore hefyd yn cysylltu â'r Cynghorydd Holyoake i drafod hyn yn fanwl.

 

Diolchodd y Cynghorydd Jeavons i'r Uwcharolygydd am y diweddariad am Ymgyrch Snap yn Alway a Ringland.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Suller yr Uwcharolygydd am ddal delwyr cyffuriau a chodi pryder ynghylch 'rebels rasio' yng Nghoedcernyw, ar yr A48 ac Imperial Way, a gofynnodd a ellid gweithredu mesurau i arafu traffig.  Byddai'r Uwcharolygydd Richards yn gofyn i'r arolygydd lleol gysylltu â'r Cynghorydd Suller i drafod hyn.

 

Diolchodd y Cynghorydd Harvey i'r Uwcharolygydd am gyflymder yr arestiadau a wnaed mewn perthynas â'r digwyddiad trasig yn Alway ddechrau mis Mehefin.

 

Diolchodd y Cynghorydd Rahman i'r Uwcharolygydd am y cymhorthfa stryd a oedd wedi'i drefnu ar gyfer ardal Heol Bryn Derwen, a chyfeirio at yr achosion diweddar pan welwyd cerbyd a oedd yn gysylltiedig â gweithgarwch delio cyffuriau flwyddyn neu ddwy yn ôl ar Heol Bryn Derwen.  Roedd preswylwyr am gael sicrwydd, ar ôl iddynt ffonio 101 i riportio trosedd, y byddai'r Heddlu'n gweithredu ar yr wybodaeth a gafwyd, fel nad oeddent yn colli ffydd yn yr Heddlu. Sicrhaodd yr Uwcharolygydd Richards y Cynghorydd Rahman fod pob galwad 101 yn derbyn ymateb a byddai'n gofyn i'r Arolygydd Cawley gysylltu â'r Cynghorydd.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Forsey at y cynnydd yn y niferoedd sy'n beicio a'r damweiniau cysylltiedig, gan gynnwys un farwolaeth yng Nghasnewydd, a gofynnodd a fyddai Ymgyrch Pasio'n Agos yn cael ei gweithredu yng Nghasnewydd.  Dywedodd yr Uwcharolygydd Richards fod Heddlu Gwent yn bwriadu gweithredu hyn yng Nghasnewydd yn fuan ac y byddai'n rhoi'r amserlen i'r Cynghorydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Linton wrth yr Uwcharolygydd fod y llosgwr lleol wedi dychwelyd i Ringland, a chyfeirio at ddigwyddiad a  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Rhybudd o Gynnig: Amrywiaeth mewn Democratiaeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i'r cynnig a ganlyn, yr oedd y rhybudd angenrheidiol wedi'i roi amdano.  Gwnaed y cynnig gan yr Arweinydd, ac fe'i heiliwyd gan y Farwnes Wilcox.

 

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cydnabod bod llawer o waith wedi’i wneud yn ystod y degawd diwethaf yng Nghymru i fesur a gwella amrywiaeth cynghorau. Mae mwy o waith ar y gweill i baratoi am etholiadau 2022. Ceir ymgyrch gyfathrebu genedlaethol i annog pobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i bleidleisio, i ymgysylltu â democratiaeth leol a sefyll am swydd. Mae rhaglenni mentora newydd yn cael eu darparu gyda Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru a Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru. Bydd Stonewall Cymru ac Anabledd Cymru hefyd yn cynnig rhaglenni mentora cyn bo hir. Mae Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Senedd yn gweithio gyda Chynghorau, ysgolion a chynghorau ieuenctid ac yn datblygu adnoddau i annog pobl ifanc 16 a 17 oed i gymryd rhan a phleidleisio. Mae gan CLlLC wefan Bydd yn Gynghorydd newydd ac mae'n rhan o ymgyrch Moesgarwch mewn Bywyd Cyhoeddus a gynhelir ar draws y DU. Mae'n cydweithio â Chynghorau i wella ystod y cymorth a'r cyfleoedd datblygu a ddarperir i aelodau.

 

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi ymrwymo i fod yn Gyngor Amrywiol.

 

Rydym yn cytuno i:

·         Wneud ymrwymiad cyhoeddus clir i wella amrywiaeth mewn democratiaeth

·         Arddangos diwylliant agored a chroesawgar i bawb, gan hyrwyddo'r safonau uchaf o ran ymddygiad ac ymarweddiad[DVX31] 

·         Parhau i fwrw ymlaen ag argymhellion gweithgor Amrywiaeth mewn Democratiaeth CLlLC

 

Sylwadau gan Gynghorwyr:

 

Wrth eilio'r cynnig, dywedodd y Farwnes Wilcox fod Cyngor CLlLC, ar 5 Mawrth eleni, ar noswyl Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, wedi ategu cyfres o argymhellion pwysig gan weithgor trawsbleidiol, a oedd yn cynnwys y defnydd o gwotâu gwirfoddol, targedau lleol, a datganiadau gan gynghorau i ddod yn 'Gynghorau Amrywiol'. Roedd hyn yn deillio o sefydlu gweithgor trawsbleidiol ar grwpiau tangynrychioledig o dan arweinyddiaeth flaenorol y Farwnes Wilcox yn CLlLC, ac roedd y Farwnes Wilcox yn falch o gadeirio'r gweithgor hwnnw hyd fis Tachwedd pan gyflwynwyd ei gynigion cychwynnol gerbron Cyngor CLlLC.

 

Cytunodd CLlLC i gymryd camau i hybu cydraddoldeb rhywiol ac amrywiaeth mewn Cynghorau cyn etholiadau 2022. Roedd hyn i gydnabod y diffyg amrywiaeth yng Nghynghorau Cymru. Cylch gwaith y gr?p oedd ymchwilio i dangynrychiolaeth ehangach mewn democratiaeth a sicrhau newid drwy gyfres o gamau gweithredu ac addewidion.

 

Roedd cymunedau lleol yn amrywiol o ran eu profiad bywyd, eu blaenoriaethau a'u hanghenion. Dylai cynghorwyr o bob plaid adlewyrchu'r amrywiaeth hwn yn y sgiliau a'r profiad y maent yn eu cynnig i'r cyngor.

 

Nid mater o gydraddoldeb yn unig oedd hwn, er mor bwysig oedd hynny - ond bod angen i siambrau cyngor gael eu llenwi â phobl ag ystod amrywiol o brofiadau bywyd a dyheadau amrywiol; bydd gwell amrywiaeth yn arwain at well penderfyniadau.

 

Chwaraeodd cynghorau a chynghorwyr ran allweddol, ganolog ac amlwg yn ystod pandemig COVID 19. Dangosodd cynghorau eu bod mewn sefyllfa unigryw wrth galon eu cymunedau a’r gwasanaethau yr oeddent yn eu  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Hysbysiad o Gynnig: Rhyddid Casnewydd - Y Lleng Brydeinig Frenhinol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i'r cynnig a ganlyn, yr oedd y rhybudd angenrheidiol wedi'i roi amdano.  Gwnaed y cynnig gan yr Arweinydd, ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Spencer.

 

Bod Cyngor Dinas Casnewydd yn penderfynu penodi'r Lleng Brydeinig Frenhinol fel Rhyddfreiniwr Anrhydeddus Dinas Casnewydd, i gydnabod ei Chanmlwyddiant ar 15 Mai 2021, ac i anrhydeddu gwaith elusennol y sefydliad sy'n cefnogi cyn-aelodau o'r lluoedd a'u teuluoedd.

 

Ffurfiwyd y Lleng Brydeinig Frenhinol ym mis Mai 1921 drwy uno pedair cymdeithas cyn-filwyr y Rhyfel Byd Cyntaf.  Ei phwrpas oedd:

·         rhoi cymorth i gyn-filwyr a'u teuluoedd sydd angen cymorth,

·         ymgyrchu i wella amodau, a

·         hyrwyddo Coffadwriaeth.

 

Wrth wneud y cynnig, dywedodd yr Arweinydd, yn 1921, fod Sylfaenydd a Llywydd y Lleng Brydeinig, yr Iarll Haig, wedi cyhoeddi y byddai Diwrnod y Cadoediad ar 11 Tachwedd yn cael ei alw byth wedi hynny'n Ddiwrnod y Cofio, ac y byddai'n 'Ddiwrnod Pabi' i godi arian er budd cyn-filwyr.

 

Bu dros chwe miliwn o ddynion yn gwasanaethu ar y rheng flaen yn ystod y rhyfel, ac o'r rhai a ddaeth yn eu hôl, dioddefodd 1.75 miliwn ohonynt ryw fath o anabledd, ac roedd hanner y rheiny'n anabl yn barhaol.  Roedd angen cofio hefyd yr effaith emosiynol ac ariannol hyn ar y rhai a gafodd eu gadael ar ôl - gwragedd a phlant, gweddwon a phlant amddifad, yn ogystal â'r rhieni a oedd wedi colli eu meibion.

 

Yn sgil y pryder hwn, sefydlwyd y Lleng, ac mae'r sefydliad wedi helpu cymuned y Lluoedd Arfog a'u teuluoedd byth ers hynny.  Roedd y Lleng yn rhoi cymorth i aelodau a oedd yn gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol, y Fyddin Brydeinig, yr Awyrlu Brenhinol, cyn-filwyr a'u teuluoedd, drwy gydol eu hoes.  Roedd amrywiaeth eang o weithgareddau'n cael eu cynnig, gan gynnwys cymorth ar gyfer argyfyngau a dyledion, cyflogaeth, gofal dementia, a chefnogi lleoedd drwy gynnal gorymdeithiau a gwasanaethau'r Cofio.

 

Yng Nghasnewydd roeddem yn ffodus o gael pedair cangen i'r Lleng Brydeinig Frenhinol - cangen Dynion Casnewydd, cangen Menywod Casnewydd, cangen T?-du a changen Caerllion.

 

Roedd y gwahaniaeth yr oedd y Lleng Brydeinig Frenhinol yn ei wneud i fywydau pobl yn amhrisiadwy, wrth iddi nodi ei chanmlwyddiant ym mis Mai, ac roedd yr Arweinydd o'r farn ei bod hi'n bwysig i Gasnewydd roi cydnabyddiaeth ffurfiol o gyfraniad y sefydliad hwn i bobl Casnewydd Teimlwyd bod rhoi Rhyddfraint y Ddinas i'r sefydliad yn anrhydedd priodol, ar ran pobl Dinas Casnewydd ac aelodau etholedig y Cyngor hwn, ac roedd hi'n fraint i'r Arweinydd wneud cais ffurfiol i Gyngor Dinas Casnewydd roi Rhyddfraint y Ddinas i'r Lleng Brydeinig Frenhinol ym mlwyddyn ei chanmlwyddiant.

 

Pe bai'r cais hwn yn cael ei ganiatáu, gellid cynnal seremoni gyflwyno fwy ffurfiol yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a gobeithiwyd y byddai'r digwyddiad hwnnw'n galluogi'r Cyngor i ddathlu gwaith y sefydliad anhygoel hwn yn llawn, a rhoi cydnabyddiaeth lawn o'r anrhydedd a roddwyd iddo.

 

Sylwadau gan Gynghorwyr:

 

Roedd y Cynghorydd M Evans yn croesawu'r cynnig ac yn ei gefnogi'n llwyr, er ei fod yn siomedig na ofynnwyd iddo am  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Adroddiad Strwythur Rheoli pdf icon PDF 227 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad i'r Cyngor, gan dynnu sylw at yr ymgynghoriad ag arweinwyr grwpiau gwleidyddol a chynrychiolwyr undebau, yn ogystal â'r gwaith agos a wnaed â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.  Byddai proses recriwtio fesul cam yn cael ei chynnal, ynghyd â phanel recriwtio wedi'i ffurfio o'r aelodau.  Byddai hyn yn cael ei gynnal mewn modd agored a thryloyw.  O ran y goblygiadau ariannol, byddai'r isafswm yn cael ei fuddsoddi yn unol â chyllideb refeniw'r cyngor.

 

Cynigiodd yr Arweinydd yr adroddiad, a eiliwyd gan y Cynghorydd M Evans.

 

Os oedd ganddynt unrhyw gwestiynau ynghylch yr adroddiad, gofynnodd y Maer i'r cynghorwyr ofyn y cwestiynau hynny i'r Prif Weithredwr.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Cleverly i'r Prif Weithredwr a fyddai'n dal angen i'r staff ailymgeisio am eu swydd, neu a fyddent yn cael eu paru â swydd, ac yn ogystal â hynny, a fyddai unrhyw ddiswyddiadau?  Dywedodd y Prif Weithredwr na fyddai hyn yn amharu ar unrhyw Bennaeth Gwasanaeth presennol, ac y byddent felly'n cael eu paru â rôl o fewn y strwythur arfaethedig, gyda mân newidiadau i'r meysydd gwasanaeth cysylltiedig ac, yn ystod y cam gweithredu cychwynnol, ni fyddai unrhyw staff yn cael eu diswyddo.

 

Gofynnodd y Cynghorydd T Watkins beth oedd yr amserlen ar gyfer sefydlu'r swyddi hyn. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai'r broses recriwtio yn dechrau ar unwaith, ac y rhagwelwyd y byddai'r swyddi yn eu lle o fewn y tri i bum mis nesaf.

 

Dywedodd y Cynghorydd Fouweather fod anawsterau wedi codi yn y gorffennol wrth recriwtio uwch swyddogion, a gofyn a oedd y cyflogau'n gystadleuol o fewn y farchnad.  Cytunodd y Prif Weithredwr ei bod hi'n dda annog cystadleuaeth, a bod cyflogau'r cyfarwyddwyr yn gystadleuol.  Roedd cyflogau'r Penaethiaid Gwasanaeth yn gymesur â chyflogau eraill o fewn Llywodraeth Leol.

 

Roedd yr Arweinydd yn falch o gefnogi adroddiad y Prif Weithredwr i weithredu diwygiadau i strwythur uwch reoli'r Cyngor, yr oedd angen mawr amdanynt.

 

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, bu'r Prif Weithredwr, yn ei rôl fel Pennaeth Gwasanaeth Cyflogedig, yn gweithio'n agos â CLlLC i adolygu'r strwythur prif swyddogion ar lefel Penaethiaid Gwasanaeth a Chyfarwyddwyr.  

 

Cafwyd gostyngiad o 39% i'r strwythur lefel uwch ers 2011, ond parhaodd agenda newid y Cyngor a'i ddisgwyliadau ar gyfer y Ddinas i dyfu dros yr un cyfnod - roedd yr adolygiad felly'n cefnogi'r angen i greu capasiti strategol er mwyn i'r Cyngor allu manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd.

 

Yn ei hadroddiad, manylodd y Prif Weithredwr ar yr angen i gryfhau'r uwch dîm arwain i sicrhau bod y Cyngor yn parhau i symud y Ddinas yn ei blaen, a chryfhau rôl y Cyngor hyd yr eithaf ar raddfa leol a chenedlaethol.   Roeddem yn cymryd rhan mewn agendâu rhanbarthol a chenedlaethol uchelgeisiol fel Porth y Gorllewin a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Roedd disgwyliadau'r gymuned yn cynyddu a byddai'r cyngor yn ymdrin â sgil-effeithiau pandemig Covid-19 am flynyddoedd lawer i ddod - ac roedd angen arweinyddiaeth gadarn ar lefel uwch ar gyfer hyn. 

 

Roedd y Prif Weithredwr yn cyflwyno'r adroddiad hwn i'r Cyngor i geisio cymeradwyaeth  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus pdf icon PDF 5 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Trwyddedu a Rheoleiddio yr adroddiad i'r Cyngor.

 

Pwrpas Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) oedd atal unigolion neu grwpiau rhag ymddwyn yn wrthgymdeithasol mewn mannau cyhoeddus. Gellid ei ddefnyddio i weithredu cyfyngiadau lle'r oedd ymddygiad yn cael effaith niweidiol ar ansawdd bywyd pobl yn yr ardal leol, neu'n debygol o wneud hynny; a lle'r oedd yr ymddygiad yn ddi-baid neu'n barhaus ei natur, neu'n debygol o fod felly.

 

Dim ond y Cyngor a allai lunio PSPO, ond gallai Heddlu Gwent a Swyddogion y Cyngor ei weithredu.

 

Y PSPO gerbron y Cyngor heddiw fyddai'r ail PSPO i gael ei weithredu yn Ward Pilgwenlli. Daeth y PSPO blaenorol i ben ym mis Gorffennaf 2020 ac roedd yn cynnwys tri chyfyngiad. Roedd y PSPO newydd hwn yn gweithredu nifer fwy o gyfyngiadau wedi'u targedu'n benodol i ymdrin ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn yr ardal ddiffiniedig.

 

Roedd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn digwydd ym Mhilgwenlli, a hynny'n amharu ar ei phreswylwyr. Roedd y PSPO blaenorol yn gyfyngedig o ran ei weithrediad a'r defnydd ohono. Drwy drefniadau i'r Cyngor a Heddlu Gwent gydweithio'n agos â'i gilydd, cynigiwyd y dylai'r Cyngor weithredu PSPO newydd i ddarparu pwerau gorfodi ychwanegol a pherthnasol i staff Heddlu Gwent a'r Cyngor er mwyn helpu i ymdrin â phroblemau yr oedd preswylwyr yn eu profi.

 

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus am fis ym mis Mawrth 2021, ac ymatebodd dros 150 o unigolion a sefydliadau i'r ymgynghoriad hwnnw. Roedd bron bob un o'r ymatebion hyn gan bobl a oedd yn byw neu'n gweithio ym Mhilgwenlli. Cafwyd cefnogaeth frwd iawn i'r cyfyngiadau yn y PSPO newydd yn yr ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Bu'r Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu yn goruchwylio'r broses ddrafftio ac ymgynghori ar gyfer y PSPO newydd hwn, a hefyd yn adolygu canlyniadau'r ymgynghoriad. Yn ei gyfarfod ym mis Ebrill, argymhellodd y Pwyllgor y dylai'r Cyngor fabwysiadu'r PSPO.

 

 

Ar gais yr Heddlu, argymhellodd y Pwyllgor Rheoli Craffu y dylid dileu Gwaharddiad 8 o'r Gorchymyn drafft a oedd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus. Fodd bynnag, yng ngoleuni’r gwrthwynebiadau dilynol a gafwyd gan y gymuned leol ynghylch cael gwared â'r mesur hwn a'r gefnogaeth eang o du'r cyhoedd i gyfyngu ar "hel puteiniaid o gerbyd", argymhellwyd y dylid diwygio'r PSPO drafft yn Atodiad A yr adroddiad i gynnwys gwaharddiad ychwanegol rhif 8

 

Ni chaiff neb fynd i mewn i’r ardal gyfyngedig a cheisio prynu gwasanaethau rhyw gan berson arall”

 

Yn amodol ar y diwygiad hwn, cynigiodd yr Aelod Cabinet y dylai'r Cyngor gymeradwyo a mabwysiadu PSPO newydd Pilgwenlli yn ffurfiol, fel y nodir yn yr Adroddiad.

 

Diolchodd y Cynghorydd I Hayat i'r Cyng. Truman, ac ystyriai ei bod hi'n hanfodol sefydlu hyn.  Byddai'r PSPO hwn, gyda'r ychwanegiadau, o gymorth i'r heddlu.  Roedd Pilgwenlli yn lle amlethnig ac amrywiol a oedd yn croesawu pobl i fuddsoddi yn y ward, felly roedd y Cynghorydd I Hayat yn llwyr gefnogi'r adroddiad.

 

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu, dywedodd y Cynghorydd Lacey fod trafodaeth drawsbleidiol wedi'i chynnal a'r argymhellion wedi'u hystyried yn ofalus, ac  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor

To provide an opportunity for Councillors to ask questions to the Leader of the Council in accordance with the Council’s Standing Orders.

 

Process:

No more than 15 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to the Leader of the Council.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd yr Arweinydd y cyhoeddiadau a ganlyn â'r Cyngor:

 

·         Cronfa Codi'r Gwastad

Yn gynharach y mis hwn, cefnogodd y Cabinet gynnig i wneud cais sylweddol i Gronfa Codi'r Gwastad y Llywodraeth, gan anelu i roi hwb pellach i waith i adfywio ein dinas.

 

Proses ymgeisio gystadleuol ydoedd, ac roedd hyd at £20m o gyllid cyfalaf ar gael ar gyfer cynlluniau adfywio a buddsoddi diwylliannol. Nid oedd unrhyw sicrwydd y byddem yn llwyddiannus, ond byddai cais uchelgeisiol, am y swm llawn o £20 miliwn yn cael ei gyflwyno, a fyddai'n fodd i drawsnewid ymhellach ardal Porth y Gogledd yng nghanol y ddinas.

 

Roedd nifer o gynlluniau trawsnewid eisoes ar y gweill neu yn yr arfaeth yn yr ardal hon, gan gynnwys adnewyddu Marchnad Dan Do ac Arcêd Marchnad Casnewydd, y cynnig i greu canolfan rhannu mannau gwaith a deor busnesau yn adeilad yr Orsaf Wybodaeth, a darparu pont droed newydd ar gyfer teithiau llesol rhwng Devon Place a Queensway.

 

Byddai’r arian ychwanegol hwn yn cael ei ddefnyddio i wella parth y cyhoedd yn yr ardal hon, a'r gobaith oedd y byddai pobl, wrth gyrraedd Casnewydd, yn gweld golygfa a oedd yn adlewyrchu gwir ansawdd Casnewydd fel lle, a oedd yn cynrychioli ein huchelgeisiau ac a oedd yn gadarnhaol a chroesawgar i ymwelwyr a buddsoddwyr fel ei gilydd.

 

Byddai ffocws ar seilwaith gwyrdd, teithio llesol, Cynnig Ehangach Caerdydd ac, wrth gwrs, ar adlewyrchu ethos y Siarter Creu Lleoedd.

 

Byddai'r Arweinydd yn rhoi diweddariad rheolaidd ar y broses ymgeisio wrth iddi fynd rhagddi.

 

·         Diwrnod aer glân

Yn gynharach y mis hwn, nododd y Cyngor Ddiwrnod Aer Glân 2021 drwy gynnal digwyddiad ardderchog yn Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas Cymru

 

Pwrpas y Diwrnod Aer Glân oedd tynnu sylw at lygredd aer, codi ymwybyddiaeth ynghylch ei effaith ar iechyd, ac archwilio rhai o'r pethau y gellid ei gwneud i ymdrin â'r broblem.

 

Mae llygredd aer yn achosi hyd at 36,000 o farwolaethau bob blwyddyn yn y DU.Cydnabu Sefydliad Iechyd y Byd a Llywodraeth y DU mai llygredd aer oedd y risg fwyaf o'n blaenau heddiw o ran iechyd yr amgylchedd.

 

Roedd yr Arweinydd yn falch iawn o groesawu Lee Waters AS, y dirprwy weinidog newydd ar gyfer y Newid Hinsawdd, i'r digwyddiad lle arddangoswyd peth o'r gwaith y mae'r cyngor a'n partneriaid yn y sector cyhoeddus yn ei wneud i wella ansawdd yr aer yn y ddinas.

 

Roedd hyn yn cynnwys gosod paneli solar i gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar 27 o'n hadeiladau, gan gynnwys y gosodiad mwyaf ar ben to yng Nghymru yn y felodrom ei hun.

 

Roedd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys nifer o gerbydau trydan - yn eu plith roedd ein cerbyd casglu gwastraff trydan, y cyntaf o'i fath yng Nghymru, un o fysus trydan Trafnidiaeth Casnewydd, a thacsi trydan.

 

Mae llawer o waith i'w wneud er mwyn gwneud ein haer yn lanach er budd cenedlaethau'r dyfodol, ond mae llawer o waith da eisoes y digwydd ar draws Casnewydd, a byddai'r camau a gymerir heddiw yn creu dinas wyrddach ac iachach ar gyfer  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Cwestiynau i Aelodau'r Cabinet

To provide an opportunity to pose questions to Cabinet Members in line with Standing Orders.

 

Process:

No more than 10 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to each Cabinet Member.

 

Members must submit their proposed questions in writing in advance in accordance with Standing Orders.  If members are unable to ask their question orally within the allocated time, remaining questions will be answered in writing.  The question and response will be appended to the minutes.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

 

Questions will be posed to Cabinet Members in the following order:

 

      i.        Deputy Leader and Cabinet Member for City Services

     ii.        Cabinet Member for Education and Skills

    iii.        Cabinet Member for Assets

   iv.        Cabinet Member for Sustainable Development

     v.        Cabinet Member for Community and Resources

   vi.        Cabinet Member for Streetscene

  vii.        Cabinet Member for Licensing and Regulation

 viii.        Cabinet Member for Culture and Leisure

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ceir pum cwestiwn ysgrifenedig i Aelodau'r Cabinet:

 

Cwestiwn 1 – Aelod Cabinet: Diwylliant a Hamdden

 

Cynghorydd C Ferris

Ac ystyried pwysigrwydd stiwardiaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol dros D? Tredegar a'r gobaith y byddai hyn yn rhoi hwb i dwristiaeth yng Nghasnewydd, tybed pryd gawsoch chi eich cyfarfod diwethaf â'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol?

 

Ymateb

Roedd y Brydles a gytunwyd gan y weinyddiaeth flaenorol yn rhwymo'r Cyngor i wneud taliadau parhaus a oedd yn ychwanegu pwysau ar gyllidebau o'r naill flwyddyn i'r nesaf. Roedd hi'n destun syndod, serch hynny, nad oedd y brydles yn cynnwys unrhyw ofynion ffurfiol i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyfarfod â chynrychiolwyr o'r Cyngor. 

 

Fodd bynnag, o dan fy nghyfarwyddyd i, mae'r baich ariannol hwn bellach wedi'i setlo ac mae'r Rheolwr Diwylliant a Dysgu Parhaus yn cyfarfod â rheolwyr yr eiddo i drafod datblygiadau arno, gwaith atgyweirio a chadwraeth, a marchnata. Bu'r Rheolwr Diwylliant a Dysgu Parhaus hefyd yn bresennol yn y gweithdai rheolaidd Tîm Tredegar a drefnwyd gan staff yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nh? Tredegar.  Rhoddir yr holl wybodaeth hon i mi yn ystod fy sesiynau briffio â'r swyddogion, a hyd at ddechrau'r pandemig roeddwn yn fodlon bod y trefniant stiwardiaeth yn cael ei reoli'n dda. Rwy’n si?r eich bod yn llwyr ymwybodol o effaith y pandemig ar dwristiaeth ac ar allu atyniadau ymwelwyr i weithredu.  Er hynny, mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi llwyddo i l lywio'i ffordd drwy gyfnod anodd iawn, ac rwy'n falch o ddweud bod modd cael mynediad bellach i rannau o'r t? yn ogystal â'r caffi, y parciau a'r gerddi drwy gydol yr wythnos, ac yr argymhellir bwcio ymlaen llaw ar gyfer y penwythnosau, gan ei fod yn lleoliad mor boblogaidd. 

 

Cwestiwn Atodol

Ac ystyried pwysigrwydd hyn, ac er bod y pandemig wedi cael effaith, a fyddai cyfle i gyfarfod rhyw bryd yn y dyfodol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Harvey i'r Cynghorydd Ferris am ei gwestiwn atodol a chyfeirio at ei hymateb blaenorol.

 

Cwestiwn 2 – Aelod Cabinet: Hamdden a Diwylliant

 

Cynghorydd M Evans

Ers mis Awst 2017 dim ond 4 penderfyniad ffurfiol rydych chi wedi'u gwneud yn ôl gwefan y Cyngor, dim ond un bob blwyddyn. Er fy mod yn gwerthfawrogi eich bod wedi bod yn ymwneud â chyllid y Bont Gludo yr ydym yn ei chefnogi'n llwyr, a'r Ganolfan Hamdden newydd arfaethedig, allwch chi ddweud wrth y Cyngor pam nad ydych wedi gwneud unrhyw benderfyniadau ynghylch y Llong Ganoloesol, er enghraifft, a pham na wnaethoch ymgynghori â'r aelodau wrth benderfynu cyflwyno cynllun P?er Pedal?

 

Allwch chi hefyd roi'r newyddion diweddaraf i'r Cyngor am y cynllun hwn?

 

Ymateb

Mae proses sychrewi'r Llong Ganoloesol yn dal heb ei chwblhau.  Effeithiwyd yn sylweddol ar hyn yn sgil y pandemig.  Fel y byddwch yn gwerthfawrogi, mae'n rhy fuan cynnig cam nesaf y prosiect nes bo'r broses hon wedi'i chwblhau.  Rydych chi'n llygad eich lle fy mod wedi canolbwyntio fy ymdrechion ar y Bont Gludo, ac rwyf wedi cymryd rhan yn uniongyrchol mewn trafodaethau a chyfarfodydd i gefnogi a hyrwyddo'r prosiect. Roedd adroddiad y Cabinet ym mis Chwefror yn manylu  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Cofnodion y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd: 29 Ebrill 2021 pdf icon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 29 Ebrill a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 27 Mai

gerbron y Cyngor i'w nodi.

 

Ond roedd argymhellion wedi'u cyflwyno gan y naill Bwyllgor a'r llall i'r Cyngor gytuno ar y newidiadau angenrheidiol i'r Cyfansoddiad yn sgil diwygio enw, cylch gorchwyl ac aelodaeth y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.  Cynigiodd y Maer yr argymhellion hyn o'r Gadair ac fe'u heiliwyd yn briodol.

 

Cytunwyd:

Cymeradwyo a mabwysiadu argymhellion y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ynghylch y newidiadau arfaethedig i enw, cylch gorchwyl ac aelodaeth y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac y dylid gwneud y newidiadau angenrheidiol i'r Cyfansoddiad i adlewyrchu'r newidiadau hyn.

 

12.

Cofnodion y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio: 27 Mai 2021 pdf icon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y cytunwyd yn eitem 11 (uchod).