Agenda and minutes

Cabinet - Dydd Mercher, 10fed Mawrth, 2021 4.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Tracy Richards , Cabinet Office Manager  E-bost: Cabinet@newport.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Cofnodion:

Cynghorydd G Giles.

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 220 KB

Cofnodion:

Cymeradwywydcofnodion cyfarfod y cabinet ar 22 Chwefror fel rhai cywir.

 

4.

Polisi Tâl a Gwobrwyo pdf icon PDF 165 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr Adroddiad i’r Cabinet i’w ystyried. Yr oedd Polisi Tâl a Gwobrwyo’r Cyngor i’r gweithlu yn adroddiad blynyddol yr oedd angen i’r Cyngor ei fabwysiadu. Yr oedd y polisi yn gosod allan y mecanweithiau mewnol o ran talu swyddogion y Cyngor ac yn gwneud darpariaeth am unrhyw newidiadau ers ei fabwysiadu ddiwethaf. 

 

Cymeradwywyd y polisi ddiwethaf ym mis Tachwedd 2020 ac nid oedd unrhyw newidiadau yn cael eu cynnig iddo eleni. Fodd bynnag, tynnodd yr Arweinydd sylw at y bwlch tâl blynyddol rhwng y rhywiau fyddai hefyd yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor. Yr oedd yr Arweinydd yn falch o adrodd fod y bwlch tâl cymedrig wedi lleihau am yr ail flwyddyn i 1.92% o 3.6% llynedd. 

 

Yng Nghyfarfod y Cabinet ym mis Tachwedd, adroddwyd fod y bwlch tâl cymedrig am 2019 wedi cau yn gyfan gwbl, gan i ddadansoddiad o’r data ddangos fod pwynt cymedrig tâl fesul awr yr un fath i ddynion a menywod. Bu newid bychan i hyn, ac yr oedd blwch tâl cymedrig o 0.57% am 2020.  Mae bwlch tâl y Cyngor rhwng y rhywiau yn dal i gymharu’n ffafriol â chyfartaledd Cymru a’r DU o 17%, ond byddai Casnewydd yn dal ati i ddileu’r bwlch tâl rhwng dynion a menywod a gyflogir gan y Cyngor.

 

Yr oedd y Cyngor wedi ymrwymo i gynnal archwiliadau tâl cyfartal bob tair blynedd. Byddai hyn yn cael ei wneud unwaith i’r bwlch tâl rhwng y rhywiau am 2021 gael ei sefydlu.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

Nododd y Cynghorydd Mayer y cynnydd da ar y bwlch tâl rhwng y rhywiau a’r cyflog byw gwirioneddol, oedd yn rhan o bolisi’r Cyngor, a mawr angen amdano. Yng ngoleuni’r toriadau dros y ddegawd ddiwethaf, gwnaeth y cyngor yn dda iawn i ymdrin â’r bwlch tâl rhwng y rhywiau a chynnal cyflogau’r staff yn ystod yr anawsterau o ran amodau tâl.

 

Canmolodd y Cynghorydd Rahman yr Aelod Cabinet, cydweithwyr a swyddogion am leihau’r bwlch tâl. Yr oedd yn werth nodi mai gan Gyngor Dinas Casnewydd  yr oedd un o’r bylchau tâl lleiaf rhwng y rhywiau o gymharu â’r rhan fwyaf o gynghorau yng Nghymru. Yr oedd hefyd yn cymharu’n ffafriol a’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 17%, ac o ystyried mai Cyngor Dinas Casnewydd oedd un o’r cyflogwyr mwyaf yng Nghasnewydd, byddai’n duedd gadarnhaol i fusnesau eraill. Yr oedd angen cyflog byw gwirioneddol i holl drigolion y wlad yn ogystal â Chasnewydd. 

 

Penderfyniad:

 

Fod y Cabinet yn cymeradwyo’r Polisi Tâl a Gwobrwyo a gyfoeswyd er mwyn cwrdd â’r gofyniad statudol am ddatganiad polisi tâl i’w gymeradwyo a’i gyhoeddi gan y Cyngor bob blwyddyn.

 

 

5.

Papur Gwyn LlC ac Ymgynghoriad - Ail-gydbwyso Gofal a Chymorth pdf icon PDF 163 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i Aelodau’r Cabinet. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn ar Ail-gydbwyso Gofal a Chymorthac yr oedd yn ymgynghori ar gynigion i gyflwyno deddfwriaeth newydd i wella trefniadau gofal cymdeithasol a chryfhau gweithio mewn partneriaeth er mwyn cyrraedd y weledigaeth a osodir allan yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014. 

 

Fel aelod o Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent, yr oedd yn bwysig i’r Cyngor gyfrannu at yr ymgynghoriad fyddai’n helpu i lunio a datblygu’r trefniadau partneriaeth yn y dyfodol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.

 

Bu cryn gynnydd wrth gyflwyno gwasanaethau gofal cymdeithasol (Oedolion a Phlant) dros y ddeng mlynedd ddiwethaf, gan drawsnewid cyflwyno gofal cymdeithasol trwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.  Yr oedd y naill Ddeddf a’r llall wedi eu hasio a’u llunio gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 oedd yn anelu at y nod llesCymru Iachach’ a chael system iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gweithio i bawb. 

 

Yr oedd pedwar o gynigion penodol yn y papur ymgynghori, sef:

 

1.   Datblygufframwaith comisiynu cenedlaethol fyddai’n safoni prosesau comisiynu gwasanaethau gofal gan gynnwys dull o bennu’r ffioedd a delir i ddarparwyr gofal yn y sectorau annibynnol a gwirfoddol.

2.   Sefydlu swyddfa gomisiynu gofal genedlaethol naill ai yn Llywodraeth Cymru neu trwy sefydlu corff bychan hyd-braich.

3.   Cyflwyno Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol a Gwaith Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru i fod yn llais cenedlaethol, proffesiynol i Weithwyr Gofal Cymdeithasol a Gweithwyr Cymdeithasol.

4.   SefydluByrddau Partneriaeth Rhanbarthol fel endidau corfforaethol cyfreithiol a chyfoethogi eu swyddogaethau fel bod PBRh yn gallu cyflogi staff yn uniongyrchol; sicrhau atebolrwydd tryloyw o ran cyllidebau sy’n cael eu cronni a chyd-gomisiynu gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd; dal cyllidebau integredig; comisiynu iechyd a gofal yn uniongyrchol trwy gytundeb â phartneriaid lleol; sefydlu fframwaith monitro cynllunio a pherfformiad ym mhob BPRh; a bod gofyniad i adrodd i Weinidogion Cymru ar gynnydd cyflwyno ar y cyd yn erbyn eu blaenoriaethau integredig.

 

Yr oedd yr ymgynghoriad a osodwyd allan gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ceisio barn am y cynigion i gyflwyno deddfwriaeth newydd i wella trefniadau gofal cymdeithasol a chryfhau  gweithio mewn partneriaeth. Yr oedd y Dirprwy Weinidog yn ceisio barn fyddai’n cael ei ystyried wrth ddatblygu unrhyw ddeddfwriaeth newydd, a rhaid oedd cyflwyno ymatebion erbyn 6 Ebrill 2021 fan bellaf. Yr oedd 12 cwestiwn yn yr ymgynghoriad yn ymdrin â phob agwedd o’r cynigion. Amlinellir ymateb arfaethedig y Cyngor i’r cwestiynau yn Atodiad 1. 

 

Gwahoddodd yr Arweinydd y Cyfarwyddwr CorfforaetholPobl/Pennaeth Gwasanaethau oedolion a Chymunedol i ddweud gair.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y papur yn gam sylweddol ymlaen i gyflwyno uchelgeisiau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles.  Y llinyn arian oedd yn rhedeg trwy hyn oedd mwy o integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol.  Yr oedd trafodaethau gyda chydweithwyr yn LlC hefyd yn dangos hyn, a hefyd  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Chwarter 3 2020/21 Diweddariad ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol pdf icon PDF 175 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr eitem nesaf i’r Cabinet, sef diweddariad ar GofrestrRisg Gorfforaethol y Cyngor am ddiwedd Chwater Tri (31 Rhagfyr 2020).

 

Gofynnwydi’r Aelodau ystyried cynnwys yr adroddiad a nodi’r newidiadau i Risgiau Corfforaethol y Cyngor.

 

Mae Polisi Rheoli Risg a Chofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor yn galluogi’r weinyddiaeth hon a’i swyddogion i fod yn effeithiol wrth nodi, rheoli a monitro’r risgiau hynny a allai atal y Cyngor rhag cyflawni ei amcanion yn y Cynllun Corfforaethol (2017-22) a chyflawni ei ddyletswyddau statudol fel awdurdod lleol.

Byddai’radroddiad risg Chwarter Tri yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio’r Cyngor ar ddiwedd Mawrth  i adolygu prosesau rheoli risg y Cyngor a’i drefniadau llywodraethiant.

 

Arderfyn chwarter tri, yr oedd gan y Cyngor 52 risg wedi eu cofnodi ar draws wyth maes gwasanaeth y Cyngor. Cafodd y risgiau hynny a bennwyd fel rhai’r mwyaf arwyddocaol o ran cyflwyno Cynllun Corfforaethol y Cyngor a’i wasanaethau eu codi i Gofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor er mwyn eu monitro. 

 

Arderfyn chwarter tri, cofnodwyd 18 risg ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol:

·        DegRisg Ddifrifol (15 i 25);

·        Chwe Risg Fawr (7 i 14); a

·        Dwy Risg Ganolig.

 

Cafodd un risg (Risg Pwysau ar Dai) ei chau yn chwarter tri gan iddi gael ei chyfuno gyda’r Risg Pwysau ar Ddigartrefedd (yn y GofrestrRisg Gorfforaethol).  Ymateb oedd hyn i’r cysylltiad agos rhwng y ddwy ardal risg a’r camau lliniaru yr oedd y maes gwasanaeth (gan gynnwys partneriaid) yn gymryd i gefnogi teuluoedd a phobl oedd angen tai fforddiadwy a diogel yn y ddinas. 

 

Hefyd, gwelodd chwarter tri yGofrestr Risg Gorfforaethol ddwy sgôr risg yn cynyddu, tair yn gostwng, ac yr oedd 13 risg yn dal ar yr un sgôr ag yn chwarter dau.

 

O ran y galw am ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ac Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) (Sgôr Risg 12 i 16), cynyddodd y sgôr risg hon o 12 i 16 am i’r gwasanaeth weld nifer cynyddol o ddisgyblion gydag anghenion cymhleth yn dod i’r ysgolion oherwydd y pandemig. Yr oedd ysgolion arbennig a chanolfannau Adnoddau Dysgu cynradd yn llawn, a byddai’r gr?p gweithredu ADY yn ailymgynnull yn y gwanwyn i adolygu cyllid AAA i ysgolion.

 

StadEiddo Cyngor Casnewydd (Sgôr Risg wedi cynyddu o 8 i 12).  Yr oedd partneriaid y Cyngor, Casnewydd Norse, wedi cynnal arolygon o gyflwr y stad weithredol ac wedi nodi mwy o weithiau lle’r oedd angen atgyweirio a chynnal cyflwr yr asedau.

 

Y cyfnod trosi wedi Brexit (Sgôr risg wedi gostwng o 16 i 12), yn dilyn cytundeb  masnach rhwng y DU a’r UE.   Er hynny, yr oedd risgiau yn y trefniadau wedi Brexit i sicrhau y byddai dinasyddion yr UE oedd yn byw yn y DU yn gwneud cais am Statws Sefydlu yr UE erbyn y terfyn amser o 30 Mehefin. 

 

Hefyd, yr oedd  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Diweddariad Adferiad Covid pdf icon PDF 188 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan ddweud mai diweddariad oedd hwn ar ymateb y Cyngor a phartneriaid i argyfwng Covid-19 trwy gefnogi’r ddinas, yn fusnesau a thrigolion, i gydymffurfio â’r cyfyngiadau presennol, a’r cynnydd gyda  Nodau Adfer Strategol y Cyngor.

 

Aeth blwyddyn heibio ers i Gasnewydd dderbyn cadarnhad o’i achos cyntaf o Covid-19, a bu’r ddinas wedyn dan rai mathau o gyfyngiadau Covid-19.

 

Oherwydd hyn, mae’r Cabinet a’r Cyngor dros y flwyddyn a aeth heibio wedi wynebu llawer penderfyniad anodd, wedi gweld anwyliaid yn colli eu bywydau, a rhai o’n dinasyddion mwyaf bregus a difreintiedig yn dioddef yn sgil yr argyfwng.

 

Gwelodd y Cyngor hefyd bobl Casnewydd ar eu gorau, yn mynd tu hwnt i’r galw i helpu eraill yn yr argyfwng, a lawer tro, bu’r Cyngor a’n partneriaid yn cefnogi pobl a busnesau ar hyd a lled Casnewydd.

 

Yn ymateb y Cyngor ac wrth adfer o’r argyfwng, mae pedwar Nod Adfer Strategol sydd yn sicrhau y gallwn fod mewn sefyllfa i ymateb i anghenion ein cymunedau a’n busnesau yn awr ac yn y dyfodol, megis:

 

·      Nod Adfer Strategol 1 – Cefnogi Addysg a Chyflogaeth;

·      Nod Adfer Strategol 2 – Cefnogi’r Amgylchedd a’r Economi;

·      Nod Adfer Strategol 3 – Cefnogi Iechyd a Lles Dinasyddion, a

·      Nod Adfer Strategol 4 – Cefnogi Dinasyddion wedi Covid-19.

 

Aeth unarddeg wythnos heibio bellach (20 Rhagfyr 2020) ers i Lywodraeth Cymru roi Cymru ar gyfyngiadau lefel Rhybudd Pedwar. Bu’r misoedd diwethaf yn anodd i ni i gyd, gydag effaith ar fywyd normal megis ymweld â ffrindiau a theuluoedd, plant a phobl ifanc yn mynd i’r ysgol, colegau a phrifysgol; a busnesau heb fod yn rhai hanfodol yn gorfod cau. 

 

Wrth i ni symud i’r gwanwyn ac i’r tywydd wella, yr oedd y Cyngor yn deall rhwystredigaeth a pharodrwydd pobl i ddychwelyd i fywyd normal. Er hynny, anogir pobl i gadw at y mesurau pellter cymdeithasol a chydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru i gadw’r gyfradd achosion mor isel ag sydd modd fel y gall y GIG adfer.

 

Diolchodd yr Arweinydd i Gasnewydd Fyw am eu cyfraniad gyda’r ganolfan frechu yng nghanol y ddinas.

 

Gyda chyflwyno’r brechiad, yr oedd dros 900,000 o bobl wedi derbyn eu dos gyntaf, ac y mae’r rhai dros 40 oed eisoes yn cael cynnig y brechiad. 

 

Anogodd yr Arweinydd drigolion Casnewydd i fanteisio ar y brechiad, ac annog cyfeillion a theuluoedd i wneud yr un peth er mwyn dychwelyd i sefyllfa normal mor fuan ag sydd modd.

 

Mae Cyngor Casnewydd a’u partneriaid yn cefnogi ysgolion wrth weld plant y Cyfnod Sylfaen yn dychwelyd, a gweddill y plant cynradd yn dod yn ôl ar 15 Mawrth. Mae’n bwysig fod rhieni a gwarcheidwaid yn helpu eu hysgolion trwy gadw at reolau pellter cymdeithasol ac adrodd mor fuan ag sydd modd am unrhyw achosion Covid posib. 

 

Mae economi Casnewydd wedi dioddef wrth i fusnesau gau, trigolion yn colli eu swyddi neu fod ar ffyrlo. Mae Cyngor Casnewydd a’u partneriaid wedi ymrwymo i gefnogi pobl i ddychwelyd i waith, ennill sgiliau a/neu ail-hyfforddi. Yr oedd y  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Diweddariad Brexit pdf icon PDF 135 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad Brexit i’r Cabinet, sef diweddariad ar gynnydd wedi Brexit / y trefniadau masnach ers 31 Rhagfyr 2020.

 

Ersadroddiad diwethaf y Cabinet, aeth naw wythnos heibio ers i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd (UE) a’r Farchnad Sengl yn swyddogol. Dan drefniant y cytundeb masnach tariff rhydd newydd, yr oedd gofyn i fusnesau, yn fewnforwyr ac allforwyr ar y naill ochr a’r llall gydymffurfio â’r trefniadau tollau newydd.

 

Dywedwydeisoes fod rhai busnesau yn cael trafferth i gwrdd â’r gofynion hyn, a chafwyd adroddiadau am fethu â chludo a/neu dderbyn nwyddau oherwydd y gwaith papur, a bod incwm yn gyffredinol wedi ei golli.

 

Er y rhagwelwyd y byddai peth tarfu yn y tymor byr, yn y tymor canol i’r tymor hir, yr oedd yn bwysig cefnogi busnesau er mwyn sicrhau bod hyn yn llai o faich arnynt.   

 

Yr oedd gwytnwch economaidd Casnewydd a De Ddwyrain Cymru at y dyfodol yn hollbwysig er mwyn sicrhau y gallai busnesau cyfredol a rhai newydd ffynnu yn gynaliadwy. Fel Cyngor, yr oedd yn bwysig hefyd ein bod yn hyrwyddoCynnig Casnewyddi entrepreneuriaid cynhenid yn ogystal â busnesau byd-eang.

 

Byddai bod ag economi amrywiol a chynaliadwy allai roi twf cynaliadwy yn galluogi  cymunedau Casnewydd nid yn unig igodi’r gwastadond hefyd i roi cyfleoedd i gymunedau ffynnu yn y tymor hir er budd cenedlaethau’r dyfodol yng Nghasnewydd. 

 

Dywedodd yr Arweinydd ei bod yn bwysig i’r Cabinet weithredu fel llais i Gasnewydd a gweithio gyda’u partneriaid (Dinas-Ranbarth Caerdydd, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, Porth y Gorllewin) i sicrhau y gallai cymunedau a grwpiau mwyaf difreintiedig Casnewydd fynd at y cyfleoedd hyn i godi’r gwastad, a galluogi Casnewydd i adfer o’r pandemig. 

 

Yr hyn oedd yn gwneud Casnewydd yn ddinas wych i fyw, gweithio ac ymweld â hi oedd ei chymunedau a’i grwpiau amrywiol. Byddai Casnewydd fel dinas yn  stad yn croesawu pobl o bob cenedl, waeth beth fo’u hil, eu rhywioldeb na’u crefydd. 

 

I ddinasyddion yr UE sydd eisoes yn byw yng Nghasnewydd, yr oedd yn bwysig iddynt hwy, aelodau eu teuluoedd a’u cyfeillion yn gwneud cais am Statws Sefydlu yr UE cyn 30 Mehefin 2021.

·        Yr oedd gan  Gyngor Casnewydd a Llywodraeth Cymru yr holl wybodaeth berthnasol i helpu trigolion i ymgeisio.

·        Yr oedd Cyngor Casnewydd yn gweithio gyda’u partneriaid i sicrhau fod pobl yn cael eu cefnogi trwy’r broses.  

 

Yr oedd yn dal yn bryder i Gyngor Dinas Casnewydd fod dinasyddion yr UE yn sôn am broblemau gyda’u hawliau, problemau gelyniaeth, a mynediad at arian cyhoeddus. Fel cynrychiolwyr wardiau Casnewydd, yr oedd yn bwysig fod y Cyngor yn cefnogi eu cymunedau.

 

Yr oedd tîm cyfathrebu Cyngor Casnewydd yn dal i rannu gwybodaeth Llywodraeth Cymru am y trefniadau masnach newydd, gofynion busnes a gwybodaeth i ddinasyddion yr UE.  Yr oedd hyn yn cael ei rannu  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dyma eich adroddiad misol rheolaidd am y rhaglen waith. 

 

Derbyn y rhaglen a gyfoeswyd.

 

Penderfyniad:


Fod y Cabinet yn derbyn y rhaglen a gyfoeswyd.