Cofnodion

Cabinet - Dydd Mercher, 12fed Rhagfyr, 2018 4.00 pm

Lleoliad arfaethedig: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eleanor Mulligan  E-bost: eleanor.mulligan@newport.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiant.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 120 KB

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cabinet fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2018 yn gywir.

 

3.

Monitor Cyllideb Refeniw mis Hydref pdf icon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod pwysau sylweddol o hyd ar wariant, ac nad yw'r pwysau hynny'n lleihau, ac na fyddai cystadleuaeth arweinyddol am rôl y Prif Weinidog ond yn gwaethygu'r sefyllfa o flaen Llywodraeth Leol yn y cyfnod hwn o gyni ariannol.  Mae'r Cyngor yn parhau i ddangos ei fod yn lliniaru'r pwysau ac mae'r dystysgrif cydymffurfio a gyhoeddwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru yn cadarnhau ein bod yn arddangos rheolaeth ariannol dda.

 

Mae'r adroddiad hwn yn dangos y rhagolygon cyllideb refeniw diweddaraf hyd at ddiwedd y flwyddyn. Nid yw'r sefyllfa wedi newid yn sylweddol ers yr adolygiad diwethaf; mae cyllideb refeniw'r Cyngor yn rhagweld tanwariant o oddeutu £3 miliwn, ac er bod hwnnw'n ffigur sylweddol, nid yw ond yn hafal i oddeutu 1% o gyllideb y Cyngor.

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd bwysigrwydd nodi nad yw’r adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw effaith yn sgil y cyllid ychwanegol a ddyrannwyd yn ddiweddar ar gyfer y flwyddyn gyfredol, ac a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.

Cafwyd cynllunio a rheolaeth gadarn ar rai o'r risgiau i'r gyllideb, gan gynnwys cronfeydd hapddigwyddiadau i reoli'r risgiau hynny.  Ar hyn o bryd mae'r cronfeydd hapddigwyddiadau a gafodd eu cynnwys, tanwariant arall ac incwm untro yn gwrthbwyso gorwariant mewn pedwar gweithgaredd.  Mae'r gweithgareddau hynny ym maes gofal cymdeithasol plant ac oedolion ac anghenion arbennig addysg, a rhagwelir y byddant yn gorwario oddeutu £5m eleni.  Yn syml, mae'r galw am y gwasanaethau hyn yn cynyddu ac mae demograffeg Casnewydd ar gyfer gofal cymdeithasol oedolion yn creu llawer mwy o faich na'r blynyddoedd cynt.

 

Ar yr adeg hon yn y flwyddyn ariannol, gall y Cyngor fod â hyder cynyddol yn ei ragolygon ac felly cynigir rhoi £2 filiwn o’r tanwariant yn y gronfa Buddsoddi i Arbed er mwyn galluogi'r Cyngor i wynebu heriau ariannol parhaus y dyfodol. Bydd hyn yn gadael lefel ddigonol o danwariant i ymdrin ag unrhyw broblemau eraill a allai godi yn gysylltiedig â'r galw a chostau rhwng nawr a diwedd y flwyddyn ariannol, neu i'w fuddsoddi; bydd hyn yn cael ei fonitro'n agos. 

O ran y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a grybwyllwyd yn gynharach yn y cyfarfod, bydd hyn yn cynnwys grantiau penodol newydd ar gyfer eleni ar gyfer ysgolion a gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, mae Casnewydd yn disgwyl am gadarnhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch ei chyfran o'r arian ychwanegol.  Bydd y cyllid ychwanegol yn helpu i leihau gorwariant cyfredol yr ysgolion a gofal cymdeithasol eleni, ac felly o fudd i sefyllfa cronfeydd wrth gefn yr ysgolion ar ddiwedd y flwyddyn, a fydd yn ddefnyddiol iawn, ac y bydd angen mawr amdano.  Bydd y monitor cyllideb nesaf i'r Cabinet hwn yn ymgorffori'r arian ychwanegol. 

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd fod y gwaith o reoli cyllidebau yn dod yn fwyfwy anodd ac er ei bod hi'n glir bod gan y Cyngor feysydd heriol, mae'r Cyngor hwn yn parhau i reoli'r gyllideb gyffredinol yn gadarn a'r risgiau oddi mewn i'r gyllideb honno.  Diolchodd yr Arweinydd i'w chyd-aelodau ar y Cabinet ac i'r swyddogion am y gwaith a wnaed hyd yma,  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Monitro Rhaglen Gyfalaf ac Ychwanegiadau Medi 2018 pdf icon PDF 312 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a chadarnhau ei fod yn rhoi trosolwg o'r rhaglen gyfredol a'r 'lle' ar gyfer gwariant newydd, yn rhestru ychwanegiadau i'r rhaglen i'w cymeradwyo gan y Cabinet, y sefyllfa o ran derbyniadau cyfalaf a chrynodeb o brosiectau allweddol, rhagolygon ariannol a chynnydd.

 

Bu cynnydd o oddeutu £2 filiwn i'r rhaglen 5 mlynedd gyffredinol, ac mae'r adroddiad yn rhestru'r prosiectau newydd y mae angen i'r Cabinet eu cymeradwyo, a ariennir yn bennaf o grantiau neu dderbyniadau Adran 106. Yr eitem fwyaf yw'r 'Hyb Cymdogaeth Gymunedol' newydd yn Nwyrain Casnewydd. Dyma un o brif addewidion y cynllun corfforaethol ac mae’n dechrau buddsoddiad y mae angen mawr amdano yn ein hasedau cymunedol. Bydd y cyfleuster newydd hwn yn cael ei gydgysylltu ag ymagwedd newydd at ddarparu gwasanaethau yn y gymuned a'r modd y bydd yr adeiladau hyn yn gweithredu ac yn gweithio i'r cymunedau sy'n eu defnyddio. Dyma ymagwedd gyffrous newydd, ac mae'r Cabinet wrth ei fodd fod y daith hon bellach wedi dechrau.

 

Er bod cyfanswm y rhaglen wedi cynyddu, bydd cydweithwyr yn cofio bod y Cabinet am adolygu amseriad cyflwyno prosiectau fesul cam ac ystyried y llithriant a ragwelwyd wrth gyflawni prosiectau y tynnodd y monitor blaenorol sylw ato. Mae'r adroddiad felly'n cyfeirio at brosiectau sydd wedi'u haildrefnu a gostyngiadau o £16 miliwn o wariant y flwyddyn gyfredol.

 

Fodd bynnag, mae mwy o waith ar y gweill ac angen ei wneud, gan fod llithriant o £5 miliwn wedi'i nodi yn yr adroddiad, ac mae angen gwneud llawer iawn o gynnydd a gwariant yn ail hanner y flwyddyn i fodloni'r gwariant a ragwelwyd ar brosiectau cyfalaf a nodwyd.  

 

Fodd bynnag, mae prosiectau allweddol yn parhau i gael eu datblygu. Dylai prosiectau Band A yr Ysgolion fod wedi'u cwblhau yn ystod y flwyddyn ariannol hon ac mae gwaith cynllunio yn mynd rhagddo ar brosiectau allweddol o fewn rhaglen Band B. Mae prosiect adfywio allweddol 123-129 Commercial Street yn datblygu ac mae cynnydd yn cael ei wneud ar brosiectau allweddol gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri ar y Bont Gludo ac Arcêd y Farchnad.  

 

Canmolodd cyd-aelodau'r Cabinet y gwaith sy’n cael ei wneud i:

              greu’r Hyb Cymdogaeth Cymunedol yn Ringland, a fyddai’n caniatáu i bob rhan o'r gymuned gael mynediad at wybodaeth; 

              croesawyd y newyddion ynghylch y Bont Gludo;

              croesawyd adeiladu Gwent Is Coed - sef yr unig Ysgol Cyfrwng Cymraeg i gael ei hadeiladu drwy Gymru gyfan dros y tair blynedd diwethaf. 

              Talodd yr Arweinydd deyrnged hefyd i'r diweddar Carl Sargeant am ei fewnbwn i Brosiect Commercial Street.  

Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Cabinet ynghylch derbyniadau cyfalaf.  Hyd yma mae £148k o dderbyniadau cyfalaf wedi dod i law eleni, a rhagwelir y bydd oddeutu £1.9m o dderbyniadau cyfalaf yn dod i law erbyn diwedd 2018/19/

Penderfyniad:

Cytunodd y Cabinet i:

              cymeradwyo’r ychwanegiadau i’r Rhaglen Gyfalaf y gofynnwyd amdanynt yn yr adroddiad a chymeradwyo llithriant o gyllideb 2018/19 i mewn i 2019/20.

              nodi'r 'lle' sydd ar ôl dros oes  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cyllideb 2019/20 a Rhagamcanion Ariannol Tymor Canolig pdf icon PDF 388 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyn bwrw ymlaen â chynnwys yr adroddiad gofynnodd yr Arweinydd i'r Pennaeth Cyllid gadarnhau rhai diwygiadau i Atodiad 5, 7 a 10 yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid:

 

Fod diwygiadau wedi'u gwneud yn:

        Atodiad 5 – yr Achos Busnes yn gysylltiedig â swyddi Seicolegwyr Addysg. 

        Atodiad 7 - Ffioedd a thaliadau ar gyfer ymgynghori

        Atodiad 10 – Rhagamcan o gronfeydd wrth gefn clustnodedig

Mynegodd yr Arweinydd bryder fod newidiadau'n cael eu gwneud yn hwyr yn y dydd, a mynnodd fod gwiriadau synnwyr yn cael eu gwneud yn y dyfodol cyn cyhoeddi agenda'r Cabinet. Cytunodd y Prif Weithredwr y byddai hyn yn digwydd. 

 

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad sef y prif adroddiad cyllid y mae'n ofynnol i'r Cabinet roi sylw iddo.  Cadarnhaodd nad yw'r ffigurau yn yr adroddiad yn ystyriol o'r newyddion a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar; bydd y cyllid ychwanegol yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad ym mis Chwefror 2019 ac erbyn hynny, y gobaith yw y bydd y setliad terfynol a'r hysbysiadau grant wedi dod i law gan Lywodraeth Cymru.

 

Er bod gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ers rhai misoedd ar gynigion y gyllideb, mae’r adroddiad hwn yn dechrau’r adroddiadau cyhoeddus ffurfiol ar y gyllideb ac ymgynghoriad ar y cynigion a ddangosir – a fydd yn parhau hyd ddiwedd Ionawr 2019.

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd bwysigrwydd i bawb ddeall y cyd-destun heriol y mae'r Cyngor hwn, fel pob un arall, yn gosod cyllidebau ynddo.  Dyma'r rheswm y mae'n rhaid i ni, fel pawb arall, gynnig lefelau sylweddol o arbedion cyllidebol a chynnydd i'r Dreth Gyngor.

 

Mae'r Cyngor yn wynebu tua £12 miliwn o bwysau o ran costau ar gyfer y flwyddyn nesaf yn unig; fodd bynnag, nid yw'r cyllid ar gyfer hyn yn cynyddu.  Mae'r Grant Cynnal Refeniw yn ariannu tua 77% o'r gyllideb ond fel y dengys yr adroddiad, cadarnhaodd y setliad dangosol ar gyfer y grant hwn gynnydd o tua £300,000 yn unig ar gyfer y flwyddyn nesaf.  Mae'n amlwg y ceir diffyg, ac er mwyn mantoli'r gyllideb, fel y mae'n ofynnol i gynghorau ei wneud yn ôl y gyfraith, bydd yn rhaid cynyddu'r Dreth Gyngor a sicrhau arbedion pellach.

 

Mae cynigion arbedion y Cyngor wedi'u rhannu i dri chategori. Y rhai y bydd angen i’r Cabinet eu cadarnhau ac y mae’n ymgynghori’n ffurfiol arnynt – a ddangosir yn Atodiad 2, a’r rhai sy’n cael eu cynnig gan Aelodau Cabinet neu Benaethiaid Gwasanaeth a ddangosir yn Atodiad 3. Mae'r rhain ar gyfer y newidiadau polisi llai pwysig, arbedion effeithlonrwydd neu newidiadau isel eu heffaith ac fe'u gweithredir ar ôl cwblhau'r prosesau penderfynu arferol.

 

Mae'r Dreth Gyngor yn fater allweddol gan nad yw ond yn cyllido 23% o gyllideb net y Cyngor.  Gan hynny, o wynebu setliad grant cynnal refeniw sy'n ffurfio'r 77% o gyllid sy'n weddill, ac nad yw'n cynyddu, mae'n rhaid codi'r Dreth Gyngor i raddau anghymesur er mwyn cael unrhyw effaith liniarol.  

Nodwyd bod Treth Gyngor Casnewydd yn isel iawn o gymharu ag eraill; dyma'r Dreth Gyngor isaf ond  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Adroddiad ar Reoli'r Trysorlys ar gyfer y cyfnod hyd 30 Medi 2018 pdf icon PDF 308 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad hwn a chadarnhau mai dyma'r adroddiad arferol ar y diweddariad canol blwyddyn ar Weithgareddau'r Trysorlys.  Roedd yn cadarnhau bod y strategaeth gytunedig yn cael ei dilyn, a bod y dangosyddion sy'n rheoli gweithgareddau rheoli trysorlys yn cael eu cyflawni. Ni wnaed unrhyw ad-daliadau na benthyciadau newydd sylweddol yn ystod y cyfnod hwn.

 

Roedd Pwyllgor Archwilio'r Cyngor eisoes wedi adolygu'r adroddiad a heb godi unrhyw faterion. 

 

Canmolodd yr Arweinydd yr adroddiad a dweud y dylai gael ei anfon i'r Cyngor llawn.

 

Penderfyniad:

Cytunodd y Cabinet i nodi’r adroddiad ar weithgareddau rheoli’r trysorlys am y cyfnod hyd 30 Medi 2018 a darparu sylwadau i’r Cyngor.

 

7.

Diweddariad am y Gofrestr Risg Gorfforaethol pdf icon PDF 2 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a chadarnhau'r canlynol:

        Mae risg y gyllideb tymor canolig wedi cynyddu (cynnydd mewn risg o 16-20) - roedd y rhan fwyaf o'r risgiau eraill yn aros yr un peth.

        Trafodwyd Brexit yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Archwilio ac mae sylwadau'r Pwyllgor wedi'u cynnwys yn yr adroddiad.

        Mae Cynllun Gweithredu Brexit yn cael ei baratoi

        Y cyngor yw nad oes angen cynyddu unrhyw un o'r risgiau, dim ond sicrhau bod camau lliniarol wedi'u sefydlu.

Mae Strategaeth Rheoli Risg a Chofrestr Risgiau'r Cyngor yn galluogi'r Cyngor i nodi, rheoli a monitro risgiau'n effeithiol i sicrhau bod y Cyngor yn gwireddu ei Gynllun, a sicrhau y darperir gwasanaethau i'w gymunedau a'i ddinasyddion. 

 

Cyflwynwyd y Gofrestr Risgiau i Bwyllgor Archwilio’r Cyngor ym mis Tachwedd 2018 ac mae sylwadau’r Pwyllgor wedi’u cynnwys yn yr adroddiad, gan gynnwys y sylwadau ar Brexit.

 

Bydd adroddiad y chwarter nesaf yn cynnwys ailwerthusiad o’r holl risgiau, gan gynnwys y risgiau a’r mesurau lliniaru sy’n ymwneud â Brexit a risg newydd yn ymwneud â diogelwch eiddo a diogelwch personol yng nghanol y ddinas.

 

Penderfyniad

 

Cytunodd y Cabinet ar gynnwys y Gofrestr Risgiau Corfforaethol a nodi'r argymhellion a godwyd gan Bwyllgor Archwilio'r Cyngor erbyn diweddariad Chwarter 3.

 

8.

Ail Dystysgrif Cydymffurfio Swyddfa Archwilio Cymru pdf icon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd yr Arweinydd mai dyma'r ail dystysgrif cydymffurfio a roddwyd i'r Cyngor.

 

Fel rhan o'r rhaglen o weithgarwch rheoleiddio yn unol â Mesur Llywodraeth Leol 2009, mae'n ofynnol i'r Archwilydd Cyffredinol roi dwy Dystysgrif Cydymffurfio i ddangos bod y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan y Mesur.  Ym mis Medi 2018, cyflwynwyd y dystysgrif gyntaf i’r Cabinet lle adroddwyd bod Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ardystio bod:

 

“…y Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 15(6) i (9) o’r Mesur ac wedi gweithredu’n unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru yn ddigonol i gyflawni ei ddyletswyddau.” 

 

Yn rhan o Fesur Llywodraeth Leol 2009, mae’n ofynnol hefyd i’r Cyngor gyhoeddi asesiad o’i berfformiad yn 2017/18 erbyn 31 Hydref 2018.  Cyflawnodd Cyngor Dinas Casnewydd y ddyletswydd hon drwy gyhoeddi’r Adolygiad Blynyddol o Amcanion Llesiant a Chynllun Gwella 2017/18 ar ei wefan.

 

O ganlyniad i'r weithred honno gan y Cyngor, cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru ei hail Dystysgrif Cydymffurfio, gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru ardystio: “…O ganlyniad i’m harchwiliad, credaf fod y Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan ……… y Mesur ac wedi gweithredu’n unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru yn ddigonol i gyflawni ei ddyletswyddau.”

 

Penderfyniad:

Nododd y Cabinet ganlyniad cadarnhaol y Dystysgrif Cydymffurfio mewn perthynas â pherfformiad y Cyngor yn 2017/18.

 

9.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 116 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor y diweddariad diweddaraf i'r rhaglen waith.

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn cytuno ar y rhaglen waith wedi'i diweddaru.

 

10.

Crynodeb Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) (er gwybodaeth/ymwybyddiaeth) pdf icon PDF 120 KB

Cofnodion:

Cadarnhaodd yr Arweinydd y byddai’r ddogfen hon yn rhoi diweddariad cryno bob mis o’r gwaith a gyflawnir gan y BGC a’i fod er gwybodaeth/ymwybyddiaeth y Cabinet.