Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Anne Jenkins, Arweinydd Tîm Llywodraethu Rheolwr Craffu a Llywodraethu
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Rhagofynion i. To receive any apologies for absence. ii. To receive any declarations of interest. iii. To receive any announcements by the Presiding Member. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd dwy funud o dawelwch er cof am y ddiweddar Frenhines Elizabeth II.
1.i Ymddiheuriadau Dywedodd yr Aelod Llywyddol y cafwyd ymddiheuriadau gan yr aelodau a ganlyn: Y Cynghorwyr Perkins, Routley, Kellaway, Peterson a Linton.
1.ii Datgan Buddiant
Ni ddatganwyd unrhyw fuddiant.
1.iii Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol
Dywedodd yr Aelod Llywyddol wrth gydweithwyr y Cyngor y byddwn yn croesawu G?yl Fwyd Casnewydd unwaith eto mewn llai na phythefnos. Ddydd Sadwrn 8 Hydref, bydd strydoedd canol ein dinas unwaith eto'n gyforiog o weithgarwch a danteithion blasus.
Bydd digonedd o stondinau bwyd wrth i fasnachwyr arddangos y gorau o fwyd a diod o bob rhan o'r ddinas a'r rhanbarth ehangach.
Bydd cogyddion lleol hefyd yn rhoi arddangosiadau arbennig drwy gydol y dydd ym Marchnad Casnewydd ar ei newydd wedd. Yn ogystal â hynny, bydd rhaglen lawn o weithgareddau'n cael eu cynnal i'r teulu oll. Gwahoddir pob aelod i fod yn bresennol ac i ddangos eu cefnogaeth i'r digwyddiad, ac rwy'n gobeithio eich gweld yno.
Atgoffodd yr Aelod Llywyddol yr aelodau hefyd y byddai'n Sul y Cofio cyn hir, a gobeithiai y gallai'r aelodau fod yn bresennol.
|
||||||||||||||||||||||
To confirm and sign the minutes of the last meeting. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd bod cofnodion 19 Gorffennaf 2022 yn gywir. |
||||||||||||||||||||||
To consider any proposed appointments. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynigiodd y Cynghorydd James y penodiadau a nodwyd yn yr adroddiad, fel y cytunwyd gan y Rheolwyr Busnes, yn amodol ar y penodiadau ychwanegol a oedd wedi'u nodi isod.
Penderfynwyd: Cytuno ar y penodiadau a nodwyd yn yr adroddiad i'r Cyngor, ynghyd â'r penodiadau ychwanegol a ganlyn.
PenodiadauCyrff Llywodraethol
CyrffAllanol Ymddiriedolaeth Canolfan Mileniwm Pil: Y Cynghorydd D Jenkins i gymryd lle'r Cynghorydd S Adan.
|
||||||||||||||||||||||
Materion yr Heddlu 30 minutes is allocated for questions to the Gwent Police representative. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Estynnoddyr Aelod Llywyddol groeso i'r Prif Arolygydd John Davies, a roddodd y newyddion diweddaraf i aelodau'r cyngor am faterion yr heddlu yn Nwyrain, Gorllewin a Chanol Casnewydd.
Gofynnodd yr Aelod Llywyddol wedyn i'r Arweinydd a oedd ganddi gwestiynau i'r Prif Arolygydd Davies.
Yn ôl cynghorwyr o Orllewin Casnewydd, dywedodd yr Arweinydd ei bod hi'n ymddangos fel pe bai ymgysylltu mwy rheolaidd yn digwydd rhwng cynghorwyr a'r Heddlu yn Nwyrain Casnewydd. Gofynnodd yr Arweinydd a ellid mynd i'r afael â hyn, a sefydlu trefniadau rheolaidd i ymgysylltu â chynghorwyr yng Ngorllewin Casnewydd. Byddai'r Prif Arolygydd yn ymchwilio i'r cais hwn ar ran yr Arweinydd, a dywedodd hefyd fod yr Heddlu yn ymchwilio i roi'r cyd-destun i faterion a geir ym mhob ward i'r holl aelodau, ynghylch yr hyn a oedd yn digwydd ym mhob ardal o Gasnewydd, drwy gylchlythyr misol neu ddeufisol.
Cyfeiriodd yr Arweinydd hefyd at y ffaith bod parthau 20mya yn cael eu cyflwyno yng Nghasnewydd, ac at y pryderon ynghylch cynlluniau gorfodi, a gofynnodd a fyddai modd i'r Heddlu gwrdd â Chynghorwyr i gynnal sesiwn wybodaeth, fel y gellid wedyn adrodd yr wybodaeth honno'n ôl i etholwyr a oedd yn cysylltu'n gyson â'u haelodau ward i drafod hyn. Byddai'r Prif Arolygydd yn ymchwilio i hyn ar ran yr Arweinydd.
I gloi, roedd hi'n wych gweld digwyddiadau yng Nghasnewydd yn ailddechrau eto ar ôl dwy flynedd, gan gynnwys Carnifal Pil, y Sblash Mawr a Digwyddiad Pride Agoriadol Casnewydd. Roedd yr Arweinydd felly am longyfarch y Prif Arolygydd a'i gydweithwyr am eu gwaith plismona cadarnhaol yn yr holl ddigwyddiadau hyn yn y gymuned. Roeddent wedi ymgysylltu'n wirioneddol â'r cyhoedd, ac roedd yr Arweinydd am i hynny gael ei adrodd yn ôl wrth gydweithwyr y Prif Arolygydd Davies. Diolchodd y Prif Arolygydd i'r Arweinydd am ei sylwadau caredig gan ddweud y byddai'n adrodd hynny'n ôl wrth ei gydweithwyr.
Cwestiynau i’r Heddlu a godwyd gan y Cynghorwyr:
§ Cyfeiriodd y Cynghorydd Fouweather at y broses ymgynghori ynghylch y 20mya, lle nad oedd neb o Heddlu Gwent wedi gwneud unrhyw sylw. Roedd goblygiadau aruthrol yn sgil hyn o ran yr Heddlu ac adnoddau, ac roedd llawer o bobl heb fod yn cadw at y terfyn cyflymder. A allai'r Prif Arolygydd felly ganfod pam na chafwyd unrhyw sylwadau gan Heddlu Gwent i'r ymgynghoriad, ac adrodd yn ôl i'r Cyngor. Byddai'r Prif Arolygydd yn ymchwilio i hyn, a dywedodd hefyd fod mwyafrif y gwaith gorfodi yn cael ei gyflawni gan 'Gan Bwyll' Cymru.
§ Roedd y Cynghorydd A Morris wedi sylwi ar gynnydd yn y defnydd o e-feiciau yn Llyswyry a'r ddinas, a oedd yn mynd yn gynt na 20mya. Roedd y beiciau hyn wedi cael eu prynu heb fod angen trwydded, cyfarpar diogelwch, unrhyw wybodaeth am God y Ffordd Fawr nac yswiriant. Bu nifer o ddamweiniau agos, ... view the full Cofnodion text for item 4. |
||||||||||||||||||||||
Hysbysiad o Gynnig Cydymdeimlad To receive the following motion for which the necessary notice has been provided.
This Council expresses its deep sadness at the death of Her Majesty the Queen and offers its sincere condolences to His Majesty the King and other members of the Royal Family. We recognise Her Majesty's enduring commitment to public service and duty, including her support for many Welsh charities and organisations, and her lifelong association with Wales and its people.
The motion is to be proposed by the Leader of the Council, Councillor J Mudd and seconded by Councillor M Evans.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd yr Aelod Llywyddol wrth y cynghorwyr, drwy gytundeb rhwng y grwpiau gwleidyddol, mai dyma'r eitem olaf ar yr agenda, ac y byddai unrhyw atebion i gwestiynau i'r Arweinydd neu i Aelodau'r Cabinet yn cael eu rhoi mewn ysgrifen.
Gwnaeth yr Arweinydd y cynnig canlynol i'r Cyngor:
Mae'r Cyngor hwn yn mynegi tristwch mawr wedi marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines, ac yn mynegi cydymdeimlad diffuant tuag at Ei Mawrhydi Y Brenin ac aelodau eraill o'r Teulu Brenhinol. Rydym yn cydnabod ymrwymiad parhaus Ei Mawrhydi i wasanaeth a dyletswydd gyhoeddus, gan gynnwys ei chefnogaeth tuag at lawer o elusennau a sefydliadau Cymreig, a'i chysylltiad â Chymru a'i phobl ar hyd ei hoes.
Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd M Evans.
Cadwodd yr Arweinydd ei hawl i siarad ar y diwedd. Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol y Cynghorydd Evans i siarad: Roedd yr ychydig wythnosau diwethaf wedi bod yn fwrlwm o emosiwn, gyda sioc, galar ac anghrediniaeth ond ymdeimlad o falchder a gobaith, ynghylch y modd yr aeth y Genedl a'r ddinas ati i dalu teyrnged i wraig uchel ei pharch ac annwyl gan lawer. Ni all y Gweriniaethwyr mwyaf pybyr hyd yn oed wadu ei hymroddiad llwyr i wasanaeth cyhoeddus.
Roedd rhai ohonom yma wedi bod yn ffodus i gael bod yn Faer y Ddinas, a byddai eraill yn cael y cyfle hwnnw yn y dyfodol. Roedd yn fraint ac anrhydedd o'r mwyaf, ac mae'n rhaid dweud ei bod wedi bod yn flwyddyn feichus ond boddhaus.
Ni allaf ddychmygu gwneud hyn, ond ar raddfa llawer mwy am dros 70 o flynyddoedd, ond dyna a wnaeth y Frenhines hyd at ddiwrnod ei marwolaeth, yn 96 oed.
Ni chefais erioed gwrdd â hi, ond rydw i ymhlith yr ychydig Gynghorwyr sydd ar ôl a oedd yn bresennol yn y cinio yng Nghanolfan Casnewydd, pan ddaeth i ddathlu statws Casnewydd fel dinas yn 2002. Roedd y strydoedd yn orlawn o bobl a oedd wedi dod i ddymuno'n dda, ac roedd yn ddiwrnod na fyddwn i fyth yn ei anghofio.
Ar adeg arall, cefais fynd i wasanaeth eglwys yng Nglynebwy i ddathlu ei Jiwbilî Ddiemwnt. Eisteddais gyferbyn â hi, ac roedd ganddi bresenoldeb cryf iawn, er ei bod yn fach o ran corffolaeth, ac roedd ei gwên yn goleuo'r ystafell.
Mae pob un ohonom wedi clywed neu weld rhai hysbysiadau gwirioneddol afiach ar y cyfryngau cymdeithasol, gan leiafrif di-glem, ac yn anffodus nid yw Casnewydd yn eithriad i hynny. Ond yr ymdeimlad cryfaf a gafwyd oedd bod y ddinas, y wlad a'r Deyrnas Unedig yn gytûn, fel yr ydym ni heddiw.
Wrth inni ymdopi â marwolaeth y Frenhines, efallai mai’r deyrnged fwyaf y gallem oll ei gwneud, yw efelychu ei hymroddiad enfawr a'i gwasanaeth i'r bobl rydym yn eu cynrychioli, o Ringland i Ridgeway, a gweithio'n galed i wella ein dinas.
Roedd y Frenhines yn annwyl gan lawer, yn stoic ac yn ennyn parch. Roedd ganddi ymdeimlad cryf o ddyletswydd - yn Frenhines yr oesau, yn symbol o sefydlogrwydd a gwytnwch. Roedd hi'n Frenhines ac yn ... view the full Cofnodion text for item 5. |
||||||||||||||||||||||
Ymatebion Ysgrifenedig i Gwestiynau Aelod Cabinet To provide an opportunity to pose questions to Cabinet Members in line with Standing Orders.
Process: No more than 10 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to each Cabinet Member.
Members must submit their proposed questions in writing in advance in accordance with Standing Orders. If members are unable to ask their question orally within the allocated time, remaining questions will be answered in writing. The question and response will be appended to the minutes.
The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.
Questions will be posed to Cabinet Members in the following order:
i. Deputy Leader and Cabinet Member for Education and Early Years ii. Cabinet Member for Community and Wellbeing iii. Cabinet Member for Strategic Planning, Regulation and Housing iv. Cabinet Member for Social Services v. Cabinet Member for Organisational Transformation vi. Cabinet Member for Climate Change and Bio-Diversity vii. Cabinet Member for Infrastructure and Assets Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CwestiynauYsgrifenedig gan y Cyngor – 19 Gorffennaf 2022
Eitem 5: 2021/22 Adroddiad diwedd blwyddyn Rheoli'r Trysorlys
CwestiwnAtodol a Godwyd yn y Cyngor gan y Cynghorydd Routley: Cyfeiriodd y Cynghorydd Routley at dudalen 52, adran 9 yn yr adroddiad lle nodwyd nad oedd unrhyw fuddsoddiadau'n cefnogi Sefydliadau Rwsiaidd yn uniongyrchol, ac felly gofynnodd a oedd unrhyw fuddsoddiadau'n cefnogi Sefydliadau Rwsiaidd yn anuniongyrchol.
O dan weithgarwch dyledion eraill, sylwodd y Cynghorydd Routley hefyd fod cyllid cyfalaf wedi'i godi ar gyfer Ysgol Glan Wysg a Ffordd Ddosbarthu'r De. Roedd y datganiad cyfrifon yn dangos rhwymedigaeth o £39M i dalu'r gweithredwr, felly gofynnwyd a ellid torri'r cyllid i lawr rhwng yr Ysgol a'r SDR.
Ymateb y Pennaeth Cyllid: BUDDSODDIADAU O ran egwyddor, oherwydd natur marchnadoedd arian byd-eang ni allwch fyth fod 100% yn si?r na fydd unrhyw fuddsoddiadau'n cael effaith ar fuddiannau Rwsiaidd, yn enwedig lle ceir gwladwriaeth sy'n cefnogi twyll. Y rheswm am hyn yw bod trafodion yn creu trafodion eraill â sefydliadau eraill, ac mae'n amhosib gwirio pob dolen mewn cadwyn hir, cyn gorfod dechrau gwirio trafodion eraill y diwrnod canlynol oherwydd natur gylchol trafodion y farchnad arian. Safon y diwydiant yw sicrhau nad oes unrhyw gyswllt amlwg â Rwsia yn eich trafodyn uniongyrchol, a disgwyl i eraill fod yn mor ddiwyd yn eu trafodion hwythau.
Ar 31 Mawrth roedd ein holl fuddsoddiadau gyda Chynghorau eraill, busnesau eraill y sector cyhoeddus wedi'u lleoli yn y DU, llwyfan buddsoddi/benthyca sector cyhoeddus y Llywodraeth (DMO), cronfa gyfun yn benodol ar gyfer awdurdodau lleol a'n cyfrif galw gyda Santander. Ar wahân i'r hyn a ddywedais uchod, ar sail hynny a'n sefyllfa ar 31 Mawrth (ac ers hynny), rydym yn hyderus nad oedd unrhyw gysylltiadau rhwng buddsoddiadau a gweithgareddau Rwsiaidd.
MentrauCyllid Preifat MCP - mae ein trafodion â Morgan Vinci mewn perthynas â ffordd ddosbarthu gyswllt y de a Newport Schools Solutions Ltd mewn perthynas ag ysgol Glan Wysg (gyda'r cwmni olaf hefyd yn is-gwmni i gr?p Vinci). Yn ystod 2021-22, talwyd £6.6m i'r naill gwmni a £2.1m i'r llall.
Eitem 9: Cwestiynau i Aelodau'r Cabinet
CwestiwnAtodol a godwyd gan y Cynghorydd Mogford i'r Aelod Cabinet dros Seilwaith ac Asedau ynghylch - Ymgynghori â Phreswylwyr ar ôl cyflwyno'r Parth 20mya
Gofynnodd y Cynghorydd Mogford: O ran y broses leol ar ôl cyflwyno'r terfyn cyflymder 20mya, oni fyddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal â'r preswylwyr?
Ymatebodd y Cynghorydd Lacey: Hoffwngyfeirio eich sylw i ddechrau i'r pecyn gwybodaeth i Aelodau a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ac yr anfonodd y Gwasanaethau Democrataidd at yr holl Aelodau ym mis Gorffennaf. Mae'n ceisio darparu gwybodaeth am yr holl agweddau ar y cynllun i weithredu terfyn cyflymder diofyn o 20mya ledled Cymru, gan gynnwys yr arolwg o agweddau'r cyhoedd, a'r ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ar ostwng y terfyn cyflymder diofyn.
Mae pob awdurdod lleol yn gweithio'n unol â'r ... view the full Cofnodion text for item 6. |