Cofnodion

Cabinet - Dydd Mercher, 13eg Mawrth, 2019 4.00 pm

Lleoliad arfaethedig: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eleanor Mulligan  E-bost: eleanor.mulligan@newport.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganwyd buddiant gan:

 

Y Cynghorydd Jeavons yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd Bwrdd Cwmni'r GCA mewn perthynas ag Eitem Agenda, 5 Cynllun Busnes y GCA 2019.

 

Y Cynghorydd Mudd yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd Bwrdd Trafnidiaeth Casnewydd mewn perthynas ag Eitem 8 ar yr Agenda, Ymateb Drafft i Ymgynghoriad Papur Gwyn Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru.

 

Y Cynghorydd Harvey yn rhinwedd ei swydd fel Aelod o Fwrdd Trafnidiaeth Casnewydd mewn perthynas ag Eitem 8 ar yr Agenda, Ymateb Drafft i Ymgynghoriad Papur Gwyn Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 156 KB

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13eg Chwefror 2019 yn gywir.

 

3.

Cynllun Busnes y GCA 2019 pdf icon PDF 496 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a'i ddiben oedd sicrhau ansawdd gwaith y GCA yn barhaus drwy amrywiaeth o fecanweithiau.  Ar ben hynny, bydd y Cabinet yn sicrhau bod y Cynllun Busnes a'r Atodiad cysylltiedig yn galluogi cefnogaeth a her briodol i ysgolion Casnewydd.

 

Mae'r Cynllun Busnes yn mynd i'r afael yn glir â'r meysydd i'w gwella a nodwyd yng Nghynlluniau Addysg Strategol Casnewydd, ac sy'n adlewyrchu'r argymhellion a wnaed gan Estyn yn ei arolygiad diweddar o Wasanaethau Addysg.  Mae gwaith manylach wedi cael ei gwblhau i wella canlyniadau dysgwyr dan anfantais, ynghyd â ffocws ar hyrwyddo cyrhaeddiad yn y cwricwlwm ehangach, a fydd yn effeithio ar y mesur Capio Naw.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd ymhellach fod Aelodau'r Cabinet wedi cymryd rhan sylweddol yn natblygiad y Cynllun Busnes drwy eu haelodaeth o'r Cyd-gr?p Gweithredol Rhanbarthol (Cyng Giles) a Bwrdd Cwmni'r GCA (Cyng Jeavons).  Roedd yr Arweinydd yn fodlon o weld bod y gweithgarwch i fynd i’r afael â blaenoriaethau strategol Casnewydd, yn enwedig i ddatblygu arweinyddiaeth uwch a chanol yng Nghyfnod Allweddol pedwar a gwella deilliannau dysgwyr sy'n derbyn Prydau Ysgol am Ddim, agwedd allweddol ar ysgogiad y Weinyddiaeth am welliant, wedi'i gyflwyno mor glir yn y Cynllun Busnes.

 

Roedd yr Arweinydd yn arbennig o falch o weld mai agwedd ar ddatblygiad y Cynllun Busnes oedd ymgynghori â disgyblion.  Llongyfarchodd yr Arweinydd Lywodraeth Cymru hefyd am gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed yn Etholiadau nesaf Llywodraeth Cymru.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod y Cynllun Busnes hefyd wedi bod drwy'r Pwyllgor Craffu Perfformiad, ac er nad oedd cofnodion y cyfarfod hwnnw ar gael cyn cyfarfod y Cabinet, roedd y cofnodion wedi'u rhannu â'r Cabinet ers hynny i'w hystyried ochr yn ochr â'r Cynllun Busnes, yn enwedig y sylwadau a'r argymhellion canlynol.

 

Casgliad cyffredinol y Pwyllgor ynghylch yr adroddiad oedd bod safonau a lefelau addysgu yn cael eu cynnal a'u datblygu heb y gallu i ddefnyddio data lefel ysgol;

Ar ôl ystyried y dystiolaeth a gasglwyd drwy ofyn cwestiynau i'r Swyddogion am Gynllun Busnes Drafft y GCA 2019/20, argraff y GCA a'r Adran Addysg yw bod ganddynt fwy o hyder eu bod yn gwybod ar ba lefel y mae’r ysgolion bellach, drwy ddefnyddio ymagwedd gydweithredol rhwng y GCA, yr Adran Addysg a'r Ysgolion, a hefyd yr ymagwedd at ysgolion sy'n seiliedig ar glwstwr.  Ceir gwell dealltwriaeth hefyd o daith yr unigolyn ifanc o'r cynradd i'r uwchradd;   Cododd y Pwyllgor bryderon ynghylch pontio o Gyfnod Allweddol 2 i Gyfnod Allweddol

3. Yn eu barn nhw, roedd hyn yn faes i'w wella a gofynnwyd am gael cyflwyno gwaith ymchwil yr Athro Walters ar y gwahaniaeth rhwng addysgu ym Mlwyddyn 6 a Blwyddyn 7 i'r Pwyllgor er gwybodaeth, ar ôl i'r gwaith hwnnw gael ei gwblhau;

    Cododd y Pwyllgor bryderon ynghylch gostyngiad yn staff y GCA - roedd y lefelau bellach 44% yn llai nag yn 2012, ac roedd hynny'n symud y ddibyniaeth am gymorth i ysgolion a chymheiriaid eraill yn y rhwydwaith yn hytrach na'r GCA. Gallai gorddibyniaeth ar  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Categorïau Ysgol Cenedlaethol pdf icon PDF 209 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a chadarnhau mai proses genedlaethol yw categoreiddio er mwyn pennu lefel y cymorth sydd ei hangen ar ysgol.  Mae perfformiad cryf ysgolion cynradd Casnewydd a ddangosir yn y canlyniadau categoreiddio yn cyd-fynd â chanfyddiadau arolygiadau Estyn, lle mae cyfradd y dyfarniadau ardderchog yn sylweddol uwch yng Nghasnewydd nag yng Nghymru gyfan.

 

Er bod rhagor o waith i'w wneud ar lefel uwchradd, nodwyd bod 55% o ysgolion uwchradd Casnewydd wedi'u gosod yn y categori gwyrdd neu felyn, a bod Ysgol Basaleg ac Ysgol Uwchradd Sant Joseff yn dal yn y categori gwyrdd. 

 

Roedd yr Aelod Cabinet yn falch dros ben o adrodd bod tuedd i wella o hyd yng nghategorïau ysgol gynradd Casnewydd, gyda 97% o'r ysgolion cynradd bellach yn y categori gwyrdd neu felyn.  Roedd yn arbennig o braf nodi bod 64% o ysgolion cynradd Casnewydd wedi'u cynnwys yn y categori gwyrdd, a oedd yn adlewyrchu'r lefelau uchaf o ran arweinyddiaeth, darpariaeth a llywodraethu.  Bydd yr Aelod Cabinet yn ymdrechu i sicrhau bod yr unig ysgol gynradd sydd yn y categori coch yn parhau i dderbyn cymorth a her briodol er mwyn symud i gategori gwell.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet hefyd, er bod tystiolaeth o arferion cryf ar lefel ysgol uwchradd, a welir yn y ffaith bod 55% o'r ysgolion yn y categori gwyrdd neu felyn, roedd rhoi cymorth a her bwrpasol i'r ysgolion hynny a oedd yn y categori coch neu ambr yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Gwasanaethau Addysg.

 

O ran Diwygio'r Cwricwlwm, roedd llawer o'r mesurau atebolrwydd blaenorol wedi diflannu, a byddent yn parhau i wneud hynny.  Bydd ffocws penodol ar ansawdd hunanwerthusiad a chynllun gwella sengl yr ysgol, ynghyd â dangosyddion perfformiad allweddol newydd, a dangosyddion sy'n dod i'r amlwg.  Bydd yr Aelod Cabinet yn sicrhau bod Swyddogion yn rhoi briff i aelodau etholedig ynghylch y newidiadau hyn dros y tymor a oedd i ddod, i sicrhau y gall aelodau barhau i gyflawni eu rolau fel llywodraethwyr ysgol yn effeithiol.   

 

Diolchodd y Cabinet i swyddogion, athrawon, rhieni a disgyblion am helpu i sicrhau'r canlyniad rhagorol hwn.  Pwysleisiodd y Cabinet hefyd y dull cyfannol a ddefnyddir gan weithwyr proffesiynol yn y gwasanaeth addysg er mwyn helpu disgyblion i wireddu eu potensial; cyflawniad aruthrol, a dylid eu llongyfarch am hynny.  Cafwyd canmoliaeth arbennig hefyd am y gefnogaeth a ddarperir gan y GCA i un ysgol uwchradd yn Nwyrain Casnewydd sydd yn y categori coch.

 

Penderfyniad:

Cytunodd y Cabinet ar yr adroddiad.

 

5.

Cofrestr Risgiau Corfforaethol - Chwarter Tri pdf icon PDF 225 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, a'i ddiben oedd rhoi diweddariad Chwarter 3 i'r Cabinet ar y Gofrestr Risgiau Corfforaethol, sy'n cefnogi cyflawniad Cynllun Corfforaethol y Cyngor 2017/22.

 

Gofynnwyd i’r Cabinet ystyried cynnwys yr adroddiad a nodi’r newidiadau i’r Gofrestr Risgiau Corfforaethol ar gyfer chwarter 3.

 

Nodwyd y crynodeb o newidiadau i’r Gofrestr Risgiau Corfforaethol:

Ar ddiwedd chwarter 3 roedd 14 o risgiau corfforaethol yn cynnwys 6 risg uchel ac 8 risg ganolig.

Mae Atodiad 1 yr adroddiad yn rhoi crynodeb o'r risgiau a'r symudiadau ynghyd â'r sgorau risg dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae Atodiad 2 yn rhoi adroddiad manwl ar y Gofrestr Risgiau Corfforaethol.

Ym mis Tachwedd 2018, cododd Pwyllgor Archwilio'r Cyngor 3 argymhelliad mewn perthynas â Risg Brexit, Rheoli Asedau a gwaith partneriaeth y Cyngor. 

Ymhellach i’r argymhellion hyn, ac yn rhan o adolygiad chwarterol y Cyngor, cyflwynwyd y newidiadau canlynol:

Risg 4 (Brexit)

   Mae Cyngor Casnewydd wedi bod yn gwneud gwaith parhaus i baratoi am Brexit, a defnyddiodd ganllawiau a ddarparwyd gan Gr?p Gorchwyl a Gorffen Llywodraeth CLlLC a Llywodraeth Cymru o dan arweiniad y Cyfarwyddwr Lle Corfforaethol;  (Cyhoeddodd yr Arweinydd yn ystod y cyfarfod fod Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi cyllid ychwanegol i helpu awdurdodau lleol i baratoi am

Brexit; cadarnhaodd y Prif Weithredwr hefyd fod cyhoeddiad wedi'i wneud gan Lywodraeth Cymru ynghylch sicrhau bod arian ar gael i awdurdodau lleol a chanddynt borthladdoedd o fewn eu ffiniau);

Mae'r gr?p wedi nodi risgiau allweddol i wasanaethau'r Cyngor yn gysylltiedig â Brexit, ac mae trefniadau wedi'u gwneud i fonitro cynnydd y camau gweithredu;

 

Fodd bynnag, mae’r ansicrwydd ynghylch safbwynt Llywodraeth y DU a’r tebygolrwydd cynyddol o senario ‘Dim Cytundeb’ ar 29 Mawrth wedi achosi i'r sgôr risg godi i 16.

Risg 8 (Sefydlwch Cyflenwyr Allanol yn y Gwasanaethau Cymdeithasol)

Mae’r sgôr risg wedi cynyddu o 16 i 20 yn chwarter 3 sy’n adlewyrchu Brexit a'i effaith bosibl ar y sector iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae camau gweithredu wedi'u nodi gan Gr?p Gorchwyl a Gorffen Brexit y Cyngor ac mae deialog barhaus yn cael ei gynnal rhwng y gwasanaeth iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol i sicrhau bod y cyflenwadau a'r adnoddau staff angenrheidiol yn eu lle i ddarparu gofal parhaus i'r gymuned.

Risg 9 (Pwysau ar Seilwaith)

Mae'r risg hon wedi'i chau yn dilyn adolygiad o risg Rheoli Asedau'r Cyngor (Risg 13).

Bydd y risg yn cael ei monitro drwy'r Risg newydd 'Cynnal y Rhwydwaith Priffyrdd’

Risg 11 (Moderneiddio Technoleg Gwybodaeth) a Risg 12 (Ymosodiad Seibr)

   Adolygwyd y camau gweithredu i reoli'r ddau risg hyn yn chwarter 3 a'u diweddaru i adlewyrchu'r newidiadau i'r trefniadau gyda Chydwasanaethau TG y Cyngor, a hefyd i adlewyrchu'r camau y mae angen i'r Cyngor eu cymryd i storio a diogelu data'n ddiogel, ac i gydymffurfio â'r Ddeddf Diogelu Data.

Risg 13 (Cynnal y Rhwydwaith Priffyrdd) a Risg 16 (Adeiladau ac Asedau'r Cyngor)

Yn sgil adolygiad o risg Rheoli Asedau'r Cyngor, mae 2 risg newydd wedi'u nodi.

Mae cynnal Rhwydwaith Priffyrdd y Cyngor yn parhau i fod  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Ymateb Drafft i'r Ymgynghoriad ar Bapur Gwyn Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru pdf icon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad sy'n cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn ystyried newidiadau i'r broses o gynllunio a darparu Bysus a Thacsis/Cerbydau Hurio Preifat.  Amcan yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn yw rhoi sylw i'r gostyngiad yn y defnydd o wasanaethau bws, a chyfrannu at yr agenda newid hinsawdd/ansawdd aer lleol.

 

Mae’r ymgynghoriad yn trafod y meysydd canlynol:

 

Cynllunio a darparu gwasanaethau bws lleol

Cymhwysedd i deithio rhatach (pas bws)

Gwybodaeth a ddarperir gan gyrff cyhoeddus (gan gynnwys Awdurdodau Lleol)

Creu Cyd-awdurdodau Trafnidiaeth

 

Darpariaeth Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat

 

Mae'r adroddiad yn ymdrin â phortffolio dau Aelod Cabinet ac mae graddau cyfrifoldeb r Awdurdod yn y naill faes a'r llall yn amrywio; gan hynny, gallai newidiadau i'r trefniadau cyfredol greu goblygiadau sylweddol o ran adnoddau staff a dosbarthiad cyllid Llywodraeth Cymru.

 

Mae’r Papur Gwyn yn cynnig creu Cyd-awdurdodau Trafnidiaeth (JTA), gan gynnwys diwygiadau i ddeddfwriaeth bresennol a fyddai’n cynnwys cynrychiolwyr o blith Gweinidogion Cymru ar unrhyw Gyd-awdurdod Trafnidiaeth a/neu bwerau ymyrryd ar gyfer Cyd-awdurdod Trafnidiaeth sy’n tanberfformio.

 

Gallai'r Cyd-awdurdod Trafnidiaeth gymryd cyfrifoldebau dros rai/holl swyddogaethau trafnidiaeth leol a gyflawnir gan yr awdurdod ar hyn o bryd.  Mae cwmpas y swyddogaethau heb eu penderfynu eto, gan gynnwys creu Cyd-awdurdod Trafnidiaeth cenedlaethol i gyflawni swyddogaethau penodol, hy, tocynnau safonol.  Nid yw hwn yn opsiwn ar hyn o bryd o dan y ddeddfwriaeth bresennol.

 

Materion i'w nodi:

Byddai unrhyw gynlluniau i drosglwyddo swyddogaethau yn creu goblygiadau adnoddau/staffio i awdurdodau lleol. Mae'r cynnig yn cynnwys newid deddfwriaethol i roi opsiynau ychwanegol i awdurdodau lleol gaffael gwasanaethau bws.

Nid yw’r ymgynghoriad yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at ffrydiau cyllido yn y dyfodol i gefnogi'r opsiynau a gynigir. Mae'r cynnig yn cynnwys cynnydd graddol i'r oedran cymhwysedd ar gyfer teithio'n rhatach ar fysiau i adlewyrchu oedran ymddeol merched.  Ni fyddai deiliaid pasys presennol yn colli unrhyw hawliau.

·        Mae'r cynigion yn cynnwys adolygu trefniadau trwyddedu tacsis/cerbydau hurio preifat, gan gynnwys:

Sefydlu safonau ansawdd cyffredin;

Ymestyn pwerau gorfodi i alluogi awdurdodau i gymryd camau yn erbyn unrhyw gerbyd trwyddedig sy'n gweithredu yn eu hardal;

Sefydlu cronfa ddata genedlaethol o yrwyr i gynnal gwiriadau trwydded/y gwasanaeth datgelu a gwahardd;

Trosglwyddo swyddogaethau trwyddedu i Gyd-awdurdod Trafnidiaeth.

Nododd y Cabinet fod y cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar 27 Mawrth 2019.

Gofynnwyd i'r Cabinet gytuno â'r ymateb a gynigiwyd.

 

Penderfyniad:

Cytunodd y Cabinet â'r ymateb arfaethedig.

 

7.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pdf icon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad blynyddol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) a chadarnhau bod gan OGCC a’i dîm y pwerau i ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus a darparwyr gofal annibynnol yng Nghymru, yn ogystal â chwynion yn erbyn aelodau o awdurdodau lleol yn gysylltiedig â materion y cod ymddygiad.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi crynodeb o weithgarwch tîm OGCC ar gyfer y cyfnod 2017/18 gyda rhywfaint o drosolwg o Gymru a gwybodaeth fwy penodol ar gyfer Cyngor Dinas Casnewydd.

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd fod y Cyngor yn gweithredu mewn amgylchedd lle ceir craffu dwys a chynnydd parhaus yn y disgwyliadau gan awdurdodau lleol. YN y cyd-destun hwnnw, roedd yr Arweinydd yn falch o nodi bod y cwynion am awdurdodau lleol wedi gostwng.  Ar gyfer Casnewydd, roedd hi hefyd yn braf nodi bod nifer y cwynion yn unol â'r disgwyl, ac mai ond canran fach ohonynt a arweiniodd at unrhyw weithredu gan yr Ombwdsmon.  Mae hyn yn dangos bod gan y Cyngor broses gwyno effeithiol ar y cyfan a bod gwasanaethau'n cael eu darparu mewn ffordd deg ac effeithiol.

 

Cydnabuwyd bod rhai problemau wedi codi ynghylch faint o amser y mae'n ei gymryd i gysylltu â swyddfa'r Ombwdsmon.  Fodd bynnag, mae adnoddau ychwanegol wedi cael eu neilltuo ar gyfer y gwaith pwysig hwn, a disgwylir y bydd yr agwedd hon ar y gwaith yn gwella.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr esboniad o'r cwynion a gafwyd yn erbyn y cyfartaledd a ddisgwylir ar gyfer yr awdurdod.

 

Gofynnwyd i'r Cabinet nodi'r adroddiad a'i gynnwys.  

 

Penderfyniad: 

Nododd y Cabinet yr adroddiad.

 

8.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 116 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Raglen Waith y Cabinet.

 

Penderfyniad:

Cytuno ar y rhaglen a gynigiwyd.

 

9.

Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd

Cofnodion:

Ystyried a ddylid gwahardd y wasg a'r cyhoedd wrth ystyried yr eitem ganlynol am ei bod yn debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Neddf Llywodraeth Leol 1972, a bod yr angen i wahardd y gwrthbwyso budd y cyhoedd wrth ddatgelu.

 

10.

Cyflwyniad ar y Ganolfan Ddinesig - T?r y Siartwyr

Cofnodion:

Rhoddodd swyddogion gyflwyniad i'r Cabinet ar D?r y Siartwyr.

 

Ailadroddodd swyddogion yr amserlen sy'n gysylltiedig â'r prosiect hwn, o'r diddordeb cychwynnol gan y datblygwr yn 2017 hyd heddiw.

 

Cadarnhaodd y swyddogion y canlynol:

 

Cynnig ydyw i ddatblygu gwesty gyda darpariaeth manwerthu a gofod swyddfa Gradd A ar y lloriau is, a bwyty ar y to.  Mae brand gwesty 4 seren sy'n adnabyddus y rhyngwladol wedi cytuno â Phenawdau'r Telerau.

 

Mae'r datblygwr wedi'i leoli yn Ne Cymru ac wedi bod yn gweithredu ers 1995. Mae ganddo bresenoldeb cynyddol yn y farchnad leol, ac mae ei bortffolio'n cynnwys cymysgedd o stoc masnachol gwag sy'n barod i'w hailddatblygu.  Mae datblygiadau wedi cael eu cwblhau ym Mryste, Abertawe, Caerdydd a rhannau eraill o Dde Cymru.

 

Ceir galw am 100,000 o nosweithiau ystafell ychwanegol yng Nghasnewydd bob blwyddyn yn sgil agor y Ganolfan Gonfensiwn Ryngwladol, sydd i fod i ddigwydd yng nghanol 2019.

 

Bydd y prosiect hwn yn dod â buddion economaidd i Gasnewydd, gan gynnwys: swyddi, mentrau newydd, unedau masnachol newydd, buddsoddiad, cynnydd mewn refeniw i'r gadwyn gyflenwi leol, cynnydd mewn gofod swyddfa Gradd A yn ogystal ag ailddefnyddio adeilad allweddol o fewn Canol y Ddinas, gwaith partneriaeth rhwng y sector cyhoeddus/preifat, datblygu Sector Twristiaeth Casnewydd, twf yr economi gyda'r nos.

 

Roedd Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo £650K o gyllid grant Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio ar gyfer y cynllun a £600k o fenthyciad. Nid oes rhaid cael cymeradwyaeth ffurfiol y Cabinet i dderbyn y cyllid grant gan nad oes angen arian cyfatebol, ond roedd gofyn i'r Cabinet gytuno i'r Cyngor ddefnyddio'r benthyciad oherwydd y rhwymedigaethau ad-dalu. Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid a Phennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio fod y cyllid grant a'r benthyciad a gynigiwyd cyd-fynd â phwerau statudol y Cyngor ac nad oedd unrhyw broblemau'n gysylltiedig â chymorth gwladwriaethol. Byddai'r cyllid yn cael ei ddarparu ar delerau masnachol gan roi sylw i lefel y risg a chytundeb rhent "rhannu elw" y Cyngor o dan y brif brydles. Byddai’r benthyciad yn cael ei sicrhau fel arwystl yn erbyn y brif brydles, ond byddai ar safle is na benthyciadau banc presennol, ac roedd sicrwydd pellach yn gysylltiedig â'r rhwymedigaethau talu rhent yn y brif brydles. Byddai'r gallu i dynnu cyllid y benthyciad i lawr yn amodol ar ymrwymiad y datblygwyr i gytundeb rheoli â gweithredwr y gwesty.

 

Er mwyn symud y prosiect yn ei flaen, gofynnwyd i’r Cabinet:

i)                 Gymeradwyo'r grant i'r Cyngor o £350k nad oedd angen ei ad-dalu;

ii)               Cymeradwyo’r cynnig am fenthyciad ad-daladwy i'r datblygwyr o £600k, i'w sicrhau fel trydydd arwystl yn erbyn y brif brydles, yn amodol ar gytundeb â gweithredwr y gwesty;

iii)             Cymeradwyo talu'r grant o danwariant y flwyddyn gyfredol, a neilltuo swm i ad-dalu'r benthyciad;

iv)              Cytuno ar gyfnod rhentu gohiriedig pellach o bedair blynedd;

v)               Awdurdodi swyddogion i gytuno ar delerau ac amodau terfynol y grant a'r benthyciad ac i gwblhau'r ddogfennaeth gyfreithiol.

Penderfyniad:

Cymeradwyodd y Cabinet y cynnig yn unfrydol.

 

11.

Dyddiad y Cyfarfod Nesaf - 17 Ebrill 2019, 4pm, Ystafell Bwyllgor 1, Y Ganolfan Ddinesig

12.

Live Event