Agenda and minutes

Cabinet - Dydd Mercher, 16eg Rhagfyr, 2020 4.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Tracy Richards , Cabinet Office Manager  E-bost: Cabinet@newport.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Cofnodion:

Nid oedd ymddiheuriadau.

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

 

3.

Cofnodion y cyfarfod diweddaf pdf icon PDF 194 KB

Cofnodion:

Cadarnhawydcofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2020 fel rhai cywir.

 

4.

Adroddiad Monitro Rheolaeth Trysorlys pdf icon PDF 348 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan roi gwybod i’r Cabinet am weithgareddau Rheoli Trysorlys am hanner cyntaf y flwyddyn hyd at 30 Medi 2020.  Adroddiad oedd yn edrych yn ôl ydoedd, ac yn cadarnhau fod y Cyngor yn dal i ddilyn ei strategaeth o gynnal isafswm buddsoddiadau, yn hytrach na chymryd benthyciadau tymor-hir allan.

 

Dangosodd yr adroddiad, yn hanner cyntaf y flwyddyn, y bu gostyngiad mewn benthyca net o ddiwedd Mawrth o £153.8 miliwn i £121.1 miliwn.  Y prif reswm oedd ad-dalu benthyciadau ychwanegol y Cyngor ar ddiwedd Mawrth i dalu am grantiau busnes ar ddechrau’r pandemig.

 

TaloddLlywodraeth Cymru hefyd y grant cynnal incwm yn hanner cyntaf y flwyddyn, ac arweiniodd hyn at lif arian positif. I symud i ail hanner y flwyddyn, rhagwelir  y bydd lefel y buddsoddiadau yn cwympo i’r isafswm, a all arwain at fwy o fenthyca tua diwedd y flwyddyn ariannol.

 

O ran y buddsoddiadau, gyda’r hinsawdd economaidd presennol a’r ansicrwydd, y flaenoriaeth oedd diogelwch yn hytrach nag elw, ac yr oedd y buddsoddiadau yn rhai tymor-byr ac yn bennaf gyda llywodraeth leol neu lywodraeth y DU, oedd yn cael eu hystyried yn ddiogel.

 

Bu’radroddiad at y Pwyllgor Archwilio i’w nodi a rhoi sylwadau, ac y mae’r rhain wedi eu cynnwys yn yr adroddiad i’w hystyried.

 

Yn gyffredinol, cadarnhaodd yr adroddiad fod y terfynau a’r dangosyddion yn unol â’r strategaethau a gymeradwywyd. 

 

Gofynnwydi’r Cabinet nodi a gwneud unrhyw sylwadau cyn i’r adroddiad fynd at y Cyngor llawn i’w gymeradwyo.

 

Penderfyniad:

·        Mae’r Cabinet wedi nodi ac am wneud sylwadau cadarnhaol i’r Cyngor am y gweithgareddau a amlinellir yn yr adroddiad am y cyfnod hyd at 30 Medi 2020.

·        Nododd y Cabinet sylwadau’r Pwyllgor Archwilio am yr adroddiad.

 

5.

Diweddariad ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol Chwarter 2 pdf icon PDF 195 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Arweinydd ddiweddariad i’r Cabinet am GofrestrRisg Gorfforaethol y Cyngor am ddiwedd Chwarter dau (30 Medi 2020).

 

Gofynnwydi’r Cabinet ystyried cynnwyd yr adroddiad a nodi newidiadau i’r risgiau yn y GofrestrRisg Gorfforaethol.

 

Mae Polisi Rheoli Risg y Cyngor a’r Gofrestr Risg Gorfforaethol yn galluogi’r weinyddiaeth hon a’r swyddogion i nodi, rheoli a monitro yn effeithiol y risgiau hynny a allai atal y Cyngor rhag cyrraedd ei amcanion yn y Cynllun Corfforaethol (2017-22) a chyflawni ei ddyletswyddau statudol fel awdurdod lleol.

 

Byddai’radroddiad risg Chwarter dau hefyd yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Archwilio’r Cyngor yn Ionawr 2021 i adolygu prosesau rheoli risg a threfniadau llywodraethiant y Cyngor.

 

Yn dilyn cyflwyno chwarter un y GofrestrRisg Gorfforaethol, croesawodd Pwyllgor Archwilio’r Cyngor yr adroddiad a chydnabod effaith pandemig Covid-19 ar gyflwyno gwasanaethau’r Cyngor.

 

Gofynnwydi Bwyllgor Archwilio’r Cyngor am i gamau lliniaru gael eu cynnwys yn y gofrestr ac yn adroddiad y chwarter hwn, a gwnaed hyn.

 

Yr oedd diweddariad yr adroddiad yn nodi 56 risg a gofnodwyd ar draws wyth maes gwasanaeth y Cyngor. Cafodd y risgiau mwyaf arwyddocaol (Risgiau Coch), i gyflwyno gwasanaethau’r Cyngor a chyrraedd ei Amcanion Corfforaethol eu hanfon i GofrestrRisg Gorfforaethol y Cyngor.

 

Esboniodd yr Arweinydd yn fanylach y ffigyrau risgiau difrifol i ganolig ar ddiwedd chwarter dau, yn ogystal â’r risgiau a’r ansicrwydd posib oherwydd trafodaethau Brexit. Dywedodd yr Arweinydd fod gofyn i Aelodau’r Cabinet gytuno â chynnwys Adroddiad Risg Chwarter 2 a pharhau i fonitro cynnydd y camau a gymerwyd i leihau effaith y risgiau yn yr adroddiad.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd sylwadau gan aelodau’r Cabinet.

 

Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at Risg 5, clefyd marwolaeth yr ynn, yr effeithiau enbyd ar goed, a’r gwaith a wnaed ar hyd Ffordd Caerllion.   Yr oedd trafodaethau priodol yn cael eu cynnwys gyda LlC, a byddai’r Cyngor yn monitro ardaloedd eraill wrth i amser fynd heibio. Llongyfarchodd yr Arweinydd y tîm am eu gwaith rhagorol yn cwympo’r coed ar hyd Ffordd Caerllion.

 

Penderfyniad:

Ystyriodd y Cabinet gynnwys diweddariad y GofrestrRisg Gorfforaethol.

 

6.

Archwilio Cymru - Archwiliad o Asesiad Cyngor Dinas Casnewydd o berfformiad 2019-20 (Tystysgrif Cydymffurfiaeth 2) pdf icon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad gan ddweud mai dyma’r ail DystysgrifCydymffurfio a gyhoeddwyd gan Archwilio Cymru yn ôl gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

 

Archwilio Cymru oedd Archwilwyr Allanol y Cyngor, ac y mae ganddynt ddyletswydd i sicrhau fod cyrff cyhoeddus fel Cyngor Casnewydd yn meddu ar y trefniadau angenrheidiol i sicrhau darbodaeth, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd wrth ddefnyddio ei adnoddau i gyflwyno gwasanaethau’r Cyngor.

 

Fel rhan o’r Mesur Llywodraeth Leol, yr oedd gofyn i Gyngor Casnewydd gyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol am y flwyddyn ariannol flaenorol (2019/20) yn 31 Hydref.

 

I gwrdd â’r gofyniad hwn, cadarnhaodd y Cabinet Adroddiad Blynyddol y Cyngor am 2019/20 yn eu cyfarfod ym mis Hydref, a’i gyhoeddi wedyn ar wefan y Cyngor.

 

CyhoeddoddArchwiliwr Cyffredinol Cymru’r ail Dystysgrif Cydymffurfio yn cydnabod fod y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau dan adrannau 15(2), (3), (8) a (9) y Mesur.

 

Yr oedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu’r adolygiadau archwilio oedd i’w cwblhau yn 2019/20 a 2020/21 ar wasanaethau a gyflwynwyd gan Gyngor Casnewydd a hefyd ystyried yr adolygiadau cenedlaethol o wasanaethau sy’n cael eu cyflwyno gan gynghorau ledled Cymru.

 

Cydnabu’r Cabinet y gwaith a wneir gan Archwilio Cymru i roi’r sicrwydd angenrheidiol, a lle bo angen, argymhellion i wasanaethau wella yn barhaus.

  

Cynigiodd yr Arweinydd fod y Cabinet yn derbyn y casgliad yn ail Dystysgrif Cydymffurfio yr Archwiliwr Cyffredinol.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd sylwadau gan aelodau’r Cabinet.

 

Diolchodd y Cynghorydd Harvey i’r staff, gan ddweud ei fod yn deyrnged i’w gwaith caled eu bod yn dal i amddiffyn trigolion Casnewydd.

 

Penderfyniad:

Nododd y Cabinet ddeilliant cadarnhaol y Dystysgrif Cydymffurfio o ran cwrdd â’i ddyletswydd statudol dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

 

7.

Adroddiad Diogelu Corfforaethol Blynyddol pdf icon PDF 160 KB

Cofnodion:

Nidoedd yr adroddiad yn cyd-fynd ag amserlen swyddogaethau’r Cabinet yn 2019/20 oherwydd y mesurau Covid-19 a osodwyd ym Mawrth 2020 pan oed di fod i’w gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu a’r Cabinet. 

 

Daliwydi wneud cynnydd gyda phrosesau Diogelu yn y Cyngor trwy gydol y cyfnod clo, a chwblhawyd y gwaith a gynlluniwyd. Er enghraifft, mae’r pencampwyr diogelu yn awr yn eu lle yn y Cyngor ac yn cwrdd yn rhithiol ar hyn o bryd.

 

Newidiadau deddfwriaethol eraill fyddai weddi bod yn her i’r cyngor a’r gweithlu oedd newid Camau Diogelu Amddifadu o Ryddid i gamau Diogelu gwarchod Rhyddid oedd i fod i’w gweithredu ym mis Hydref 2020 ac a gafodd eu gohirio tan fis Mawrth 2022. Byddai hyn yn galluogi’r consortiwm rhanbarthol i gynllunio, a hyfforddi’r gweithlu yn barod at y newidiadau mewn arfer.

 

Derbyniodd y Pwyllgor Craffu yr Adroddiad Blynyddol llawn ar Ddiogelu Corfforaethol ar 30 Hydref 2020, gyda’r caveat fod cynnydd yn cael ei wneud yn y misoedd wedyn, a’r adroddiad hwn sydd yn awr yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet.

 

Dywedwydwrth y pwyllgor, er mwyn sicrhau a gwella atebolrwydd am drefniadau diogelu corfforaethol ledled Cyngor Dinas Casnewydd, y byddai’r holl adroddiadau yn y dyfodol i’r pwyllgor craffu yn cynnwys y wybodaeth isod:

 

Cyfresledled y cyngor o berfformiad a gwybodaeth yn ôl argymhellion SAC: cyflwyno MesuriadauPerfformiad Allweddol y llywodraeth yn benodol ar gyfer diogelu, dangosyddion/mesuriadau lleol gan dimau’r Uned Ddiogelu, a chyflwyno unrhyw risgiau/heriau a nodwyd sydd yn debygol o ddod i ran yr awdurdod, a’r camau i liniaru’r risgiau hyn. 

 

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn dal yn aelod gweithredol o Fwrdd Diogelu Gwent, sef cyfuniad o ddau fwrdd rhanbarthol blaenorol: Bwrdd Diogelu Plant De Ddwyrain Cymru (SEWSCB) a Bwrdd Diogelu Oedolion Gwent (GWASB). Mae   Casnewydd yn dal i gynnal y tîm rhanbarthol Trais yn erbyn Menywod, Camdriniaeth Ddomestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) ac yn gweithio’n agos gyda’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (VAWDASVB).

 

Amlygwydhefyd y cynigion ar gyfer 2019/20 ac ystyriwyd y dewisiadau, sef:

 

1.     Y Cyngor i synied am hyfforddiant diogelu fel cyfrifoldeb y gwasanaethau cymdeithasol yn unig.

 

2.     Y Cyngor i gydnabod pwysigrwydd cael gweithlu gwybodus a chyfrifol sy’n ymwybodol o’r gofynion deddfwriaethol o ran diogelu dinasyddion wrth gynrychioli’r cyngor.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i gyflwyno’r adroddiad.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet fod gan bawb gyfrifoldeb diogelu, a darllenodd Ddatganiad y Cyngor, oedd wedi ei anfon at yr holl staff, yn amlygu eu dyletswydd o ofal.

 

Yr oedd yr Aelod Cabinet yn falch o hysbysu’r Cabinet, oherwydd y cynllun peilot llwyddiannus yng Nghasnewydd, y byddai’r model hyfforddi hwn yn cael ei weithredu ledled Cymru.

 

Penderfyniad:

Adolygodd y Cabinet gynnydd y gwaith blaenoriaeth allweddol o ran trefniadau diogelu corfforaethol a gwaith diogelu timau penodol fel y’u nodwyd yn 2019/20.

 

 

8.

Adroddiad Blynddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 138 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl i roi’r adroddiad.

 

Nodwydfod 2019/20 yn flwyddyn arall drom, a nodweddwyd gan gynnal ansawdd a safonau gwasanaeth, a dechrau pandemig Coronafirws.

 

I gydnabod yr angen i ymateb i’r pandemig, ataliodd Llywodraeth Cymru y gofyniad i adrodd am ffigyrau diwedd blwyddyn, felly nid oedd yr holl ddata ar gael. Cafodd fframwaith perfformiad oedd i fod yn ei le o Ebrill 2020 ymlaen hefyd ei ohirio, ond byddai’r mesurau yn eu lle erbyn Ebrill 2021. Yn ystod 2021/22 bydd y Cyngor yn gwneud y newidiadau angenrheidiol i brosesau cofnodi ac adrodd er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu’n llawn.

 

Nodweddwyd y flwyddyn gan gryn gynnydd yn y galw am wasanaethau plant ac oedolion. Yr oedd niferoedd asesiadau i fyny o 2,245. Yr oedd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 yn parhau i ddylanwadu ar ddarpariaeth gwasanaethau ymyriad cynnar ac ataliol, a’r gwaith arferol.

 

Mae’ramcanion lles yn gwau trwy holl waith y Gwasanaethau Cymdeithasol, ac yn gysylltiedig â  Chynllun Corfforaethol y Cyngor, sef:

·        Gwellasgiliau, deilliannau addysgol a chyfleoedd am waith.

·        Galluogipobl i fod yn iach, annibynnol a gwydn.

·        Adeiladucymunedau cydlynus a chynaliadwy.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i Chris Humphrey am weithredu fel Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Pobl, ac aeth ymlaen i roi’r ffigyrau a ganlyn sy’n dangos y bu cynnydd sylweddol pellach yn 2019/20 yn y galw am wasanaethau:

·        4,038 asesiad oedolion  - Nifer wedi cynyddu o 891 (3147 yn 2018/19)

·        5,944 asesiad plant - Niferwedi cynyddu o 919 (5025 yn 2018/19)

·        188 asesiad gofalwyr - Nifer wedi cynyddu o 135 (71 yn 2018/19)

·        3,000 cyfeiriad am gefnogaeth tai – Nifer wedi cynyddu o 300  (2,700 yn 2018/19)

 

Gwnaedymdrechion parhaus yn ystod y flwyddyn i leihau costau, nodi arbedion a gwella gweithio integredig rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Cafodd gwasanaethau eu haddasu i bandemig Coronafirws er mwyn sicrhau cysondeb, ond yr ydym yn dal yng nghanol argyfwng iechyd cyhoeddus ac yn ansicr am effeithiau tymor canol i dymor hir y pandemig.

 

Sylwadau’r Cabinet:

 

Dywedodd y Cynghorydd Harvey fod y berthynas rhwng y staff a’r bobl ifanc yn un gynnes, a bod plentyn mewn gofal wedi diolch i’r tîm am eu gofal rhagorol. Yr oedd cam-fanteisio ar blant yn digwydd yng Nghasnewydd a soniodd fod staff Cyngor Dinas Casnewydd ar lefel uchel iawn pan ddaw’n fater o ofal proffesiynol i blant Casnewydd.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Aelod Cabinet am ei ymroddiad i’r gwasanaethau, yn ogystal â diolch i Chris Humphrey, Cyfarwyddwr Interim Gwasanaethau Cymdeithasol, am ei gwaith caled cyson. Soniodd yr Arweinydd fodd bynnag fod y staff dan bwysau, a bod eu hagwedd o ganolbwyntio ar atebion yn cael ei werthfawrogi’n arw, yn enwedig dros y flwyddyn a aeth heibio, a chynigiodd ei diolch diffuant.  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Cymeradwyo Argymhelliad RR DA ar gyfer Ymgynghori pdf icon PDF 197 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet a oedd eisoes yn ymwybodol fod y Cyngor wedi cadarnhau Adroddiad Monitro Blynyddol y CDLl ym mis Hydref, oedd wedi caniatáu i ni adolygu ein CDLl.  Creu Adroddiad Arolygiad a Chytundeb Cyflwyno oedd y camau nesaf tuag at gyflwyno CDLl newydd.

 

Yr oedd yr Adroddiad Arolygiad a Chytundeb Cyflwyno ar hyn o bryd ar ffurf drafft, a gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo’r dogfennau ar gyfer ymgynghori cyhoeddus yn cychwyn ym mis Ionawr.  Byddid yn adrodd yn ôl ar sylwadau a newidiadau arfaethedig  i’r Cabinet ym Mawrth 2021, ac os byd hyn yn foddhaol, bydd yn mynd gerbron y Cyngor llawn yn Ebrill 2021. Mae cymeradwyo gan y Cyngor llawn yn golygu y bydd y dogfennau yn cael eu hanfon at Lywodraeth Cymru, ac wedi iddynt hwy eu derbyn, bydd y broses o adolygu’r CDLl yn dechrau yn gyfreithiol.

 

Mae’rdrafft o Adroddiad Arolygiad yn gosod allan y newidiadau mewn polisïau a deddfwriaeth genedlaethol ers mabwysiadu’r CDLl yn Ionawr 2015, yn fwyaf amlwg, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Ebrill 2015) a’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol oedd ar y gweill, dan y teitlCymru’r Dyfodol’.  Yr oedd y rhain yn newidiadau polisi pwysig, yn enwedig nodi Casnewydd fel ardal o dwf cenedlaethol.

 

Yr oedd yr adroddiad yn crynhoi prif ganfyddiadau’r pum Adroddiad Monitro Blynyddol blaenorol, yn asesu’r CDLl presennol ac yn nodi lle bydd angen newid, er enghraifft:

·        Byddangen safleoedd datblygu newydd

·        Efallai y bydd angen adolygu polisi manwerthu i adlewyrchu’r newid yn narlun manwerthu

·        Efallai y bydd angen cryfhau’r polisïau ar ynni adnewyddol, newid hinsawdd ac ansawdd aer wrth i ni symud tuag at safbwynt mwy cynaliadwy a charbon niwtral.

 

Byddaiymgynghori cyhoeddus ar y drafft o Adroddiad Arolygiad  yn help i nodi barn trigolion a rhanddeiliaid am y CDLl a pha bolisïau ddylai gael eu hadolygu.

 

Pwrpas yr adroddiad oedd cytuno i lansio’r ymgynghoriad ar yr adroddiad arolygiad, ac yr oedd yr Arweinydd yn falch o argymell hyn i’r Cabinet.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Cynaliadwy i siarad.

 

Yr oedd yr Aelod Cabinet yn cefnogi symud i gyfnod nesaf yr ymgynghoriad cyhoeddus, oedd yn hanfodol er mwyn bwydo i mewn i ddatblygiad y cynllun. Er oed yn edrych ymlaen at glywed adborth y cyhoedd yng nghyfarfod y Cabinet ym Mawrth 2021.

 

Penderfyniad:

Cymeradwyodd y Cabinet y drafft o adolygiad ar gyfer ymgynghori cyhoeddus.

 

 

10.

Ymgynghoriad ar Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). pdf icon PDF 142 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet.  Strwythur llywodraeth leol ar hyn o bryd yng Nghymru yw 22 cyngor sir a bwrdeistref sirol (“prif gynghorau”), ac fe’u sefydlwyd yn 1996 trwy Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994.

 

Dros y blynyddoedd diwethaf, bu nifer o adroddiadau, comisiynu ac ymgynghori ar bapurau gwyn, gyda’r nod o ddiwygio strwythur llywodraeth leol, cryfhau atebolrwydd democrataidd a chael mwy o amrywiaeth o ran cynrychiolaeth.

 

Yn 2019 cyflwynodd Llywodraeth Cymru Fil LlywodraethLeol ac Etholiadau (Cymru). Bwriad y Bil oedd diwygio’r fframwaith deddfwriaethol o ran trefniadau etholiadau llywodraeth leol, democratiaeth, perfformiad a llywodraethiant. Rhagwelir y byd dy Bil yn derbyn y Cydsyniad Brenhinol yn gynnar yn 2021 mewn pryd ar gyfer etholiadau lleol 2022.

 

Yr oedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o’r Bil ac yn cynnig ymateb i’r ymgynghoriad am sefydlu Cydbwyllgorau Corfforaethol.

 

Trosolwgo’r Bil

Y mae hwn yn ddarn helaeth o ddeddfwriaeth, felly amlygwyd crynodeb o rai o’r pwyntiau allweddol:

 

Rhan 1 Etholiadau

Rhan 2 P?er Cymhwysedd Cyffredinol

Rhan 3 – Hyrwyddo Mynediad at Lywodraeth Leol

Rhan 4 – Prif Weithredwyr, Aelodau, Swyddogion a Phwyllgorau Llywodraeth Leol

 

Rhan 5 – Gweithio Cydweithredol gan Brif Gynghorau:

Yr oedd hyn yn canoli ar greu cydbwyllgorau corfforaethol (CBC) i ddau neu fwy o brif gynghorau gyflawni swyddogaethau penodol.

Gellir gweld y CBC hyn fel esblygiad o’r trefniadau rhanbarthol presennol megis y Fargen Ddinesig, consortia gwella ysgolion a threfniadau cynllunio a thrafnidiaeth rhanbarthol.

 

Byddai CBC yn ffurf newydd ar gorff llywodraethiant, sef arweinyddiaeth ddemocratiaeth awdurdodau lleol yn ei ardal, yn hytrach na phwyllgorau traddodiadol.

 

Rhan 6 – Perfformiad a Llywodraethiant Prif Gynghorau:

Bydd yr adran hon yn destun adroddiad pellach i’r Cabinet.

 

Rhan 7 ymlaen:

Mae’r Bil hefyd yn rhoi i brif gynghorau gyfle i gyfuno yn wirfoddol.

 

O ran cyllid llywodraeth leol, cyflynodd y Bil fesurau newydd am ardrethi annomestig.

 

Yr oedd hefyd nifer o ddarpariaethau amrywiol, yn cynnwys rhannu gwybodaeth rhwng rheoleiddwyr, ac uno a dad-gyfuno Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Effaithar Gyngor Dinas Casnewydd ac ymateb i’r ymgynghoriad

Byddaicydweithwyr yn ymwybodol fod seminar i’r holl aelodau wedi ei chynnal ac y mynegwyd amrywiaeth o safbwyntiau.

 

Cafodd y rhain eu hystyried yn ofalus yn y drafft o ymateb i’r ymgynghoriad, ac y mae ar gael fel Atodiad i’r adroddiad.  Y pwyntiau allweddol oedd:

·        Yr oedd y bwriad i roi p?er cymhwysedd cyffredinol i lywodraeth leol o gymorth, er y gall y defnydd ohono fod yn gyfyngedig yn ymarferol.

·        Croesawodd yr Aelodau y bwriad i ymestyn yr etholfraint i rai 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor, sy’n adlewyrchu egwyddor ymwneud. Yr oedd hyn hefyd yn unol â’n Haddewid i Bobl Ifanc, er y gellid cydnabod y gall y cynigion i newid y drefn bleidleisio fod yn ddryslyd i’r etholwyr.

·        Yr oedd gan  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Adferiad COVID-19 - Diweddariad pdf icon PDF 267 KB

Cofnodion:

Rhoddodd yr Arweinydd ddiweddariad ar gynnyddCyngor Casnewydd a’u partneriaid i gefnogi’r ddinas i gydymffurfio â’r cyfyngiadau angenrheidiol a pharhau i gefnogi cymunedau Casnewydd fel rhan o Nodau Adfer Strategol y Cyngor.

 

Erscyflwyno’r adroddiad diwethaf i’r Cabinet ym mis Tachwedd, gwelodd y Cyngor gryn gamau gyda chyflwyno’r brechiad ledled y genedl, ond yr oedd Covid-19 yn dal i effeithio ar lawer o deuluoedd, cymunedau a busnesau.

 

Bydd Covid-19 yn parhau i fod yn amlwg ledled  cymunedau Casnewydd dros y gaeaf. 

 

·        Mewnymateb, rhoes Llywodraeth Cymru fwy o gyfyngiadau ar waith yn ystod mis Rhagfyr.  Mae hyn yn golygu bod y Cyngor wedi cadw mesurau pellter cymdeithasol ar gyfer aelwydydd, a mwy o gyfyngiadau ar sector adloniant dan do a lletygarwch y ddinas.

·        Yr ydym yn deall rhwystredigaethau a phryderon y sectorau adloniant a lletygarwch gyda’r mesurau hyn ar adeg sydd fel arfer y prysuraf yn y flwyddyn.  Ond rhaid i iechyd a lles y gymuned ehangach a’r mwyaf bregus fod ar flaen ein meddyliau.

·        AnogoddArweinydd Cyngor Casnewydd yn gryf yr holl fusnesau yr effeithiwyd arnynt i geisio’r gefnogaeth ariannol angenrheidiol ac ymgeisio am y grantiau a gynigir gan Lywodraeth Cymru. 

·        Adleisiodd y Cyngor ddatganiadau Llywodraeth Cymru a gwyddonwyr blaenllaw i aelwydydd barhau i gadw pellter cymdeithasol yn y cyfnod hwn, ac arfer synnwyr cyffredin i ddiogelu aelodau mwyaf bregus eu teuluoedd. 

·        Bydd y llwybr at adferiad yn un anodd, ac ni ddylem anghofio’r sawl a drawyd gan y clefyd a’r mesurau a gymerwyd  i gyfyngu ar ymlediad ar draws cymunedau.

·        Tynnodd Covid-19 sylw at yr anghydraddoldeb sy’n bodoli mewn cymdeithas, a’r gwaith y mae’n rhaid i’r Cyngor a’n partneriaid wneud er mwyn i Gasnewydd fod yn lle teg i bawb fyw, gweithio a ffynnu yn awr ac yn y dyfodol.

·        Colloddllawer o bobl eu swyddi, effeithiwyd ar addysg plant a phobl ifanc, mae busnesau wedi cau a dioddefodd cymunedau ymylol waethaf o Covid-19.

 

Fel yr amlygwyd yn yr adroddiad, yr oedd swyddogion y Cyngor, mudiadau cefnogol a gwasanaethau cyhoeddus wedi parhau i gyflawni ledled Casnewydd.  Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at yr heriau a wynebir gan wasanaethau’r Cyngor, ond hefyd y llwyddiannau ar waethaf y problemau.

 

·      Mae llawer o ysgolion ar hyd a lled Casnewydd yn dal i adrodd am achosion positif ar draws gwahanol grwpiau blwyddyn. Bu’r ysgolion yn ymateb trwy sicrhau bod canllawiau Llywodraeth Cymru yn cael eu dilyn a thrwy ofalu fod pobl ifanc, plant a’u teuluoedd yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol i barhau i ddysgu gartref. 

·      Yr oedd y cynllun talebau archfarchnadoedd wedi parhau i gefnogi pobl ifanc a phlant ers hanner tymor mis Hydref, a bydd yn cynnal teuluoedd dros y Nadolig. 

·      Yr oedd Cyngor Casnewydd yn cwblhau bid am gynllun Kick-start yr AGPh i helpu i wella cyflogadwyedd  a siawns am waith i bobl yn y  gr?p oedran 16-24 sydd  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

12.

Adroddiad Diweddaru Brexit pdf icon PDF 151 KB

Cofnodion:

Adroddodd yr Arweinydd i’r Cabinet ar statws cyfredol y trafodaethau masnach rhwng Llywodraeth y DU a’r Undeb Ewropeaidd, a pharatoadau Cyngor Casnewydd am y trefniadau masnach wedi 31 Rhagfyr.

 

Ersadroddiad diwethaf y Cabinet ym mis Tachwedd, yr oedd Llywodraeth y DU a’r Undeb Ewropeaidd yn dal i drafod. Yr oedd llawer o ganlyniadau’r trafodaethau hyn allan o ddwylo Llywodraeth Cymru a’r Cyngor.

 

CyhoeddoddLlywodraeth Cymru eu Cynllun GweithreduDiwedd Trosioedd yn gosod allan feysydd blaenoriaeth i baratoi am 31 Rhagfyr a thu hwnt. 

 

Yn ychwanegol at y trafodaethau masnach, byddai rheolau mewnfudo newydd yn cael effaith ar drigolion sy’n byw neu’n dymuno byw/gweithio yn y DU.  

 

Yr oedd dinasyddion yr UE sy’n byw yng Nghymru a Chasnewydd (ac a oedd eisoes yn byw yn y DU cyn 31 Rhagfyr) hefyd yn cael eu hannog i wneud cais i Gynllun Statws Sefydlu yr UE cyn y terfyn amser o 30 Mehefin, ac yr oedd yr Arweinydd eisiau sicrhau dinasyddion yr  UE fod croeso iddynt fyw a gweithio yng Nghymru.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Drwyddedu a Rheoleiddio i ddweud gair.

 

Cytunodd yr Aelod Cabinet fod hwn yn amser anodd i flaengynllunio gan na chafwyd unrhyw gytundeb hyd yma. Yr oedd y swyddogion yn y gwasanaethau rheoleiddio ac amgylchedd yn aros am ganllawiau ar y Rheoliadau newydd wedi 31 Rhagfyr. Bydd angen hyfforddiant am y rhain, a’r hyn oedd yn gwneud pethau’n waeth oedd fod y gwasanaethau rheoleiddio hefyd yn gweithio ar y gwasanaethau Profi ac Olrhain, ac yr oedd eu hadnoddau dan straen fel yr oedd hi.

 

I gloi, gofynnodd yr Arweinydd i’r Cabinet dderbyn cynnwys yr adroddiad a derbyn diweddariadau rheolaidd wrth i bethau fynd rhagddynt mewn cyfnod trosiannol o ansicrwydd dybryd.

 

Penderfyniad:

Ystyriodd y Cabinet gynnwys yr adroddiad a nodi paratoadau’r Cyngor ar gyfer Brexit.

 

13.

Hamdden a Dysgu Canol y Ddinas pdf icon PDF 3 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i geisio caniatâd i ymgynghori ar gynllun am gyfleuster lles a hamdden newydd yng nghanol y ddinas. Yr oedd yr Arweinydd  yn llawn cyffro am gyflwyno’r adroddiad hwn ar gam nesaf cynlluniau uchelgeisiol y Cyngor ar gyfer canol y ddinas, sydd yn rhoi hamdden a dysgu wrth galon y ddinas.

 

Yr oedd Cynllun Meistr canol y ddinas a fabwysiadwyd yn Ionawr 2019 yn nodi mannau allweddol yn y ddinas fel lleoliadau blaenoriaeth ar gyfer adfywio, wedi eu cysylltu trwy ddefnydd cyffredin a sbardunau economaidd. Mae adfywio Ffordd yr Wysg yn hanfodol i graidd y ddinas.

 

Wrth galon y cynigion adfywio mae datblygu Chwarter Gwybodaeth Casnewydd, fyddai’n adleoli’r ddarpariaeth addysg bellach i ganol y ddinas, yn agos at y ddarpariaeth addysg uwch sydd yno eisoes. Yr oedd gwaith datblygu cynnar yn cael ei wneud gyda Choleg Gwent i symud eu campws o Heol Nash i ganol y ddinas, gan greu gwell cynnig dysgu yn ogystal â dwyn mwy o bobl i ganol y ddinas.

 

Yr oedd adeilad presennol Canolfan Casnewydd, a godwyd dros 35 mlynedd yn ôl, yn dioddef o amrywiaeth o broblemau strwythurol a byddai angen buddsoddiad mawr i’w ddwyn i fyny i safonau modern. Wedi i’r ganolfan gau oherwydd cyfnod clo Covid  ac i’r pwll gael ei archwilio, gwelwyd fod angen buddsoddiad o hyd at £2.5 miliwn cyn i ardal y pwll gael ei ail-agor i’r cyhoedd. Wedi edrych yn fanylach ar yr adeilad yn ei gyfanrwydd, amcangyfrifwyd y byddai angen tua £9.1miliwn yn y tymor canol i gynnal y safle i fyny i safonau gweithredu. Nid oedd adeilad presennol Canolfan Casnewydd yn effeithlon nac yn gynaliadwy, ac yr oedd newidiadau mewn galw dros y degawdau yn golygu na allai bellach gystadlu â chyfleusterau modern.

 

Y cynnig felly oedd codi cyfleuster lles a hamdden newydd fyddai’n amgylcheddol gynaliadwy ac yn ynni-effeithlon ar safle tir llwyd yn edrych dros Afon Wysg, gerllaw’r ganolfan bresennol. Byddai’r tir lle saif Canolfan Casnewydd yn awr yn cael ei ryddhau i hwyluso adleoli campws addysg bellach Coleg Gwent i ganol y ddinas. Fel rhan o’r cynigion am gyfleuster lles a hamdden newydd, byddid yn croesawu barn trigolion a rhanddeiliaid er mwyn sicrhau y byddai’r datblygiad yn rhoi cynllun uchelgeisiol, addas at y diben, ac a oedd yn adlewyrchu anghenion ein.

 

Cost gwella Canolfan Casnewydd oedd £2.5M am do’r pwll nofio, gyda £9.1M o waith cynnal a chadw ehangach ei angen dros y tymor canol. Yr oedd dau ddewis i’w hystyried:

 

·        Dewis 1   Pwll mwy, ond cyfleusterau chwaraeon llai

·        Dewis 2 - Pwll llai, ond neuadd amlbwrpas

 

Yr oedd y naill a’r llall yn cynnig pwll nofio modern, ystafelloedd ffitrwydd, ystafelloedd newid i’r teulu, gardd do a chaffi, a byddai’r datblygiad arfaethedig hefyd yn rhoi:

·        BREAM rhagorol gyda chysylltiadau teithio lleso

·        Coleg Gwent i gau Nash a’i ryddhau ar gyfer tai. Ni fyddai unrhyw darfu ar ddysgu.

·        2,000 o fyfyrwyr ar y safle newydd

·        Cost £19.7M

·        Cyllidwyr trwy £8.2M o arbedion gweithredol, £7M TRI, £4.5M benthyca  ...  view the full Cofnodion text for item 13.

14.

Rhageln Waith pdf icon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hwnoedd adroddiad misol rheolaidd y Cabinet am y rhaglen waith. Gofynnodd yr Arweinydd i’r Cabinet dderbyn y rhaglen a gyfoeswyd.

 

Penderfyniad:

Cytunodd y Cabinet ar y rhaglen a gyfoeswyd.

 

15.

Rhaglen Waith

To consider whether to exclude the press and public during consideration of the following item on the grounds that its consideration involved the likely disclosure of exempt information as defined in the Local Government Act 1972 and the exemption outweighs the public interest in disclosure.

 

Cofnodion:

Ystyried a ddylid eithrio’r wasg a’r cyhoedd wrth ystyried yr eitem a ganlyn ar y sail fod ei ystyried yn golygu posibilrwydd datgelu gwybodaeth a eithriwyd fel y’i diffinnir yn Neddf Llywodraeth Leol 1972 a bod yr eithriad yn gorbwyso datgeliad budd y cyhoedd.

 

16.

Trefniadau Pensiwn Trafnidiaeth Casnewydd Cyfyngedig

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Harvey ddiddordeb, a gadael y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Cyflwynwydadroddiad i’r Cabinet yn amlinellu manylion am drefniadaupensiwn Trafnidiaeth Casnewydd Cyfyngedig.

 

Penderfyniad:

 

Ystyriodd y Cabinet a nodi’r materion allweddol a chytuno i’r cynigion yn yr adroddiad.