Agenda and minutes

Cabinet - Dydd Mercher, 5ed Mai, 2021 4.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Tracy Richards , Cabinet Office Manager  E-bost: Cabinet@newport.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Cofnodion:

Councillor Gail Giles

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU

Cofnodion:

Dim byd amlwg.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 154 KB

Cofnodion:

Cofnodion o 7 Ebrill – nodwch y cadarnheir eu bod yn gofnod cywir.

4.

ADOLYGIAD POLISI: POLISI CANMOLIAETH, SYLWADAU A CHWYNION A PHOLISI GWEITHREDOEDD ANNERBYNIOL GAN ACHWYNWYR pdf icon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yr Arweinydd i gyflwyno’r adroddiad i’r Cabinet.

 

Roedd polisi clir wedi bod ar waith gan y Cyngor ers nifer o flynyddoedd sy’n esbonio sut mae’n rheoli adborth gan drigolion. Bu nifer o newidiadau’n ddiweddar i ddeddfwriaeth allweddol sydd wedi effeithio ar sut mae’r Cyngor yn gwrando ar drigolion ac yn dysgu ganddynt.

 

Y prif reswm am y diwygiadau oedd adlewyrchu Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019  Ym mis Medi 2020, ysgrifennodd yr Ombwdsmon i bob Awdurdod Lleol yn cadarnhau bod y Datganiad o Egwyddorion, y Broses Trin Cwynion Enghreifftiol a'r Canllawiau a ddiwygiwyd ar waith yn llawn. Gofynnodd yr Ombwdsmon i gyrff cyhoeddus fyfyrio ar sut y mae eu harferion a'u gweithdrefnau yn cydymffurfio â'r canllawiau wedi'u diweddaru a sut y byddent yn sicrhau bod pob cwyn yn cael ei chofnodi’n briodol.

 

Roedd y prif newidiadau arfaethedig i'r polisi yn cynnwys:

           Newidiadau i'r trefniadau adrodd a monitro.

           Diffiniadau wedi'u diweddaru o Rolau a Chyfrifoldebau ar gyfer rheoli cwynion.

           Mwy o eglurder yngl?n â'r trefniadau ar gyfer rheoli cwynion yngl?n â phartneriaid a darparwyr gwasanaethau a gomisiynwyd gan y Cyngor i ddarparu gwasanaethau.

A;

           Mwy o gyfeirio at wasanaethau eiriolaeth a chymorth.

 

Roedd y trefniadau adrodd a monitro wedi'u diweddaru hefyd yn adlewyrchu gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2021. Roedd swyddogaeth statudol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio newydd yn cynnwys adolygu ac asesu gallu'r Cyngor i ymdrin â chwynion yn effeithiol, ac i adrodd ar argymhellion a'u gwneud yn hyn o beth.

 

Yn ogystal â gofynion yr Ombwdsmon, bu newidiadau eraill i ddeddfwriaeth yn ymwneud â thrin cwynion a adlewyrchir yn y polisi wedi'i ddiweddaru. Yn eu plith roedd:

 

         Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

         Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

         Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018

         Herio Bwlio - Hawliau, parch, cydraddoldeb: Canllawiau statudol i awdurdodau lleol (2019).

 

Roedd y newidiadau hyn i'r polisi yn ymwneud â'i gwneud yn glir i drigolion sut yr ymdrinnir â chwynion yn y meysydd penodol hyn, gan gynnwys cyfeirio at gymorth a chefnogaeth bellach.

 

Bu rhai mân newidiadau hefyd i'r polisi Gweithredoedd Annerbyniol gan Achwynwyr. Er bod y Cyngor wedi ymrwymo i ymdrin â phob cwyn yn deg, yn gynhwysfawr ac yn amserol, nid yw’r Cyngor yn disgwyl i staff oddef ymddygiad camdriniol, sarhaus na bygythiol.  Mewn rhai achosion, gallai ymddygiad afresymol hefyd rwystro gwaith ymchwilio i g?yn yr unigolyn neu gallai greu problemau sylweddol i'r Cyngor o ran adnoddau.

 

Roedd y polisi'n cadarnhau'r trefniadau sydd ar waith i fynd i'r afael â'r problemau hyn mewn modd cyfrinachol, teg a gwrthrychol drwy fforwm sy’n cyfarfod yn rheolaidd i adolygu'r achosion hyn a chytuno ar unrhyw gamau gweithredu priodol o fewn cylch gwaith y polisi. Roedd y polisi hefyd yn adlewyrchu'r ffaith nad yw pob achos o ymddygiad annerbyniol yn ymwneud â chwynion.

 

Gofynnwyd i'r Cabinet ystyried a chymeradwyo'r Polisi Canmoliaeth, Sylwadau a Chwynion diwygiedig, a'r polisi  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM YR YMATEB I COVID-19 A'R ADFERIAD OHONO pdf icon PDF 174 KB

Cofnodion:

Yr Arweinydd i gyflwyno’r adroddiad i’r Cabinet.

 

Rhoddodd yr Adroddiad Cabinet hwn ddiweddariad ar ymateb y Cyngor a'i bartneriaid i argyfwng Covid-19 gan gefnogi'r Ddinas (trigolion a busnesau) i gydymffurfio â'r cyfyngiadau a'r cynnydd presennol yn Nodau Adfer Strategol a Chynllun Corfforaethol y Cyngor. 

 

I Gyngor Casnewydd roedd hwn yn gyfnod digynsail lle'r oeddem wedi wynebu llawer o benderfyniadau anodd, gan weld trigolion a busnesau'n dioddef o effeithiau Covid a'r cyfyngiadau i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.  Nid oedd yr un person heb i’r pandemig hwn wedi effeithio arno.

 

Mae Cynghorwyr ar draws yr holl bleidiau gwleidyddol, swyddogion a'n partneriaid strategol ym maes iechyd, Casnewydd Fyw, y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir, Newport Norse a darparwyr gwasanaethau eraill wedi dod at ei gilydd i ddatrys materion sydd wedi dod i’r amlwg; gan ddod o hyd i ffyrdd arloesol a newydd o ddarparu ein gwasanaethau, a chefnogi'r rheiny sydd angen ein cymorth. 

 

Roedd y Cyngor hefyd yn gwybod bod mwy y gallem ac y byddem yn ei wneud i gefnogi pobl a busnesau allan o'r argyfwng hwn.   

 

Ymateb y Cyngor i Covid-19 a’r Cynnydd hyd yma:

 

Ers yr adroddiad blaenorol ym mis Ebrill, llaciwyd rhagor o gyfyngiadau gan alluogi trigolion a busnesau i ddychwelyd yn araf i'r drefn arferol. 

 

Gyda lletygarwch a gweithgareddau awyr agored yn ailagor (bydd lletygarwch dan do yn ailagor ym mis Mai) a busnesau eraill ar agor ers mis Ebrill, mae’n bwysig ein bod yn cefnogi ein busnesau a'n heconomi leol ledled Casnewydd i greu economi gynaliadwy a llwyddiannus ar gyfer y dyfodol. 

 

Parhaodd y rhaglen frechu i symud ymlaen trwy’r grwpiau oedran yng Nghymru gyda dros 1.7 miliwn o bobl bellach wedi cael eu brechiad cyntaf.  Roedd rhywfaint o waith i'w wneud eto ac roedd yr un mor bwysig i bobl rhwng 18 a 39 oed gael eu brechu gan gynnwys ein cymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghasnewydd.

 

Fodd bynnag, nid oedd hyn yn golygu y gallem ddychwelyd i fywyd fel yr oedd cyn Covid.  Fel y gwelsom mewn gwledydd fel Brasil ac India sydd wedi dioddef yn sylweddol, roedd yn bwysig ein bod yn parhau’n wyliadwrus o ran cadw pellter cymdeithasol a bod y rheiny â symptomau, neu eu ffrindiau neu eu teulu, yn cael eu profi, yn hunanynysu ac yn dilyn y canllawiau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.    

 

 Er gwaethaf yr heriau a wynebwyd gennym, parhaodd swyddogion a'n partneriaid i ddarparu gwasanaethau ar draws cymunedau yng Nghasnewydd yn ystod y 12 mis diwethaf. 

 

Roedd y Cyngor wedi gweld pa mor wydn a dyfeisgar oedd swyddogion wrth weithio gartref, gofalu am eu plant a pherthnasau ac addysgu gartref, yn ogystal â'r swyddogion, yr athrawon, a’r staff gwasanaethau cymdeithasol hynny a oedd wedi parhau i weithio ar draws Casnewydd yn casglu gwastraff, yn glanhau ein strydoedd ac yn ymweld â'r bobl fwyaf agored i niwed yn y ddinas ac yn gofalu amdanynt. 

 

Roedd y Cyngor hefyd yn edrych ymlaen, drwy lunio sut y byddai ein gwasanaethau’n cael eu darparu'n gynaliadwy yn y dyfodol.  Roedd  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ADRODDIAD DIWEDDARU BREXIT pdf icon PDF 112 KB

Cofnodion:

Yr Arweinydd i gyflwyno’r adroddiad i’r Cabinet.

 

Rhoddodd yr Adroddiad Cabinet hwn ddiweddariad ar gynnydd y trefniadau ar ôl Brexit / masnach ers 31 Rhagfyr 2020.

 

Gadawodd y Deyrnas Unedig yr Undeb Ewropeaidd a'r Farchnad Sengl ar 31 Rhagfyr 2020 roedd busnesau (mewnforwyr / allforwyr) o'r DU a'r UE bellach yn gorfod cydymffurfio â'r trefniadau tollau newydd.

 

Ers yr adroddiad diwethaf ym mis Ebrill, lansiodd Cyngor Casnewydd ei dudalen we ar wefan y Cyngor yn cynnig ffordd i elusennau, grwpiau cymunedol lleol, a darparwyr addysg gan gynnwys colegau a phrifysgolion wneud cais am Arian Adfywio Cymunedol y DU.  Roedd angen gwneud cais erbyn dydd Gwener 21 Mai a byddai’r ceisiadau’n cael eu hasesu a’u rhoi ar restr fer i’w chyflwyno i Lywodraeth y DU erbyn 18 Mehefin 2021.

 

Mae Cyngor Casnewydd hefyd yn ystyried prosiectau posibl a allai elwa o'r Arian Lefelu a chaiff ceisiadau eu cyflwyno i Lywodraeth y DU erbyn 18 Mehefin 2021.

 

Roedd Cyngor Casnewydd a'i bartneriaid yn parhau i gefnogi trigolion sy'n byw yng Nghasnewydd gyda Chynllun Preswylydd Sefydlog yr UE cyn y dyddiad cau ar 30 Mehefin.  Dylai unrhyw un nad yw wedi gwneud cais wneud hynny ac annog ei ffrindiau a’i berthnasau i wneud hynny hefyd.  Cynigiodd y Cyngor gyngor ac arweiniad i'r rheiny a oedd â phryderon a/neu a oedd angen cymorth pellach i wneud cais. 

 

Roedd y Cyngor wedi gweld cynnydd yn nifer yr unigolion / teuluoedd na allant fanteisio ar Arian Cyhoeddus ac y mae angen cymorth arnynt.  Roedd y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi'r rheiny a oedd yn cyflwyno eu hunain i'r Cyngor i sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. 

 

Rhoddodd y tabl yn Atodiad 1 yr adroddiad fanylion llawn y meysydd a gwmpesir gan y Gr?p Gorchwyl a Gorffen.

 

Penderfyniad:

Ystyriodd y Cabinet gynnwys yr adroddiad a nododd ymateb y Cyngor i Brexit.

 

7.

PSB Summary

Link to Sway version here

 

8.

RHAGLEN WAITH Y CABINET AR GYFER 2021-2022 pdf icon PDF 85 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yr Arweinydd i gyflwyno’r adroddiad i’r Cabinet.

 

Dyma'r adroddiad misol rheolaidd ar y rhaglen waith, a gofynnodd yr Arweinydd i’w cydweithwyr dderbyn y rhaglen wedi’i diweddaru.

 

Penderfyniad:

Cytunodd y Cabinet ar Raglen Waith y Cabinet ar gyfer y cyfnod rhwng mis Mehefin 2021 a mis Mehefin 2022.

 

9.

Live Event

To view the Live Event, please click on the link below:

 

Microsoft Teams

Join live event