Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Anne Jenkins Governance Team Leader
Rhif | eitem |
---|---|
ymddiheuriadau dros Absenoldeb Cofnodion: Dim wedi’u derbyn.
|
|
Datganiadau o ddiddordeb Cofnodion: Dim wedi’u derbyn.
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf PDF 129 KB Cofnodion: Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Medi eu derbyn fel cofnod gwir. |
|
Adroddiad Gwerthoedd Cymdeithasol a Chanlyniadau Caffael CDC PDF 171 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd yr ail adroddiad o'r canlyniadau a gyflawnwyd drwy Themâu, Canlyniadau, Mesurau (ThCM) Casnewydd, a fabwysiadwyd gan y Cabinet ym mis Mawrth 2023. Tynnodd yr Arweinydd sylw at y cyflawniadau a wnaed yn ystod yr ail gyfnod adrodd o 6 mis hyd at fis Ebrill 2024.
Gofynnodd yr Arweinydd i’r Cabinet nodi cynnwys yr adroddiad, a'r cyflawniadau a wnaed yn ystod yr ail gyfnod adrodd, a oedd yn dangos y gwerth cymdeithasol ychwanegol y gallai contractau ei greu i'r gymuned ehangach ac yn dangos ymrwymiad i les cenedlaethau'r dyfodol yng Nghasnewydd.
Sylwadau Aelodau’r Cabinet:
? Canmolodd y Cynghorydd Forsey yr adroddiad a nododd y defnydd cadarnhaol o gynnyrch a phobl leol o fewn y prosiect. ? Nododd y Cynghorydd Lacey y gwaith sylweddol a wnaed i sicrhau contract ar gyfer gofalu am drigolion Casnewydd a nododd effaith gadarnhaol gofal ychwanegol yn y lleoliad.
Penderfyniad: Nododd y Cabinet y canlyniadau gwerth cymdeithasol a gyflawnwyd yn ystod y cyfnod rhwng mis Tachwedd 2023 a mis Ebrill 2024, lle cynhwyswyd ThCM yn y tendr/contract.
|
|
Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2023/24 PDF 157 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Drewett, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau a Lleihau Tlodi'r adroddiad terfynol ar drydydd Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) y Cyngor a phwysleisiodd fod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o'r cynnydd a wnaed tuag at gyflawni amcanion Cydraddoldeb y Cyngor yn unol â dyletswyddau statudol o fewn y flwyddyn olaf a thrwy gydol y broses o gyflawni CCS 2020-2024, a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024.
Gofynnodd yr Aelod Cabinet i'r Cabinet ystyried yr adroddiad a’i argymell i'r Cyngor llawn.
Sylwadau Aelodau’r Cabinet:
? Nododd y Cynghorydd Davies fod yr amcanion cydraddoldeb yn bwysig nid yn unig o ran arweinyddiaeth a llywodraethu ond hefyd o ran eu ffocws ar gynhwysiant. Tynnodd y Cynghorydd Davies sylw at bwysigrwydd dathlu'r nodweddion gwarchodedig hynny yn ogystal â sicrhau sefyllfa deg i bawb. Nododd y Cynghorydd Davies fod Cyngor Dinas Casnewydd yn cydnabod yr angen am newid a'i fod wedi bod yn arwain drwy esiampl tra'n defnyddio gwaith a pholisïau a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru. Daeth y Cynghorydd Davies i ben drwy ganmol y Rhwydwaith Cydraddoldeb Staff a diolch iddo am ei waith caled a'i gefnogaeth.
? Tynnodd y Cynghorydd Howells sylw at y ffaith bod nifer o wasanaethau wyneb yn wyneb ar gael yn Llyfrgell Ganolog Casnewydd a nododd ei bod yn bwysig bod trigolion yn ymwybodol o’r ffaith bod y gwasanaethau hynny ar gael. Ychwanegodd y Cynghorydd Howells fod gwelliannau wedi’u gwneud o ran hygyrchedd yn y Llyfrgell ac anogodd trigolion oedd wedi wynebu heriau o'r blaen i ymweld eto i weld y newidiadau yn bersonol.
? Roedd y Cynghorydd Lacey am siarad yn rhinwedd ei swydd fel y Pencampwr LHDT a oedd yn gadael, i ddiolch i'r swyddogion am wneud mwy na’r gofyn. Rhoddodd y Cynghorydd Lacey wybod i'r Cabinet am lwyddiant prosiect Llwybr Carlam Casnewydd ac ychwanegodd fod Janice Dent, Swyddog Polisi a Phartneriaeth wedi cael gwahoddiad yn ddiweddar i siarad am y gwaith rhagorol yr oedd Casnewydd wedi'i wneud mewn cynhadledd yng Nghaeredin. Esboniodd y Cynghorydd Lacey fod Llwybr Carlam yn rhan o fenter gan Lywodraeth Cymru i ddod â throsglwyddiad HIV i ben ac ychwanegodd fod gwaith wedi dechrau ar y cyd ag Awdurdodau Lleol eraill Gwent i greu gwasanaethau Llwybr Carlam Gwent.
? Soniodd yr Arweinydd am ei brofiad uniongyrchol gyda'r Rhwydweithiau Staff yn ei rôl flaenorol fel yr Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb a nododd, er bod cynnydd mawr wedi'i wneud o ran cydraddoldeb rhywiol a chau'r bwlch cyflog, fod mwy o waith i'w wneud i sicrhau bod gweithlu'r Cyngor yn adlewyrchu demograffeg Casnewydd.
? Nododd Beverly Owen, y Prif Weithredwr, ei diolch i'r Rhwydweithiau Staff a dywedodd na fyddai llawer iawn o’r gwaith a oedd yn digwydd yn yr Awdurdod yn bosibl hebddyn nhw.
Penderfyniad: Nododd y Cabinet yr adroddiad gan ei argymell i'r Cyngor llawn i'w fabwysiadu cyn ei gyhoeddi yn unol ag amserlenni statudol
|
|
Hunanasesiad Lles Corfforaethol Blynyddol 2023/24 PDF 151 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad ar Adroddiad Hunanasesiad Cynllun Corfforaethol Blynyddol y Cyngor ar gyfer 2023/24, a roddodd hunanasesiad o gynnydd yn erbyn y Cynllun Corfforaethol a’r graddau y mae wedi bodloni ei ofynion statudol. Dywedodd yr Arweinydd wrth y Cabinet fod yr adroddiad wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Rheoli Craffu Trosolwg a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ym mis Medi, a bod eu hadborth wedi’i gynnwys yn yr adroddiad.
Gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo’r Adroddiad Hunanasesiad Cynllun Corfforaethol blynyddol drafft ac argymell cyflwyno’r adroddiad i’r Cyngor llawn.
Sylwadau Aelodau’r Cabinet:
? Canmolodd y Cynghorydd Davies y tîm am safon uchel y gwaith a nododd fod y wybodaeth yn yr adroddiad yn hygyrch i bawb ac yn hawdd ei dehongli tra'n parhau’n gynhwysfawr. Nododd y Cynghorydd Davies fod gwasanaethau addysg wedi cael eu crybwyll nifer o weithiau a'i fod yn dymuno tynnu sylw'r Cabinet at y canlyniadau addysgu a dysgu o ansawdd uchel a ddisgrifiwyd yn ogystal â'r ffocws ar ddatblygiad parhaus. Dywedodd y Cynghorydd Davies nad oedd yr un ysgol a oedd yn destun mesurau arbennig a bod un ar ddeg o ysgolion wedi cael cais i gyflwyno astudiaethau achos ar arfer gorau. Dywedodd y Cynghorydd Davies fod hynny’n anhygoel. Nododd y Cynghorydd Davies ei balchder yn y rhaglen adeiladu a thynnodd sylw at ddau brosiect nodedig. Nododd y Cynghorydd Davies Gynllun Pobl y Cyngor a dywedodd mai gweledigaeth y Cyngor oedd bod â gweithlu cynrychioladol, ymgysylltiol a brwdfrydig i greu diwylliant o gydweithio a gweithio effeithiol yng Nghasnewydd.
? Nododd y Cynghorydd Clarke y canlyniadau cadarnhaol yn yr adroddiad ac roedd yn dymuno tynnu sylw at yr ystod o brosiectau yr oedd y Cyngor wedi'u cefnogi drwy gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin (CFfG). Nododd y Cynghorydd Clarke fod y Cynllun Creu Lleoedd wedi'i ddatblygu gyda barn trigolion a busnesau. Ychwanegodd y Cynghorydd Clarke fod tasglu trawsbleidiol wedi’i sefydlu i gefnogi datblygiad pellach a dywedodd fod gweithio mewn partneriaeth yn allweddol i sicrhau canlyniadau cadarnhaol.
? Nododd y Cynghorydd Howells fod camsyniad bod rhesymoli asedau yn golygu gwaredu'r holl asedau ac esboniodd ei fod yn ymwneud ag optimeiddio asedau a gwneud y defnydd gorau ohonynt ar gyfer Cyngor Dinas Casnewydd a'r gymuned. Nododd y Cynghorydd Howells yr elfen gyflenwol o resymoli asedau i'r Rhaglen Newid Hinsawdd.
? Nododd y Cynghorydd Forsey y parciau chwarae newydd a ddarparwyd ar gyfer y ddinas a dywedodd fod agor y parciau chwarae wedi'u hadnewyddu wedi bod yn un o'r agweddau mwyaf llawen ar ei phortffolio. Canmolodd y Cynghorydd Forsey y gwaith a wnaed ar y gamlas yn ogystal â'r gwaith tuag at Sero-Net a datgarboneiddio gan dynnu sylw at y gwaith cadarnhaol y gellir ei wneud pan fydd yr arian ar gael.
? Nododd y Cynghorydd Lacey y gwaith a wnaed ar gefnogi unigolion i gynnal annibyniaeth ac i aros yn eu cartrefi eu hunain drwy'r Hyb Clyfar yn y llyfrgell.
? Tynnodd y Cynghorydd Drewett sylw at natur gadarnhaol yr adroddiad. Cyfeiriodd y Cynghorydd Drewett at y ffaith mai Casnewydd yw’r ddinas sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru a dywedodd y gallai'r ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Adroddiad Blynyddol Cynllun Lles Gwent 2023/24 PDF 130 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad cynnydd blynyddol ar Gynllun Lles Gwent a oedd yn cwmpasu cyfnod o 9 mis ac yn nodi cynnydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Gwent yn erbyn ei gynllun. Dywedodd yr Arweinydd wrth y Cabinet fod BGC Gwent wedi'i sefydlu ym mis Hydref 2021 i alluogi cydweithio rhwng Cyrff Cyhoeddus Gwent. Esboniodd yr Arweinydd fod y Cynllun Lles rhanbarthol cyntaf wedi cael ei gytuno a'i gymeradwyo gan y Cyngor llawn.
Gofynnodd yr Arweinydd i'r Cabinet nodi cynnwys yr adroddiad blynyddol a'i gymeradwyo i'w gyhoeddi, yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a threfniadau'r Cynllun Lles y cytunwyd arnynt yn flaenorol.
Penderfyniad Nododd y Cabinet gynnwys yr adroddiad blynyddol a gwnaeth ei gymeradwyo i'w gyhoeddi.
|
|
Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu (Band B) PDF 191 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd D Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a Blynyddoedd Cynnar yr adroddiad a rhoddodd drosolwg o ail don y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (sef Band B) a'r prosiectau arfaethedig yn yr amlen gyllido. Dywedodd y Cynghorydd Davies wrth y Cabinet, er bod prosiectau yn mynd rhagddynt, fod Rhaglen Band B wedi dod i ben.
Gofynnodd y Cynghorydd Davies i'r Cabinet wneud y canlynol: a) Ystyried cymeradwyo'r rhaglen wedi’i hailbroffilio a amlinellwyd yn yr adroddiad, er mwyn gallu cynyddu'r cyllid a ddyrannwyd i gyllidebau prosiectau penodol yn unol â’r amcangyfrifon cost diweddaraf, ac wrth wneud hynny, cytuno'n ffurfiol i ddileu'r ddau brosiect a dynnwyd yn ôl. b) Ystyried a ddylid dyrannu gweddill y cyllid i gefnogi'r don nesaf o fuddsoddiad, sef y rhaglen dreigl, a ddechreuodd ym mis Ebrill 2024.
Sylwadau Aelodau’r Cabinet:
? Dywedodd y Cynghorydd Adan ei fod wedi bod i weld y datblygiad ar safle newydd Ysgol Gynradd Pilgwenlli ac nad oedd yn gallu rhoi ei deimladau mewn geiriau. Dywedodd y Cynghorydd Adan fod disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn.
? Nododd y Cynghorydd Lacey ei chefnogaeth i ailddyrannu cyllid i gefnogi'r blaenoriaethau a nodwyd. Nododd y Cynghorydd Lacey y gwelliant rhyfeddol i fyfyrwyr Ysgol Basaleg yn dilyn agor yr adeilad newydd a dywedodd y gallai myfyrwyr ymfalchïo yn eu hysgol bellach. Dywedodd y Cynghorydd Lacey fod angen cydnabod y gwelliannau iechyd meddwl a lles a ddeilliodd o hyn.
? Nododd y Cynghorydd Drewett ei fod yn cefnogi symud cyllid i flaenoriaethau allweddol lle gellid ei ddefnyddio ar gyfer lles plant Casnewydd.
? Nododd yr Arweinydd ymrwymiad y Cyngor i ysgolion Casnewydd a thynnodd sylw at raddfa’r gwaith a oedd ei angen yng Nghaerllion i greu ysgol newydd. Gwnaeth yr Arweinydd sylw ar y digwyddiad agor anhygoel ar gyfer y bloc newydd yn Ysgol Basaleg a dywedodd y dylai pob plentyn gael y cyfle i ddefnyddio cyfleusterau o'r fath.
Penderfyniad Gwnaeth y Cabinet: a) Gymeradwyo'r rhaglen wedi’i hailbroffilio gan felly alluogi'r cyllid a ddyrannwyd i gyllidebau prosiectau penodol gynyddu yn unol â’r amcangyfrifon cost diweddaraf, fel y byddent yn cael eu cyflawni mewn modd amserol, a chymeradwyo dileu dau brosiect a dynnwyd yn ôl o'r rhaglen yn ffurfiol. b) Cytuno y byddai'r arbedion ar gyfanswm cyllideb y rhaglen yn cael eu dyrannu i gefnogi cam nesaf y rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, sef y rhaglen dreigl, gan gynyddu'r 'amlen gyllido' y cytunwyd arni yn flaenorol gan y Cabinet |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Hwn oedd yr adroddiad misol rheolaidd ar y rhaglen waith.
Penderfyniad: Cytunodd y Cabinet ar y rhaglen waith.
|