Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Tracy Richards, Cabinet Office Manager E-bost: Cabinet@newport.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau dros Absenoldeb Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un.
|
|
Datganiadau o ddiddordeb Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.
|
|
Llongyfarchiadau a Chroeso Cofnodion: Croesawodd yr Arweinydd Beverly Owen i’r cyfarfod yn rhinwedd ei swydd fel prif Weithredwr newydd y Cyngor, a llongyfarch Mrs Owen ar ei phenodiad.
|
|
Cofnodion Drafft o Gabinet mis Gorffennaf PDF 158 KB Cofnodion: Cadarnhawydcofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf 2020 fel rhai cywir.
|
|
Achos busnes dros y Gwasanaeth Prawf, Olrhain Amddiffyn PDF 133 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, oedd yn rhoi cyfoesiad am Wasanaeth Olrhain Cysylltiadau Gwent, a cheisiodd gymeradwyaeth y Cabinet i’r strwythur cyflwyno gweithredol, llywodraethiant a threfniadau ariannol y gwasanaeth.
Cadarnhaodd yr Arweinydd fod y Cabinet ym mis Mehefin wedi derbyn adroddiad interim ar y gwaith a wnaed i sefydlu Tîm Olrhain Cysylltiadau Lleol yng Nghasnewydd a chadarnhaodd y Cabinet y camau brys a gymerwyd gan swyddogion i ddatblygu a gweithredu’r gwasanaeth hwnnw dros dro.
Yr oedd yr adroddiad a gadarnhawyd gan y Cabinet ym mis Mehefin yn cydnabod mai trefniadau interim am y misoedd cyntaf oedd y camau, i gael y gwasanaeth i redeg o fewn amserlen dynn iawn. Cytunwyd y byddai angen strategaeth lawn at y dyfodol, ar y cyd a phartneriaid eraill, i ddatblygu model cyflwyno a strwythur llywodraethiant at y tymor hwy. Yr oedd cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwasanaeth yn hollbwysig, gan nad oedd modd ei gyflwyno fewn yr adnoddau sydd ar gael.
Cadarnhaodd yr Arweinydd fod yr adroddiad gerbron y Cabinet heddiw yn rhoi cyfoesiad am y datblygiadau gyda Gwasanaeth Olrhain Cysylltiadau Gwent a cheisiodd gymeradwyaeth y Cabinet i’r strwythur cyflwyno gweithredol, llywodraethiant a threfniadau ariannol y gwasanaeth.
Cadarnhaodd yr Arweinydd hefyd fod Strategaeth Profi, Olrhain, Amddiffyn Llywodraeth Cymru yn rhan ganolog o’u cynllun adfer o Covid-19. Mae olrhain cysylltiadau yn y gymuned yn elfen allweddol o’r Strategaeth, a gofynnodd Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd ar y cyd i gynnal gwasanaethau olrhain cysylltiadau ar sail ardaloedd y Byrddau Iechyd.
Esboniodd yr Arweinydd fod olrhain cysylltiadau yn cael ei wneud pan gadarnheir diagnosis o Covid-19, h.y., canlyniad positif i brawf. Y pwrpas yw cysylltu â rhywun gafodd brawf positif i gadarnhau y bydd yn rhaid ynysu am saith diwrnod, ac y bydd angen i’r aelwyd hefyd ynysu am 14 diwrnod; bydd y sawl sy’n olrhain hefyd yn gofyn i’r achos rannu gwybodaeth am y sawl y bu mewn cysylltiad â hwy yn ddiweddar. Olrheinir y cysylltiadau hyn a rhoi gwybod iddynt fod yn rhaid iddynt ynysu am 14 diwrnod; yn ystod y cyfnod hwn, sefydlir cyswllt dyddiol i fonitro er mwyn gweld a yw wedi datblygu unrhyw symptomau. Os felly, gofynnir iddynt gymryd prawf a dod i mewn i’r system fel achos newydd os byddant yn bositif, ac yn y blaen.
Cadarnhaodd yr adroddiad fod olrhain cysylltiadau wedi bod yn digwydd yng Ngwent ers dechrau Mehefin trwy symud staff o fewn y pum awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB). Mae’r pum awdurdod lleol wedi sefydlu gwasanaethau olrhain cysylltiadau, sy’n cael eu cydgordio fel bod y rhanbarth cyfan yn derbyn gwasanaeth.
Mae’r gwasanaeth yn rhedeg saith diwrnod yr wythnos, a chefnogir tîm olrhain cysylltiadau’r Cyngor gan Swyddogion Iechyd Amgylchedd yr awdurdodau lleol ledled y rhanbarth a chan Arweinyddion Clinigol, Ymgynghorwyr mewn Amddiffyn Iechyd, ac Ymgynghorwyr Clefydau Trosglwyddadwy o BIPAB ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Yr oedd yr Arweinydd yn falch o adrodd fod Llywodraeth Cymru bellach wedi cadarnhau’r trefniadau cyllido ar gyfer olrhain cysylltiadau. Mae adroddiad y Cabinet yn gosod allan ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Rhaglen Waith y Cabinet PDF 65 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd Raglen Waith y Cabinet.
Penderfyniad:
Cytunodd y Cabinet ar y rhaglen wedi ei chyfoesi.
|
|
Dyddiad y Cyfarfod Nesaf Cofnodion: Mercher 16 Medi 2020 am 4pm.
|