Agenda and minutes

Cabinet - Dydd Mercher, 14eg Hydref, 2020 4.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Tracy Richards , Cabinet Office Manager  E-bost: Cabinet@newport.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Cofnodion:

Cynghorydd R Truman

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Nidoedd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb. 

 

3.

Cofnodion y cyfarfod diweddaf pdf icon PDF 191 KB

Cofnodion:

Cofnodion y cyfarfod diweddaf

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Medi 2020 fel rhai cywir. 

 

Cyn bwrw ymlaen i’r eitem nesaf ar yr agenda, manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i sôn am y clo lleol presennol, a diolch i bobl Casnewydd sy’n cydweithio’n dda ac yn dilyn y rheolau am Covid-19 i gadw eraill yn ddiogel.

 

 

4.

Adroddiad blynyddol y cynllun corfforaethol pdf icon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, sef Trydydd Adroddiad Blynyddol Cynllun Corfforaethol pum-mlynedd y Cyngor.

 

Pwrpas yr adroddiad yw edrych yn ôl ar 2019/20 ac asesu llwyddiannau’r Cyngor, meysydd gwella, ac edrych ymlaen weddill cyfnod y Cynllun Corfforaethol.

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod adroddiad eleni hefyd yn ystyried ymateb y Cyngor i Covid-19 yn erbyn pob un o Amcanion Lles y Cyngor a sut y cyfrannodd y rhain at ddysgu a datblygu Nodau Adfer Strategol y Cyngor.

Cyflwynwyd yr Adroddiad Blynyddol ym mis Medi i Bwyllgor Craffu Trosolwg a Rheoli’r Cyngor. Croesawyd trafodaethau manwl y Pwyllgor am ymateb y Cyngor i Covid-19 a’u hadborth ar gynnwys yr Adroddiad Blynyddol. Mae argymhellion y Pwyllgor wedi eu hystyried a’u cyfoesi yn y fersiwn derfynol hon o’r adroddiad i’r Cabinet.

Gofynnodd yr Arweinydd i’r Cabinet gadarnhau’r Adroddiad Blynyddol fel y gellir ei gyhoeddi, a bydd ar gael hefyd yn Gymraeg.

Cadarnhaodd yr Arweinydd, ar ddechrau tymor y Cabinet hwn, y gosodwyd pedwar Amcan Lles i gefnogi cenhadaeth y Cyngor o ‘Wella Bywydau Pobl’:

·        Gwellasgiliau, deilliannau addysgol a chyfleoedd am waith;

·        Hyrwyddotwf ac adfywio economaidd ac amddiffyn yr amgylchedd yr un pryd

·        Galluogipobl i fod yn iach, annibynnol a gwydn

·        Adeiladucymunedau cydlynus a chynaliadwy.     

 

Dywedodd yr adroddiad, yn 2019/20, fod Cyngor Casnewydd wedi dal ati i wneud cynnydd da yn erbyn ei Amcanion Lles, ar waeth y pwysau ariannol heriol fu ar lawer o wasanaethau rheng-flaen y Cyngor. 

Arwaethaf y pwysau ariannol hyn, gallodd y Cyngor adrodd am danwariant yn y cyfrifon terfynol o £1.8m a gyfrannwyd trwy incwm grant annisgwyl i gefnogi Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor.

Foddbynnag, yn y tymor canol, ac yn dilyn argyfwng Covid-19, mae’r Cyngor yn awr yn wynebu heriau ariannol newydd a fydd yn galw am benderfyniadau anodd yn y dyfodol. 

Yn 2019/20, parhaodd Cyngor Casnewydd i wneud gwelliannau sylweddol i gyflwyno gwasanaethau a hefyd i gyflwyno mentrau allweddol fydd yn gwella bywydau pobl. Ni ellid bod wedi gwneud yr un o’r rhain heb weithio’n agos mewn partneriaeth a mudiadau eraill, y Bwrdd Iechyd a defnyddwyr gwasanaeth.

Mae’radroddiad hefyd yn cydnabod meysydd sydd angen eu gwella a lle bydd y Cyngor yn gwneud y newidiadau angenrheidiol i gyflwyno ei wasanaethau. 

Yr oedd yr Arweinydd  yn falch o nodi’r gwelliannau cadarnhaol isod:

 

·        AmcanLles 1 (Gwellasgiliau, deilliannau addysgol a chyfleoedd am waith)

 

·        Parhaoddysgolion cynradd Casnewydd i wella eu perfformiad o flwyddyn i flwyddyn, a welodd gategoreiddio’r ysgolion felGwyrddgan Lywodraeth Cymru.

·        Mae cyfraddau presenoldeb wedi gwella i ysgolion cynradd ac uwchradd y ddinas.

·        Mae mewn mentrau i wella cyfleoedd i blant difreintiedig wedi arwain at welliannau yn eu llwyddiant academaidd.

·        Mae cynnig Addysg Oedolion y Cyngor hefyd yn galluogi pobl yng Nghasnewydd i ail-hyfforddi ac ennill sgiliau newydd, sy’n rhoi mwy o gyfle  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Chwarter adroddiad risg 1 (2020/21) pdf icon PDF 233 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad i’r Cabinet ar GofrestrRisg Corfforaethol y Cyngor am ddiwedd Chwarter 1 (30 Mehefin 2020).

 

Y mae’r adroddiad yn gofyn i’r Aelodau ystyried cynnwys yr adroddiad a nodi’r newidiadau i’r risg.

Mae Polisi Rheoli Risg a Chofrestr Risg Corfforaethol y Cyngor yn galluogi’r weinyddiaeth hon a’i swyddogion i fod yn effeithiol wrth nodi, rheoli a monitro’r risgiau hynny a allai atal y Cyngor rhag cyflawni ei amcanion yn y Cynllun Corfforaethol (2017-22) a chyflawni ei ddyletswyddau statudol fel awdurdod lleol.

Cadarnhaodd yr adroddiad y cyflwyniradroddiad risg Chwarter 1 hefyd i Bwyllgor Archwilio’r Cyngor yn Hydref 2020 i adolygu proses rheoli risg a threfniadau llywodraethiant y Cyngor.

Arderfyn chwarter 1, yr oedd y Gofrestr Risg Corfforaethol yn cynnwys 19 risg yr oedd angen i’r Cabinet a  Thîm Rheoli Corfforaethol y Cyngor eu monitro. Mae pob risg arall yn cael eu monitro trwy feysydd gwasanaeth y Cyngor a’r Tîm Rheoli Corfforaethol.  Mae mecanweithiau ar waith i anfon unrhyw risg newydd neu sy’n bod eisoes i’r Gofrestr Risg Corfforaethol. 

Yn chwarter 1 yr oed 13 risg ddifrifol (sgoriau risg 15 i 25); 4 risg fawr (sgoriau risg 7 i 14) a 2 risg gymedrol (sgoriau risg 1 i 3). 

Yr oedd saith risg wedi aros ar yr un sgôr risg â chwarter 4.

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y canlynol:

 

Risgiau Newydd/Wedi eu cyfeirio

·        Yn chwarter 1, yr oedd un risg newydd (Clefyd Marwolaeth yr Ynn) a phum risg a gyfeiriwyd o gofrestri risg meysydd gwasanaeth. 

 

·        Pwysauar Wasanaethau Oedolion a Chymuned (Risg wedi’i Chyfeirio, cynnydd yn y sgôr risg o 16 i 20) Mae COVID-19 wedi cynyddu’r pwysau ar gyllid a chynaliadwyedd tymor hir gofal oedolion, ac y mae gwasanaethau yn gorfod ail-lunio eu hunain i wneud lle i ganllawiau COVID-19. Mae’r rhain hefyd yn cael effaith ar ganfyddiad a chyflwyno gwasanaethau.

 

·        Pwysauar gyflwyno Gwasanaethau Plant (Risg wedi’i Chyfeirio, cynnydd yn y sgôr risg o 16 i 20) Mae COVID-19 wedi achosi cynnydd mewn pwysau o ran cwantwm y gwaith a’i natur, ynghyd â’r effaith ar y staff gyda newid mewn cymdeithas. Mae ymdrechion i leihau’r risg yn dibynnu ar gynnal cysylltiad a lleihau tasgau sy’n debyg o gynyddu yn ystod y flwyddyn.

 

·        Seibr-ddiogelwch (Risg wedi’i Chyfeirio, cynnydd yn y sgôr risg o 12 i 16) yn chwarter , hysbyswyd cyrff y sector cyhoeddus o godi lefel bygythiad i’r DU o ran ymgais i geisio mynediad at ddata a ddelir gan lywodraeth ganol a lleol. Mae hyn wedi cynyddu hefyd wrth i fwy o bobl weithio o gartref.  

 

·        Pwysauar Wasanaeth Digartrefedd (Risg wedi’i Chyfeirio, cynnydd yn y sgôr risg o 12 i 16) CyflwynoddLlywodraeth Cymru ddeddfwriaeth statudol newydd i gefnogi’r digartref a chysgwyr allan i lety. Darparodd  Llywodraeth Cymru gyllid cam 1 i’r Cyngor ac yn ddiweddar,  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Polisi tâl a gwobrwyo pdf icon PDF 169 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad oedd yn cadarnhau fod Polisi Tâl a Gwobrwyo’rCyngor i’r gweithlu yn adroddiad blynyddol sydd angen ei fabwysiadu gan y Cyngor.  Mae’r polisi yn gosod allan y mecanweithiau mewnol am dalu swyddogion y Cyngor ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer unrhyw newidiadau ers ei fabwysiadu ddiwethaf.

 

Dau newid arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad yw:

 

·        Yn gyntaf, gwneud i ffwrdd â’r lwfans bloc ceir i Brif Swyddogion fydd yn newid y ffordd o gael treuliau milltiredd a bydd hyn yn dod â Phrif Swyddogion yn unol â gweddill y gweithlu sy’n gorfod hawlio am y siwrneiau maent yn wneud yn hytrach na derbyn tâl sefydlog.

·        Yn ail, cyfyngu ail-gyflogi i’r sawl sy’n cymryd diswyddo gwirfoddol neu gytundebau setlo. Byd hyn yn golygu bod arian cyhoeddus tuag at becynnau  gwahanu yn cael ei gymhwyso’n briodol ac y gwneir diwydrwydd dyladwy trylwyr am strwythurau staffio cyn cytuno ar unrhyw becynnau gwahanu.

Yn ychwanegol at y cynigion hyn, mae’r Polisi Tâl a Gwobrwyo yn adrodd am y bwlch tâl blynyddol rhwng y rhywiau sydd hefyd yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor. Cadarnhaodd yr adroddiad fod y bwlch cymedrig wedi gostwng o 3.6% o’r 4.8% yr adroddwyd amdano. Yr oedd yr Arweinydd yn falch o adrodd fod y bwlch cymedrig bellach wedi cau, gan fod dadansoddiad o’r data yn dangos fod pwynt cymedrig y tal fesul awr yr un fath i ddynion a menywod. Mae bwlch tâl y Cyngor rhwng y rhywiau yn cymharu’n ffafriol â chynghorau eraill ledled Cymru a chyfartaledd y DU o 17%.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd y bydd y Cyngor yn parhau i adolygu a monitro eu bwlch tâl rhwng y rhywiau i ddod o hyd i ffyrdd o gau’r bwlch tâl cymedrig trwy’r amcanion a gyhoeddir yn yr adroddiad blynyddol am y bwlch tâl rhwng y rhywiau a thrwy gynnal ail archwiliad tâl cyfartal yn 2021 i nodi unrhyw feysydd gwella pellach.

 

Yr oedd yr adroddiad eisiau i’r Cabinet gymeradwyo’r polisi i’w argymell i’r Cyngor.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Gymuned ac Adnoddau i siarad am yr adroddiad a chadarnhaodd fod y Polisi Tâl a Gwobrwyo blynyddol yn rhoi cyfle i gyhoeddi bwriad y Cyngor am dâl ei swyddogion a gwneud unrhyw newidiadau priodol. Cadarnhaodd yr ymgynghorwyd a chynrychiolwyr undebau llafur y Cyngor am y ddau newid arfaethedig uchod, ac y mae eu hadborth yn yr adroddiad; felly hefyd asesiad o’r effaith y gall y bwriad i gyfyngu ail-gyflogi ar Degwch a Chydraddoldeb gael.

 

Cadarnhaodd yr Aelod  Cabinet fod y Cabinet eisoes wedi ymrwymo i dalu ychwanegiad i’r gweithwyr ar y cyflogau isaf er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cyflog sy’n cyfateb i’r Cyflog Byw Gwirioneddol, ac y mae’r polisi yn cadarnhau y parheir i dalu’r ychwanegiad hwn.  

 

Ategodd yr Aelod Cabinet sylwadau’r Arweinydd am y bwlch tâl rhwng y rhywiau a’r cynnydd a wnaed yn adroddiad 2019;  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

SRS canolfan ddata pdf icon PDF 239 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad oedd yn cadarnhau, yn dilyn argymhellion y Gr?p Adolygu Craffu yn 2016, fod y Cabinet wedi cytuno i ymuno â’r Cyd-Wasanaeth Adnoddau (CWA) a throsglwyddo gwasanaeth TG y Cyngor i’r bartneriaeth hon gydag awdurdodau Torfaen, Sir Fynwy a Blaenau Gwent, a Heddlu Gwent.

 

Yr oedd unarddeg o flaenoriaethau buddsoddi yn tynnu sylw at y gwelliannau pwysig y dymuna Casnewydd gael o’r trefniant hwn; dyma’r gofynion craidd:

 

        datblygu gwasanaeth TG sy’n ymatebol ac yn gwella’n barhaus;

        rhesymoli systemau ar draws y bartneriaeth;

        datblygu staff yn barhaus ac o ansawdd uchel;

        seilwaith TG sy’n rhoi gwytnwch ac ansawdd gwasanaeth;

        datblygu trefniadau parhad busnes ac adfer o drychineb gan gynnwys cefnogaeth y tu allan i oriau fel sy’n briodol;

        cefnogi cyflwyno nodau digidol fel y’u hamlinellwyd yn Strategaeth Ddigidol Cyngor Dinas Casnewydd.

 

Cadarnhaodd yr adroddiad fod y Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddi yn eu darpariaeth TG. Golyga hyn, pan ddechreuodd y cyfnod clo, fod gan y Cyngor eisoes y gallu i ganiatáu i’w staff a’r Aelodau barhau i weithio er nad oeddent yn eu man gwaith arferol.

 

Ers ymuno â’r CWA bu gwelliannau i’r offer TG a’r systemau cefnogi. Mae’r bartneriaeth wedi datblygu systemau newydd ar y cyd, megis y CRM, ac wedi cyflwyno Office 365.  Er fod bod yn rhan o bartneriaeth ehangach wedi helpu’r Cyngor i wella ei gwasanaeth, diolchodd yr Arweinydd i Dîm Digidol mewnol y  Cyngor am y gwaith a wnaethant i wella perfformiad yn gyson, a galluogi’r Cyngor i wneud y mwyaf o’i fuddsoddiad.

 

Dywedodd yr adroddiad, er mwyn cwrdd â’r amcanion o gael seilwaith TG cadarn a gwelliannau i barhad busnes, y cynllun oedd i symud y ganolfan ddata bresennol o’r Ganolfan Ddinesig i ganolfan ddata unswydd y CWA ym Mlaenafon.  Fodd bynnag, yn dilyn gwerthuso pellach gan y CWA o’r costau i Gasnewydd a’r partneriaid eraill o barhau i weithio ym Mlaenafon, o gymharu â symud i ganolfan ddata unswydd fwy newydd fyth, barnwyd ei bod yn rhatach ar y cyfan i’r holl bartneriaid symud i ganolfan ddata newydd.

 

Mae’r achos busnes a ddatblygwyd gan y CWA yn cael ei gefnogi gan Fwrdd Cyllid a Llywodraethiant y Bartneriaeth ac y maent yn gwneud argymhelliad i Fwrdd Strategol y CWA i fwrw ymlaen( cynrychiolir y Cyngor ar y ddau Fwrdd gan lefel uwch-swyddogion ac Aelodau Cabinet).  Mae’r Bwrdd Strategol newydd gytuno i hyn, a gofynnir i Gabinet pob awdurdod lleol yn y bartneriaeth i gymeradwyo.

 

Mae’r adroddiad yn rhoi costau refeniw a chyfalaf y symud. Nododd yr adroddiad y byddai symud y ganolfan ddata i sicrhau gwytnwch yn unol â phenderfyniad gwreiddiol y Cabinet yn wastad wedi golygu cost, boed hyn yn symud i ganolfan ddata bresennol y CWA neu i le newydd.

 

Cadarnhaodd yr adroddiad y bydd symud yr holl bartneriaid i’r adeilad newydd yn cymryd hyd at dair blynedd, a bryd hynny y bydd mwy o gost refeniw i Gasnewydd.  Fodd bynnag, mae hyn wedi ei ragweld ac y mae o fewn y  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Rhif Rhadolwg (LAC) pdf icon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad sy’n cadarnhau fod y Gwasanaethau Plant yn dal i weithio i gefnogi plant a theuluoedd.  Mae’r staff yn gweithio i sicrhau y gofelir am blant yn ddiogel yn eu teuluoedd, ac os nad yw hyn yn bosib, eu bod yn derbyn gofal ac yn cael y cyfleoedd gorau posib.

 

Cadarnhaodd yr adroddiad fod Llywodraeth Cymru yn dal i ganolbwyntio ar leihau niferoedd y plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru. Yng Nghasnewydd  mae nifer y plant yng ngofal cyffredinol yr awdurdod lleol wedi aros yn sefydlog. Mae plant yn dal i ddod i ofal, ond y maent hefyd yn gadael gofal, naill ai ddychwelyd at eu teuluoedd neu i’w gosod i’w mabwysiadu, neu am eu bod yn 18 oed.  Ers adrodd i’r Cabinet ym mis Mai 2019, mae’r swyddogion wedi parhau i roi adroddiadau rheolid yn ôl gofynion Llywodraeth Cymru. Ers mis Mawrth 2020 mae hyn wedi cynnwys adrodd yn wythnosol.

 

Dywed yr adroddiad fod staff wedi gweithio’n ddiflino ers dechrau Covid-19 ac wedi parhau i gyflwyno gwasanaethau llawn. Mae cyfeiriadau wedi cynyddu, a’r pwysau ar deuluoedd o raid wedi dod yn drymach

 

Mae llawer o fentrau newydd a gyflwynwyd gan y Gwasanaethau Plant ac a gyllidir gan grantiau Llywodraeth Cymru ac adnoddau’r ALl yn gweithio’n dda, er enghraifft:

 

        CynadleddauGr?p Teulu

·        Cefnogaeth Babi a Mi i deuluoedd.

 

Nodwydhefyd fod staff o amrywiaeth o asiantaethau yn rhan o gefnogi teuluoedd bregus ac y mae staff y Gwasanaethau Plant yn rhannu arferion ac yn gweithio i ddiwylliant o reoli risg yn ddiogel i blant.

 

Yr oedd yr Arweinydd, ynghyd â’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a’r swyddogion, yn siomedig iawn i dderbyn llythyr gan y Dirprwy Weinidog gyda naws mor negyddol, gan nad yw gwaith yr 8 mis a aeth heibio yn adlewyrchu’r heriau cynyddol a wynebir gan deuluoedd, na’r gwaith ar draws pob asiantaeth i liniaru rhai o’r pwysau hynny.  (Er gwybodaeth, gellir gweld y llythyr fel atodiad i’r adroddiad). 

 

Gwahoddodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i siarad am yr adroddiad:

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet at y llythyr a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ac er ei fod yn deall eu hagwedd, yr oedd yn cadarnhau fod gan y Cyngorddyletswydd o ofal i sicrhau bod plant yn ddiogel. Cyfeiriodd at dudalen 153 yr adroddiad sy’n rhoi manylion am nifer y plant sy’n derbyn gofal dros y 18 mis diwethaf; cadarnhaodd fod yn niferoedd ar hyn o bryd yn eithaf sefydlog.

Canoloddwaith caled y swyddogion y Gwasanaethau Plant sy’n ymdrechu’n wastad i ofalu fod plant a theuluoedd yn ddiogel. Er nad yw gosod targedau yn wastad o gymorth, mae’r staff wedi parhau i weithio ar draws y Gwasanaethau Plant ac asiantaethau eraill i ddwyn plant i ofal yn unig pan fydd hyn yn hollol angenrheidiol.

 

Yr oedd yn falch  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

LDP adroddiad blynyddol ac adolygiad pdf icon PDF 192 KB

Dogfennau ychwanegol:

10.

Covid-19: Effaith Ariannol pdf icon PDF 247 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad sy’n rhoi cyfoesiad am y cynnydd a wnaed gan Gyngor Casnewydd a’i bartneriaid i gefnogi’r ddinas i gydymffurfio â’r mesurau clo lleol a chefnogi cymunedau Casnewydd fel rhan o Nodau Adfer Strategol y Cyngor.

Ym mis Mehefin, yr oedd y Cabinet wedi cefnogi’r pedwar Nod Adfer Strategol sy’n cynnal cyflwyno Amcanion Lles y Cyngor ond hefyd yn sicrhau y gall gwasanaethau’r Cyngor ddychwelyd yn ddiogel a rheoli digwyddiadau o glefydau yn y dyfodol. 

Nododd yr adroddiad:

·        Ers yr adroddiad diwethaf, fod mesurau clo lleol wedi eu rhoi ar waith i reoli a lleihau lledaeniad Covid-19 yn y ddinas yn dilyn cynnydd sylweddol mewn achosion.

·        Ersi’r cyfyngiadau gael eu gosod, bu Cyngor Casnewydd yn defnyddio ei holl ddulliau cyfathrebu i atgoffa trigolion a busnesau i gadw atynt.

·        Trwygydol y cyfnod hwn, bu tîm ymateb brys y Cyngor (Covid Aur) yn goruchwylio cyflwyno gweithgareddau strategol y Cyngor a’r Gr?p Cydgordio Strategol ehangach. 

·        Mae Cyngor Casnewydd hefyd wedi cyflwyno Timau Rheoli Digwyddiadau i reoli achosion fydd yn digwydd yn y gymuned ac i gefnogi system Profi, Olrhain ac Amddiffyn (POA) y ddinas. 

·        Arhyn o bryd, erys Covid-19 yn y ddinas a bydd felly am weddill y flwyddyn. Oherwydd hyn, rhaid i ni aros yn wyliadwrus ond hefyd yn hyblyg i gefnogi unrhyw gamau angenrheidiol a hefyd i gefnogi cymunedau ledled y ddinas. 

·        Mae’radroddiad hefyd yn tynnu sylw at ymateb y Cyngor ar draws pob maes gwasanaeth gan gynnwys cydweithio gyda phartneriaid y Cyngor ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, grwpiau cymunedol a phartneriaid y trydydd sector. 

Nododd yr adroddiad hefyd y cynnydd a wnaeth y Cyngor yn erbyn y Nodau Adfer Strategol, a nodir ar dudalennau 326 a 327 yr agenda.  

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i’r holl staff am eu gwaith rhyfeddol trwy gydol y pandemig.

Manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i bwysleisio i bawb mor bwysig oedd cadw  at y rheolau. Apeliodd i’r cyhoedd, petai’r gwasanaeth Profi ac Olrhain yn cysylltu, i ddilyn y cyswllt hwnnw gan y buoch mewn cysylltiad â rhywun a brofodd yn bositif am covid-19.  Mae’r gwasanaeth yn gyfrinachol, ac ni fydd pobl yn cael eu barnu, ond y mae’n gam pwysig i geisio atal y clefyd hwn.

Diolchodd yr Arweinydd i’r holl staff, partneriaid a chynghorwyr am gefnogi cymunedau a gwasanaethau. 

Addawodd yr Arweinydd ddiweddariad pellach ar gynnydd y Cyngor yng nghyfarfod nesaf y Cabinet. 

Penderfyniad:

 

Pleidleisiodd a chytunodd y Cabinet yn unfrydol â’r adroddiad

 

11.

Adroddiad diweddaru Brexit pdf icon PDF 152 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad am baratoadau’r Cyngor ar gyfer Brexit a’r trafodaethau masnach presennol rhwng Llywodraeth y DU a’r UE.

 

Ategodd yr adroddiad y wybodaeth roddwyd i gyfarfodydd blaenorol y Cabinet, sef bod y DU ar 31 Ionawr wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol a dod i gyfnod trosiannol i drafod trefniadau masnach a’r berthynas yn y dyfodol gyda’r UE.

Dros y naw mis diwethaf, bu’r wlad a’r Cyngor hwn yn canolbwyntio ar eu hymateb i Covid-19. Trwy gydol y cyfnod hwn,  mae Llywodraeth y DU wedi parhau i drafod gyda’r UE. Erys canlyniadau’r trafodaethau hyn yn gryn risg i Gymru ac i Gasnewydd. 

Mae gan Lywodraeth y DU a’r UE tan 31 Rhagfyr 2020 i ddod â’r trafodaethau i ben, a dywedodd Llywodraeth y DU yn gyhoeddus nad oes bwriad i ymestyn y trafodaethau y tu hwnt i’r dyddiad hwn.

Gyda llai na deufis ar ôl, mae risg yn awr y bydd y DU yn dibynnu ar dariffau Sefydliad Masnach y Byd (WTO) ac efallai y bydd angen rhoi gofynion rheoleiddio newydd ar waith i reoli trefniadau mewnforio ac allforio.

Ym Medi cyflwynodd Llywodraeth y DU Fesur y Farchnad Fewnol sydd yn gosod y rheolau ar gyfer gweithredu’r farchnad fewnol yn y DU rhwng Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi 31 Rhagfyr 2020.

Bydd y Mesur hwn yn rhoi mwy o ryddid i’r cenhedloedd datganoledig wrth osod polisïau, ond mae risgiau y ceir rhwystrau rheoleiddio newydd. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd wedi lleisio pryderon am y Mesur.

Rhoddodd yr adroddiad ddiweddariad am y cynnydd a wnaed gan Gr?p Gorchwyl a Gorffen Brexit y Cyngormae crynodeb o hyn yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Yr oedd yr adroddiad am i’r Cabinet gytuno i gynnwys yr adroddiad ac i dderbyn diweddariadau rheolaidd wrth i gynnydd gael ei wneud trwy’r cyfnod trosi.

Penderfyniad:

 

Pleidleisiodd a chytunodd y Cabinet yn unfrydol â’r adroddiad ac i dderbyn diweddariadau rheolaidd wrth i gynnydd gael ei wneud trwy’r cyfnod trosi.

 

12.

Rhaglan Wraith pdf icon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Raglen waith y Cabinet.

 

Penderfyniad:

 

Cytunodd y Cabinet ar y rhaglen wedi ei chyfoesi.

 

 

 

13.

Digwyddiad byw