Agenda and minutes

Cabinet - Dydd Mercher, 7fed Ebrill, 2021 4.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Anne Jenkins, Arweinydd Tîm Llywodraethu  E-bost: Cabinet@newport.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Cofnodion:

Fel yr uchod.

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Cynghorydd Jeavons, Aelod o Fwrdd GCA.  Yr oedd hwn yn ddiddordeb na fyddai’n rhagfarnu.

 

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 133 KB

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd Rahman am y newidiadau canlynol:

 

Eitem 6 Cofrestr Risg Gorfforaethol

Tudalen 7, Ail linell ; cynhwyswyd “arolwg a gynhaliwyd yn 2019 trwy gyfarwyddyd yr Aelod Cabinet …” was included.

Tudalen 7, Pedwerydd a phumed linell - Dilëwyd ‘gyda chanfyddiadau tebyg i rai’r ganolfan hamdden.’

 

Cytunwyd:

Cymeradwyo cofnodion 10 Mawrth 2021 yn amodol ar yr uchod.

 

4.

Deilliannau 2019-2020: Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3, Cyfnod Allweddol 4 a Chyfnod Allweddol 5 pdf icon PDF 769 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan ddweud wrth yr aelodau, oherwydd y newidiadau ym mesuriadau perfformiad deilliannau disgyblion a’r pandemig, fod Llywodraeth Cymru wedi canslo casglu holl ddata statudol am ddeilliannau disgyblion am derfyn y flwyddyn academaidd yn haf 2020.

 

Ni chyflwynwyd unrhyw ddata gan ysgolion am ddiwedd cyfnodau. Yr oedd pob ysgol yn dal i gofnodi asesiadau mewnol athrawon at ddibenion cynnydd eu disgyblion hwy. Ni chynhaliwyd unrhyw brosesau cymedroli rhwng ysgolion yng Nghymru.

 

Cafodd arholiadau allanol Cyfnod Allweddol 4 a 5 eu canslo, a rhoi yn eu lle system o ‘Raddfeydd Canolfan Asesu’. Ni wnaeth Llywodraeth Cymru gasglu na chyhoeddi deilliannau Cyfnod Allweddol 4 na 5.

 

Oherwydd y newidiadau sylweddol yn ffurfio cyrsiau TGAU, galwedigaethol, AS a Lefel A a  diffyg arholiadau allanol, ni fyddai unrhyw ddeilliannau a gynhyrchwyd yn lleol yn cael eu defnyddio at ddibenion atebolrwydd. Ni ddylid defnyddio cymariaethau na thueddiadau data i geisio dadansoddi’r set hon o ddeilliannau disgyblion.

 

Pwrpas yr adroddiad oedd rhoi golwg gyd-destunol o ysgolion heb eu henwi, yn hytrach na pherfformiad yr awdurdod lleol neu ysgolion unigol. Defnyddiwyd y wybodaeth yn sensitif a phriodol.

 

Defnyddiodd yr awdurdod lleol set ehangach o wybodaeth i werthuso pob un o’i ysgolion. Yr oedd hyn yn cynnwys:

·      Gallu’r ysgolion i hunanwerthuso

·      Llwyddiant Cynllun Datblygu’r Ysgol

·      Ansawdd yr addysgu a dysgu

·      Gallu’r ysgolion i wella eu hunain

 

Dangosodd yr adroddiad y bu cynnydd sylweddol yn neilliannau disgyblion ond nid oes modd pennu ai gwelliant yr ysgol unigol yw hyn, neu welliant cynaliadwy.

 

Dangosodd siartiau yn yr adroddiad ddeilliannau CBAC dros ddeng mlynedd gydag enillion amlwg o ryw 10% yn y golofn olaf, sef Graddfeydd Canolfan Asesu mis Awst 2020. 

 

Yr oedd canlyniadau CA4 a 5 Casnewydd yn cynrychioli wyth ysgol cyfrwng Saesneg y ddinas. Bydd gan ein hysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ei set gyntaf o ddeilliannau diwedd Cyfnod Allweddol 4 yn haf 2021.

 

Dangosodd canlyniadau Cyfnod Allweddol 4 fod gan ysgolion Casnewydd y deilliannau Capiwyd 9 uchaf ac isaf yn y rhanbarth. Yr oedd hyn yn amlwg hefyd n neilliannau Cyfnod Allweddol 5. I roi cyd-destun, nodwyd fod gan Gasnewydd amrywiaeth o ysgolion uwchradd gyda chryn wahaniaeth rhwng niferoedd y dysgwyr sydd â hawl i brydau ysgol am ddim. Yr oedd gan Gasnewydd un ysgol uwchradd yn y ddinas gyda’r lefel uchaf o amddifadedd o’r 32 ysgol uwchradd yn y rhanbarth, sydd â phum awdurdod lleol.

 

Yr oedd y Cyngor yn eithriadol falch o’i dysgwyr a’r Graddfeydd Canolfan Asesu a ddyfarnwyd iddynt.

 

Yr oedd hyn yn erbyn cefndir y pandemig a newidiadau sylweddol mewn addysgu a dysgu y gwnaethant ymaddasu iddynt yn nhymor olaf a mwyaf arwyddocaol eu cyrsiau TGAU, AS a Lefel A.

 

Byddai’r Cyngor yn dal i weithio gyda’i holl ysgolion i’w paratoi a’u cefnogi ar gyfer newidiadau pellach yn y Graddfeydd Canolfan Asesu am haf 2021 a thu hwnt, yn ogystal â sicrhau fod dysgwyr yn trosi yn y modd mwyaf priodol rhwng cyfnodau nesaf eu bywydau, boed hyn mewn ysgolion, mewn prentisiaethau, byd gwaith, neu addysg bellach neu uwch.

 

Yr oedd  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cynllun Busnes Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) 2021-2022 pdf icon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan ddweud fod Cynllun Busnes GCA 2021/22 wedi ei ddatblygu trwy gydweithrediad Casnewydd, Torfaen, Sir Fynwy, Caerffili a Blaenau Gwent. Byddai’r Cynllun Busnes yn cefnogi pob ysgol a lleoliad, gan sicrhau mynediad at amrywiaeth o ddysgu proffesiynol a chefnogaeth unswydd, sydd yn cyd-fynd â blaenoriaethau gwella’r ysgolion.

 

Rhoddwyd ystyriaeth lawn i’r hinsawdd yr oedd ysgolion a lleoliadau yn gweithio ynddo ar hyn o bryd. Byddai’r cynllun busnes yn adeiladu ar yr arferion da a welwyd yn ystod yr amser heriol hwn (gan gynnwys dysgu cyfun a hyblyg), ac yn cefnogi ysgolion a’u dysgwyr yn y cyfnod adfer i gael dysgu o ansawdd uchel ac i gefnogi lles disgyblion.

 

Yr oedd Cynllun Busnes GCA yn cynnwys blaenoriaethau addysgol strategol penodol i Gasnewydd, a hyn yn cyd-fynd ag argymhellion Estyn. Byddai hyn yn sicrhau fod blaenoriaethau gwella ysgolion yn lleol a rhanbarthol wedi eu cysylltu er mwyn cael y cyfle gorau i lwyddo.

 

Bu’r Cynllun trwy broses ymgynghori gadarn gyda Phenaethiaid, Cyrff Llywodraethol, Aelodau Cabinet, Pwyllgorau Craffu a phobl ifanc. Cyflwynir y cynllun i Lywodraeth Cymru yn nes ymlaen y mis hwn.

 

Caiff y cynllun ei fonitro’n rheolaidd i olrhain ei gyflwyno a’i effaith. Bydd adroddiad yn mynd bob tymor trwy’r Cyd-Gr?p Addysg sydd yn cynnwys Prif Swyddog Addysg a’r Aelod Cabinet dros Addysg ym mhob un o’r pum awdurdod lleol. Bydd Bwrdd Cwmni y GCA , gyda chynrychiolaeth o bob awdurdod lleol, hefyd yn adrodd bob tymor.

 

Croesawodd yr Arweinydd Ed Pryce, Cyfarwyddwr Cynorthwyol y GCA, i ddisgrifio uchelgais gyffredinol ac unarddeg blaenoriaeth allweddol y cynllun.

 

Atgoffodd Ed Pryce y Cabinet mai perchenogion y GCA oedd y pum awdurdod lleol, ac mai gwasanaeth gwella ysgolion ydoedd, yn hytrach na chwmni annibynnol.

 

Oherwydd y data ystyrlon, nid oedd yr atodiad wedi ei gynnwys, ond y mae’r GCA yn gweithio gyda phartneriaid i gael data mwy defnyddiol gan yr ysgolion yn hytrach na data diwedd cyfnod yn ystod y cyfnod hwn o adfer.

 

Yr oedd yn hanfodol ein bod yn dychwelyd yn gadarnhaol ac wedi dysgu gwersi gyda’n partneriaid o’r hyn a ddigwyddodd dros y flwyddyn a aeth heibio.

 

Cynhaliwyd hyfforddiant helaeth i fwy na 200 o lywodraethwyr ysgolion dros y Pasg. Yr oedd y gwasanaeth wedi cyrraedd arweinwyr ac ymarferwyr ysgolion mewn modd na wnaed o’r blaen. Yr oedd cydweithredu yn allweddol er mwyn cael y canlyniad hwn.

 

Ni wnaeth Ed Pryce fynd trwy bob un o’r 11 blaenoriaeth am eu bod yn adlewyrchu’r pum blaenoriaeth strategol a drafodwyd yn y Pwyllgor Craffu Perfformiad - Partneriaethau.

 

Mae’r GCA hefyd yn sicrhau bod gan ysgolion sy’n defnyddio dysgu cyfun y rhwydweithiau priodol, a’u bod yn parhau gyda’r cwricwlwm i Gymru.

 

Sicrhaodd elfen gyllid y cynllun y byddai’r gyfradd ddirprwyo yn aros ar 94% ac yn uwch, gydag elfen fechan o gyfraniad gan yr ALl.

 

Ychwanegodd Sarah Davies, GCA, fod y berthynas rhyngddynt hwy, yr ysgolion a’r awdurdodau lleol yn gryfder mawr a byddant yn parhau i weithio ynghyd er lles yr holl ddysgwyr, teuluoedd a chymunedau yng  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Cynllun Datblygu Lleol Newydd: Ar ôl Ymgynghori Ardystio Adroddiad Adolygu a Chytundeb Cyflawni pdf icon PDF 398 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan ddweud fod Adroddiad yr Adolygiad o’r CDLl Newydd yn ddogfen oedd yn gosod allan y newidiadau allweddol mewn deddfwriaeth a pholisi oedd wedi digwydd ers mabwysiadu’r CDLl yn 2015. Yr oedd y ddogfen hefyd yn cynnwys asesiad o ba bolisïau CDLl oedd yn gweithio’n dda a pha rai oedd angen eu hadolygu.

 

Yr oedd Cytundeb Cyflwyno’r CDLl Newydd yn amserlen yn gosod allan sut y bwriada’r Cyngor reoli a chyflwyno’r CDLl.  Mae hefyd yn gosod allan pwy, sut a phryd y  bydd y Cyngor yn ymgynghori ac yn ymwneud wrth gynhyrchu’r CDLl Newydd.

 

Daeth y ddwy ddogfen ddrafft gerbron y Cabinet ym mis Hydref 2020 a chytunwyd y byddant yn destun ymgynghori cyhoeddus. Digwyddodd hyn, a gofynnir i’r Cabinet ystyried y sylwadau a dderbyniwyd, cymeradwyo’r ymateb a awgrymir, a chadarnhau’r ddwy ddogfen i’w cyflwyno i’r Cyngor llawn ddiwedd Ebrill. Wedi i’r Cyngor llawn gadarnhau, gallwn gyflwyno’n ffurfiol i Lywodraeth Cymru.  Byddai derbyn gan Lywodraeth Cymru yn nodi cychwn yn gyfreithiol ar adolygu’r CDLl.

 

O ran Adborth Ymgynghori ar Adroddiad yr Adolygiad:

 

Mae Atodiad A Adroddiad y Cabinet yn gosod allan yr holl ymatebion a dderbyniwyd. Yn gyffredinol, yr oedd y sylwadau yn cefnogi Adroddiad yr Adolygiad ac yn cytuno y dylid bwrw ymlaen i adolygu’r CDLl.

 

Ymysg rhai ymatebion i’w nodi yr oedd:

·        Nododd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru fod cynllunio yn faes blaenoriaeth o ran cyflwyno’n nodau lles.

·        Ceisiadau i atal unrhyw ddatblygiadau yng Ngwastadeddau Gwent. Yr oedd effaith cynlluniau ynni adnewyddol mawr yn fater pryder arbennig.

·        Gyda Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi argyfwng bioamrywiaeth a newid hinsawdd, codwyd pwnc effeithiolrwydd y polisi presennol i warchod a gwella ecoleg.

·        Cefnogwyd parhad o strategaeth tir llwyd, ynghyd â’r angen i sicrhau nad yw strategaeth y cynllun yn arwain at anfantais gymdeithasol.

·        Rôl a phwysigrwydd cynllunio mwynau i Gasnewydd a’r rhanbarth.

·        Yr angen i ystyried mynediad at yr afon at ddibenion hamdden a gwasanaethau badau achub.

·        Yr angen i adolygu polisi twristiaeth a chydnabod pwysigrwydd hyn i economi Casnewydd.

·        Effaith Covid 19 a defnyddio cynllunio fel arf i helpu adfer.

·        Pwysigrwydd a chyfleoedd treftadaeth a’i rôl yng Nghynnig Casnewydd.

·        Yr angen i ganoli ar adfywio canol y ddinas, a’r

·        Cyfleoedd sy’n deillio i welliannau cludiant cyhoeddus cenedlaethol a rhanbarthol.

 

 O ran y Cytundeb Cyflwyno:

 

Mae Atodiad B yr Adroddiad yn gosod allan yr holl ymatebion a dderbyniwyd. Eto, yr oedd cefnogaeth gyffredinol i’r Cytundeb Cyflwyno; ymysg rhai o’r sylwadau a dderbyniwyd yr oedd:

·        Cefnogaeth i’r amserlen arfaethedig.

·        Dolenni defnyddiol i randdeiliaid nas cynhwyswyd yn y drafft.

·        Cwestiynau am effaith Covid-19 ar ymwneud, a’r

·        Angen am dryloywder gwneud penderfyniadau trwy gydol proses y CDLl Newydd.

 

I Gloi

 

O ganlyniad i’r ymgynghori cyhoeddus, gwnaed nifer fechan o fân newidiadau i’r ddwy ddogfen. Mae’r newidiadau yn yr atodiadau ac yr oedd dolenni i’r dogfennau drafft newydd hefyd yn yr adroddiad.  Gofynnwyd i’r Cabinet ystyried a chymeradwyo’r dogfennau hyn a chytuno iddynt gael eu cyfeirio at y Cyngor llawn gyda’r bwriad o’u cyflwyno yn ffurfiol i Lywodraeth Cymru.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Datganiad Polisi Gwrth-dwyll, Llwgrwobrwyo a Llygredd pdf icon PDF 204 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad gan ddweud ei bod yn bwysig i’r Cyngor gael datganiad polisi cyfoes a pherthnasol o ran gwrth-dwyll, llwgrwobrwyo a llygredd er mwyn atal y fath beth yn y sefydliad a’r sefydliadau sy’n bartneriaid, i ymdrin ag unrhyw honiadau yn briodol, a chryfhau’r trefniadau llywodraethiant yn gyffredinol. Dyma oedd yr adolygiad cyntaf o’r datganiad ers rhai blynyddoedd.

 

Cytunodd Pwyllgor Archwilio’r Cyngor i nodi a chadarnhau’r datganiad polisi gwrth-dwyll, llwgrwobrwyo a llygredd ac argymell fod y Cabinet yn ei gymeradwyo’n ffurfiol.

 

Cyngor Dinas Casnewydd oedd un o sefydliadau mwyaf y ddinas. Mae’n rheoli miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus ac yn rhoi’r pwys mwyaf ar ddisgwyliadau uchel y cyhoedd a graddfa’r craffu cyhoeddus ar faterion y Cyngor.

 

Y mae llywodraethiant corfforaethol da yn mynnu bod yr Awdurdod yn dangos yn glir ei fod wedi llwyr ymrwymo i drin twyll a llygredd ac y byddai’n delio â’r sawl sy’n gwneud hyn yn fewnol (Aelodau a swyddogion) a’r tu allan i’r Cyngor.  Hefyd, ni fyddai unrhyw wahaniaethu o ran ymchwilio i achosion sy’n esgor ar fudd ariannol a’r rhai nad ydynt. Y bwriad oedd annog diwylliant o atal twyll a llygredd, ac ar yr un pryd, anfon neges glir iawn, petai gweithgaredd o’r fath yn cael ei ganfod, y byddai’n cael ei drin yn gadarn, yn gyson ac yn briodol.

 

Yr oedd y datganiad polisi yn ymgorffori set o fesurau a fwriadwyd i rwystro unrhyw weithred dwyllodrus neu lwgr, a’r camau i’w cymryd petai’r fath beth yn digwydd, yn rhoi’r cysylltiadau allweddol i adrodd am amheuon o dwyll neu lygredd, ynghyd â chyfrifoldebau swyddogion, aelodau a gweithwyr allweddol. Yr oedd yn ymgorffori Deddf Twyll 2006 sydd yn diffinio twyll trwy dair trosedd allweddol, yn rhoi diffiniad o lygredd a hefyd yn amlinellu Deddf Llwgrwobrwyo 2010 lle’r oedd pedair trosedd allweddol.

 

Y ddedfryd uchaf oedd 10 mlynedd o garchar i rywun a gafwyd yn euog o dwyll neu lwgrwobrwyo, gyda photensial am ddirwy ddiderfyn os ceir yn euog o lwgrwobrwyo.

 

Y mae’r datganiad polisi hwn yn ymgorffori set o fesurau a fwriadwyd i rwystro unrhyw weithred dwyllodrus neu lwgr, a’r camau i’w cymryd petai’r fath beth yn digwydd. I’w ddeall yn well, mae wedi ei rannu yn bum maes, fel y gwelir isod:-

         Diwylliant                                       

         Atal                        

         Ataliaeth                                                    

         Canfod ac Ymchwilio        

         Hyfforddi

 

Diffiniodd Deddf Twyll 2006 dwyll trwy dair trosedd allweddol:

 

·         Twyll drwy osodiad ffug (lle mae person yn anonest yn gwneud gosodiad ffug ac yn bwriadu, trwy wneud y gosodiad, i gael elw iddo’i hun neu rywun arall  neu achosi neu beri risg colli i rywun arall);

·         Twyll drwy fethu a datgelu gwybodaeth (lle methodd person yn anonest a datgelu i rywun arall wybodaeth yr oedd dyletswydd gyfreithiol arno i ddatgelu; ac y bwriadodd ,trwy fethu â gwneud hynny, i gael elw iddo’i hun neu rywun arall  neu achosi neu beri risg colli i rywun arall); a

·         Twyll drwy gamddefnyddio safle (lle’r oedd person mewn safle lle’r oedd disgwyl iddo ddiogelu neu beidio â gweithredu yn erbyn buddiannau ariannol rhywun  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Cod Llywodraethu Corfforaethol - Diweddariad (2020) pdf icon PDF 421 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan roi gwybod i gydweithwyr ei bod yn bwysig i’r Cyngor gael Cod Llywodraethu Corfforaethol cyfoes a pherthnasol. Yr oedd Datganiad Llywodraethu Blynyddol y Cyngor yn seiliedig ar y Cod Llywodraethu Corfforaethol. Cafodd y Cod ei ddiwygio ddiwethaf yn 2014 a’i gymeradwyo gan y Cabinet.

 

Cafodd Cod Llywodraethu Corfforaethol Cyngor Dinas Casnewydd ei gyfoesi a’i adolygu i gydymffurfio ag arferion da cyhoeddedig y Sefydliad Siartredig Cyllid a Chyfrifo Cyhoeddus (CIPFA) a Chymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch-Reolwyr  Awdurdodau Lleol  (SOLACE), “Fframwaith Cyflwyno Llywodraethiant Da mewn Llywodraeth Leol 2016” a “Nodiadau Canllaw i Awdurdodau Cymru am Gyflwyno Llywodraethiant Da mewn Llywodraeth Leol 2016”, sydd yn cynnwys elfennau’r rheolaeth ariannol fewnol a fynnir gan “God Ymarfer Cyfrifo Awdurdodau Lleol yn y Deyrnas Unedig”. 

 

Er mwyn cwrdd â gofynion Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014, rhaid i Gyngor Dinas Casnewydd gyflwyno Datganiad Llywodraethiant Blynyddol (DLlB) gyda’r Datganiad Cyfrifon Blynyddol. Bu’r DLlB yn seiliedig ar y Cod Llywodraethu Corfforaethol hwn ers 2016/17.

 

Mae’r Cod hwn yn gosod allan agwedd Cyngor Dinas Casnewydd at gynnal a chael llywodraethu corfforaethol da. 

 

Yr oedd y Cyngor yn gweld Llywodraethu Corfforaethol fel anelu at wneud y pethau iawn yn y ffordd iawn i’r bobl iawn mewn dull amserol, cynhwysol, agored, gonest ac atebol. Mae’n cynnwys y systemau a’r prosesau, y diwylliant a’r gwerthoedd oedd yn cyfeirio ac yn rheoli’r Cyngor, a dangos ar yr un pryd ei fod yn atebol i’w ddinasyddion ac yn ymwneud â hwy.

 

Mae llywodraethu cryf, tryloyw ac ymatebol yn galluogi’r Cyngor i roi’r dinasyddion yn gyntaf trwy ddilyn ei nod a’i flaenoriaethau yn effeithiol, gyda’r mecanweithiau priodol i reoli perfformiad a risg yn sail i hyn. I gadw hyder y dinasyddion, rhaid i’r mecanweithiau hyn fod yn gadarn a chael eu gweld felly.

 

Yr oedd y system o reoli mewnol yn rhan sylweddol o’r fframwaith hwn, wedi ei fwriadu i reoli risg ar lefel resymol. Yr oedd yn rhoi sicrwydd rhesymol o effeithiolrwydd, heb fod yn absoliwt. Yr oedd rheoli mewnol yn seiliedig ar broses gyson o nodi a rhoi blaenoriaeth i unrhyw risgiau i gyflawni polisïau, nodau ac amcanion y Cyngor, gan sicrhau fod adnoddau’r Cyngor yn cael eu defnyddio yn effeithiol, effeithlon ac economaidd.

 

Y Fframwaith Llywodraethu

 

Adolygwyd Cod Llywodraethu Corfforaethol y Cyngor yn unol â’r egwyddorion isod:

 

Gofynion cyffredinol i weithredu er budd y cyhoedd:

 

A          Ymddwyn gydag uniondeb, gan ddangos ymrwymiad cryf i werthoedd moesegol a pharchu rheol y gyfraith

 

B          Bod yn agored ac ymwneud yn gynhwysfawr â rhanddeiliaid

 

Hefyd, er mwyn llywodraethu yn dda, mae’r Cyngor angen trefniadau effeithiol i wneud yr isod:

 

C         Diffinio deilliannau o ran buddion cynaliadwy, economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol

 

D         Pennu’r ymyriadau sydd eu hangen i gyrraedd y deilliannau yn y ffordd orau

 

E          Datblygu gallu’r endid, gan gynnwys gallu’r arweinyddiaeth a’r unigolion yn yr endid

 

F          Rheoli risgiau a pherfformiad trwy reolaeth fewnol gadarn a rheolaeth ariannol gryf yn gyhoeddus

 

G         Rhoi arferion da ar waith o ran tryloywder, adrodd ac archwilio er mwyn bod yn  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Diweddariad Adferiad Covid 19 pdf icon PDF 187 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, sef diweddariad ar ymateb y Cyngor a’i bartneriaid i argyfwng Covid-19 gan gefnogi’r ddinas (yn fusnesau a thrigolion) i gydymffurfio â’r cyfyngiadau presennol a chynnydd gyda Nodau Adfer Strategol y Cyngor a’r Cynllun Corfforaethol. 

 

23 Mawrth oedd yn nodi blwyddyn ers i’r Deyrnas Unedig fynd i’r cyfnod clo cyntaf, ac yn amser i gofio ein holl anwyliaid, cyfeillion ac aelodau ein teuluoedd a gollodd eu bywydau oherwydd Covid.

 

Yr oedd yn gyfle hefyd i adfyfyrio a diolch i’r bobl hynny sydd yn gweithio ar y rheng flaen yn ein hysbytai, y gwasanaethau cymdeithasol, cartrefi gofal, y gwasanaethau brys, athrawon, gweithwyr sbwriel, gweithwyr siopau a’r sawl a roddodd eu hamser i wirfoddoli a chefnogi eu cymunedau, eu cymdogion a’r rhai mewn angen

 

I Gyngor Dinas Casnewydd, yr oedd hon yn flwyddyn ddigynsail lle bu’n rhaid i ni wynebu sawl penderfyniad anodd, gan weld ein trigolion a busnesau yn ein wardiau yn dioddef effeithiau Covid a’r cyfyngiadau oedd i warchod y mwyaf bregus yn ein cymunedau. Yr oedd y pandemig hwn yn effeithio ar bawb.

 

Yr oedd Arweinydd y Cyngor wedi gweld sut y daeth Cynghorwyr o bob plaid wleidyddol, swyddogion a’n partneriaid strategol mewn iechyd, Casnewydd Fyw, Cyd-Wasanaeth Adnoddau, Casnewydd Norse a darparwyr gwasanaeth eraill ynghyd i ddatrys problemau, gan ddod o hyd y ffyrdd newydd ac arloesol o gyflwyno ein gwasanaethau, a chefnogi’r sawl oedd angen help. 

 

Gwyddai’r Cabinet hwn hefyd fod mwy i’w wneud i gefnogi pobl a busnesau yn yr argyfwng hwn. 

 

Byddai cyfleoedd newydd i ni ddal ati i wneud Casnewydd yn lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld â hi, ac i wella gwytnwch ein cymunedau. 

 

Ymateb y Cyngor i Covid-19 a’r Cynnydd hyd yma

 

Ers yr adroddiad blaenorol ym mis Mawrth, llaciodd Llywodraeth Cymru fwy o gyfyngiadau, gan ganiatáu i drigolion a busnesau ddychwelyd yn raddol i’r drefn normal. 

 

Dros fis Ebrill, y gobaith oedd gweld mwy o gyfyngiadau yn llacio, fel bod siopau arferol a busnesau yn ail-agor dros yr haf. Bydd yn bwysig i bawb gefnogi busnesau lleol Casnewydd i adfywio economi cynaliadwy at y dyfodol. 

 

Er hynny, mae’n bwysig hefyd i’r holl drigolion a pherchenogion bunses i gadw at y mesurau ymbellhau cymdeithasol a chanllawiau Llywodraeth Cymru er mwyn cadw cyfradd yr achosion yn isel ac atal unrhyw gyfnodau clo yn y dyfodol wrth i ni barhau ar y daith i frechu pobl yn ein cymunedau.

 

Gyda chyflwyno’r brechiad, mae dros 1.2 miliwn o bobl bellach wedi derbyn eu dos gyntaf yng Nghymru. 

 

Neges y Cabinet hwn i drigolion yng Nghasnewydd oedd i gymryd y brechiad pan fyddai’n cael ei gynnig ac annog aelodau ein teuluoedd, ein cyfeillion a grwpiau cymunedol i wneud yr un fath. Nid yn unig y byddai hyn yn ein helpu oll i ddychwelyd i normal, ond byddai’n ein galluogi i gwrdd â’n hanwyliaid a gwneud yr hyn yr arferem ei wneud.   

 

Ar waethaf yr heriau, mae ein swyddogion a’n partneriaid wedi parhau i gyflwyno gwasanaethau i’n cymunedau yng Nghasnewydd dros y 12  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Adroddiad Diweddaru Brexit pdf icon PDF 128 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan roi gwybodaeth i Aelodau’r Cabinet ar gynnydd wedi Brexit / y trefniadau masnach ers 31 Rhagfyr 2020.

 

Y Diweddaraf am y Trafodaethau Masnach

·      Ers i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd a’r Farchnad Sengl ar 31 Rhagfyr 2020, bu’n rhaid i fusnesau  mewnforio/allforio o’r DU a’r EU gydymffurfio a’r trefniadau tollau newydd.

·      Fel y dangosodd yr adroddiad, bu’n fisoedd anodd i fusnesau yng Nghymru i gwrdd â’r gofynion newydd hyn, a bu cryn gwymp yn lefel yr allforion a’r mewnforion. Ni wyddom eto beth fydd effaith lawn y trefniadau newydd hyn dros y 6 i 12 mis oherwydd cyfyngiadau Covid.

·      Yr oedd gwytnwch economaidd Casnewydd a De Ddwyrain Cymru at y dyfodol yn hollbwysig er mwyn sicrhau y gallai busnesau presennol a rhai newydd barhau i ffynnu yn gynaliadwy. Yr oedd yn bwysig hefyd i ni hybu ‘Cynnig Casnewydd’ i entrepreneuriaid cynhenid yn ogystal â busnesau byd-eang.

·      Byddai meddu ar economi amrywiol a chynaliadwy allai roi twf cynaliadwy yn galluogi cymunedau Casnewydd nid yn unig i ‘godi’r gwastad’ ond i ffynnu hefyd yn y tymor hir ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghasnewydd. 

·      Tynnodd yr adroddiad sylw hefyd at gyllid newydd (Cronfa Codi’r Gwastad a Chronfa Adnewyddu Cymunedau y DU)  oedd yn cael ei gyflwyno gan Lywodraeth y  Du yn lle cronfeydd strwythurol yr EU yr elwodd De Ddwyrain Cymru a Chasnewydd arnynt yn y gorffennol.

·      Cyhoeddwyd Cronfa Codi’r Gwastad i alluogi buddsoddi posib ar raddfa fawr mewn trafnidiaeth, adfywio a diwylliant a allai gefnogi Casnewydd i gyflwyno prosiectau o bwys yn y ddinas: nodwyd Casnewydd fel ardal Categori 1 ar gyfer buddsoddi

·      Rhoddwyd blaenoriaeth yng Nghronfa Adnewyddu Cymunedau yr DU i 100 ardal yn y DU ar sail eu cynhyrchedd, incwm aelwydydd, sgiliau y diwaith, a dwysedd poblogaeth. Gallai Cyngor Casnewydd gyflwyno bidiau gan grwpiau cymunedol, elusennau, y Cyngor a sefydliadau addysg drydyddol am hyd at £3miliwn o gyllid fel awdurdod arweiniol.

·      Nodwyd, fodd bynnag, mai proses gystadleuol oedd ar gyfer y ddwy gronfa, ac nad oedd gwarant y derbynnid y cyfan na rhan o’r bidiau a gyflwynwyd. Ymhellach, nid oedd gwarant y byddai Casnewydd na De Ddwyrain Cymru yn derbyn yr un lefel o gyllid ag y buasem wedi ei dderbyn dal y trefniadau blaenorol.  

·      Yr hyn sy’n gwneud Casnewydd yn ddinas wych i fyw, gweithio ac ymweld â hi yw ein cymunedau a’n grwpiau amrywiol a chynhwysol. Bu Casnewydd yn wastad yn ddinas groesawgar i bobl o bob cenedl, waeth beth oedd eu hil, rhywioldeb na’u crefydd.

·      Yr oedd yn fater o bryder i’r Cabinet y gall fod llawer o ddinasyddion yr UE yn byw ac yn gweithio yng Nghasnewydd sydd heb eto wneud cais am Statws Sefydlu yr UE a bod rhai yn dod at y Cyngor heb fynediad at arian cyhoeddus. 

·      Yr oedd Cyngor Casnewydd, ynghyd a grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill yng Nghasnewydd yn hyrwyddo’r cynllun hwn ac yn annog pobl i ymgeisio. Yr oedd yn bwysig annog aelodau’r teulu, cyfeillion a chydweithwyr i wneud cais cyn 30 Mehefin.  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hwn oedd yr adroddiad misol rheolaidd am y rhaglen waith. 

 

Penderfyniad:

Fod y Cabinet yn derbyn y rhaglen a gyfoeswyd.

 

Yn olaf, yr oedd yn bleser gan yr Arweinydd gyhoeddi fod Maer Casnewydd wedi cwblhau taith gerdded noddedig unigol o gwmpas T? Tredegar er budd Alzheimer’s Cymru.

 

Cychwynnodd y Cynghorydd Tom Suller gerdded o amgylch T? Tredegar y bore yma am 10am a chwblhau ei daith am 1pm, wedi cymryd 20,000 o gamau!

 

Gan na lwyddwyd i gynnal llawer o weithgareddau codi arian traddodiadol eleni, penderfynodd y Maer y byddai taith gerdded noddedig ar ei ben ei hun yn ddelfrydol.

 

Mae Casnewydd yn swyddogol yn ddinas gyfeillgar i dementia, ac yr oedd Alzheimer’s Cymru yn agos iawn at galon y Maer am resymau personol: y mae’n elusen ragorol sy’n rhoi ystod eang o gefnogaeth er mwyn gwneud yn si?r nad oes yn rhaid i bobl wynebu heriau’r clefyd creulon hwn ar eu pennau eu hunain. 

 

Llongyfarchodd y Cabinet hefyd y Cynghorydd Suller ar ei gamp.