Cofnodion

Cabinet - Dydd Mercher, 16eg Ionawr, 2019 4.00 pm

Lleoliad arfaethedig: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eleanor Mulligan  E-bost: eleanor.mulligan@newport.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriad.

 

2.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiant.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf: 12 Rhagfyr 2018 pdf icon PDF 142 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2018 yn gywir gan y Cabinet.

 

4.

Dadansoddiad Canol Blwyddyn o Ddangosyddion Perfformiad pdf icon PDF 295 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a rhoi trosolwg byr o'r wybodaeth ynddo: 

        Dyma'r sefyllfa hanner blwyddyn, ac mae'r sefyllfa ar y cyfan yn galonogol. 

        Rydym yn gwella o'r naill flwyddyn i'r nesaf. 

        Yng nghyfarfod y Cabinet ym mis Rhagfyr, adroddwyd am Ail Dystysgrif Cydymffurfiaeth Swyddfa Archwilio Cymru.

Eglurodd yr Arweinydd mai pwrpas yr adroddiad yw rhoi trosolwg o'r cynnydd o ran cyflawni yn erbyn y cynlluniau gwasanaeth, rhan o Edefyn Aur y Cynllun Corfforaethol, a mesurau perfformiad ar gyfer chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon (2018/19).

 

Mae’r adroddiad yn cynnwys adborth ac argymhellion y Pwyllgor Craffu Pobl a’r Pwyllgor Craffu Lle a Materion Corfforaethol ar ôl cyflwyno'r cynlluniau gwasanaeth ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2018.

 

Yn 2017, lansiwyd Cynllun Corfforaethol pum mlynedd y Cyngor yn llwyddiannus a nodai weledigaeth y Weinyddiaeth a'i nodau o ran darparu gwasanaethau Cyngor a chyflawni ei amcanion Llesiant er budd dinasyddion Casnewydd.

 

Er mwyn sicrhau bod y nodau hynny'n cael eu cyflawni, pennwyd pedair thema yng Nghynllun Corfforaethol Cyngor Casnewydd 2017-22 (Dinas Ffyniannus, Pobl Uchelgeisiol, Pobl Gydnerth, Cyngor wedi'i Foderneiddio) ac 20 ymrwymiad i'w cyflawni.

 

I gefnogi’r gwaith o gyflawni’r Cynllun Corfforaethol, mae wyth maes gwasanaeth y Cyngor wedi datblygu eu cynlluniau gwasanaeth ar gyfer y cyfnod 2018-22, sy’n amlinellu sut y byddant yn cefnogi ac yn cyflawni ymrwymiadau’r Cyngor. 

   

Er mwyn sicrhau bod yr amcanion hyn yn cael eu cyflawni dros y pum mlynedd nesaf, datblygodd pob maes gwasanaeth yn y Cyngor gynlluniau gwasanaeth unigol ategol, a gymeradwywyd gan bob un o Aelodau'r Cabinet.

 

Dangosai'r adroddiad y canlynol ar gyfer chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon:

          Adroddwyd bod 84% o'r camau gweithredu (205/245 o'r camau) a nodwyd yn y cynlluniau gwasanaeth 'Ar y gweill'.

          Adroddwyd bod 7% o'r camau gweithredu (17/245 o gamau) 'Wedi'u cwblhau'; a bod   9% o'r camau (23 o 245 o gamau) yn disgwyl cael eu dechrau.

Gan mai hon yw'r flwyddyn gyntaf lle'r ydym y cyflawni yn erbyn amcanion y cynlluniau gwasanaeth, nid oedd disgwyl i feysydd gwasanaeth adrodd eu bod wedi llwyddo i gyflawni cyfran sylweddol o'r amcanion hyn.

 

Fodd bynnag, yr hyn y mae'r adroddiad yn ei amlygu yw datblygiadau nodedig wrth gyflawni'r Cynllun Corfforaethol, lle gwelwyd y Cyngor yn gwneud penderfyniadau dewr yn nghyd-destun pwysau ariannol parhaus.  Nid oes cymhariaeth i'r cyfnod hwn o lymder, a diolchodd yr Arweinydd i'w chyd-aelodau ar y Cabinet am gamu i'w swyddi ac am fwrw ymlaen â rhai penderfyniadau anodd iawn.

 

Mae manylion llawn y datblygiadau wedi'u cynnwys yn yr adroddiad, ond tynnodd yr Arweinydd sylw at beth o'r cynnydd a wnaed hyd yma.

          Prynu cartrefi newydd i ddod â phlant yn ôl o leoliadau y tu allan i'r sir, a fydd yn sicrhau bod modd rhoi gofal a chefnogaeth iddynt o fewn ardal Casnewydd; symudodd y plentyn cyntaf i mewn heddiw!

          Mae gwaith paratoi ar gyfer gorfodaeth parcio sifil ar y trywydd iawn i'w gyflawni yn 2019/20, a fydd yn gwneud Casnewydd yn fwy dymunol, yn enwedig canol y ddinas;  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Data Perfformiad Disgyblion Addysg pdf icon PDF 425 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a chadarnhaodd y byddai'r Cabinet yn ymwybodol bod nifer o newidiadau sylweddol wedi'u cyflwyno i fesurau perfformiad Cyfnodau Allweddol 4 a 5 a'r rhaglenni astudio sy'n sylfaen i bob arholiad yng Nghymru. 

 

Eglurodd yr Arweinydd fod y gyfres o sgiliau a'r wybodaeth yr oedd eu hangen i sefyll yr arholiadau yn wahanol i'r blynyddoedd cynt felly nid yw'n briodol cymharu'r canlyniadau a ddilyswyd ar gyfer 2018 â'r blynyddoedd blaenorol.

 

Roedd yr Arweinydd yn falch o adrodd bod ysgolion uwchradd Casnewydd wedi’u paratoi’n dda ar gyfer y newidiadau hyn, a bod hynny wedi arwain at ganlyniadau cryf yn y mesur Lefel 2 Cynhwysol, sef 57% o gymharu â chyfartaledd Cymru gyfan o 55.1%.  Mae Casnewydd yn yr 8fed safle yng Nghymru, sy'n llawer uwch na'i safle cyfredol ar gyfer Prydau Ysgol Am Ddim, sef safle 13.

Dyma rai llwyddiannau eraill:

 

        Saesneg A*-C sydd wedi'i ddilysu ar 65% ar gyfer y Ddinas. Mae hyn yn uwch na chyfartaledd Cymru gyfan am yr ail flwyddyn yn olynol; a

        Mathemateg A*-C sydd wedi'i ddilysu ar 65.2% sy'n uwch na chyfartaledd Cymru gyfan am y tro cyntaf ers 2011.

Mae'r rhain yn ganlyniadau cryf, y bu'n rhaid gweithio'n galed, a darparu cymorth cydgysylltiedig wedi'i deilwra'n arbennig, i'w sicrhau.

 

Adroddodd yr Arweinydd hefyd am y bobl hynny yn y Ddinas na wnaeth ennill y mesur lefel 2 cynhwysol, ond a wnaeth lwyddo i wireddu eu potensial ac ennill y mesurau lefel 1 neu 2 drwy ennill ystod o gymwysterau TGAU, neu gyfwerth. 

 

Mynegodd yr Arweinydd longyfarchiadau i'r holl ddisgyblion hyn a llongyfarch y staff addysgu am eu harbenigedd, ac am arwain y disgyblion drwy'r cyfnod heriol hwn.

 

Mae dangosydd Cyfnod Allweddol 5 ar gyfer Cymru yn eithriadol o eang. Dyma'r diffiniad o drothwy Lefel 3: ‘swm o gymwysterau sydd gyfwerth â 2 Safon Uwch A*-E’.

 

Eleni cyflawnodd 95.7% o 732 o fyfyrwyr ôl-16 Casnewydd y mesur perfformiad hwnnw.  Er bod hyn i'w ganmol, nid yw'n adrodd hanes y bobl ifanc niferus sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth ennill lle mewn Prifysgol o'u dewis, neu sydd bellach yn ffynnu mewn swydd.  Llongyfarchodd yr Arweinydd yr holl bobl ifanc hynny sy'n cymryd y camau pwysig nesaf yn eu gyrfaoedd.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau.

Dywedodd yr Aelod Cabinet, er bod Casnewydd yn ei chyfanrwydd wedi sicrhau canlyniadau ardderchog, roedd angen rhoi canmoliaeth arbennig i ddwy ysgol uwchradd sydd wedi cyflymu eu canlyniadau yng nghyfnod allweddol 4;

 

        Dangosodd Ysgol St Julian gynnydd o 5.5% yn y dangosydd Lefel 2 cynhwysol a 4.7% o gynnydd mewn A*-C Mathemateg. Mae hyn yn gynnydd da.

        Dangosodd Ysgol Uwchradd Casnewydd gynnydd o 10% yn y dangosydd Lefel 2 Cynhwysol, a 10% o welliant yn y dangosydd lefel 2, a 12% o welliant mewn A*-C Saesneg. Mae hyn yn newyddion rhagorol.

Er bod amrywiant ym mherfformiad ysgolion uwchradd yn thema sydd i'w gweld ledled Cymru, mae'r mathau hyn o welliannau mewn ysgolion uwchradd unigol yn helpu i leihau'r broblem  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y cyngor ddiweddariad newydd i'r rhaglen waith.

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn cytuno ar y rhaglen waith wedi'i diweddaru.

 

7.

Dogfen Gryno'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (er gwybodaeth/ymwybyddiaeth) pdf icon PDF 118 KB

Cofnodion:

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod y ddogfen hon yn rhoi diweddariad misol cryno o fusnes y BGC a’i bod er gwybodaeth/ymwybyddiaeth y Cabinet.

 

8.

Dyddiad y Cyfarfod Nesaf: 13 Chwefror am 4pm, Ystafell Bwyllgor 1

Cofnodion:

Cynhelir y cyfarfod nesaf ddydd Mercher 13 Chwefror 2019, am 4.00pm yn Ystafell Bwyllgor 1, yn y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd.