Agenda and minutes

Cabinet - Dydd Mercher, 19eg Mehefin, 2019 4.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Tracy Richards , Rheolwr Swyddfa’r Cabinet  E-bost: Cabinet@newport.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.  

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 223 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mai 2019 fel cofnod cywir.

 

3.

Adroddiad Diwedd Blwyddyn Rheoli Trysorlys pdf icon PDF 189 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a nododd waith rheoli strategol dydd i dydd a thymor hwy gweithgareddau benthyg a buddsoddi’r Cyngor. 

 

Ymwnâi’r adroddiad yn benodol â gweithgareddau’r flwyddyn ariannol flaenorol 2018/19 gan asesu sut mae’r Cyngor wedi cydymffurfio â’r strategaeth rheoli’r trysorlys a nodwyd ar ddechrau’r flwyddyn ariannol honno a chanlyniad hynny’n erbyn yr amryw ddangosyddion a chyfyngiadau a bennwyd bryd hynny.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor Archwilio ac fe’i cyflwynir i’r Cyngor llawn ym mis Gorffennaf.

 

O ran gweithgareddau benthyg, dywedodd yr Arweinydd:

-       I’r Cyngor gynnal ei sefyllfa fenthyg fewnol i’r graddau y bo’n bosibl.

-         

-       I £40m o fenthyciadau gael eu trefnu tua 2-3 wythnos yn gynharach nag oedd angen, ychydig cyn diwedd y flwyddyn ariannol.  Roedd hyn er ail-gyllido Bond a aeddfedodd yn nechrau mis Ebrill ond oherwydd ansicrwydd Brexit, a oedd yn sylweddol ddiwedd Mawrth, ac ar ôl cael cyngor gan Ymgynghorwyr y Trysorlys, trefnwyd benthyciad amgen fymryn yn gynnar. 

 

-       Manylodd yr adroddiad lefel ac effaith benthyca mewnol ar hyn o bryd.

-         

-       O ran gweithgareddau buddsoddi:

 

-       Parhaodd y Cyngor i fuddsoddi’n y byrdymor lle caniatâi llif arian hynny, a wnaed yn unol â’r partïon cymeradwy hynny a oedd yn berthnasol i’r strategaeth.

-         

 

Parthed yr amryw ddangosyddion a chyfyngiadau trysorlys a bennwyd i 2018/19, cadarnhaodd yr adroddiad i’r Cyngor fodloni’r holl amodau’n foddhaol.

 

Argymhellodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cyngor.  

Penderfyniad:

Nododd y Cabinet gynnwys yr adroddiad a chytunwyd i’w gyflwyno i Gyngor mis Gorffennaf.

 

4.

Diweddariad am y Gofrestr Risg Gorfforaethol pdf icon PDF 158 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, fel y câi Aelodau Cabinet ddiweddariad Chwarter 4 ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol, sy’n ategu’r gwaith i gyflawni Cynllun Corfforaethol 2017/22 y Cyngor. Gofynnwyd i’r Cabinet ystyried cynnwys yr adroddiad a nodi’r newidiadau’r Gofrestr Risg ar gyfer Chwarter 4.

 

Yn gryno, dangosodd y newidiadau i’r Gofrestr Risg Gorfforaethol ar ddiwedd Chwarter 4 fod 14 risg gorfforaethol gan gynnwys 5 risg uchel ac 8 risg ganolig ac un risg isel.

 

Rhoes Atodiad 1 yr adroddiad grynodeb i Aelodau o’r risgiau a’r symud o ran sgorau risg dros y flwyddyn ddiwethaf.

Rhoes Atodiad 2 yr adroddiad manwl ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol.

Manylodd y Arweinydd ar y materion canlynol:

Yn Chwarter 4, newidiodd sgôr risg tair risg:

 

Risg 1 (Gofynion Deddfwriaethol)

 

·         Canolbwyntiai’r risg hon ar y newidiadau deddfwriaethol o ran Deddf yr Iaith Gymraeg, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, y Ddeddf Diogelu Data a Rheoli Gwastraff.

·           Roedd y sgôr risg wedi symud o 12 i 6 yn chwarter 4 i adlewyrchu’r gwaith a wnaed i gydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. 

·         Caiff y risg hon ei hadolygu yn Chwarter 1 2019/20 fel rhan o asesiad risg corfforaethol ehangach.

Risg 4 (Brexit)

 

·         Yn y Chwarter olaf gwnaeth y Cyngor baratoadau digonol i derfyn amser cychwynnol Brexit ar 29 Mawrth 2019.

·         Gyda’r Llywodraeth Wladol yn gohirio Brexit tan 31 Hydref 2019 a’r gwaith a wnaed gan y Cyngor i reoli bygythiad Sefyllfa Dim Dêl, lleihaodd y Cyngor y sgôr o 16 i 12.

·         Fodd bynnag, mae swyddogion a’r weinyddiaeth yn wyliadwrus wrth fonitro’r sefyllfa a byddant yn barod i gynyddu paratoadau Brexit pe newidiai’r sefyllfa.

 

Risg 5 (Rheoli Ariannol yn ystod y Flwyddyn)

 

·         Symudodd y sgôr risg hwn o 8 (risg ganolig) i 4 (risg isel) ar ddiwedd y flwyddyn ariannol i adlewyrchu’r tanwariant cyffredinol yng nghyllideb y Cyngor.

·         Fodd bynnag, yn sgîl pwysau galw cynyddol ar wasanaethau allweddol y Cyngor yn 2019/20 caiff y risg hon ei hadolygu gan ei hadlewyrchu yn y gyllideb a ragfynegir i ddiwedd y flwyddyn ariannol hon 2019/20.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd i’r Gofrestr Risg Gorfforaethol ar gyfer Chwarter 4 gael ei chyflwyno i Bwyllgor Archwilio’r Cyngor ar 6 Mehefin 2019, gan nodi cynnwys yr adroddiad a’r broses rheoli risg.

 

Cafodd y Pwyllgor Archwilio hefyd wybod bod y Cyngor yn paratoi Datganiad Awydd Risg i ategu ei Bolisi Rheoli Risg cyffredinol; byddai’r Pwyllgora Archwilio’n croesawu’r cyfle hwn i gefnogi’r Cabinet a’r Cyngor i lunio’r datganiad hwn ac i roi unrhyw sylwadau a/neu argymhellion angenrheidiol i’r Cabinet eu hystyried.

 

Holodd y Cyng. Whitcutt a fyddai’r sgôr risg Brexit pe na ddigwyddai Brexit ar 31 Hydref.  Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod y gofrestr risg yn ddogfen ddeinamig sy’n cael ei gwerthuso’n gyson ac y caiff ei diweddaru’n ôl y galw.

 

Cododd y Cyng Cockeram bryder am y pwysau cynyddol ar wasanaethau a arweinir gan galw, yn benodol materion sy'n gysylltiedig â chadw staff o fewn gofal cartref.  Cytunodd yr Arweinydd i ysgrifennu i Lywodraeth Cymru ar y mater hwn ac i ymholi pa gynlluniau wrth gefn sydd  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Rhifau Gweddilliwyd o PGA pdf icon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, i roi’r wybodaeth lawnaf i’r Cabinet am ddisgwyliadau Llywodraeth Cymru i’r Gwasanaethau Plant a’r heriau a wyneba.

 

Rhannai’r Arweinydd ddisgwyliad Llywodraeth Cymru i leihau nifer y plant sy’n derbyn gofal ar draws y Cyngor.

 

Cadarnhaodd yr adroddiad fod Casnewydd ers nifer o flynyddoedd wedi gweithio’n gyson i ofalu’n ddiogel am blant a phobl ifanc a rhoi cymorth iddynt aros â’u teuluoedd.  At hynny mae’r Cyngor wedi gweithio i ddatblygu a chynnal ystod o wasanaethau ataliol yn ogystal â chymorth mewn argyfwng a chymorth dwys i deuluoedd.

 

Roedd nifer y plant a ddaeth i ofal yng Nghasnewydd, tan 2017, yn sefydlog gyda’r gyfradd i bob 10,000 yn is o lawer nag Awdurdodau Lleol eraill.  Ers 2017 bu cynnydd sefydlog yn y niferoedd hynny.

 

Cadarnhaodd yr adroddiad fod cynnydd ar draws Cymru a Lloegr a yrrir gan ystod o ffactorau fel y tystiolaethir yn yr Adolygiad Argyfwng Gofal gan gynnwys:

 

·                     dod â llymder i ben (tlodi, cynnydd yn y defnydd o fanciau bwyd, colli swyddi)

·                     arfer sy’n osgoi risg yn sgîl gweithgarwch y cyfryngau

·                     cyfraith achosion  sy’n gwrthdaro ac weithiau’n cael ei chamddeall

·                     dealltwriaeth well o effaith cam-drin domestig ar blant

·                     camddefnyddio sylweddau a’r effaith ar blant a rhieni

·                     risgiau o Droseddau Difrifol a Threfniadol

·                     nifer uwch o blant ar eu pen eu hunain yn ceisio lloches

O ran Casnewydd mae’r holl ffactorau uchod yn berthnasol.

Blaenoriaeth Prif Weinidog Cymru yw lleihau nifer y plant sy’n derbyn gofal ledled Cymru, ac er bod hwnnw’n fwriad da, mae angen ei graffu’n gadarn ac mae angen deall yr amrywiadau cenedlaethol a lleol.  Mae Gwasanaethau Plant Cyngor Dinas Casnewydd yn gwbl ymroddedig i weithio’n ddiogel gyda holl blant Casnewydd gan sicrhau y gallant fyw bywydau hapus a chyflawn fel plant ac oedolion.  Bydd gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddeall y darlun lleol ac i sicrhau y caiff adnoddau llawn eu rhoddi'n allweddol i fwrw unrhyw dargedau sy’n gysylltiedig â’r gwaith hwn.

 

Diolchodd yr Arweinydd i ofalwyr maeth a staff y cyngor am eu hymrwymiad i’r gwasanaeth i blant sy’n derbyn gofal gan gadarnhau bod Llywodraeth Cymru’n croesawu mewnbwn ar lefel genedlaethol gan Sally Jenkins, Pennaeth Gwasanaethau Plant A Phobl Ifanc y Cyngor.

 

Penderfyniad:

 

Nododd y Cabinet yr adroddiad.

 

6.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 265 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Raglen Waith y Cabinet.

 

Penderfyniad:

 

Cytunodd y Cabinet i’r rhaglen wedi’i diweddaru.