Agenda and minutes

Cabinet - Dydd Mercher, 16eg Medi, 2020 4.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Tracy Richards , Cabinet Office Manager  E-bost: Cabinet@newport.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd ymddiheuriadau.

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb. 

 

3.

Cofnodion y cyfarfod diweddaf pdf icon PDF 95 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Awst 2020 fel rhai cywir

 

4.

Monitro cyllideb refeniw Gorffennaf 2020 pdf icon PDF 601 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad oedd yn rhoi diweddariad am y sefyllfa monitro refeniw fel yr oedd ym mis Gorffennaf.  Yr oedd yr adroddiad yn dangos sefyllfa well o lawer ers yr un yr adroddwyd amdani ym mis Mai i’r Cabinet, gyda’r gorwariant yn gostwng o £5.4 miliwn i £683,000, sydd yn gryn ostyngiad. Yr oedd hyn yn adlewyrchu newidiadau o gadarnhau cyllid gan Lywodraeth Cymru am wariant a cholli incwm cysylltiedig â Covid-19, sy’n cynnwys mwy o gymorth ariannol ar gyfer y canlynol:

 

           Colli incwm am chwarter 1 a chadarnhad fod modd defnyddio’r £78m cyfan o gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer colli incwm, fydd yn gwella’r rhagolygon yn sylweddol;

           Parhau â’r gefnogaeth i Ofal Cymdeithasol Oedolion a Digartrefedd i chwarter 2;

           Cyhoeddiad am £264m ledled Cymru am weddill y flwyddyn ariannol i dalu am incwm a gollwyd a chostau cynyddol yn sgil pandemig  Covid-19.

Oherwydd y mesurau ariannol uchod, llwyddwyd i ostwng y gorwariant a ragwelwyd yn sylweddol o’r hyn yr adroddwyd arno ym mis Mai; er hynny, nododd yr adroddiad fod angen mwy o fanylion eto am sut i gymhwyso’r cyllid ychwanegol ac ar gyfer beth y gellir ei ddefnyddio. Felly erys ansicrwydd am y rhagolygon, a meddwl am hyn pan geir mwy o fanylion.

 

Y meysydd allweddol sy’n cyfrannu at y gorwario a ragwelwyd yw:

 

(i)         Arbedion cyllideb nas cyflwynwyd yn 2020/21 a’r flwyddyn cynt       £1,540k

(ii)        Mwy o alw am asiantaethau maethu annibynnol       £446k

(iii)       Effaith gorwario ar gyllidebau ysgolion                       £305k

(iv)       Tanwario ar staffio a meysydd gwasanaeth eraill      (£1,608k)

Mae a wnelo un o’r prif feysydd lle bu gorwario (gweler (i) uchod) a pheidio â chyflwyno arbedion ar draws nifer o feysydd gwasanaeth. Mae hyn yn cyfateb i £1.5 miliwn am 2020/21 ac arbedion y flwyddyn flaenorol ac nid yw’n unigryw i un maes gwasanaeth. 

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod yr arbedion a ragwelwyd wedi dioddef o ganlyniad i  bandemig covid-19, oedd  wedi eu gostwng i 80% o’r targed. Er bod yr oedi ân anorfod, bydd angen i wasanaethau gyflwyno’r arbedion hyn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol bresennol fan bellaf, fel nad ydynt yn cael eu cario ymlaen fel problem i’r flwyddyn nesaf, ochr yn ochr ag arbedion newydd y gall fod eu hangen.    

 

Yr oedd yr adroddiad yn gofyn i’r Cabinet nodi a chymeradwyo hyn, a bydd angen i’r Penaethiaid Gwasanaeth a’u timau ganolbwyntio arno; yn sicr mae’n fater i Aelodau Cabinet unigol fonitro yn eu cyfarfodydd gyda’r Penaethiaid Gwasanaeth.

 

Maes arall o orwario a welwyd mewn rhagolygon blaenorol yw’r mannau sy’n cael eu harwain gan y galw. Er bod hyn wedi gwella ers rhagolwg mis Mai, adroddir am orwario o hyd yn y Gwasanaethau Plant, gan gynnwys gorwario ar faethu annibynnol. O gofio natur y risg gyllidebol hon, gallai’r niferoedd newid trwy gydol y flwyddyn, fel sydd wedi digwydd dros y 2-3 blynedd ddiwethaf, felly mae hyn yn risg. Cadarnhaodd yr adroddiad y cedwir golwg fanwl ar y meysydd hyn. 

 

Fel yr adroddwyd ym mis Mai, mae’r sefyllfa a ragwelir ar  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Monitro'r Rhaglen Gyfalaf Gorffennaf 2020 pdf icon PDF 360 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad oedd yn cadarnhau’r diweddariad ar fonitro cyfalaf 2020/21 a’r newidiadau i’r rhaglen gyfalaf ers yr adroddiad diwethaf.

 

Fel y nodwyd yn yr adroddiad cyfalaf blaenorol a gyflwynwyd i’r Cabinet, cynhaliwyd adolygiad sylweddol ac ail-broffilio’r rhaglen gyfalaf, a arweiniodd at ail-broffilio (“llithro”) £27.5m o 2020/21 i’r blynyddoedd i ddod, ar draws amrywiol raglenni gan gynnwys Rhaglen Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif.  Mae hyn yn adlewyrchu amserlen fwy realistig i gyflwyno’r prosiectau, a gofynnir i’r swyddogion adolygu prosiectau yn gyson a chyfoesi eu proffil wrth i’r cynllun fynd rhagddo.

 

Hefyd, ychwanegwyd gwerth £2.8m o brosiectau i’r rhaglen, gan gynnwys nifer o gynlluniau priffyrdd a gwella seilwaith a gyllidir gan grantiau, fydd o fudd i Gasnewydd. Mae hyn yn dod â chyfanswm y rhaglen gyfalaf i £204.4 miliwn, sydd yn fuddsoddiad helaeth mewn nifer o ardaloedd yng Nghasnewydd gan gynnwys ysgolion, asedau treftadaeth, priffyrdd, a chynlluniau adfywio ac amgylcheddol.

 

O ran monitro, yn dilyn ail-broffilio’r cyllidebau ac ychwanegiadau i’r rhaglen, mae cyllideb gyfalaf 2020/21 yn £39.5 miliwn.  Nododd yr adroddiad fod tanwariant bychan iawn yn erbyn rhaglen 2020/21 o £375,000.  Mae’r gwariant eleni ar y gyllideb ar hyn o bryd yn isel, ond gellir priodoli hyn i Covid-19, a disgwylir y bydd gwariant yn codi’n sylweddol yn nhri-chwarter nesaf y flwyddyn.  Cadarnhaodd yr Arweinydd y bydd swyddogion yn parhau i fonitro hyn yn agos a sôn am yr effeithiau mewn adroddiadau yn y dyfodol i’r Cabinet. 

 

Yr oedd yr Arweinydd yn falch o adrodd fod y cynlluniau a gymeradwywyd ac sydd eisoes wedi dechrau  yn mynd rhagddynt yn dda, fel y gwelir yn yr adroddiad.

 

Mae’r arian cyfalaf rhydd (cyllideb lle nad oes gwariant eto wedi ei ymrwymo), yn £23.3m.   Mae’r galw am wariant cyfalaf yng Nghasnewydd yn fwy na lefel yr adnoddau, a rhaid i’r Cyngor felly flaenoriaethu lle i wario’r adnoddau cyfalaf hyn. Byddwn yn edrych ar y Strategaeth Gyfalaf dros y misoedd nesaf, ynghyd â’r Cynllun Ariannol Tymor Canol y bydd angen ei gymeradwyo gan y Cyngor o ran cyllido’r Rhaglen Gyfalaf yn y tymor hir ac effaith hyn ar gyllideb refeniw’r rhaglen yn y dyfodol. Yn ffigwr yr arian rhydd y mae derbyniadau cyfalaf, a’r ffigwr ym mis Gorffennaf  yw £5.2 miliwn.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd ei chydweithwyr yn y Cabinet i roi sylwadau:

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Giles at y gwariant cyfalaf ar ysgolion a’r cyfyngiadau ar yr awdurdod yn gorfod nodi arian cyfalaf o fewn y gyllideb a dim ond pan fydd hynny wedi ei nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid cyfatebol;  mae’r dyheadau am wario ar ysgolion yn uwch o lawer na’r hyn a nodir yn yr adroddiad hwn.   

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Cockeram at y tri chartref plant newydd sy’n cael eu datblygu, a chadarnhaodd fod Casnewydd yn arwain y ffordd gyda’r fenter hon sydd yn galluogi dwyn plant yn ôl adref o ardaloedd y tu allan i’r dalgylch. Ymwelodd yr Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd a dau o’r cartrefi yn ddiweddar gyda’r Cynghorydd Cockeram, ac y maent yn falch  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

chwarter adroddiad risg 4 (2019/20) pdf icon PDF 208 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad oedd yn rhoi cyfoesiad o Gofrestr Risg Corfforaethol y Cyngor am ddiwedd Chwarter 4 (31 Mawrth 2020). Esboniodd yr Arweinydd, oherwydd Covid-19, y bu’n rhaid gohirio’r cyfoesiad o’r adroddiad hwn tan nawr. Tynnodd yr Arweinydd sylw at y diweddariadau isod yn yr adroddiad:

 

           Ar derfyn chwarter 4 yr oedd y Gofrestr Risg Corfforaethol  yn cynnwys 13 risg oedd angen eu monitro gan y Cabinet a Thîm Rheoli Corfforaethol y Cyngor;

 

           Bydd y risgiau sydd weddill yn dal i gael eu monitro trwy feysydd gwasanaeth y Cyngor a’r Tîm Rheoli Corfforaethol. Mae mecanweithiau ar gael i anfon unrhyw risgiau newydd neu rai sy’n bod eisoes i’r Gofrestr Risg Corfforaethol. 

           Ar derfyn Chwarter 4 (1 Ionawr i 31 Mawrth 2020) yr oedd gan y Cyngor 8 risg uchel (15 i 25) a 3 risg ganolig (5 i 14) a 2 risg isel (13 i 1).  O gymharu â chwarter 3 yr oedd un risg newydd ac ni chaewyd yr un risg. Fo dd bynnag, mae un risg wedi cynyddu ei sgôr a phedair wedi gostwng.

o          (NEWYDD) Pandemig Covid-19

         Yn chwarter 4 ychwanegodd y Cyngor risg Covid-19 i’r Gofrestr Risg  wrth i Covid-19 ledaenu ar draws cymunedau yng Nghasnewydd a chael effaith ar gyflwyno gwasanaethau’r Cyngor. Rhoddodd y Cyngor ei drefniadau Parhad Busnes Comand Aur ar waith i reoli risgiau a phroblemau cymunedol a gweithred i Gasnewydd, gan gysylltu’n uniongyrchol â grwpiau rhanbarthol a chenedlaethol  (a amlinellir hefyd yn yr adroddiad ar Covid-19 ar yr agenda). Bydd cyfoesiadau pellach am y risgiau strategol fydd yn effeithio ar y Cyngor yn ystod Covid-19 yn cael eu rhoi yn y diweddariad am risgiau Chwarter 1 2020/21.

 

Oedodd yr Arweinydd yma i ddweud fod yr adroddiadau hyn wedi eu paratoi pan nad oeddem yn y sefyllfa yr ydym ynddi heddiw, ac ni allai or-bwysleisio gymaint y mae Covid-19 wedi effeithio ar ein cymunedau.  Cadarnhaodd fod y sefyllfa yn newid o ddydd i ddydd. Mae rhai o gymdogion Casnewydd yn ôl mewn cyfnod clo, a’r sefyllfa yng Nghasnewydd hefyd yn ddifrifol iawn. Rhaid i bawb wneud yn siwr eu bod yn gwneud popeth yn eu gallu i leihau’r risg a gofalu eu bod yn dilyn y canllawiau i atal lledaeniad y firws. Mae’r gwasanaeth olrhain cysylltiadau yn hanfodol i hyn, ac anogodd yr Arweinydd bobl Casnewydd i sicrhau eu bod yn defnyddio’r system hon wrth fynd i fwytai, tafarndai, etc., gan fod hyn yn hollbwysig er mwyn olrhain unrhyw achosion o’r firws.

 

I ddychwelyd at gynnwys yr adroddiad:

 

o          Sefydlogrwydd darparwyr gofal cymdeithasol (Cynnydd yn y sgôr risg o 20 i 25)

?          Yr oedd gallu darparwyr gofal cymdeithasol (preswyl a chartref) i roi’’r gofal a’r gefnogaeth angenrheidiol i ddefnyddwyr gwasanaeth yn dioddef oherwydd Covid-19 yn y gymuned ac mewn lleoliadau gofal ledled Casnewydd ar ddiwedd Ch4.

 

o             Cydbwyso Cynllun Cyllideb Tymor Canol y Cyngor (Gostyngiad yn y sgôr risg o 20 i 15)

         Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yr oedd y Cyngor wedi lleihau’r bwlch rhwng y  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Adolygiad perfformiad diwedd blwyddyn 2019/20 pdf icon PDF 249 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad oedd yn rhoi trosolwg o berfformiad meysydd gwasanaeth am 2019/20 yn erbyn pob un o’r cynlluniau gwasanaeth am 2018/22 (ar gyfer 2019/20); yn cydnabod y llwyddiannau a gaed  yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf; ac yn ymdrin ag unrhyw feysydd o danberfformio ar draws meysydd gwasanaeth.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod yr awdurdod yn 2017 wedi lansio Cynllun Corfforaethol 5-mlynedd y Cyngor, sydd yn gosod allan ei weledigaeth a’i nod o ran cyflwyno gwasanaethau’r Cyngor a’i Amcanion Lles i ddinasyddion Casnewydd.  Dywedodd mai dyma drydedd flwyddyn cyflwyno yn erbyn yr amcanion. 

 

Gofynnodd yr Arweinydd i’r Cabinet nodi y cyflwynir Adroddiad Blynyddol y Cyngor am 2019/20 i’r Cabinet ym mis Hydref a fydd yn rhoi trosolwg o weithgareddau’r Cyngor dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ac yr aiff yr adroddiad yn gyntaf at y Pwyllgor Craffu i’w adolygu.

Cadarnhaodd yr adroddiad y canlynol: pandemig

Fel yr adroddwyd yn y chwarter diwethaf (Ionawr i Fawrth 2020), golygodd pandemig Covid-19 fod llawer maes gwasanaeth wedi dargyfeirio eu hadnoddau a’u gweithgareddau i sicrhau bod gwasanaethau rheng-flaen hanfodol yn cael eu cefnogi. Hefyd, cafodd meincnodi mesuriadau perfformiad cenedlaethol eu hatal.  Cyflwynir adroddiadau ychwanegol i’r Cabinet yn amlinellu’r gwaith a wnaeth y Cyngor hyd yma a’r cynnydd gan feysydd gwasanaeth yn erbyn y Nodau Adfer Strategol yn yr adolygiadau tymor-canol yn yr hydref.

Rhoddodd yr adroddiad drosolwg o gynnydd pob maes gwasanaeth yn 2019/20 yn erbyn pob un o’u hamcanion, ac amlygu datblygiadau pellach eraill o ran cyflwyno’r Cynllun Corfforaethol, a sut yr effeithiodd Covid-19 ar bob maes gwasanaeth.

Fel yr amlinellir yn yr adroddiad, mae pob maes gwasanaeth yn gwneud cynnydd da tuag at gyflwyno eu hamcanion, fel a ganlyn:

 

o          58% (171 / 297) o gamau wedi eu cwblhau gan y meysydd gwasanaeth;

o          25% (74 / 297) o gamau “Ar y gweill” ac yn cael eu dwyn ymlaen i gynlluniau 2020/21;

o          15% (44 / 297) o gamau lle nodwyd problemau a allai gael effaith ar gyflwyno o fewn yr amserlen;

o          3% o gamau (8 o 297) heb gyrraedd y targed.

Mae manylion llawn y datblygiadau hyn yn yr adroddiad. Tynnodd yr Arweinydd sylw at rai o lwyddiannau’r Cyngor ers llynedd:

 

o          Gwasanaeth Babi a Mi a ddarparwyd trwy gydweithredu rhwng Gwasanaethau Plant y Cyngor a Barnardos, a gafodd ganlyniadau cadarnhaol i ddefnyddwyr gwasanaeth ac sydd wedi ei gydnabod ledled y DU ac yn y cyfryngau;

 

o          Cafodd y Cyngor arolygiad amlasiantaethol o Wasanaethau Amddiffyn Plant yn 2019/20, oedd yn agwedd gymharol newydd ond sydd wedi derbyn adborth positif dros ben o ran y modd mae gwasanaethau yn cael eu rhedeg, a lle mae angen cryfhau’r trefniadau presennol;

 

 

o          Mae gwasanaethau teleofal CDC (Gwasanaethau oedolion) bellach yn rhedeg yn llawn ac yn cael eu cyflwyno mewn partneriaeth â Chyngor Sir Fynwy a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae’r gwasanaeth hwn yn defnyddio technoleg i  alluogi pobl i barhau i fyw yn annibynnol gartref;

 

o          Cyflwyno Gorfodi Parcio Sifil (Gwasanaethau’r Ddinas) sydd wedi arwain at welliannau yn niogelwch y ffyrdd a  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Aadroddiad blynyddol yr iaith Gymraeg pdf icon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Paratowyd yr adroddiad yn unol â Safonau’r Iaith Gymraeg 158, 164 a 170 sy’n mynnu bod y Cyngor yn adrodd yn flynyddol ar gydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg, yn ogystal â chyhoeddi gwybodaeth benodol, gan gynnwys nifer y cwynion a dderbyniwyd, sgiliau iaith Gymraeg y staff, yr hyfforddiant a gynigir trwy’r Gymraeg, a lefel y Gymraeg sydd ei angen ar gyfer pob swydd wag a swydd newydd a hysbysebir yn ystod y flwyddyn ariannol.

 

Cyhoeddir yr adroddiad blynyddol ar wefan y Cyngor ar ffurf drafft ar hyn o bryd er mwyn cydymffurfio â’r terfyn amser statudol ar gyfer cyhoeddi o Fehefin 2020.  Mae Comisiynydd yr Iaith Gymraeg wedi cydnabod y gall oedi ddigwydd gydag adroddiadau terfynol oherwydd effaith COVID-19 ar drefniadau llywodraethiant cynghorau.

Yr oedd yr Arweinydd yn falch o gyflwyno’r adroddiad i’r Cabinet am ei fod yn gyfle iddi hi ac Aelodau’r Cabinet adfyfyrio ar lwyddiannau dros y 12 mis a aeth heibio, yn ogystal â’r cyfleoedd sydd angen eu datblygu ymhellach yn ymrwymiad y Cyngor i dyfu’r iaith yn y ddinas dros y flwyddyn i ddod.

Cadarnhaodd yr adroddiad fod canolbwynt eleni wedi bod ar ddatblygu perthynas gyda phartneriaid yn y gymuned, croesawu Comisiynydd yr Iaith Gymraeg i’r Ganolfan Ddinesig fel rhan o ?yl Newydd, ein g?yl Gymraeg leol, a recriwtio Swyddog Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg i helpu i ddwyn cymunedau lleol i mewn yn y cyfnod sy’n arwain at agor pedwaredd ysgol gynradd Gymraeg y ddinas.

Cafodd pob aelod o’r Cabinet gyfle i fynychu hyfforddiant iaith Gymraeg eleni, a diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Jason Hughes, sydd, yn rhinwedd ei swydd fel pencampwr iaith Gymraeg, yn parhau i hyrwyddo’r Gymraeg ymysg aelodau etholedig ac ar draws cymunedau.  Diolchodd yr Arweinydd hefyd i’r swyddogion am barhau i hyrwyddo hyn ledled yr awdurdod.

I edrych ymlaen, mae’r adroddiad blynyddol hefyd yn nodi nifer o flaenoriaethau allweddol at y dyfodol, gan gynnwys:

           cynyddu nifer y staff sy’n dilyn hyfforddiant yn y Gymraeg;

           gwella’r data sydd gennym am siaradwyr Cymraeg yn y Cyngor, a,

           gweithio i sefydlu’r iaith Gymraeg fel rhan o ymdeimlad ein cymunedau amrywiol o berthyn i’r ddinas.

Cynigiodd yr Arweinydd yr adroddiad blynyddol i’w fabwysiadu. Diolch yn fawr.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Gymuned ac Adnoddau i ddweud gair am yr adroddiad

 

Yr oedd y Cynghorydd Mayer, fel yr arweinydd ar gydraddoldeb, yn croesawu Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg eleni, ac yr oedd yn arbennig o falch gyda’r cynnydd a wnaed dros y 12 mis diwethaf i ddatblygu cysylltiadau cryfach gyda phartneriaid Cymraeg a chymunedol y Cyngor. Cadarnhaodd fod y Cyngor yn gweithio i wreiddio’r Gymraeg fel rhan annatod o hunaniaeth ddiwylliannol y ddinas, ac yr oedd wrth ei fodd fod digwyddiadau a phartneriaethau lleol wedi eu cefnogi er mwyn bwrw ymlaen â hyn. Fel un sy’n dysgu Cymraeg, mae’r Aelod Cabinet hefyd eleni yn annog peilotio nifer o gyfleoedd hyfforddi newydd i gynghorwyr a staff, yn y gobaith y bydd hyn yn annog mwy o bobl i ddysgu ein hiaith genedlaethol.

 

I  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Teithio cynaliadwy pdf icon PDF 1 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad oedd yn rhoi diweddariad i’r Cabinet ar deithio cynaliadwy ar hyd a lled Casnewydd. 

 

Nododd yr adroddiad fod cysylltiadau trafnidiaeth lleol da yn fanteisiol i bobl, busnesau, yr amgylchedd a’r economi yn gyffredinol. Maent yn hanfodol er mwyn cynnal lles economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol Casnewydd.   Dyma rai o’r prif fanteision:

 

           cysylltu pobl a chymunedau;

           cefnogi twf economaidd trwy annog busnesau i fuddsoddi yn yr ardal;

           helpu i daclo tlodi trwy roi mynediad i bobl at addysg a gwaith;

           gwella ein hamgylchedd a’n hiechyd trwy leihau allyriadau carbon, gwella ansawdd aer a galluogi pobl i deithio’n fwy llesol. 

 

Mae’r adroddiad hefyd yn gosod allan gyd-destun cenedlaethol trafnidiaeth, effeithiau a chyfleoedd pandemig Covid-19, ac yn rhoi diweddariad am y gwelliannau diweddar a chyfleoedd at y dyfodol yng Nghasnewydd.

 

Yr oedd yr Arweinydd yn falch o weld gwelliannau cyson i fflyd y Cyngor, cludiant cyhoeddus, seilwaith a rhwydweithiau teithio llesol ar yr adeg heriol hon. Yr oedd yn falch hefyd i weld y gweithio cryf mewn partneriaeth ledled Gwent ar y Siarter Teithio Cynaliadwy, gaiff ei lansio ym mis Hydref.

 

Yr oedd yr Arweinydd yn falch o weld y fflyd o gerbydau trydan gafodd eu cyflwyno i Drafnidiaeth Casnewydd, a diolchodd i’r Cynghorydd Harvey, fel cadeirydd Bwrdd Trafnidiaeth Casnewydd a rheolwyr Trafnidiaeth Casnewydd am eu gwaith caled yn gwireddu’r weledigaeth hon.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd y Dirprwy Arweinydd (fel Aelod Cabinet dros Wasanaethau’r Ddinas) a’r Aelod Cabinet dros Ddatblygu Cynaliadwy i siarad am yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau’r Ddinas fod yr adroddiad yn gosod allan beth o’r gwaith sydd yn digwydd i wella dewisiadau a rhwydwaith trafnidiaeth y ddinas, fel y gwelir yn y pwyntiau isod yn yr adroddiad hwn. Yr oedd yn arbennig o falch o weld y bydd y Cyngor yn derbyn eu cerbyd gwastraff allyriadau-isel-iawn cyntaf ym Mawrth 2021, fydd eto’n helpu yn y gwaith i ostwng allyriadau carbon y Cyngor.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Cynaliadwy i’r swyddogion am y wybodaeth yn yr adroddiad. Dywedodd fod rhwydweithiau teithio cynaliadwy yn hanfodol er mwyn gwella a chynnal lles economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol Casnewydd.  Maent yn allweddol i gysylltu pobl a chymunedau, cefnogi twf economaidd, taclo tlodi  a gwella’r amgylchedd ac iechyd. Pwysleisiodd hefyd yr angen i leihau allyriadau carbon a chroesawodd y gwaith sy’n cael ei wneud i gefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. 

 

Gwahoddodd yr Arweinydd sylwadau gan gydweithwyr yn y Cabinet.

 

Anogodd y Cynghorydd Giles rieni i sy’n gallu gwneud hynny i gerdded gyda’u plant i’r ysgol yn hytrach na mynd mewn car, gan y bydd hyn yn ategu’r gwaith gwych a grybwyllir yn yr adroddiad hwn.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Rahman fod iechyd a lles trigolion yn flaenoriaeth i’r weinyddiaeth hon, a buddsoddi ar yr un pryd yn y dyfodol gyda llawer o’r mentrau hyn.

 

Rhoddodd yr Arweinydd ddiolch arbennig i’r swyddogion am eu diwydrwydd a’u gwaith caled i sicrhau cyllid grantiau er mwyn cyflwyno rhai o’r mentrau hyn. Diolchodd hefyd i feicwyr Casnewydd a  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Adferiad COVID-19 - Diweddariad pdf icon PDF 214 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad oedd yn rhoi diweddariad am y cynnydd a wnaed gan y Cyngor a’u partneriaid i adfer gwasanaethau ac i gynnal cymunedau Casnewydd fel rhan o Nodau Adfer Strategol y Cyngor.

 

Dywedodd yr Arweinydd ein bod oll mewn rhyw ffordd wedi teimlo effeithiau Covid- 19 a’r cyfnod clo ar gymunedau, busnesau ac economi’r ddinas a chyflwyno gwasanaethau’r Cyngor.

Ers mis Mawrth, prif ffocws y Cyngor fu ar arbed bywydau, lleihau lledaeniad y firws mewn cymunedau; cynnal rheng flaen y Cyngor a chefnogi gwasanaethau; a chefnogi pobl fregus sydd wedi dioddef yn uniongyrchol naill ai oherwydd covid-19 neu’r cyfnod clo.

Cadarnhaodd yr adroddiad fod y Cabinet ym mis Mehefin wedi cefnogi’r pedwar Nod Adfer Strategol i gyflwyno Amcanion Lles y Cyngor, ond hefyd i sicrhau y gall gwasanaethau’r Cyngor ddychwelyd yn ddiogel a rheoli achosion o glefyd yn y dyfodol. 

Mae crynodeb o ymateb y Cyngor ers mis Mawrth yn dilyn cyflwyno’r clo gan Lywodraethau Cymru a’r DU yn yr adroddiad.

 

Trwy gydol y cyfnod hwn, bu tîm ymateb brys y Cyngor (Covid Aur) yn goruchwylio cyflwyno gweithgareddau gweithredol a strategol mewn ymateb i’r achosion mewn cymunedau a mesurau’r cyfnod clo.  Ar hyn o bryd, mae covid-19 yn dal o gwmpas yn ne ddwyrain Cymru, ac oherwydd hyn, mae’r Cyngor yn dal yn wyliadwrus ond hefyd yn hyblyg i gefnogi unrhyw fesurau angenrheidiol a hefyd i gefnogi cymunedau yn y ddinas. 

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ymateb y Cyngor ar draws ei feysydd gwasanaeth gan gynnwys y gwaith cydweithredol gyda phartneriaid y Cyngor yn y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, grwpiau cymunedol a phartneriaid y trydydd sector. 

Mae manylion llawn gweithgareddau’r Cyngor wedi eu cynnwys yn yr adroddiad – dyma rai enghreifftiau:

 

o          Trwy gydweithredu rhwng Gwasanaethau Digidol y Cyngor, a’r Cyd-Wasanaeth Adnoddau (CWA), llwyddodd staff y Cyngor i weithio o gartref gan ddenfyddio Microsoft Teams, gliniaduron a gwasanaethau eraill.

 

o          Bu cryn bwysau ar Wasanaethau oedolion a Chymunedol y Cyngor er mwyn sicrhau y gallai’r staff gael y cyfarpar gwarchod personol angenrheidiol a gwneud yn siwr fod defnyddwyr gwasanaeth yn dal i dderbyn gofal. Mae timau Oedolion y Cyngor wedi bod yn cefnogi oedolion mewn cartrefi preswyl, therapi galwedigaethol a gofal cartref. 

 

o          Defnyddiodd Gwasanaeth Plant y Cyngor y cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg i gadw mewn cysylltiad â theuluoedd a phlant, a rhoi cefnogaeth angenrheidiol i ofalwyr maeth, lleoliadau gofal a gofal seibiant.

 

 

o          Gyda chau ysgolion, bu’n rhaid i ddisgyblion dderbyn addysg gartref gan ddefnyddio technoleg fel Google Classroom a fideo-gynadledda. Gyda gwaith caled ysgolion, gwasanaethau Addysg y Cyngor a CWA, llwyddwyd i gefnogi plant a nodwyd fel rhai wedi eu heithrio yn ddigidol a darparodd y Cyngor y cyfarpar a’r mynediad angenrheidiol. 

 

o          Er bod yr ysgolion wedi cau at ddibenion addysgol, darparodd llawer o ysgolion a Hybiau Cymdogaeth y Cyngor ofal i blant gweithwyr allweddol a 60 o ddysgwyr bregus.  

 

 

o          Daliodd Gwasanaethau’r Ddinas y Cyngor a Wastesavers ati i gasglu gwastraff o gartrefi a busnesau.

 

o          Bu’n rhaid i lawer man cyhoeddus (parciau,  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Rhaglan Waith pdf icon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Raglen Waith y Cabinet.

 

Penderfyniad:

 

Cytunodd y Cabinet ar y rhaglen a gyfoeswyd.

 

12.

PSB Crynodeb pdf icon PDF 126 KB

Cofnodion:

Er gwybodaeth yr oedd y ddogfen hon, ond anogodd yr Arweinydd bawb i edrych ar y wefan er mwyn gweld y gwaith sy’n cael ei wneud.

 

I gloi, diolchodd yr Arweinydd i’r swyddogion am eu gwaith caled cyson, cadarnhau ein bod oll yn un yng Nghasnewydd, ac anogodd bawb i ddal ati i gydweithio ac i gynnal ei gilydd.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1759.

 

13.

Live Event

To view the live event, please click link below:

 

Join live event