Agenda and minutes

Cabinet - Dydd Mercher, 22ain Gorffennaf, 2020 4.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Tracy Richards , Cabinet Office Manager  E-bost: Cabinet@newport.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb. 

 

3.

Cofnodion Drafft o Gabinet Mehefin pdf icon PDF 141 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 20202 fel rhai cywir. 

 

4.

Canlyniad Refeniw 2019/20 pdf icon PDF 730 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad oedd yn rhoi manylion am sefyllfa alldro terfynol yr Awdurdod am y flwyddyn ariannol 2019/20 oedd yn diweddu ar 31 Mawrth 2020.

 

Cadarnhaodd yr adroddiad na ddioddefodd 2019/20 yn sylweddol oherwydd pandemig Covid-19 gan na ddaeth y cyfnod clo i rym tan ddiwedd Mawrth, pan oedd y flwyddyn ariannol yn cau, felly ni fu fawr o effaith ar gyllid y Cyngor am y flwyddyn ariannol.

 

O ran yr alldro, gellid gweld y flwyddyn ariannol fel deilliant cadarnhaol gan i’r Cyngor reoli eu cyllideb gyffredinol, a dangosodd yr alldro refeniw danwariant cyffredinol o £2 miliwn.  Gofynnir i’r Cabinet felly gymeradwyo’r modd y defnyddir y tanwariant hwn. 

 

Symudiadau allweddol a phrif symiau sy’n wahanol

Bu nifer o symudiadau allweddol rhwng y sefyllfa yr adroddwyd amdani yn sefyllfa fonitro mis Ionawr. Yn gyffredinol, cynyddodd y tanwariant o £377k, yn bennaf oherwydd i orwariant meysydd gwasanaeth ostwng yn benodol ym meysydd gofal cymdeithasol oedd yn cael eu harwain gan y galw. Fodd bynnag, adroddwyd am danwariant is ar draws meysydd heb fod yn rhai gwasanaeth. 

 

O ran y prif symiau sy’n wahanol yr adroddwyd amdanynt yn yr alldro, y neges gyson trwy gydol 2019/20 oedd bod gorwario sylweddol mewn rhai meysydd allweddol, ac yr oedd hyn yn wir ar derfyn y flwyddyn. Y tri maes allweddol o orwario a gyfrannodd £2.1m o orwariant oedd Gofal Cymdeithasol Cymunedol Oedolion - £955k, maethu annibynnol plant - £598k a lleoliadau allsirol plant - £553k.

 

Llwyddodd y Cyngor i liniaru’r gorwariant trwy ddefnyddio £1.4m o arian wrth gefn a thanwariant ar nifer o feysydd gan gynnwys cyllido cyfalaf, cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor a gwarged treth y cyngor.

 

Yr oedd yn bwysig iawn nodi fod y patrwm hwn o orwario mewn meysydd gwasanaeth wedi digwydd ers rhai blynyddoedd, ac oherwydd y gostyngiad yng nghyllidebau rhai o’r meysydd heb fod yn rhai gwasanaeth, pwysai galwadau ar CGTC a Threth y Cyngor yn deillio o  bandemig Covid-19, efallai na all tanwariant heb fod yn ymwneud â gwasanaethau liniaru gorwario yn y dyfodol.

 

Yr oedd y Pennaeth Cyllid felly yn argymell y dylai’r Uwch-Dîm Arweinyddiaeth osod proses fonitro benodol ar y timau rheoli gofal cymdeithasol i adolygu materion rheoli ariannol yn fanwl.

 

Sefyllfa’r ysgolion

Yr oedd amrywiadau’r ysgolion yn dod dan arian wrth gefn ym malansau’r ysgolion, felly nid oedd y tanwariant cyffredinol o £2m yn cynnwys sefyllfa’r ysgolion.  Yn 2019/20 gorwariodd yr ysgolion £2m, gyda’r sector uwchradd yn gorwario’n sylweddol; golygodd hyn fod cyfanswm arian wrth gefn yr ysgolion wedi cwympo o £3.1m i £1.1m.

 

Yr oedd y sefyllfa ar lefel ysgolion unigol yn heriol, gyda 67% o ysgolion uwchradd, 12% o ysgolion cynradd a 50% o ysgolion arbennig gyda balans o ddim neu mewn diffyg. Pryder arbennig oedd y sector uwchradd, gyda 5 ysgol wedi gorwario eleni rhwng £175k a £328k, ac yr oedd gan un o’r ysgolion hyn ddiffyg mewn arian wrth gefn o dros £1m. Yr oedd arian wrth gefn yr ysgolion yn debygol o ostwng eto yn 2020/21 oni chymerir camau  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Canlyniad ac Ychwanegiadau Cyfalaf pdf icon PDF 212 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad oedd yn canolbwyntio ar ddwy ran o’r rhaglen gyfalaf.  Yn gyntaf, sefyllfa alldro blwyddyn ariannol 2019/20 a’r effaith ar y rhaglen gyfalaf oherwydd y llithriad a ddigwyddodd. Yn ail, yr ychwanegiadau i’r rhaglen gyfalaf ers yr adroddiad diwethaf i’r Cabinet.

 

Alldro cyfalaf 2019/20

Yn ystod 2019/20 bu gwariant cyfalaf mawr o £31m ar nifer o brosiectau pwysig ledled Casnewydd gan gynnwys cwblhau Band A a pharhad Band B  rhaglen ysgolion yr 21ain Ganrif, yn ogystal â rhaglen gynnal a chadw sylweddol mewn nifer o ysgolion.  Cefnogwyd mentrau adfywio yng nghanol y ddinas gan gynnwys swyddfeydd yn yr hen swyddfa ddidol yn Stryd y Felin , a Th?r y Siartwyr, cyflwyno biniau llai oedd wedi gwella cyfraddau ailgylchu, a buddsoddi mewn arbed ynni gan gynnwys prosiect goleuadau strydoedd LED. Byddai nifer o’r prosiectau hyn yn cael eu cwblhau dros weddill y rhaglen, fydd yn rhedeg tan 2024/25.

 

Amlygodd sefyllfa alldro 2019/20, er bod cyllidebau wedi eu hail-broffilio yn sylweddol yn ystod y flwyddyn ariannol, fod cryn lithriad ar ôl ar ddiwedd y flwyddyn, sef £8.5m, a bod hyn yn golygu na ddigwyddodd y gwariant oed di fod i ddigwydd yn 2019/20 a bod y  gyllideb wedi ei “threiglo ymlaen” neu ei llithro i’r flwyddyn ariannol nesaf. Yr oedd yn bwysig nodi fod a wnelo llawer iawn o’r llithriad a chynlluniau oedd yn ymestyn dros nifer o flynyddoedd, felly ni ddylid tybio nad oedd angen y gyllideb hon - byddai’r gwariant yn dod yn nes ymlaen. Yr oedd hyn yn cael ei ganiatáu (ac eithrio am grantiau oedd â chyfyngiad amser) o fewn y rheoliadau.

 

Er hynny, nid oedd llithriad o help wrth fodelu am reoli’r trysorlys nac at ddibenion cyllido cyllideb gyfalaf. Yr oedd yn bwysig felly fod penaethiaid gwasanaeth yn adolygu eu prosiectau cyfalaf yn rheolaidd ac yn cyfoesi proffil gwariant y gyllideb pan oeddent yn ymwybodol o newidiadau. 

 

Yn ogystal â’r llithriad, yr oedd tanwariant bychan ar nifer fach o brosiectau a gwblhawyd, sef ychydig dros £400k. 

 

Amlinellwyd y prif amrywiadau o’r gyllideb yn yr adroddiad, ac yr oedd y llithriad wedi digwydd ar draws sawl maes gwasanaeth,  heb fod yn unigryw i un maes. Bydd angen adolygu’r rhaglen yn gynnar yn y flwyddyn ariannol ac ail-broffilio cyllidebau prosiectau unigol yn unol â phroffiliau gwario a chyflawni mwy realistig. Byddai’r adroddiad monitro cyfalaf nesaf i’r Cabinet yn cynnwys rhaglen wedi ei diweddaru fydd yn adlewyrchu hyn.

 

Newidiadau i’r rhaglen a gymeradwywyd

Cyn yr adroddiad hwn, yr oedd gan y Cyngor eisoes raglen gyfalaf hyd at 2024/25, ac yr oedd yr adroddiad hwn yn tynnu sylw at ychwanegiadau pellach i’r rhaglen o fwy na £16m sy’n dod â’r rhaglen gyfan i  £202m.

 

Yr oedd yr holl ychwanegiadau a ddangoswyd yn nhabl yr adroddiad yn helaeth, ond dyma rai o’r prif rai:

-           £3.3m yn ychwanegol i Ysgol Basaleg yn ychwanegol at gyllid Adran 106 ar gyfer for Band B

-           £2.1m o Grant Cynnal Addysg gan Lywodraeth Cymru

-           £970k o gyllid Menter Adfywio  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Canlyniad Rheoli'r Trysorlys 2019/20 pdf icon PDF 208 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, oedd yn rhoi manylion am weithgareddau rheoli trysorlys y Cyngor am 2019/20.  Adroddiad ydoedd oedd yn edrych yn ôl, gan gadarnhau fod yr holl fenthyca a’r buddsoddiadau a wnaed yn ystod y flwyddyn ariannol yn ddisgwyliedig ac yn unol â’r terfynau y cytunwyd arnynt gan y Cyngor llawn.  Yr oedd hefyd yn cadarnhau fod Dangosyddion Cynghorus 2019/20 o ran rheoli trysorlys hefyd wedi eu hateb yn ôl yr hyn a osodwyd gan y Cyngor.

 

Strategaeth bresennol y Cyngor yw cyllido gwariant cyfalaf trwy leihau buddsoddiadau, yn hytrach na benthyca o’r newydd lle y gall, megis gohirio benthyciadau newydd tymor-hir a chyllido gwariant cyfalaf o adnoddau arian y Cyngor ei hun, sef arian wrth gefn yn bennaf. Trwy ddefnyddio’r strategaeth hon gallai’r Cyngor ddal llai o arian ar adeg pan oedd risg gwrthbartion yn gymharol uchel, yn enwedig gyda’r oblygiadau economaidd presennol yn ystod Covid-19.

 

Yr oedd lefel y benthyca mewnol tua £87m, a thrwy ddefnyddio’r strategaeth hon, amcangyfrifwyd fod y Cyngor wedi arbed tua £2.6m mewn cost refeniw ar sail y cyfraddau llog cyfredol. 

 

Yr oedd lefel benthyca mewnol y Cyngor ar 31 Mawrth 2020 yn dal yn sylweddol, ar £166m, ac ni wnaiff hyn ond cynyddu dros y blynyddoedd i ddod wrth i’n gallu i fenthyca’n fewnol ostwng fel mae’r arian wrth gefn yn cael ei ddefnyddio. 

 

O’r £166m hwn, yr oedd yn bwysig nodi y benthycwyd £15m yn ychwanegol fel y gallai’r Cyngor fod ar y blaen wrth gefnogi’r ymateb i Covid-19 a gweinyddu grantiau i fusnesau yng Nghasnewydd, cyn derbyn arian Llywodraeth Cymru.

 

Yr oedd balans y buddsoddiadau ar 31 Mawrth 2020 yn £12.5m, gan ddwyn y benthyca net i £153.8m; yr oedd hyn yn gynnydd o £17.2m ers llynedd. Dylid nodi y bydd y Cyngor yn cadw isafswm balans buddsoddiad er mwyn bodloni gofynion bod yn gorff proffesiynol at ddibenion cydymffurfio.

 

Yr oedd yr adroddiad yn rhoi manylion am fuddsoddiadau heb fod yn rhai trysorlys, yn ôl gofynion Llywodraeth Cymru; y mae hyn yn cynnwys buddsoddiadau mewn eiddo mewn perchenogaeth uniongyrchol fel unedau masnachol a diwydiannol, benthyciadau i fusnesau a landlordiaid lleol, a chyfranddaliadau mewn is-gwmnïau, sef Trafnidiaeth Casnewydd. Cyfanswm gwerth y buddsoddiadau hyn ar 31 Mawrth 2020 oedd £14.5m.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd sylwadau gan y Cabinet:

 

Ategodd y Cynghorydd Harvey ddiolchiadau’r Arweinydd i swyddogion am eu gwaith caled. Cysylltwyd ag Aelodau gan fusnesau yr effeithiodd Covid arnynt ac yr oeddent yn gwerthfawrogi’r ffaith fod swyddogion wedi gwneud cymaint i fusnesau yng Nghasnewydd.

 

Soniodd y Cynghorydd Rahman hefyd fod Maendy wedi dioddef, ond oherwydd gweithredu sydyn gan y Cyngor, derbyniodd llawer o fusnesau bach a theuluoedd yr effeithiwyd arnynt gymorth ariannol, ac y mae’r adferiad yn digwydd yn araf. Yr oedd busnesau yn ardaloedd cynghorau eraill yn gofyn sut y gweithredodd Cyngor Dinas Casnewydd mor gyflym, a’r rheswm oedd bod Casnewydd wedi edrych ymlaen. Diolchodd y Cynghorydd Rahman i’r Arweinydd a’r swyddogion am ymateb mor sydyn ar ddechrau pandemig Covid, yn ogystal â helpu trigolion oedd yn cysgodi.

 

Penderfyniad:

Cytunodd y  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Mai Monitor Cyllideb Refeniw pdf icon PDF 560 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad cyllideb mis Mai, sef rhagolwg cyntaf y flwyddyn, ac amlygodd y materion ariannol allweddol oedd yn codi o bandemig Covid-19 a’r effaith y gall hyn gael ar gyllideb refeniw 2020/21.

 

Yr oedd yn bwysig nodi yn ystod yr amseroedd digynsail hyn fod llawer o ansicrwydd ynghylch codi’r clo, a pha fesurau fyddai’n rhaid eu rhoi ar waith fyddai’n cael effaith ar awdurdodau lleol. Felly, bu’n rhaid gwneud nifer o ragdybiaethau o fewn y rhagamcanion, gan gynnwys rhai am fwy o arian gan Lywodraeth Cymru, gwariant yn y dyfodol, ac adfer incwm.

 

Yn chwarter cyntaf y pandemig, cymerodd y Cyngor gamau sylweddol i ymateb, gyda gwasanaethau yn symud i fodel o gyflwyno gwasanaethau hanfodol craidd i’r mwyaf bregus a’r rhai yr oedd y firws yn fwyaf o fygythiad iddynt. 

 

Yn ystod y chwarter cyntaf, wynebodd y Cyngor gryn gostau wrth gyflwyno’r gwasanaethau hyn, ond hyd at ddiwedd Mehefin, talwyd am y gwariant hwn i raddau helaeth trwy gefnogaeth ariannol cronfa galedi Llywodraeth Cymru. Yr oedd y gronfa yn ymdrin â grwpiau penodol fel digartrefedd, darparu prydau ysgol am ddim, darparwyr gofal cymdeithasol, ac yr oedd cronfa gyffredinol hefyd ar gyfer llywodraeth leol i gefnogi’r ymateb i Covid-19.  Gwnaeth y Cyngor ei hawliad terfynol ym Mehefin, a gwerth hawliad Casnewydd am y chwarter yn fwy na £7m. 

 

Er hynny, yr oedd nifer o bwysau ariannol fyddai’n parhau yn ystod y pandemig hwn, gan gynnwys costau ychwanegol i gynnal ein trigolion bregus ac i gynnal gwasanaethau craidd, a cholli incwm oherwydd y pandemig.

 

Yr oed dy rhain yn ychwanegol at heriau eraill sy’n wynebu cyllidebau’r Cyngor gan gynnwys gorwariant ar wasanaethau sy’n cael eu harwain gan y galw, cyflwyno arbedion (yr effeithiodd y pandemig yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol arnynt) a hefyd effaith gorwario cyson ar gyllidebau ysgolion.

 

Yr oedd y sefyllfa ym Mai yn rhagweld gorwariant am y flwyddyn ariannol o £5.4m; gan ragdybio fod y gyllideb refeniw wrth gefn wedi ei hymrwymo’n llawn, byddai hyn yn gostwng i £4m petai arian wrth gefn yn dal ar gael ar ddiwedd y flwyddyn. Y mae hyn yn orwariant sylweddol yn erbyn y gyllideb ac yn adlewyrchiad o’r her y mae’r Cyngor yn dal i wynebu yn ei ymateb i’r pandemig.

 

Mae’r prif feysydd gorwariant sy’n cyfrannu at y sefyllfa yn cynnwys y costau anorfod canlynol oedd yn parhau y tu hwnt i’r chwarter cyntaf, a lle nad oedd rhagdyb y byddai Llywodraeth Cymru yn  ad-dalu £1.7m: £3.7m o golli incwm oherwydd y pandemig; tua £400k o feysydd gwasanaeth a arweinir gan y galw yn gorwario mewn gofal cymdeithasol; £1.1m o arbedion heb eu cyflwyno yn 2020/21 a rhyw £840k o orwariant ysgolion.

 

Fel yr amlygwyd yn gynharach, ychwanegodd y sefyllfa bresennol haen o gymhlethdod ac ansicrwydd i’r rhagolygon, ac y mae angen gweithio trwy hyn. Bydd y rhagolygon yn cael eu cyfoesi trwy gydol y flwyddyn wrth i fwy o sicrwydd ddod ynghylch y gofynion o ran adfer, a’r cyllid sy’n gysylltiedig â hyn.

 

Rhagwelwyd y gall fod manteision ac  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Adferiad Ysgolion pdf icon PDF 549 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad oedd yn dweud y gofal plant i blant gweithwyr hanfodol a phlant bregus ar gael ers i’r ysgolion gau ym Mawrth. Mae hyn wedi digwydd ochr yn ochr ag agor ysgolion yn rhannol i ddysgwyr eraill ers 29 Mehefin.

 

Bu cynllunio ar y cyd rhwng swyddogion a phenaethiaid yn effeithiol iawn er mwyn datblygu dealltwriaeth o broblemau ac ymdrin â hwy mor fuan ag sydd modd.

 

Nid yw myfyrwyr wedi sefyll arholiadau eleni, felly bydd eu graddau yn yr haf yn seiliedig ar waith cwrs a’r graddau a ragwelir gan athrawon.

 

Cafodd ysgolion eu herio gan deuluoedd am gadw at gyngor Llywodraeth Cymru a pheidio â chymysgu ‘swigod’ o blant rhwng lleoliadau ac ynddynt. Rhoddwyd hyn ar waith yn unol â chyngor arbenigol i amddiffyn plant, staff a’r gymuned yn ehangach.

 

Mae tua 5400 o blant a phobl ifanc ledled Casnewydd yn dal i gael eu cefnogi gan y cynllun Prydau ysgol am Ddim (PYaDd). Wedi cau’r ysgolion ym Mawrth, datblygwyd y cynllun o ddarparu cinio i’w gasglu o’r ysgol i gynllun talebau yn cael eu hanfod yn uniongyrchol at deuluoedd.

 

Mae’r GCA wedi gweithio gydag ysgolion i gefnogi datblygu rhaglen effeithiol o ddysgu cyfun, oedd yn cefnogi dysgwyr mewn darpariaeth gofal plant, dosbarthiadau galw heibio, a’r sawl sydd heb eto ddychwelyd i’r ysgol.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau i ddweud gair am yr eitem hon.

 

Hysbysodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau y Cabinet, ymhen dyddiau o gau’r ysgolion ym Mawrth fod nifer sylweddol o hybiau gofal plant i blant gweithwyr hanfodol a dysgwyr bregus ar waith, ynghyd â darparu dysgu o bell. Hefyd, yr oedd ysgolion yn cefnogi disgyblion oedd yn trosi i’r ysgol uwchradd ac i gyfleoedd ôl-16. 

 

Yr oedd cyfanswm o 36 hwb gofal plant ar gael ar hyd y  ddinas, fel bod modd mynd at ofal plant yn y gymuned. Ers i’r ysgolion ail-agor ar 29 Mehefin, yr oedd rhyw 400 o blant wedi parhau i ddod i ofal plant bob dydd, fel y gallai gweithwyr hanfodol fynd i’w gwaith. Yr oedd yn heriol i ysgolion ddarparu’r gwasanaeth hwn ac ar yr un pryd gynnig i blant eraill y gallu i ddod i’r ysgol i ddal i fyny gyda staff yr ysgol, a dilyn eu hasesiadau risg oedd yn hyrwyddo diogelwch pawb ar y safle. 

 

Yr oedd nifer o feysydd allweddol eto i ymdrin â hwy. Yr oedd darparu cludiant i’r ysgol, a glynu yr un pryd at reolau ymbellhau cymdeithasol, yn gryn her, yn enwedig i’r dysgwyr hynny oedd yn mynychu ysgolion cyfrwng-Cymraeg, arbennig a Chatholig. Er bod peth cludiant ar gael, byddai angen mwy erbyn tymor yr hydref.

Rhoddwyd bron i 800 o ddyfeisiadau digidol a rhyw 1260 o unedau MiFi i deuluoedd i gefnogi dysgu o bell. Hefyd, sefydlwyd rhwydwaith wifi ysgolion i ganiatáu i blant a phobl ifanc ddod â’u dyfeisiadau eu hunain i’r ysgol (BYOD). Mae adeiladu ar y llwyddiant hwn yn dal yn flaenoriaeth.

 

Nid oedd presenoldeb disgyblion  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Porth y Gorllewin - Persbectif Casnewydd pdf icon PDF 241 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan ddweud fod Porth y Gorllewin wedi ei sefydlu ym mis Tachwedd 2019, fel partneriaeth strategol oedd â’r nod o gyflwyno pwerdy economaidd ar hyd coridor yr M4 a’r M5, gan sbarduno twf ar ddwy ochr Afon Hafren. Fel un o bum dinas, yr oedd disgwyl i Gasnewydd gymryd rhan allweddol yn llwyddiant y bartneriaeth, ac yr oedd disgwyl iddi elwa o’r cydweithredu gwell.    

 

Y mae’r rhanbarth eisoes yn cael ei hystyried fel pwerdy economaidd o bwys, gyda thair dinas-ranbarth, a phob un wedi nodi gwell cysylltedd ffisegol a digidol, sgiliau a lefelau cyflogaeth uwch, ac arloesedd, fel elfennau hanfodol o’u datblygiad a’u ffyniant economaidd yn y dyfodol. Fel rhanbarth, mae gennym GVA uwch y pen na Phwerdy Gogledd Lloegr a Pheiriant Canolbarth Lloegr, ac economi cyn y clo o ryw £107 biliwn, bron i ddwbl yr hyn oedd ym mhartneriaeth flaenorol Dinasoedd y Great Western. 

 

Fel partneriaeth mae gennym bron i 4.4 miliwn o drigolion, tua 160,000 o fusnesau, a rhyw 2.1 miliwn o swyddi. Mae gennym hefyd gysylltedd da gyda thraffyrdd a ffyrdd, 2 faes awyr a 9 porthladd. 

 

Cyhoeddwyd prosbectws sydd wedi ei gynnwys ar ddiwedd yr adroddiad.  Cadarnhaodd fod Porth y Gorllewin yn ‘sbarduno Prydain wyrddach, decach a chryfach.’  Yr oedd tri phrif uchelgais yn canoli ar gysylltedd, bod yn borth byd-eang, ac arloesedd, ac yr oedd y rhain oll yn cyd-fynd â dyheadau Casnewydd am dwf economaidd. 

 

O ran cysylltedd, gallai trigolion a busnesau Casnewydd elwa o wasanaethau cyflymach ac amlach i Lundain, cyswllt uniongyrchol â Heathrow a dinasoedd craidd, a thocyn clyfar Porth y Gorllewin i ganiatáu teithio’n gyflymach o gwmpas y rhanbarth yn yr ‘awr aur’.  Yr oedd ymrwymiad i ddarparu mwy o bwyntiau gwefru trydan ar hyd yr M4 a M5 a rhaid i ni fod yn rhan o’r dyhead i fod y rhanbarth gyda’r cysylltedd digidol gorau yn y DU. 

 

Fel porth byd-eang, yr oedd potensial mawr i gyflwyno strategaeth fyddai’n canoli ar fasnach, buddsoddi, rôl y porthladdoedd a’r meysydd awyr, a’r economi ymwelwyr.

 

O ran arloesedd, y mae gan y rhanbarth 10 prifysgol a nifer o academïau a chanolfannau arbenigol. Y mae academïau seibr a meddalwedd Casnewydd yn cael eu hystyried yn nodweddion allweddol o’r cynnig arloesedd, a byddai cyswllt â chanolfannau arloesedd eraill fel Canolfan Arloesedd Manwerthu Digidol y DU yn Cheltenham a Chaerloyw ac Asiantaeth y Gofod y DU yn Swindon yn cynyddu ein gallu i gydweithio gyda chyfleusterau ymchwil eithriadol eraill, a’u hategu. 

 

Mae gwaith yn digwydd ar hyn o bryd ar strwythur llywodraethiant y bartneriaeth ac y mae’r gr?p yn gweithio tuag at ffurfioli’r bartneriaeth trwy greu Bwrdd Partneriaeth a Grwpiau Ymgynghorol a gefnogir gan ysgrifenyddiaeth unswydd. Penodwyd Cadeirydd annibynnol, ac y mae Kathryn Bennett o Airbus eisoes yn trafod gyda Llywodraeth y DU am fanteision rhanbarth Porth y Gorllewin. 

 

Comisiynwyd Adolygiad Economaidd Annibynnol fyddai’n rhoi sylfaen o dystiolaeth i ddatblygu polisïau a buddsoddi at y dyfodol, rhywbeth sydd a mwy o frys oherwydd y wasgfa economaidd yn sgil Covid-19.  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Nodau Adfer Strategol - Trefniadau Llywodraethu a Democrataidd pdf icon PDF 160 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad gan ddweud, yng nghyfarfod diwethaf y Cabinet ar 24 Mehefin, y cytunwyd ar nifer o Nodau Adfer Strategol fyddai’n sail i’r blaenoriaethau corfforaethol wrth i’r Cyngor symud i’r cyfnod adfer yn dilyn llacio cyfyngiadau Covid-19.

 

Un o’r ymrwymiadau oedd sicrhau ein bod yn cyflwyno trefniadau llywodraethiant a democrataidd diwygiedig mor fuan ag sydd modd, er mwyn hwyluso dechrau cael cyfarfodydd o bell, i newid y ffordd yr oeddem yn gweithredu, ac yr oedd angen hefyd i aelodau gymryd  rhan o bell yn y prosesau democrataidd o wneud penderfyniadau.

 

Fel gweinyddiaeth, yr ydym wedi llwyr ymrwymo i broses ddemocrataidd o wneud penderfyniadau sydd yn agored, tryloyw ac yn atebol i’r cyhoedd. Golygodd y clo oherwydd Covid-19, fodd bynnag, y bu’n rhaid atal pob cyfarfod pwyllgor ffurfiol ym mis Mawrth a chymryd penderfyniadau dan gynlluniau dirprwy o aelodau a swyddogion. Nid oedd hyn yn golygu y bu diffyg tryloywder nac nad oedd modd craffu a herio penderfyniadau a ddirprwywyd yn ystod y cyfnod hwn. Parhawyd i ymgynghori â’r holl gynghorwyr yn ysgrifenedig ar adroddiadau Aelodau’r Cabinet a chafwyd adroddiadau ysgrifenedig ar benderfyniadau Cynllunio a Thrwyddedu. Hefyd, mae aelodau wedi gallu cyflwyno cwestiynau ysgrifenedig ar unrhyw adeg yn enwedig ar faterion yn ymwneud â Covid.

 

Er budd llywodraethu agored, rhaid oedd ail-ddechrau cynnal cyfarfodydd, unwaith i’r gyfraith gael ei newid i ganiatáu gwneud hyn yn ddiogel ac o bell. Yr ydym wedi ymdrechu i wneud hyn mewn dull pragmataidd a graddol, gyda’r pwyslais ar gael pethau’n iawn yn hytrach na rhuthro i drefnu cyfarfodydd rhithiol yn sydyn.

 

Yr ydym felly wedi galw am adroddiad pellach gyda chynigion am gyflwyno yn raddol gyfarfodydd Cyngor o bell, y protocolau a’r gweithdrefnau a argymhellir ar gyfer cynnal a rheoli’r cyfarfodydd hyn, a rhaglen hyfforddi a datblygu i aelodau er mwyn gwneud yn si?r y gallant gyfranogi’n llawn yn y  trefniadau llywodraethiant diwygiedig hyn.

 

Mae’r adroddiad yn gosod allan y cynnig, a gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo a chadarnhau’r trefniadau llywodraethiant a democrataidd diwygiedig a’r protocol arfaethedig o ran cynnal cyfarfodydd o bell.

 

Er bod hyn i fod i ddigwydd yn ystod y cyfnod wedi adfer o Covid-19, yr ydym yn cydnabod y byddai angen o hyd am hyblygrwydd cyfarfodydd o bell o ran agenda cydraddoldeb ac amrywiaeth llywodraeth leol. Felly, bydd y gweithdrefnau hyn yn cael eu hadolygu a’u hail-werthuso. Byddwn am fireinio a gwella’r trefniadau o bell, lle bo hynny’n briodol, ac yn dal i edrych ar welliannau mewn technoleg.

 

Y cyfarfod hwn heddiw oedd y cam nesaf, gan ei fod yn cael ei ddarlledu’n fyw. Gallai’r wasg a’r cyhoedd glicio ar y ddolen a gyhoeddwyd gydag agenda’r Cabinet i wylio’r trafodaethau trwy’r ffrwd fyw. Gallai’r dechnoleg wedyn gael ei chyflwyno i gyfarfodydd eraill y Cyngor a’r Pwyllgorau.

 

Yr oedd y blaen-raglen waith yn cynnig ein bod yn cynnal CCB y Cyngor llawn o bell ar 28 Gorffennaf, i ddelio a phenodiadau statudol. Byddai’r gwyliau ym mis Awst yn cael eu defnyddio i gynllunio am ail-gychwyn y pwyllgorau Cynllunio a  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Nodau Adfer Strategol - Trefniadau Llywodraethu a Democrataidd pdf icon PDF 156 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, sef trydydd Cynllun Strategol Cydraddoldeb yr awdurdod. Yr oedd y strategaeth hon yn ddatblygiad ar ein cynllun 2016-2020 , gyda mwy o amcanion seiliedig ar ddeilliannau a ddatblygwyd trwy weithio’n agos mewn partneriaeth a gwahanol dimau ar draws yr awdurdod a chydweithio gyda rhanddeiliaid  a chymunedau allweddol.

 

Mae gan yr Amcanion Cydraddoldeb yn y Cynllun Strategol Cydraddoldeb hwn gymysgedd dda o amcanion mewnol, megis ein hymrwymiadau i wella amrywiaeth ein gweithlu trwy fwy o gamau cadarnhaol, ac amcanion mwy allanol fel ein hymrwymiad i wella cydlyniant cymunedau ledled y ddinas. Y cydbwysedd hwn o fyfyrio mewnol a chanolbwyntio allanol er mwyn gwella cydraddoldeb mewn ardaloedd allweddol o’n cymdeithas yw cryfder y strategaeth hon ac yr wyf yn hyderus ei bod yn gam cadarnhaol ymlaen i Gyngor Dinas Casnewydd.

 

Bu’r misoedd a aeth heibio, a’r misoedd i ddod yn sicr, yn rhai heriol, ac wedi datgelu llawer math o anghydraddoldeb strwythurol a chymdeithasol, o brotestiadau byd-eang Black Lives Matter, i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac wrth gwrs, oblygiadau pandemig byd-eang COVID-19. Yr ydym ar groesffordd fel cymdeithas wrth i ni adfer a dysgu o ddigwyddiadau sydd wedi ein cyffwrdd oll, ond a effeithiodd ar grwpiau penodol yn ein cymunedau mor llym.

 

Cynigiodd yr Arweinydd fabwysiadau’r strategaeth hon, gan ddiolch i’r Aelod Cabinet dros Gymuned ac Adnoddau, David Mayer a’r Cynghorydd Mark Whitcutt am eu cyfraniadau i’r cynllun a’r Gr?p Strategol Cydraddoldeb dros y pedair blynedd a aeth heibio.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd sylwadau gan y Cabinet:

 

Teimlai’r Cynghorydd Mayer fod Casnewydd ar y blaen o ran mynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn 2012.  Yr oedd hyn wedi paratoi’r ffordd i wreiddio cydraddoldeb yn yr holl wasanaethau.  Daeth y problemau a nodwyd yn ystod Covid a hyn i lygad y cyhoedd. Gweithiodd y tîm cydraddoldebau yn galed i wreiddio hyn yn yr adroddiad a diolchodd y Cynghorydd Mayer i’r holl dîm am eu gwaith caled.

 

Adleisiodd y Cynghorydd Rahman y sylwadau, gan ddweud ei fod yn ddarn pwysig o waith am yr hyn a ddatgelwyd gan bandemig Covid, ac amlygodd y risgiau a’r bregusrwydd i weithwyr rheng-flaen oedd heb ddewis ond bod mewn perygl o ddal Covid er mwyn ennill bywoliaeth i gynnal eu teuluoedd. Mae angen gweithio i ymdrin â hyn, ac yr oedd y Cynghorydd Rahman yn rhan o dasglu oedd yn edrych ar y cysylltiadau cymdeithasol-economaidd yn y gymuned BAME, gyda Llywodraeth Cymru.  Gan gadw hyn mewn cof, teimlai fod Casnewydd o flaen LlC yn hyn o beth oherwydd gwaith gwych y swyddogion o’r cychwyn. Cyfeiriodd y Cynghorydd hefyd at y gefnogaeth a roddwyd i bobl ag anableddau yn ogystal â’r rhwydweithiau cefnogi y gymuned LGBTQ+. Yn olaf, diolchodd y Cynghorydd Rahman i’r Arweinydd am ei chyfraniad eithriadol ac i’r swyddogion am eu gwaith caled.

 

Diolchodd y Cynghorydd Giles i bawb oedd yn gysylltiedig â gwaith y cyngor ieuenctid ac a weithiodd i gefnogi pobl ifanc a bod yn rhan o’r asesiad effaith cymunedol. Aeth ymlaen i ddweud y dylai pobl ifanc Casnewydd ymfalchïo  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

12.

Rhaglen Waith

13.

I weld Gwe-ddarllediad Live Cabinet cliciwch ar y ddolen isod: