Agenda and minutes

Cabinet - Dydd Mercher, 7fed Gorffennaf, 2021 4.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Anne Jenkins, Arweinydd Tîm Llywodraethu  E-bost: Cabinet@newport.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un.

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un.

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 144 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion 16 Mehefin 2021 fel rhai cywir.

 

4.

Adroddiad Diwedd Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys - 2020/21 pdf icon PDF 190 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad.  Yr oedd yr adroddiad hwn yn cyflawni cyfrifoldeb y Cyngor i dderbyn a chymeradwyo adroddiad blynyddol ar alldro rheoli trysorlys bob blwyddyn. Yr oedd yr adroddiad yn ymdrin â’r alldro am 2020/21 ac eisoes wedi cael ei adolygu gan y Pwyllgor Archwilio lle na wnaed unrhyw sylwadau, a byddai’n mynd i’r Cyngor wedi’r cyfarfod Cabinet hwn.

 

Cyflwynodd yr adroddiad y wybodaeth a ganlyn:

 

·         Manylion cyllido cyfalaf, benthyciadau, ail-drefnu dyledion a thrafodion buddsoddi

·         Adroddiadau ar oblygiadau risg penderfyniadau a thrafodion y trysorlys

·         Manylion y sefyllfa alldro ar drafodion rheoli’r trysorlys yn 2020/2021 oedd yn cadarnhau cydymffurfio â’r terfynau trysorlys a osodwyd gan y Cyngor.

 

Cafodd pandemig Covid effaith ar Reoli Trysorlys yn ystod 2020/21. Ers dyddiau cynnar y pandemig, bu’n rhaid i’r Cyngor fonitro cynnydd sylweddol mewn llif arian trwy gydol 2020/21, o roi grantiau busnes a’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnes yn benodol, a hefyd oherwydd cynnydd yn eu costau eu hunain a lefel is o incwm. Rhoddodd Llywodraeth Cymru gefnogaeth ariannol sylweddol er mwyn sicrhau bod gan Gynghorau ddigon o arian mi weinyddu’r cynlluniau grantiau busnes a grantiau ardrethi, a buont yn ad-dalu Cynghorau trwy gydol y flwyddyn am eu cynnydd mewn grantiau a’r gostyngiad mewn incwm, yn ogystal â chyfeirio eu cefnogaeth GCD tuag at ran gyntaf y flwyddyn. Ynghyd â’r llithriad o ran cyflwyno ei gynlluniau cyfalaf ei hun a thanwario ar y gyllideb refeniw, golygodd hyn fod llif arian yn fwy positif nag mewn ‘blwyddyn normal’ a roes fod i lai o fenthyca a llawer mwy o fuddsoddi tymor-byr.

 

Ni wnaeth hyn leihau ymrwymiad y Cyngor o fod angen benthyca, ond fe arafodd y raddfa o gymryd y benthyca hwnnw tuag at lefel yr ymrwymiad.

 

Ar waethaf yr uchod, yn unol â’r Strategaeth Rheoli Trysorlys y cytunwyd arni, llwyddodd y Cyngor i fod yn fuddsoddwr arian tymor-byr ac i fenthyca er mwyn rheoli’r llif arian o ddydd i ddydd yn 2020/21.

 

I droi yn benodol at fenthyca, er bod gan y Cyngor ofynion benthyca tymor-hir sylweddol, mae strategaeth bresennol y Cyngor o dalu am wariant cyfalaf yn defnyddio ‘benthyca mewnol’ yn hytrach na benthyca o’r newydd lle gall. Mae’n gallu gwneud hyn oherwydd ei arian wrth gefn, ac ar 31 Mawrth 2021, yr oedd lefel y benthyca mewnol tua £107m a arbedodd, ar y cyfraddau log cyfredol, ryw £2.4m mewn costau llog blynyddol, o gymharu â benthyca’r lefel hon o arian mewn gwirionedd. 

 

Bu’r flwyddyn ariannol yn weddol dawel o ran benthyca, fel y gwelir yn Atodiad B yr adroddiad:

 

·        Ad-dalodd y Cyngor fenthyciad tymor-byr a gymerwyd ym Mawrth 2020 ar gyfer llif arian yn benodol ac i hwyluso talu grantiau busnes yn gynnar ym mis Ebrill. Ad-dalwyd hyn gan Lywodraeth Cymru ac ad-dalwyd y benthyciad yn ôl y bwriad ym Mehefin 2020.

·        Ym Mawrth 2021 gwnaeth yr awdurdod fenthyca yn y tymor byr i dalu am weithgareddau llif arian beunyddiol normal.

·        Yn olaf, roedd angen benthyca isafswm newydd yn y tymor hir yn ail hanner y flwyddyn ariannol, sef cyfanswm o  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Alldro Cyllideb Refeniw - 2020/21 pdf icon PDF 984 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad.  Yr oedd yr adroddiad yn gosod allan sefyllfa alldro derfynol yr awdurdod am flwyddyn ariannol 2020/21 a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021.

 

Bu 2020/21 yn flwyddyn hollol wahanol i bob un arall. Wrth i  bandemig Covid ddatblygu fel tân gwyllt o  Fawrth 2020 ymlaen, ail-flaenoriaethwyd gwasanaethau i ddelio â’r ymateb yn y fan a’r lle i gefnogi cymunedau ledled Casnewydd, a pharhaodd hyn, i wahanol raddau, trwy gydol y flwyddyn ariannol.  Er i gostau sylweddol ddod i’n rhan er mwyn cyflwyno’r ymateb hwn i’n cymunedau, talodd Llywodraeth Cymru y costau hyn.

 

Nidyn unig y bu’r cyngor yn gweithio’n agos gyda’r sector cyhoeddus yng Nghymru i gefnogi cymunedau a busnesau ledled Cymru, ond buom hefyd yn asiant i Lywodraeth Cymru, gan brosesu gwerth £51m o daliadau cefnogi ar draws nifer o gynlluniau’r llywodraeth, ynghyd â £20m yn ychwanegol o ‘wyliau’ o ardrethi busnes i’r sectorau hamdden a lletygarwch.

 

Digwyddodd y tanwariant o £14m yn bennaf am i wasanaethau gael eu dargyfeirio o’u gweithgareddau arferol i roi blaenoriaeth i’r ymateb i Covid. Yn benodol:

 

·        Derbyniodd y cyngor tua £23m o arian unwaith-am-byth Llywodraeth Cymru i wneud iawn am gostau ychwanegol ddaeth i’w rhan mewn ymateb i’r pandemig a’r incwm a gollwyd oherwydd cyfyngiadau Covid;

 

·        Bu cryn danwariant ar draw syr holl feysydd gwasanaeth oherwydd newidiadau mewn darparu gwasanaethau ac arferion gweithio; ac

 

·        Yn gysylltiedig â’r uchod, bu tanwariant yn erbyn y gyllideb refeniw gyffredinol wrth gefn, cynllun gostwng treth y cyngor ac incwm o dreth y cyngor - a’r rhain oll yn gyllidebau heb fod yn rhai gwasanaeth.

 

Codwydrhai materion unigol a rhai a ddigwyddodd dro ar ôl tro yn yr adroddiad, y byddai’r swyddogion yn ymdrin â hwy: er enghraifft, cyflwyno arbedion.  Tra cyrhaeddwyd 82% o’r targed arbedion yn 2020/21, bu oedi cyn gweithredu oherwydd effaith Covid, ac yr oedd angen cynlluniau cadarn i sicrhau y bydd yr arbedion hyn yn cael eu cyflwyno’n llawn, a hefyd yr arbedion newydd y cytunwyd arnynt ar gyfer 2021/22.

 

Ymhellach, ni wyddom beth fydd yr effaith ar wasanaethau gweithredol oherwydd y pandemig a’r gwaith ychwanegol a grëwyd gan hyn. Er bod cronfa galedi Llywodraeth Cymru i fod i barhau am chwe mis cyntaf 2021, ni oedd yn glir beth fydd yn digwydd wedi hyn.

 

Yr oedd Adran 4 yr adroddiad yn esbonio’n fanwl y meysydd a allai effeithio ar y sefyllfa ariannol yn y flwyddyn gyfredol, 2021/22 a byddai angen i’r Uwch-Dîm Rheoli barhau i oruchwylio’r meysydd hyn yn benodol.

 

O ran sefyllfa ysgolion, yr oedd arian wrth gefn ym malansau’r ysgolion i dalu am yr amrywiadau hyn: nid oedd y tanwariant cyffredinol o £14m yn cynnwys sefyllfa’r ysgolion. Yn 2020/21, tanwariodd ysgolion o £8.4m, fyddai’n gweld eu balansau yn cynyddu o £1.1m i £9.5m fel ar 31 Mawrth 2021.  Gwnaeth ysgolion  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Alldro Cyfalaf ac Ychwanegiadau - 2020/21 pdf icon PDF 328 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad.  Mae’r adroddiad hwn yn dangos yr alldro cyfalaf terfynol am flwyddyn ariannol 2020/21. Yn benodol, mae’n gofyn am yr isod:

 

·        cymeradwyo dwyn ymlaen i’r gyllideb lithriad o wariant prosiectau sy’n bod eisoes i’r flwyddyn ariannol newydd, sef £7.134m,

 

·        cymeradwyo ychwanegu prosiectau cyfalaf newydd i Raglen Gyfalaf y Cyngor. Mae’r rhain yn arwyddocaol iawn, sef £24.795m, a

 

·        chymeradwyo ffigyrau diwygiedig Amlinelliad o Gynllun Strategol (AGS) am raglen gyfalaf Addysg Band B i’w darparu i Lywodraeth Cymru gyda’r bwriad o adolygu fforddiadwyedd dyheadau sy’n bod eisoes ac o bosib chwilio am gyllid ychwanegol.

 

Yr oedd hefyd yn rhoi cyfoesiad am yr adnoddau cyfalaf oedd ar gael ar hyn o bryd (‘arian rhydd’), gan gynnwys cadarnhau cyllid grant Llywodraeth Cymru o £7m tuag at brosiect y ganolfan hamdden newydd a’i effeithiau, a’r camau a gymerwyd.  

 

Gosododd y Cyngor raglen gyfalaf helaeth sy’n adlewyrchu ymrwymiad saith-mlynedd. Dengys tabl un yn yr adroddiad sut y newidiodd hynny dros y flwyddyn ariannol ac y mae’n dangos fod ymrwymiadau a gwariant cyfalaf y Cyngor yn y ddinas yn awr yn £274m dros einioes y rhaglen, ar draws yr holl feysydd gwasanaeth.

 

Dengys tabl dau yn yr adroddiad y sefyllfa yn 2020/21, sef canolbwynt yr adroddiad hwn. Mae’n cadarnhau tanwariant bychan ar brosiectau a gwblhawyd o £749k, ac yn rhoi manylion. Mae hefyd yn amlygu’r angen am lithriad ar wariant o £7.1m lle bu oedi gyda chyflwyno a gwario ar brosiectau. Adolygwyd y gyllideb gyfalaf am 2020/21 a’i gostwng dros y flwyddyn, ond digwyddodd y llithriad er hynny, ac y mae’n rhyw 21% o’r gyllideb, er bod hyn yn gyson â blynyddoedd blaenorol. Mae manylion y prif feysydd llithriad yn yr adroddiad.

 

Mae llithriad ar y rhaglen gyfalaf yn thema sy’n digwydd yn gyson, a gellir ei briodoli yn rhannol weithiau i gael gwybod yn hwyr am gyllid grant allanol, nad yw’n gadael llawer o amser i gyflwyno prosiectau yn yr un flwyddyn. Wedi dweud hynny, fel y dengys yr adroddiad, mae llithriad, ynghyd â’r cynnydd sylweddol mewn prosiectau newydd sy’n cael eu cynnwys yma i’w cymeradwyo, wedi cynyddu’r gyllideb i ryw £100m yn y flwyddyn ariannol gyfredol, 2021/22.

 

Yn amlwg, mae angen adolygu hyn a’r rhaglen gyfan o ran amseru cyflwyno. Bydd hyn yn digwydd dros yr haf ac yn gynnar yn yr hydref, a gofynnir i’r uwch swyddogion wneud hyn mor gadarn ag sydd modd - rhaid iddo fod yn realistig a chaniatáu i’r Tîm Rheoli Corfforaethol a’r Cabinet gael barn am hynny ac unrhyw broblemau a all godi. 

 

Gofynnir i ni gymeradwyo, fel arfer, brosiectau cyfalaf newydd i’w hychwanegu at y rhaglen gyffredinol. Yn yr adroddiad hwn, mae gennym swm digynsail o ychwanegiadau, a’r mwyafrif wedi eu cyllido gan grantiau Llywodraeth Cymru, a  gafodd eu cadarnhau yn unig o fis Chwefror ymlaen, a chawsant gryn effaith ar y ddinas. Yn eu plith mae:

 

·        Bron i £1.7m ar ‘brosiectau creu lle’ sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd,

·        Bron i £10m ar ‘gynlluniau teithio llesol’, fyddai’n hwb enfawr i deithio  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Ymateb i'r Normal Newydd pdf icon PDF 192 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad.  Ym mis Chwefror 2021, cyflwynwyd papur trafod i’r Pwyllgor Trosolwg a Rheoli Craffu dan y teitl ‘Ymateb i’r Normal Newydd’. Yr oedd hyn yn rhoi manylion am sut yr ymatebodd y Cyngor i’r pandemig, a’r buddion a’r heriau oedd yn gysylltiedig â’r ffyrdd newydd o weithio.

 

Cyflwynwyd papur dilynol, sef yr adroddiad i’r Cabinet, i’r PTRhC ym Mehefin 2021 i gael sylwadau.

 

Gofynnwyd i’r Cabinet gytuno ar gyfres o argymhellion, fyddai’n gosod cyfeiriad y sefydliad. Yr oedd y rhain yn cymryd i ystyriaeth brofiadau a thystiolaeth a gasglwyd dros y 15 mis diwethaf, ymrwymiadau’r sefydliad, cyfleoedd a gododd, disgwyliadau’r staff a gofynion deddfwriaethol.

 

Petai’r Cabinet yn cytuno gyda’r argymhellion, byddid yn dechrau ymgynghori gyda’r undebau llafur a’r staff i drafod unrhyw newidiadau posib i delerau ac amodau cyflogaeth, a datblygu cynlluniau mwy manwl yng nghyswllt defnyddio’r Ganolfan Ddinesig, cyn cyflwyno’r adroddiad terfynol i’r Cabinet yn yr hydref.

 

Ymaddasodd Aelodau a swyddogion y Cyngor eu ffyrdd o weithio er mwyn ymateb i bandemig Covid 19. Yr oedd y Cyngor yn canoli ar sicrhau diogelwch y cyhoedd, ein staff a’r Aelodau Etholedig.

 

Er bod hyn yn hynod heriol, fe wnaeth greu cyfleoedd i ni, fel llawer o fudiadau eraill y sectorau preifat a chyhoeddus.

 

Yr oedd yr adroddiad yn ymdrin â phedwar prif faes:

·        Ein staff,

·        Y defnydd o’n prif adeilad, y Ganolfan Ddinesig a sut yr ydym yn gweithio gyda’r cyhoedd,

·        Sut y gwnaethom reoli swyddogaethau democrataidd y Cyngor, a

·        Sut y gwnaethom ddefnyddio technoleg

 

Y penderfyniad allweddol cyntaf oedd a ddylid bwrw ymlaen â’r newidiadau diwylliannol a gweithredol a roddwyd ar waith o ganlyniad i’r pandemig, neu ynteu ddychwelyd i’r model cyn Covid.

 

Yr oedd cynnal yr hyblygrwydd a greodd ymateb y Cyngor i Covid wedi ein galluogi i gwrdd â’n hymrwymiad yn y Cynllun Corfforaethol o ryddhau hyd at 20% o’r Ganolfan Ddinesig i arbed arian a chreu lle i arloesedd masnachol a chymdeithasol.

 

Yr oedd cael mwy o staff yn gweithio o gartref neu’n agos at gartref tyn cefnogi’r agenda newid hinsawdd ac yn helpu i weithio tuag at sero net carbon. Daeth 45% o’r holl allyriadau carbon yng Nghasnewydd o drafnidiaeth. Dangosodd yr adroddiad fod 75% o’r staff yn cymudo i’r gwaith mewn ceir cyn y pandemig.

 

O ran y staff, ystyriodd y cyngorymateb y gweithwyr yn ystod y pandemig. Yr oedd llawer yn gwerthfawrogi’r cyfle i weithio’n hyblyg, a chafodd hyn effaith ar salwch ymysg staff. Fodd bynnag, yr oedd yn werth nodi nad oed y gostyngiad mewn absenoldeb oherwydd straen mor amlwg, a bod angen i ni ystyried yr effaith ar les y staff.  Yr oedd y Cyngor yn ymgynghori ar hyn o bryd gyda’r undebau llafur ar Bolisi Lles yn y gwaith newydd, a dylai hyn arwain at wellau lefelau cefnogaeth i’r staff.

 

Tynnodd yr adroddiad sylw at y tâl posib y byddai’n rhaid ei ystyried i staff petaem yn dynodi eu cartref fel man gwaith. Dylid nodi nad oedd yr adroddiad yn dweud y dylai’r staff weithio  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Cytundeb Partneriaeth Strategol Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM). pdf icon PDF 183 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, a baratowyd gan y Prif Swyddog Addysg, i’r Cabinet benderfynu arno.

 

Yr oedd Llywodraeth Cymru wedi caffael Meridiam Investments fel eu partner yn y sector preifat i weithio ar gyflwyno cyfleusterau addysg a chymuned dan Fodel Buddsoddi Cilyddol (MBC) Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, a chadarnhawyd hyn fel eu dewis fodel o gyflwyno.

 

Daeth rhai awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach eisoes i Gytundeb Partneriaeth Strategol gyda Gweinidogion Cymru oedd yn cefnogi’r trefniant hwn, gan amlinellu sut y byddai’r partion yn cydweithio  dros y tymor hir fel partneriaid i gefnogi cyflwyno cyfleusterau addysg a chymuned a gwasanaethau seilwaith ledled Cymru.

 

Cwblhawyd y Cytundeb Partneriaeth Strategol  gwreiddiol ym Medi 2020, ond yr oedd cyfle yn awr i awdurdodau lleol eraill nad oedd yn rhan o’r cytundeb i ddod i “Weithred Adlyniad” ategol. Byddai hyn yn galluogi Casnewydd i ddod yn rhan o’r Cytundeb Partneriaeth Strategol am dymor cychwynnol o 10 mlynedd.

 

Nid oedd y penderfyniad i ddod i’r Weithred Adlyniad hon yn awr yn ymrwymo’r Cyngor i unrhyw brosiect MCB, ac ni fyddai unrhyw effaith ariannol yn syth. Y cyfan a wnâi oedd rhoi “sedd wrth y bwrdd” i’r Cyngor er mwyn gosod blaenoriaethau a deall beth oedd cynlluniau cyflwyno cyfranogwyr eraill ledled Cymru.

 

Wrth ddod i’r Weithred Adlyniad hon, yr oedd gofyn i’r Cyngor enwebu “Cynrychiolydd Cyfranogol” i eistedd ar y Bwrdd Partneriaeth Strategol, ac argymhellodd yr adroddiad y dylid enwebu’r Prif Swyddog Addysg i ymgymryd â’r rôl hon.

 

Er nad yn ymrwymo i brosiectau penodol, byddai mynd i’r Weithred Adlyniad hon yn sicrhau y gallai’r Cyngor gyrchu’r buddion cysylltiedig â’r Cytundeb Partneriaeth Strategol  dros y 10 mlynedd nesaf o leiaf

 

Gwahoddodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau i siarad am yr adroddiad.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet wrth gydweithwyr fod partneriaeth Addysg Cymru the 21ain Ganrif Band B yn gytundeb ategol, fyddai’n sicrhau y gallai awdurdodau lleol gydweithio i gyflwyno prosiectau cymwys er mwyn bod galluedd, medr a chanolbwynt ar yr arferion gorau.

 

Yr oedd yn gyfle i fanteisio ar amrywiaeth o gefnogaeth strategol a gwasanaeth seilwaith a chaffael, i alluogi datblygu prosiect neu adeiladu o’r newydd, a fyddai’n arwain y sector a rhoi gwerth am arian.

 

Argymhellodd yr Aelod Cabinet hefyd gymeradwyo Sarah Morgan fel cynrychiolydd cyfranogol y Cyngor ar y Bwrdd Partneriaeth Strategol gan y byddai hyn yn sicrhau cysondeb a pharhad mewn unrhyw broses o wneud penderfyniadau.

 

Penderfyniad:

 

Fod y Cabinet yn:

(a)         Cymeradwyo gweithredu, cyflwyno a pherfformio cytundeb ategol i Gytundeb Partneru Strategol PAC dyddiedig 30Medi 2020 (y “Weithred Adlyniad”) ac o ddyddiad gweithredu’r Weithred Adlyniad i roi grym i delerau Cytundeb Partneru Strategol PAC dyddiedig 30 Medi 2020 a rhwymo fel rhan ohono, i hwyluso cyflwyno amred o wasanaethau seilwaith a chyflwyno cyfleusterau addysg a chymunedol;

(b)         Cymeradwyo telerau’r Weithred Adlyniad a Chytundeb Partneru Strategol PAC dyddiedig 30 Medi yn Atodiad A a B yr adroddiad hwn a grynhoir yn Atodiad 1 a 2 yr adroddiad hwn er mwyn rhoi grym i argymhelliad  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Adroddiad Diweddaru Covid pdf icon PDF 209 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad.  Adroddiad i’r Cabinet oedd hwn ar ymateb y Cyngor a’i bartneriaid i argyfwng Covid-19 o ran cefnogi’r ddinas (trigolion a busnesau) i gydymffurfio â’r cyfyngiadau presennol a’r cynnydd gyda Nodau Adfer Strategol y Cyngor a’r Cynllun Corfforaethol. 

 

 

Cyfoesiad am Covid-19

 

·      Erscyfarfod diwethaf y Cabinet ym Mehefin, gwelodd Cymru ddyfodiad amrywiolyn Delta fel y straen amlycaf. 

 

·      Yng Nghasnewydd, yr oedd adroddiadau am achosion yn mynd at y gwasanaeth Profi, Olrhain ac Amddiffyn ac yr oeddent yn parhau’n isel ac mewn clystyrau bychain. Yr oedd y gwasanaeth, ynghyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, y Cyngor a phartneriaid eraill yn mynd ati i weithio i gefnogi’r rhai yr effeithiwyd arnynt a thorri cadwyn y firws. 

 

·      Yr oedd y rhaglen frechu yng Nghymru a gyflwynwyd gan GIG Cymru, BIPAB, gyda chefnogaeth y Cyngor (Casnewydd Fyw) yn dal yn llwyddiannus wrth symud ymlaen at y rhai dan 25 i gael eu dos gyntaf a’r sawl sy’’n cael eu hail ddos.

 

·      Y mae’r rhaglen frechu a gyflwynir yng Nghymru nid yn unig yn un o’r rhai gorau yn y DU ond yn y byd, ac yr oedd yn bwysig i’r sawl nad oedd wedi cymryd eu brechiad i wneud hynny am ei fod yn amddiffyn yr unigolyn ond eraill.

 

·      Yr oedd Map Ffordd Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen i gyfyngiadau Lefel Rhybudd 1 dros yr haf. Cymerwyd yr agwedd bwyllog hon oherwydd ymddangosiad amrywiolyn Delta a’r angen i ddeall mwy am effaith hyn ar y rhai a frechwyd a’r rhai na chafodd frechiad.

 

·      Yr oedd yn bwysig i drigolion a busnesau gadw at y cyfyngiadau wrth i ni fynd trwy gyfnodau olaf y map ffordd.

 

·      Fel y dywedodd Llywodraeth Cymru, bydd yn rhaid i ni ddysgu byw gyda’r firws a pharhau yn wyliadwrus trwy gydol y flwyddyn. 

 

·      Yr oedd y Cyngor yn parhau i gyflwyno gwasanaethau, boed hyn mewn cartrefi preswyl, ymweld â chleientiaid,  casglu gwastraff neu gael staff yn gweithio o gartref. 

 

·      Yr oedd ysgolion yn dal i gefnogi disgyblion lle’r adroddwyd am achosion o covid.

·      Cadarnhawydcyllid ar gyfer adleoli’r Orsaf Wybodaeth i adeilad yr Amgueddfa Ganolog a’r Llyfrgell. 

·      Yr oedd Casnewydd Fyw yn dal i gefnogi pobl ifanc yng Nghasnewydd gan weithio gyda phartneriaid diogelwch cymunedol. 

 

Byddai mwy o gyfoesiadau am gynnydd y Cyngor yn cael eu rhoi y mis nesaf.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Truman at amrywiolyn delta oedd yn cynyddu, a dywedodd fod Swyddogion Amgylchedd a Safonau Masnach yn gweithio gyda’r Heddlu i archwilio gwahanol adeiladau cyhoeddus er mwyn sicrhau bod y rhagofalon iawn ar gael i amddiffyn pobl Casnewydd.  Hefyd, yr oedd swyddogion yn rhoi cyngor i fusnesau, ac ambell waith yn rhoi rhybuddion gwella a chau, yn ogystal â bod wrth law i roi cyngor a gweithio ar rai o’r clystyrau yng Nghasnewydd.  Yr oedd  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Adroddiad Diweddaru Brexit pdf icon PDF 137 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, sef cyfoesiad am y trefniadau masnach wedi Brexit ers mis Rhagfyr 2020.

 

Ers yr adroddiad blaenorol ym Mehefin 2021 yr oedd y terfyn amser (30 Mehefin 2021) i ddinasyddion yr UE/AEE ymgeisio am Statws Sefydlu yr UE wedi mynd heibio.

 

Dywedodd Llywodraeth y DU (y Swyddfa Gartref) fod llawer o ddinasyddion wedi gwneud cais ac wedi derbyn canlyniadau eu cais am Statws Sefydlu.

 

Dywedodd y Cabinet hwn, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol eraill fod croeso i bobl o’r UE, yr AEE neu’r Swistir yng Nghymru a Chasnewydd, ac y byddai hyn yn parhau. Yr oedd eu cyfraniad i’n cymunedau, ein gwasanaethau cyhoeddus a’n busnesau yn hynod werthfawr.

 

Dywedodd y swyddfa Gartref y cafodd 5,020 people o bobl Statws Sefydlu a 3,350 statws Cyn-Sefydlu yng Nghasnewydd.  Er bod hyn yn gadarnhaol iawn i Gasnewydd, yr oedd rhai pobl o hyd heb wneud cais ac y mae’n debyg mai hwy oedd rhai o’n dinasyddion mwyaf bregus.

 

Gwelodd gwasanaethau rheng-flaen y Cyngor eisoes drigolion yr UE a’u teuluoedd yn dioddef caledi oherwydd eu statws mudo. Nawr fod y terfyn amser wedi mynd heibio, y disgwyl oedd y byddai’r niferoedd yn cynyddu y flwyddyn nesaf.

 

Bydd Cyngor Casnewydd a’i bartneriaid yn dal i wneud eu gorau i sicrhau fod pobl yn cael cefnogaeth i arfer eu hawliau yn y DU, a chodi ymwybyddiaeth ymysg staff a gweithwyr proffesiynol erial o anghenion dinasyddion yr UE.

 

Ers i’r trefniadau masnach newydd gael eu sefydlu gyda’r UE, yr oedd yn amser heriol i fusnesau ledled Cymru i ymgyfarwyddo a chydymffurfio â’r gofynion rheoleiddio newydd. 

 

Yr oedd yr economi ehangach hefyd yn wynebu sawl her gyda chadwyni cyflenwi, a chost nwyddau a gwasanaethau yn codi wrth i alw o du cwsmeriaid gynyddu.

 

Yr oedd rhai sectorau yn yr economi megis trafnidiaeth a lletygarwch hefyd yn wynebu prinder yn y farchnad lafur. Er y gellid priodoli llawer o hyn i argyfwng Covid, yr oedd tystiolaeth hefyd fod Brexit yn cael effaith ar rannau penodol o’r economi. 

 

Hyd yma, nid oedd y Cyngor a chyflwyno rhai o’i brosiectau wedi gweld unrhyw feysydd pryder gwirioneddol o ran cyflenwi a chostau. Dyma faes y byddai’r Cyngor yn parhau i gadw golwg arno dros y chwe mis nesaf.

 

Gan na allai’r DU bellach gyrchu arian Ewropeaidd, a bod prosiectau presennol a gyllidwyd gan yr UE yn dod i ben dros y 18 is nesaf, lansiodd Llywodraeth y DU ddwy gronfa newydd: Cronfa Codi’r Gwastad a Chronfa Adolygu Cymunedol y DU i awdurdodau lleol ledled y Deyrnas Unedig i ymgeisio amdanynt.

 

Ar waetha’r amser byr oedd gan y Cyngor i baratoi a chyflwyno ceisiadau, gallodd Casnewydd gyflwyno prosiectau fyddai o les i Gasnewydd a’i chymunedau.

 

Petai’n llwyddiannus, yr oedd Cronfa Codi’r Gwastad yn gyfle cyffrous i Gasnewydd adfywio Chwarter Gogleddol y ddinas gan ‘wyrddio’ ardaloedd a strydoedd allweddol o gwmpas yr orsaf reilffordd, gan fod yn borth i weddill canol y ddinas.  

 

Derbyniasom 11 cais i Gronfa Adfywio Cymunedol y DU gan y sectorau preifat, nid-am-elw, elusennol ac eraill  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dyma’radroddiad misol rheolaidd ar y rhaglen waith. 

 

Cynnigderbyn y rhaglen a gyfoeswyd.

 

Penderfyniad:

 

Cytunodd y Cabinet ar y Rhaglen waith am Fehefin 2021 hyd at Fehefin 2022.