Agenda and minutes

Cyngor - Dydd Mawrth, 23ain Ebrill, 2024 5.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Anne Jenkins  Governance Team Leader

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Rhagymadroddion

       i.          Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

      ii.          I dderbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb

     iii.          Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan yr Aelod Llywyddol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

1.i Ymddiheuriadau

 

Y Cynghorwyr Evans, Clarke, Forsey, Peterson a Kellaway.

 

1.ii Datgan Buddiannau

 

Dim wedi’u derbyn.

 

1.iii Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol

 

Dim cyhoeddiadau.

 

2.

Cofnodion pdf icon PDF 229 KB

I gadarnhau cofnodion y cyfarfod diweddaf.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 29 Chwefror 2024.

 

Eitem 4 Treth Gyngor a Chyllideb 2024/25: Cyfeiriodd y Cynghorydd Reynolds at dudalen 15, dan Sylwadau Cynghorwyr ar gynnig o sylwedd.  Mae'n cyfeirio at y Cynghorydd Clarke yn canmol y Cynghorydd M Howells ar y gyllideb amgen.  Awgrymodd y Cynghorydd Reynolds y dylai hyn ddweud y cymeradwyodd y Cynghorydd Clarke y Cynghorydd M Howells ar gynhyrchu cyllideb amgen.

 

3.

Apwyntiadau pdf icon PDF 98 KB

Ystyried unrhyw benodiadau arfaethedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyried y penodiadau arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad

 

Yn absenoldeb y Cynghorydd Clarke, cynigiodd y Cynghorydd Harvey y penodiadau a nodwyd yn yr adroddiad, fel y cytunwyd gan y Rheolwyr Busnes fel y nodir isod.

 

Eiliodd y Cynghorydd Reeks yr adroddiad, y cytunwyd arno'n unfrydol.

 

Penderfynwyd: Bod y penodiadau canlynol yn cael eu cytuno.

 

Penodiadau Cyrff Llywodraethu

 

Corff Llywodraethu

Penodiadau/Ymddiswyddiadau

Enw

Ysgol Gyfun Gwent Is-Coed 

Ymddiswyddo

Elin Maher

Ysgol Gyfun Gwent Is-Coed 

Penodiad

Janice Dent

Ysgol Uwchradd Llan-wern 

Penodiad

Tim Harvey

Ysgol Uwchradd Llyswyry

Ymddiswyddo

RogerJeavons

Ysgol Uwchradd Llyswyry

Penodiad

Nazrul Islam

Ysgol Uwchradd Llyswyry

Anghymwyso

GlenWilkins

Ysgol Uwchradd Llyswyry

Penodiad

Allan Morris

Ysgol Gynradd Pentre-poeth

Penodiad

Joseph O'Connell

Ysgol Gynradd Milton

Anghymwyso

Mark Moore

Ysgol Gynradd Milton

Penodiad

Laura Lacey

Ysgol Gynradd Ringland

Ymddiswyddo

StaceyDrew

Ysgol Gynradd Ringland

Penodiad

Meryl Echeverry

Ysgol Gynradd High Cross

Penodiad

Bev Davies

Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli

Ymddiswyddo

Jonathan Gibbons

Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli

Penodiad

Lucy Binnersley

 

4.

Rhestr Taliadau Aelodau 2024/25 pdf icon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol yr Arweinydd i gyflwyno’r adroddiad i’r Cyngor a oedd yn nodi'r Cynllun Lwfansau Aelodau ar gyfer 2024/25 fel y nodwyd yn adroddiad blynyddol y Pwyllgor Taliadau Cydnabyddiaeth Annibynnol.

 

Roedd gofyn i'r Cyngor fabwysiadu a chyhoeddi cynllun lwfansau i Aelodau ar gyfer y flwyddyn ddinesig gyfredol, yn seiliedig ar y cyflogau a ragnodwyd gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, sef "yr IRP". 

 

Yr IRP oedd y corff statudol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i benderfynu ar y lefel briodol o daliadau cydnabyddiaeth i’w talu i aelodau etholedig yng Nghymru.

 

Cyhoeddodd yr IRP ei Adroddiad Blynyddol ym mis Chwefror eleni, ac roedd angen i'r Cyngor fabwysiadu’r argymhellion hynny yn ffurfiol a chymeradwyo'r lwfansau ar gyfer 2024/25.

 

Nid oedd unrhyw ddisgresiwn ynghylch swm y cyflogau gan eu bod wedi’u pennu gan yr IRP.

 

Penderfynodd yr IRP y dylid ail-seilio'r cyflogau blynyddol sylfaenol ar gyfer aelodau etholedig ar gyfer 2024/25 ar £18,666 i ystyried cynnydd mewn chwyddiant ac i sicrhau bod taliadau cydnabyddiaeth yn gysylltiedig â lefelau cyflog cyfartalog. Cynyddwyd cyflogau uwch hefyd a'u hail-osod yn unol â chymharwyr perthnasol.

 

Daeth y cynnydd mewn cyflogau sylfaenol i rym ar 1 Ebrill 2024 a byddai taliadau ôl-ddyddiedig yn cael eu gwneud i'r Aelodau. Roedd unrhyw newidiadau i daliadau cydnabyddiaeth ychwanegol ar gyfer cyflogau uwch yn daladwy o ddyddiad penodi'r deiliaid swyddi yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol y Cyngor ar 21 Mai 2024.

 

Eiliwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Reeks.

 

Roedd 34 o’i blaid, roedd dim yn ei erbyn a gwnaeth pedwar ymatal.

 

Penderfyniad:

Cymeradwyodd a mabwysiadodd y Cyngor Atodlen Taliadau Cydnabyddiaeth yr Aelodau ar gyfer 2024/25 fel y nodwyd yn Atodiad 1.

 

5.

Datganiad Tâl a Gwobrwyo pdf icon PDF 156 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol yr Arweinydd i gyflwyno'r Adroddiad Cyflog a Gwobrwyo Blynyddol.

 

Roedd y Polisi Cyflog a Gwobrwyo ar gyfer y gweithlu yn adroddiad blynyddol yr oedd angen i’r Cyngor ei fabwysiadu. Nododd y polisi’r mecanweithiau mewnol ar gyfer rhoi taliadau cydnabyddiaeth i swyddogion y Cyngor a rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau ers y mabwysiadu diwethaf yn 2023.

 

Cefnogwyd unrhyw newidiadau a wnaed yn ystod y 12 mis diwethaf gan y prosesau democrataidd neu swyddogion cywir, lle bo angen, ac roeddent wedi’u nodi yn yr adroddiad eglurhaol.

 

Nodwyd gan y Cyngor fod yr adroddiad hefyd yn rhoi’r penderfyniad yn ystod y flwyddyn blaenorol i alinio cyfraddau cyflog rhaglenni prentisiaid â chyfraddau’r Cyflog Byw Sylfaenol.  Roedd y newid critigol hwn yn unol â dyhead y Cyngor i fod yn Ddinas Cyflog Byw.  Roedd y newid hwn hefyd yn galluogi recriwtio 20 prentis ychwanegol yn llwyddiannus dros y chwarter diwethaf gan ddefnyddio cyllid grant drwy'r Gronfa Ffyniant Bro.

 

Roedd cynnig a chyflogi rolau lefel mynediad fel prentisiaid yn bwysig i'r awdurdod yn ei strategaethau recriwtio a chadw parhaus ac ymyrraeth bwysig fel rhan o'n Cynllun Pobl newydd ar gyfer gweithlu'r Cyngor.

 

Eiliwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd D Davies.

 

Roedd y bleidlais yn unfrydol.

 

Penderfyniad:

Adolygodd y Cyngor y Polisi Cyflog a Gwobrwyo a chytuno arno er mwyn bodloni'r gofyniad statudol i ddatganiad polisi cyflog gael ei gymeradwyo a'i gyhoeddi gan y Cyngor yn flynyddol.

 

6.

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024 - 2028 pdf icon PDF 141 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol yr Arweinydd i gyflwyno Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor ar gyfer 2024-2028, hwn oedd y pedwerydd cynllun gan y Cyngor.

 

Dan Ddeddf Cydraddoldeb (2010), rhaid i awdurdodau lleol yng Nghymru ddatblygu a chyhoeddi Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol (CCSau) a oedd yn nodi’r amcanion a’r blaenoriaethau yr oeddent yn dymuno eu cyflawni dros gyfnod o bedair blynedd.

 

Nododd y cynllun hwn flaenoriaethau a gweledigaeth strategol y Cyngor ar gyfer y pedair blynedd nesaf ac ynddo roedd Amcanion Cydraddoldeb a oedd yn cefnogi’r Cyngor i gyflawni’r Ddyletswydd Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus.

 

Datblygwyd Amcanion Cydraddoldeb y Cyngor mewn partneriaeth â rhanddeiliaid mewnol ac allanol allweddol ac roeddent yn amodol ar ymgysylltu cymunedol helaeth. Sicrhaodd cynnwys cymunedau llawr gwlad, er bod y Cynllun yn cyflawni gweledigaeth strategol ar gyfer cydraddoldeb yng Nghasnewydd, ei fod hefyd yn sicrhau canlyniadau diriaethol i gymunedau.

 

Cafodd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2024-2028 ei adolygu gan Bwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu'r Cyngor yn ei gyfarfod ym mis Mawrth a hefyd yn y Cabinet ym mis Ebrill.

 

Cyflwynodd y pedair blynedd diwethaf heriau sylweddol i staff a chymunedau ledled Casnewydd, gan gynnwys anawsterau digynsail a achoswyd gan y pandemig byd-eang, gwrthdaro rhyngwladol, a'r argyfwng costau byw.

 

Effeithiodd y digwyddiadau hyn yn anghymesur hefyd ar grwpiau penodol gan amlygu ymhellach yr anghydraddoldebau a oedd yn bodoli o fewn cymunedau.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod rhaid i ni, fel Cyngor sy’n gwrando, ddysgu o'r heriau a oedd yn dod i'r amlwg yr oedd cymunedau’n eu hwynebu a pharhau i ymdrechu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus teg i'r holl drigolion.

 

Roedd y CCS yn gyfle i adeiladu ar gyflawniadau fel cyflogwr a darparwr gwasanaethau, edrych i'r dyfodol, a nodi blaenoriaethau i hyrwyddo cydraddoldeb i bawb a oedd yn byw neu'n gweithio yng Nghasnewydd.

 

Roedd yr Amcanion Cydraddoldeb yn y CCS hwn yn adeiladu ar y gwaith a gyflawnwyd mewn cynlluniau blaenorol gan nodi canlyniadau clir yr oedd y Cyngor yn gweithio tuag atynt, a’r camau a gymerwyd i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus teg.

 

Roedd ein Hamcanion Cydraddoldeb yn taro cydbwysedd da rhwng amcanion â ffocws mewnol yn seiliedig ar hunan-fyfyrio, fel yr ymrwymiad i wella cynrychiolaeth ar bob lefel o'r sefydliad ac amcanion â ffocws allanol gyda'r nod o wella cydraddoldeb mewn meysydd allweddol o’n cymdeithas, gan gynnwys ymrwymiad parhaus i wella cydlyniant cymunedol ledled y ddinas.

 

Roedd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol o gynnig cyngor unfrydol diweddar i fabwysiadu profiad o fod mewn gofal fel nodwedd warchodedig. Roedd yr Arweinydd yn falch o ddweud bod hyn wedi'i ymgorffori wrth gyflawni'r cynllun hwn.

 

Roedd y Cynllun hwn yn gam cadarnhaol ymlaen i Gyngor Dinas Casnewydd ac yn cefnogi'r Cyngor i gyflawni gweledigaeth o Gasnewydd fwy cyfartal, lle roedd pawb yn cael eu trin yn deg, a lle roedd anghenion trigolion o bob cefndir yn cael eu hystyried.

 

Diolchodd yr Arweinydd i Aelodau'r Cabinet, gan gynnwys y Cynghorydd Dimitri Batrouni, yr Aelod Cabinet dros Drawsnewid Sefydliadol, a'r Cynghorydd Laura Lacey yn ei rôl fel Hyrwyddwr LHDTC+ am eu cyfraniadau i'r maes gwaith  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Diwygio'r Cyfansoddiad - Cynllun Dirprwyo ar gyfer Asedau pdf icon PDF 160 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, y Cynghorydd Mogford i gyflwyno'r eitem hon, a ystyriwyd gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 18 Mawrth a adolygodd y Cynllun Dirprwyo ar gyfer Asedau, Rhan 3 o'r Cyfansoddiad. Rhan o raglen waith y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd oedd adolygu cyfansoddiad y Cyngor.

 

Adolygodd y Pwyllgor y trefniadau ar gyfer penderfyniadau dirprwyedig gan nodi’r canlynol: roedd gwerthoedd rhai trafodiadau asedau wedi bod ar waith ers peth amser. Nid oeddent yn cyd-fynd â gwerthoedd asedau cyfredol mwyach ac roeddent yn groes i benderfyniadau dirprwyedig eraill a gynhwyswyd yn y cyfansoddiad a'r ymarfer mewn awdurdodau lleol eraill.

 

Amlinellodd y Cynghorydd Mogford y diwygiadau arfaethedig i'r cynllun dirprwyo a gefnogwyd gan y pwyllgor, a amlinellwyd yn fanwl yn yr adroddiad.  Sef: 

 

·         Caffael, prynu a gwaredu buddiannau mewn tir ac eiddo gwerth hyd at £100,000. 

·         Ymrwymo i, diwygio neu ildio prydlesi tir ac eiddo hyd at £100,000.

·         Delio â thrwyddedau, caniatadau, ffyrdd-fraint, hawddfreintiau a buddiannau cyfreithiol eraill mewn tir neu eiddo.

 

Nododd y Pwyllgor y byddai ymgynghori’n cael ei gynnal ag Aelodau Cabinet ac Aelodau Ward perthnasol lle roedd effaith uniongyrchol neu ehangach ar y gymuned neu drigolion oherwydd unrhyw benderfyniad arfaethedig.

 

Nododd y Pwyllgor hefyd nad oedd y dirprwyaethau hyn yn diystyru unrhyw ddyletswydd i sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau'r Cyngor mewn perthynas â chyfalaf neu reolaethau a pholisïau ariannol eraill.

 

Eiliodd y Cynghorydd Lacey yr adroddiad.

 

Sylwadau gan y Cynghorwyr:

 

  • Cefnogodd y Cynghorydd Lacey y newidiadau yn llawn.  Gan gyfeirio at y Cynllun Dirprwyo yn cynyddu i £100K, dylid nodi mai dim ond £1,000 oedd yn flaenorol, a oedd yn gynnydd mawr i sicrhau bod Cyngor Dinas Casnewydd yn cyd-fynd ag awdurdodau lleol eraill.  Ni fu unrhyw newidiadau i'r ymgynghori â'r Aelodau Cabinet a’r Aelodau Ward.  Diolchodd y Cynghorydd Lacey i'r Gwasanaethau Democrataidd a’r Swyddogion a gyfrannodd at y newidiadau.

 

  • Cyfeiriodd y Cynghorydd Fouweather at yr adroddiad lle nododd na fyddai unrhyw newidiadau i ymgynghori ag Aelodau Ward. Fodd bynnag, dywedwyd yn yr adroddiad y byddai ymgynghori’n cael ei gynnal ag Aelodau Ward pe bai goblygiadau ehangach i'r ward. Gofynnodd y Cynghorydd Fouweather pwy wnaeth y penderfyniad ar beth oedd yn cael ei ystyried yn oblygiadau ehangach i'r ward.  Roedd y Cynghorydd Fouweather yn pryderu bod penderfyniadau'n cael eu cymryd oddi wrth Aelodau Ward ac yn cael eu cymryd gan swyddogion.

 

  • Cytunodd y Cynghorydd Hourahine gyda'r Cynghorydd Fouweather fod y pwynt hwn wedi'i wneud yn y pwyllgor yngl?n ag ymgynghori’n llawn ag Aelodau Ward ac felly gofynnodd am eglurhad.

 

  • Rhoddodd y Swyddog Monitro gyngor ar y pwyntiau hyn. Nid yw Aelodau Ward erioed wedi gwneud penderfyniadau ar drafodion eiddo, gan olygu nad oedd ganddynt bwerau i wneud penderfyniadau; mae Aelodau Cabinet yn gwneud hyn, a byddent yn dal i wneud hyn mewn llawer o achosion. Nod hyn oedd gadael mân benderfyniadau yn nwylo swyddogion, ac roedd yr Aelodau'n rhydd i ganolbwyntio ar drafodion eiddo strategol mwy. O ran pwy oedd yn penderfynu ar ymgynghori ag Aelodau Ward, byddai swyddogion yn ymgynghori ag  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor

I roi cyfle i Gynghorwyr ofyn cwestiynau i Arweinydd y Cyngor yn unol â Rheolau Sefydlog y Cyngor.

 

Proses:

Ni neilltuir mwy na 15 munud yng nghyfarfod y Cyngor ar gyfer cwestiynau i Arweinydd y Cyngor.

 

Rhaid cyfeirio’r cwestiwn drwy’r Maer neu’r sawl sy’n llywyddu’r cyfarfod ac nid yn uniongyrchol at y sawl sy’n cael ei holi.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyn dechrau’r cwestiynau, gwahoddodd yr Aelod Llywyddol yr Arweinydd i wneud y cyhoeddiadau canlynol i'r Cyngor:

 

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

 

Myfyriodd yr Arweinydd ar ddigwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a gynhaliwyd ledled y ddinas gan gynnwys yn Y Lle a Theatr Glan yr Afon.

 

Roedd yr Arweinydd yn falch o gyhoeddi bod wyth o fenywod ifanc wedi cynrychioli'r ddinas a'u gwlad mewn digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ddiweddar.  Teithiodd y menywod ifanc o glybiau ieuenctid y ddinas i'r Alban i ymuno ag eraill o'r pedair gwlad gartref.

 

Roedd yn dilyn llwyddiant g?yl y llynedd yn Blackpool, a drefnwyd gan yr United Youth Alliance, lle cynrychiolodd aelodau clybiau ieuenctid Casnewydd Gymru.

 

Roedd y gr?p, ynghyd â phedwar aelod o staff, yn westeion Cyngor Dumfries a Galloway am y penwythnos.  Yn ogystal â mynd i ginio gala, aeth y bobl ifanc i gynhadledd gyda phrif siaradwyr a gwnaethant gymryd rhan mewn gweithdai.

 

Roedd hwn yn ddigwyddiad mawreddog, a gwnaeth adlewyrchu'n dda ar y bobl ifanc a'r clybiau ieuenctid, a chawsant eu gwahodd i gymryd rhan eto.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r menywod ifanc a’r gweithwyr ieuenctid am fod yn genhadon mor wych dros Gasnewydd.

 

Roedd hefyd yn bwysig nodi diolch i haelioni Cyngor Dumfries a Galloway, yr unig gost i Gyngor Dinas Casnewydd oedd am ddarparu'r goets i'r Alban.

 

Roedd gwasanaeth ieuenctid a chwarae Casnewydd yn chwarae rhan werthfawr ym mywydau pobl ifanc yn y ddinas drwy ddod o hyd i gyfleoedd fel hyn i'w helpu i ehangu eu profiadau yn ogystal â chynnal gweithgareddau am ddim i bobl o bob oed drwy gydol y flwyddyn.

 

Diolchodd yr Arweinydd hefyd i'r Cynghorydd D Harvey am ei rôl yn y fenter hon.

 

Partneriaeth Caerllion

 

Roedd y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru a Cadw i fanteisio i’r eithaf ar botensial treftadaeth Rufeinig Caerllion.

 

Roedd y rhan hon o'r ddinas yn cael ei chydnabod yn eang am ei diwylliant cyfoethog a'i hasedau hanesyddol gan gynnwys Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Baddonau y Caer, a'r Amffitheatr. Roedd yn gyrchfan i dwristiaid ac yn boblogaidd ar gyfer teithiau ysgol.

 

Gyda'i gilydd, roedd y tri sefydliad yn datblygu gweledigaeth ar gyfer Caerllion ac yn ystyried opsiynau i gynnig profiad gwell ar draws yr holl safleoedd Rhufeinig ar gyfer y gymuned ac ymwelwyr.

 

Byddai pobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaerllion yn cael eu gwahodd i ymuno â Chaerllion Rhufeinig – Gweithio mewn Partneriaeth a helpu i gynrychioli safbwyntiau lleol.

 

Roedd y bartneriaeth wedi ymrwymo i sicrhau bod y cyfleoedd a gynigir gan ein treftadaeth Rufeinig o fudd i drigolion a busnesau yn ogystal ag ymwelwyr.

 

Roedd yn bwysig bod pobl leol a rhanddeiliaid eraill yn rhan o'r broses hon i helpu mwy o bobl i ddarganfod hanes, tirnodau a thrysorau Caerllion.

 

Datgarboneiddio busnes

 

Lansiwyd y Cyngor raglen datgarboneiddio Casnewydd sero-net yn ddiweddar a oedd yn rhoi cyngor arbed ynni am ddim a chyllid grant i helpu sefydliadau lleol i leihau eu costau ynni a'u hallyriadau carbon.

 

Roedd y cyngor am  ...  view the full Cofnodion text for item 8.