Agenda and minutes

Cabinet - Dydd Mercher, 24ain Mehefin, 2020 10.00 am

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Tracy Richards , Cabinet Office Manager  E-bost: Cabinet@newport.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Cofnodion:

Agorodd yr Arweinydd y cyfarfod trwy gadarnhau, yng nghyfarfod diwethaf y Cabinet ar 18 Mawrth, fod y Cyngor wedi symud i bwerau brys. Cyfarfod y Cabinet heddiw yw’r cyntaf i gael ei gynnal ers hynny, ac y mae’n cael ei gynnal yn rhithiol. Gofynnodd yr Arweinydd i bawb fyfyrio’n dawel am ennyd i gofio’r sawl a gollodd eu bywydau ac i feddwl am y teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid i’r firws.

 

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

3.

Covid-19: Nodau Adfer Strategol pdf icon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad sy’n gosod allan y nodau adfer strategol fydd yn galluogi gwasanaethau’r Cyngor i adfer a rhedeg a dal i gefnogi nodau strategol a osodir allan yn y Cynllun Corfforaethol am 2017/22.

 

Cadarnhaodd yr adroddiad fod argyfwng iechyd Covid-19 wedi dod â heriau sylweddol a digynsail i’r modd mae’r Cyngor yn cyflwyno ei wasanaethau a’r effaith ar ffordd o fyw. 

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd y canlynol:

 

·      Y bu’r Cyngor yn canoli ar arbed bywydau, lleihau lledaeniad y firws a chefnogi cymunedau a phobl fregus yr effeithiodd y clefyd hwn arnynt.

·      Yn y cyfnod anodd hwn, mae’r Cyngor wedi sicrhau y parheir i gyflwyno gwasanaethau rheng-flaen i gymunedau ledled Casnewydd.  O’r cychwyn cyntaf, dywedodd y Cabinet y byddai’n canolbwyntio ar y canlynol: 

 

o    Parhau i gasglu gwastraff o gartrefi;

o    Dosbarthu dros 700 o barseli bwyd o Hybiau Cymdogaeth y Cyngor;

o    Ysgolion yn cefnogi plant gweithwyr allweddol a phlant bregus.

o    10 lleoliad Dechrau’n Deg yn edrych ar ôl 94 o blant a chefnogi 81 o weithwyr allweddol;

o    Gofal a chefnogaeth yn dal i gael ei roi gan Wasanaethau Cymdeithasol Plant ac Oedolion y Cyngor a sicrhau fod staff rheng-flaen yn gallu cael PPE;

o    Gweinyddu gwerth £30 miliwn o grantiau busnes i 2,250 o fusnesau cymwys yng Nghasnewydd;

o    Gyda’n partneriaid, darparu llety diogel i’r digartref yng Nghasnewydd; 

o    Staff y Cyngor yn gweithio o gartref trwy’r gefnogaeth TG a roddwyd gan y Cyd-Wasanaeth Adnoddau.

o    Rhedeg canolfan gyswllt rithiol; ateb dros 31,000 o alwadau a mwy na 2,400 e-bost.

Diolchodd yr Arweinydd a’r Cabinet i bob aelod o staff, gwirfoddolwyr, partneriaid a chymunedau sydd wedi parhau i gyflwyno gwasanaethau a chefnogi pobl fregus trwy gydol y cyfnod heriol ac anodd hwn. Bu gweithio o gartref gyda chefnogaeth TG yn llwyddiant, a sefydlwyd canolfan gyswllt rithiol sydd wedi gweithio’n dda iawn. Bu hwn yn gyfnod digynsail, a bu dinasyddion Casnewydd yn eithriadol. Mae’r Penaethiaid Gwasanaeth a’r uwch-dîm arweiniol wedi perfformio’n wych, ac y mae hyn i’w groesawu a’i werthfawrogi.

Dywedodd yr Arweinydd fod ystadegau Iechyd Cyhoeddus Cymru dros yr wythnosau diwethaf wedi dangos arwyddion calonogol fod achosion o Covid-19 yn arafu, ond y gallant begynnu eto, felly rhaid i’r ddinas aros yn wyliadwrus a chadw at y canllawiau a roddir gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Llaciwyd rhywfaint ar y cyfyngiadau, ac ail-sefydlwyd gwasanaethau’r Cyngor megis y Cyfleuster Ailgylchu Gwastraff Cartref, sefydlu Canolfan Profi ac Olrhain, a pharatoi i ail-agor ysgolion yn ddiogel.

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod mwy o wasanaethau’r Cyngor yn adfer i’r ffordd ‘normal newydd’ o weithio, a bod mwy o ganoli er mwyn sicrhau nad aiff y gwaith da hwn yn ofer; mae’r Cyngor yn cefnogi economi Casnewydd i ail-godi a chanolbwyntio ar y cymunedau a ddioddefodd waethaf o Covid-19.  I wneud hyn, cynigiodd y Cyngor bedwar Nod Adfer Strategol fydd yn helpu aelodau, staff, partneriaid, a chymunedau i ddeall beth fydd y blaenoriaethau am y flwyddyn nesaf. 

Gwahoddodd yr Arweinydd y Cabinet i wneud sylwadau ar ymateb y Cyngor i’r  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Covid-19: Effaith Economaidd ac Adferiad pdf icon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad sydd yn gosod allan y Strategaeth Effaith ac Adferiad Economaidd i gefnogi a hwyluso busnesau Casnewydd i adfer a dal i redeg.   

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd:

·        Fod Strategaeth Twf Economaidd Casnewydd wedi ei mabwysiadu yn 2015, a’i chyfoesi a’i chymeradwyo gan y Cabinet yn Chwefror 2020.  Bryd hynny, cydnabuwyd fod Casnewydd wedi dod yn ddinas fwy cystadleuol gyda dylanwad cynyddol mewn sectorau gwerth uchel a sector twristiaeth sy’n tyfu’n gyflym.

 

·        Yn dilyn cyhoeddi’r clo ar 23 Mawrth 2020, cyhoeddodd llywodraethau’r DU a Chymru becynnau ymyriad digynsail i helpu i liniaru’r gwaethaf o’r difrod economaidd fyddai’n dod yn sgil cyfnod clo maith. Yr oedd dros 2000 o fusnesau Casnewydd wedi derbyn mwy na £26m mewn cymorth grantiau. Bu’r tîm cyllid yn ymdrechu’n galed i gefnogi busnesau yn y cyfnod hwn, a derbyniwyd nifer o lythyrau ac adborth cadarnhaol iawn gan y gymuned fusnes yng Nghasnewydd.

 

·        Yn economaidd, mae Casnewydd yn awr mewn lle gwahanol. Mae disgwyl i ddiweithdra yng Nghymru godi o 3.2% i fwy na 7.3% a chadarnhawyd fod economi’r DU wedi crebachu o 20.4% ym mis Ebrill.  Dywed adroddiadau pellach y bydd y DU ar ymyl y dirwasgiad gwaethaf ers tair canrif. 

 

·        I adfer ac adsefydlu, mae angen i Gasnewydd nodi pa feysydd o’i heconomi fydd angen cefnogaeth, lle mae cyfleoedd newydd, a sut y gall y Cyngor lunio’r ‘normal newydd’ gyda busnesau a buddsoddwyr; a gweithio ar y cyd tuag at adferiad Casnewydd.

 

·        Bydd y strategaeth yn yr adroddiad yn ffurfio adendwm i’r Strategaeth Twf Economaidd a fabwysiadwyd; y mae’n cynnig tri maes penodol i ganolbwyntio arnynt: Adfer, Adleoli ac Adfywio:

 

o   ADFERIAD yn y tymor byr. Cefnogi busnesau i sicrhau eu bod yn hawlio’r holl grantiau a’r cymorth ariannol sydd ar gael, cefnogi cyfleoedd newydd a gwneud yn si?r fod ymyriadau yn briodol, effeithlon ac yn anad dim yn amserol.

 

o   ADLEOLI yn y tymor canol. Parhau i ddenu mewnfuddsoddiad a bod yn glir am yr hyn sydd gan y ddinas i’w gynnig o ran ansawdd bywyd a chyfleoedd am waith. Cyflymu gwelliannau i’r seilwaith digidol i gynyddu lefelau gweithio o gartref, a thyfu’r cynnig addysg a sgiliau i’r gweithlu allu addasu i’r ‘normal newydd’; nid yn unig yn y Cyngor ond ar draws Casnewydd gyfan.

 

o   ADFYWIO yn y tymor hwy. Adleoli Casnewydd mewn byd newydd lle bydd cyfleoedd i ail-gydbwyso’r economi gyda’r amgylchedd a chymdeithas i roi mwy o wytnwch a gwell lles i’r trigolion, yn awr ac yn y dyfodol.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd mai agwedd bartneriaeth yw hon, ac y bydd y Cyngor yn gweithio gyda’i holl bartneriaid, gan gynnwys Dinas-Ranbarth Caerdydd a Phorth y Gorllewin i sicrhau y daw Casnewydd allan o hyn yn gryfach ac yn wytnach. 

Yr oedd yr Arweinydd yn falch o gyflwyno’r Strategaeth i’r Cabinet gyda’r argymhelliad i’r Cabinet ei chadarnhau a chychwyn Casnewydd ar y daith i adferiad economaidd.

Gwahoddodd yr Arweinydd Aelodau’r Cabinet i roi sylwadau am yr adroddiad:

 

Cytunodd holl Aelodau’r Cabinet fod y rhain yn amseroedd digynsail, ond y bydd  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Covid-19: Effaith Ariannol pdf icon PDF 180 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad oedd yn amlinellu i’r Cabinet y pynciau a’r risgiau allweddol i gyllid y Cyngor yn deillio o Covid-19, yr amcangyfrif o gostau ychwanegol a chyllid ar gyfer ymateb y Cyngor i’r argyfwng a chynnydd wrth weinyddu cefnogaeth ariannol a roddir i fusnesau a threthdalwyr lleol yn ystod cyfnod clo Covid-19. 

Cadarnhaodd yr Arweinydd y bu arweinwyr awdurdodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn cyfarfod yn rheolaidd, a chanmolodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Thai am y gwaith a wnaeth mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol.

 

Adroddodd yr Arweinydd am y tri phwnc ariannol allweddol sy’n deillio o sefyllfa Covid -19:

 

·        Beth wnaeth y Cyngor i gefnogi busnesau ac aelwydydd/unigolion bregus?

 

·        Faint fydd hyn oll yn gostio a sut y telir amdano?

 

·        Beth mae hyn yn olygu i’r rhagolygon ariannol am eleni – pa effaith a gaiff ar gyllid y Cyngor?

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod y sefyllfa yn ddeinamig iawn, gyda’r ymateb i’r argyfwng ar lefel Cymru gyfan ac yn lleol yn newid yn ddyddiol. Yn hynny o beth, mae’r effaith ar gyllid y Cyngor yn newid, ac y mae’r adroddiad yn amlygu’r meysydd risg posib a’r costau ddaw i ran y Cyngor (yn bennaf hyd at Fehefin). Erys y sefyllfa yn newidiol ac y mae’n dibynnu ar ymatebion pellach.

 

Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r argyfwng gyda thros £2.4 biliwn o fentrau, a bu llywodraeth leol ar flaen y gad o ran cyflwyno’r gwahanol gynlluniau sydd ar waith; canmolodd yr Arweinydd y gefnogaeth hon.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod yr adroddiad yn rhoi manylion am lle gwariwyd yr arian, gyda’r rhan fwyaf yn mynd i gefnogi busnesau trwy’r ‘Gronfa Gwytnwch Economaidd’ a rhoi rhyddhad ardrethi i fusnesau cymwys. Hefyd, mae gallu’r gwasanaeth iechyd yn cael ei gefnogi, a llywodraeth leol yn cael arian i roi cefnogaeth benodol i ddisgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim, y digartref, a darparwyr gofal.

 

Adroddodd yr Arweinydd fod y Cyngor yn lleol yn darparu cefnogaeth ariannol i fusnesau ac aelwydydd / unigolion bregus, a thynnodd sylw at y canlynol:

 

·        rhyddhad ardrethi yn golygu arbed cryn swm o arian i fusnesau cymwys, sy’n golygu na fydd yn rhaid iddynt dalu ardrethi busnes am eleni;

 

·        talu dros £28m o grantiau na fydd angen eu had-dalu i ryw 2,300 o fusnesau i’w cynnal yn ariannol yn y tymor byr tra buont ar gau. Canmolwyd y Cyngor am weithredu mor fuan yn hyn o beth; benthyg arian a wnaeth y Cyngor er mwyn cael yr arian allan iddynt mor fuan ag oedd modd, a thrwy hynny, talwyd tua £16m erbyn diwedd wythnos gyntaf Ebrill;

 

·        mae’r Cyngor hefyd wedi gweithio gyda sawl aelwyd ac wedi gohirio talu Treth y Cyngor i’r rhai sydd wedi dioddef colled ariannol neu ansicrwydd dros y cyfnod cychwynnol hwn.

Dywedodd yr Arweinydd fod y Cyngor yn rhagweld gwario oddeutu £6m mewn mentrau penodol i gefnogi’r canlynol:

 

·        y plant sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim tra bod yr ysgolion ar gau – tan ddiwedd Awst.

 

·        cynyddu ei stoc o  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Covid-19: Olrhain Cyswllt pdf icon PDF 122 KB

Cofnodion:

Yr oedd yr Arweinydd yn falch o ddweud fod yr adroddiad hwn yn mynd beth o’r ffordd i gadarnhau cyfnod ein hadferiad a’r ffordd ymlaen.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, oedd â’r bwriad o sicrhau bod y Cabinet yn ymwybodol o’r sefyllfa bresennol ac i geisio cadarnhad o’r ffordd ymlaen i gyflwyno Olrhain Cyswllt yng Ngwent.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Drwyddedu a Rheoleiddio i gyflwyno’r adroddiad.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet fod yr adroddiad yn dweud pa waith a wnaed hyd yma i sefydlu Tîm Olrhain Cyswllt Lleol yng Nghasnewydd. Cadarnhaodd mai trefniadau dros dro yw’r rhain am y tri mis cyntaf, er mwyn cael y gwasanaeth i redeg mewn amser byr iawn. Bydd angen cytuno ar strategaeth yn y dyfodol ar y cyd â phartneriaid eraill, i ddatblygu model cyflwyno a strwythur llywodraethiant at y tymor hwy. Yn allweddol i hyn fydd y cyllid a roddir gan Lywodraeth Cymru i dalu am y gwasanaeth, gan na ellir ei gyflwyno o fewn adnoddau presennol y Cyngor.

 

Aeth yr Aelod Cabinet ymlaen i ddweud, fel y g?yr pawb, fod y strategaeth Profi, Olrhain ac Amddiffyn yn elfen allweddol o lwybr Llywodraeth Cymru at lacio’r clo Coronafirws yng Nghymru. Bydd mwy o brofi ac olrhain cysylltiadau yn caniatáu adnabod y sawl sydd â’r firws a phwy sydd mewn perygl o’i ddal, fel y gallant hunan-ynysu ac atal ei ledaenu i eraill.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet fod cynghorau yng Nghymru wedi cael y cyfrifoldeb o sefydlu celloedd olrhain cyswllt cymunedol ym mhob un o’u hardaloedd, mewn partneriaeth a’r Byrddau Iechyd rhanbarthol, gydag olrhain cyswllt yn cael ei oruchwylio ar lefel genedlaethol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yw cynllun ar 13 Mai felly nid oedd lawer o amser i osod hyn i fyny a’i gael i weithio. Talodd yr Aelod Cabinet deyrnged i’r swyddogion am y gwaith enfawr a wnaed i sefydlu’r Tîm Olrhain Cyswllt Lleol yng Nghasnewydd.  Yr oedd angen ymdrech ar y cyd ar draws holl wasanaethau’r Cyngor i recriwtio a hyfforddi staff, gosod y cyfarpar i fyny, datblygu cronfeydd data dros dro a sefydlu trefniadau rheoli dros dro.

 

Oherwydd eu profiad o ddelio â chlefydau heintus, mae Swyddogion Iechyd Amgylchedd y Cyngor yn arwain ar y gwaith hwn ar lefel leol a rhanbarthol. Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet na fyddai hyn wedi bod yn bosib heb i nifer sylweddol o staff o wasanaethau eraill wirfoddoli i wneud y gwaith olrhain cyswllt hwn o gartref, a llawer ohonynt yn fregus eu hunain ac yn cysgodi.

 

Oherwydd cyflymder y newid, bu cryn ddatblygiadau ers drafftio’r adroddiad gyntaf, a rhoddodd yr Aelod Cabinet ddiweddariad i’r Cabinet ar y cynnydd dros yr wythnosau diwethaf:

 

·        dechrau’r gwaith o olrhain cyswllt ar 1 Mehefin gyda 10 ymgynghorydd cyswllt o Wasanaethau Cwsmeriaid a phump olrheiniwr cyswllt o Warchod y Cyhoedd, oll yn gweithio o gartref ac yn defnyddio cronfa ddata dros dro a sefydlwyd gan y Cyd-Wasanaeth Adnoddau (CWA). 

·        Mae cronfa ddata genedlaethol newydd CRM bellach ar-lein ac yn rhedeg, ond mae wedi golygu  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

GWYLIWCH GYFARFOD Y CABINET TRWY GLICIO AR Y DDOLEN HON