Cofnodion

Cabinet - Dydd Mercher, 13eg Chwefror, 2019 4.00 pm

Lleoliad arfaethedig: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eleanor Mulligan  E-bost: eleanor.mulligan@newport.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiant.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2019 pdf icon PDF 137 KB

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2019 yn gywir.

 

3.

Monitor Cyllideb Refeniw mis Rhagfyr pdf icon PDF 163 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a chadarnhau mai dyma oedd trydydd monitor y gyllideb refeniw ar gyfer y flwyddyn, a bod y patrwm a welwyd mewn adroddiadau blaenorol yn parhau.

 

Amlygodd yr Arweinydd y negeseuon allweddol yn yr adroddiad:

        Mae’r rhagolwg yn dangos tanwariant cymharol fach o tua £1.7m – sy’n cyfateb i 0.6% o’r gyllideb net o £275m.

        Gorwariant sylweddol, o £5.3m, mewn meysydd sy'n seiliedig ar alw, fel anghenion addysgol arbennig a gofal cymdeithasol.

        Pwysleisiodd yr Arweinydd bwysigrwydd nodi bod y mwyafrif helaeth o weithgareddau'r Cyngor, a ddangosir yn Atodiad 3, yn gweithredu'n agos at y gyllideb; fodd bynnag, mae ambell faes yn achosi heriau gwirioneddol. 

Mae'r Weinyddiaeth wedi cynllunio ar gyfer y risgiau sydd o flaen y gyllideb ac mae arian wrth gefn a thanwariant nad yw'n gysylltiedig â gwasanaethau yn cael ei ddefnyddio i reoli'r risg honno; mae hyn wedi arwain at y sefyllfa gadarnhaol gyffredinol yn yr adroddiad.

        Mae'r Cabinet yn cydnabod bod pwysau costau wedi bod yn cynyddu'n gyflym iawn a bod hyn yn destun pryder parhaus.

        Mae adroddiad cyllideb refeniw 2019/20 yn nodi’r pwysau o ran costau ynghyd â chynigion i fuddsoddi’n sylweddol yn y meysydd hyn; Ymhellach i hyn, mae'r Cabinet yn cydnabod bod y costau hyn o natur barhaus, ac yn cefnogi'r preswylwyr mwyaf agored i niwed ar draws y Ddinas.

        Mae rhai o'r arbedion lliniarol a nodwyd eleni, sy'n helpu i reoli'r gyllideb gyffredinol, naill ai'n arbedion untro neu'n arbedion a allai fod yn is y flwyddyn nesaf.

        Mae prif adroddiad y gyllideb yn rhoi crynodeb o'r sefyllfa a meysydd allweddol lle ceir tanwariant a gorwariant. Mae Atodiadau'r adroddiad yn manylu ymhellach, gan gynnwys sefyllfa cronfeydd yr Ysgolion a'r Cyngor.

Cynigiodd yr Arweinydd i'r Cabinet y dylid nodi'r sefyllfa, sy'n gadarnhaol ar y cyfan, a diolchodd i'w chydweithwyr ar y Cabinet, ac i'r swyddogion, am eu gwaith caled a'u diwydrwydd parhaus.

Penderfyniad:

Cymeradwyodd y Cabinet yr adroddiad a chytuno i barhau i adolygu a rheoli cyllidebau a risgiau allweddol yn ofalus.

 

4.

Monitro'r Rhaglen Gyfalaf ac Ychwanegiadau Rhagfyr 2018 pdf icon PDF 357 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a oedd yn canolbwyntio ar wario adnoddau cyfalaf, ac a oedd yn adlewyrchu'r cynnydd a wnaed wrth gyflwyno'r rhaglen.  Y prif bwyntiau i'w nodi:

        Cymeradwyodd y Cabinet raglen 5 mlynedd newydd yn gynnar yn 2018, a chadarnhau'r swm o £127m ar gyfer cyfnod y rhaglen. 

        Gofynnir yn awr am gael ychwanegu prosiectau gwerth oddeutu £25m gyda'r rhan fwyaf o'r gwariant hwnnw yn y blynyddoedd nesaf, ond gyda rhai ohonynt hefyd yn dechrau yn y flwyddyn ariannol gyfredol.

Prosiectau Allweddol a nodwyd:

        £10m ar gyfer datblygu rhwydwaith ffibr llawn ar draws ardal Gwent – Casnewydd yw’r awdurdod arweiniol ar hyn

        £3m ar gyfer pont droed newydd Devon Place a fydd yn cysylltu canol y ddinas â’r rhan honno o’r ddinas (bydd dyddiad dechrau gosod y bont yn dibynnu ar ddyddiad gorffen y gwaith trydaneiddio)

        £1.8m ar gyfer gwaith adnewyddu priffyrdd

        £2.4m ar wasanaethau ailgylchu er mwyn helpu preswylwyr i gynyddu cyfraddau ailgylchu a gwella gwasanaethau

        £1.2m o fuddsoddiad pellach mewn cartrefi plant newydd a phresennol

        £1.7m mewn cynllun ynni adnewyddadwy, gan helpu i leihau'r defnydd o ynni ac allyriadau carbon  

Nodwyd bod y prosiectau hyn yn cael eu hariannu'n bennaf o grantiau allanol ac arbedion/incwm newydd a gynhyrchir o gynlluniau unigol.  Bydd tua £4.4m o wariant ar brosiectau newydd yn cael ei wario yn y flwyddyn ariannol gyfredol hon.

  

Mae hyn yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn seilwaith Casnewydd ac mae'r rhaglen yn allweddol i gyflawni addewidion y cynllun corfforaethol ac ymrwymiadau eraill a nodir ar gyfer y ddinas.  Mae’r adroddiad yn adeiladu ar yr ymrwymiad i brosiectau allweddol fel hybiau cymunedol a chynlluniau adfywio. 

 

Gofynnwyd i'r Cabinet gymeradwyo llithriant o tua £4m o wariant y flwyddyn gyfredol i'r flwyddyn nesaf a'r blynyddoedd dilynol, sy'n ychwanegol at y llithriant blaenorol a gymeradwywyd.  Dangosai'r adroddiad fod cyfanswm o bron i £10m o'r gyllideb wedi llithro i'r blynyddoedd nesaf.  Mae ffactorau lliniarol wedi effeithio ar y gyllideb a bydd yr Arweinydd yn bwrw ymlaen â thrafodaethau â'r Prif Weithredwr a'r Pennaeth Cyllid i fynd i'r afael â hyn wrth symud ymlaen. 

 

Bellach, ceir gofod o oddeutu £17m ar gyfer gwariant pellach yn y rhaglen gyfalaf gyfredol, sy'n ddibynnol ar rywfaint o fenthyca ychwanegol dros oes y rhaglen, gyda'r gost refeniw ganlyniadol i ddarparu ar gyfer hynny.  Cadarnhaodd yr Arweinydd fod hon yn amlwg yn sefyllfa heriol yng nghyd-destun y galw am adnoddau cyfalaf sy'n parhau i fod yn fwy na'r arian sydd ar gael. 

 

Yn yr adroddiad ceir manylion y fframwaith a ddefnyddir gan y Cyngor i gyllido a datblygu'r rhaglen gyfalaf, a gofynnwyd i'r Cabinet nodi'r sefyllfa gyfredol.

 

O ran derbyniadau cyfalaf, nodwyd bod mwyafrif helaeth y derbyniadau eisoes wedi'u hymrwymo i'r cynlluniau a nodwyd a bod gwaith ar y gweill i gynhyrchu £1.7m arall cyn diwedd y flwyddyn sy'n rhan allweddol o'r cyllid dros ben.  Gofynnwyd i'r Cabinet nodi'r sefyllfa a'r dyraniad.

Bydd ffocws pellach bellach ar gyflawni ac ar wirio a mantoli'r rhaglen.

 

Gwnaeth yr Aelod Cabinet  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cyllideb 2019/20 a Rhagolygon Ariannol Tymor Canolig pdf icon PDF 221 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am y gyllideb refeniw ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf a'r argymhelliad o ran y Dreth Gyngor.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’w chydweithwyr ar y Cabinet ac i'r Swyddogion am eu gwaith caled yn paratoi'r gyllideb. Roedd y gwaith hwnnw wedi bod ar y gweill ers tymor yr hydref 2018.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd hefyd fod y weinyddiaeth yn bwriadu adeiladu ar ei llwyddiannau hyd yma, o fewn cyfnod heriol iawn.

 

Cytunwyd ar y gyllideb ddrafft yng Nghabinet Rhagfyr 2018 pan ymgynghorodd ar 6.95% o gynnydd i gyfradd  y Dreth Gyngor ac oddeutu £6.5m o arbedion.  Bryd hynny nid oedd y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru wedi'i gadarnhau (mae'r Grant Cynnal Refeniw yn cyllido 77% o gyllideb y Cyngor), a byddai angen ystyried pwysau pellach o ran costau hefyd.

 

Mae cyfnod ymgynghori bellach wedi'i gynnal ar y cynigion, a oedd yn cynnwys y prif faterion a godwyd wrth graffu, gan y comisiwn tegwch, gan y fforwm ysgolion, yr undebau llafur a'r cyhoedd.

 

Bu cynnydd o 21% i'r adborth gan y cyhoedd.  Yn ogystal â'r arolwg cyhoeddus ar-lein, cynhaliwyd arolwg o'r cynnydd i'r Dreth Gyngor drwy rwydwaith di-wifr bysus y Ddinas; sicrhaodd yr arolwg hwn bron i 4,000 o ymatebion ynghylch y mater unigol hwnnw.  Mae'r wybodaeth a gasglwyd o'r arolygon wedi'i chynnwys yn Atodiadau'r adroddiad.

 

Dyma rai o'r prif bwyntiau a oedd yn deillio o'r ymgynghoriad: 

        Roedd pawb yn deall ac yn cydymdeimlo â'r heriau gwirioneddol o ran cyllid Llywodraeth Leol a phwysau oherwydd costau;

        O ran y cynigion y bu'r Cyngor yn ymgynghori arnynt, cafwyd anghytuno ym mheth o'r adborth, ond roedd mwy o gefnogaeth tuag at y cynigion ym mhob maes ond un, fel yr adlewyrchir yn y ganran uwch o atebion o blaid y cynigion.

        O ran y cynnydd drafft i'r Dreth Gyngor, cafwyd mwy o atebion i'r arolwg ar-lein yn dweud ei fod yn rhy uchel; roedd yr atebion i'r arolwg ar-lein ar y bws yn dangos bod mwy o bobl yn cytuno bod y cynnydd yn agos at fod yn iawn, neu heb fod yn ddigon. 

        Mae cyllid ysgolion yn parhau i fod yn her, ac adlewyrchwyd hyn yn yr adborth a gafwyd gan ysgolion a grwpiau addysgu unigol;

        O ran y cynigion unigol, roedd yr arbedion a gynigiwyd yn y gwasanaeth addysg, yn enwedig 'swyddogion llesiant addysg', yn cael eu codi'n gyson mewn gwahanol fforymau.

Achubodd yr Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i'r cyhoedd am eu hymateb i'r ymgynghoriad.

 

Dyma'r newidiadau a nodwyd ers Cabinet mis Rhagfyr 2018:

 

Derbyn £3.2M o gyllid ychwanegol yn sgil cynnydd grant refeniw terfynol gwell o bron i £600k;

 

Tua £2M ar grantiau penodol;

 

Cynnydd yn y sylfaen drethi o ychydig dros £600K 

 

Mae buddsoddiad pellach o bron i £1.9m ar ben yr hyn a nodwyd ym mis Rhagfyr hefyd wedi'i gynnwys yng nghyllideb y flwyddyn nesaf er mwyn rhoi cymorth i'r preswylwyr mwyaf agored i niwed.

 

Yn dilyn yr ymgynghoriad, cadarnhaodd yr Arweinydd fod  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Strategaeth Cyfalaf 2019/20 a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys pdf icon PDF 3 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a oedd yn manylu ar y rhaglen gyfalaf a rheoli'r trysorlys, hy, sut mae'r Cyngor yn ymdrin â'i weithgareddau benthyca a buddsoddi. Mewn blynyddoedd blaenorol, byddai'r wybodaeth hon yn cael ei hymgorffori yn adroddiad y gyllideb refeniw er mwyn cyflwyno adroddiad cyfannol ar y gyllideb.  Fodd bynnag, mae'n ofynnol bellach i bob Cyngor gael strategaeth cyfalaf, ac o ganlyniad i hynny mae'n rhaid cael adroddiad ar wahân.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod angen i'r Cyngor llawn gymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a'r Strategaeth Cyfalaf.

 

Mae strategaeth trysorlys y Cyngor yn cyd-fynd yn agos â rhaglen gyfalaf a gwariant y Cyngor; mae'r adroddiad yn nodi bod canlyniadau'r gyllideb refeniw sy'n deillio o'r gofynion benthyca a nodir yn yr adroddiad wedi'u cynnwys yn y gyllideb refeniw a'r rhagolygon ariannol tymor canolig fel y'u nodwyd yn yr adroddiad blaenorol i'r Cabinet.

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod yr adroddiad a'r strategaethau ynddo wedi cael eu hadolygu gan y Pwyllgor Archwilio, a bod sylwadau'r Pwyllgor wedi'u nodi yn yr adroddiad. 

 

Fel y soniwyd ar ddechrau'r adroddiad, mae'r Strategaeth Cyfalaf yn ofyniad newydd i bob Cyngor, ac mae rheoliadau'n rhagnodi cynnwys yr adroddiad.  Mae’r strategaeth yn ymdrin â: (i) rhaglen gyfalaf y Cyngor, (ii) trefniadau i lywodraethu'r rhaglen honno, (iii) materion yn gysylltiedig â masnacheiddio, nodwedd sy'n cynyddu ar draws Llywodraeth Leol, (iv) y cysylltiadau rhwng strategaethau Cyfalaf a Rheoli Trysorlys y Cyngor; mae'n ofynnol i'r strategaeth cyfalaf roi darlun hirdymor.  (Mae'r Strategaeth wedi'i chynnwys yn Atodiad 2 yr adroddiad). 

 

Mae adroddiad y Cabinet yn canolbwyntio ar elfen rhaglen gyfalaf y strategaeth, ar gyfer y rhaglen gyfredol a'r rhagolygon ar gyfer costau a chyllid y tu hwnt i hynny.

 

Cyfanswm y rhaglen gyfredol hyd at 2022/23 yw £176m, sy'n cynrychioli buddsoddiad sylweddol iawn gan y Cyngor yn y ddinas a'i seilwaith.  Cynlluniau newydd a nodwyd yn yr adroddiad:

       Hybiau cymunedol newydd er mwyn darparu gwasanaethau

       Gwell cyfleusterau ailgylchu

       Ysgolion newydd ac ehangu ysgolion

       Cyfleusterau gwell a mwy lleol i blant sy'n derbyn gofal

       Mwy o waith cynnal a chadw priffyrdd

       Gwell band eang ar draws y rhanbarth

Roedd yr adroddiad hefyd yn cadarnhau'r gofod ychwanegol o £17m ar gyfer cynlluniau pellach.  Ceir costau refeniw i gefnogi'r lefel hon o fuddsoddiad ac mae hyn wedi'i ymgorffori yn y rhagolygon ariannol tymor canolig yn y gyllideb refeniw.

 

Y tu hwnt i'r cyfnod 2022/23, nodwyd yn yr adroddiad y byddai'r amgylchedd yn heriol wrth i gostau ariannu'r rhaglen gynyddu i'r dyfodol, a hynny cyn ychwanegu rhagor o wariant cyfalaf. Bydd angen cynllunio hyn yn ofalus wrth ddatblygu'r rhaglen nesaf.

   

Mae ymagwedd y Cyngor at fasnacheiddio a chynhyrchu incwm yn cael ei datblygu ar wahân, a bydd hyn wedi'i adlewyrchu yn y strategaeth maes o law.  Mae’r strategaeth hefyd yn nodi lle ceir galw am adnoddau cyfalaf. Bydd angen datblygu hyn ymhellach er mwyn pontio'r bwlch rhwng y galw a'r adnoddau sydd ar gael, a chynnig ffyrdd i ddatrys hynny. Bydd angen gwneud rhagor o waith  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru, Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi pdf icon PDF 194 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a oedd yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Cod Ymarfer i gefnogi datblygiad cadwyni cyflenwi mwy moesegol i gyflenwi contractau ar gyfer sector cyhoeddus Cymru a sefydliadau trydydd sector sy'n derbyn arian cyhoeddus. Y brif neges yw fod y Cyngor hwn yn gweithio tuag at y fframwaith.

Dengys tystiolaeth fod arferion cyflogaeth anfoesegol ar waith mewn cadwyni cyflenwi ledled Cymru a thu hwnt.

 

Pwrpas y Cod yw sicrhau bod gweithwyr yng nghadwyni cyflenwi'r sector cyhoeddus yn cael eu cyflogi'n foesegol a chan gydymffurfio â geiriad ac ysbryd cyfreithiau'r DU, yr UE a rhyngwladol. Mae hyn yn cwmpasu materion fel Caethwasiaeth Fodern a cham-drin hawliau dynol, cosbrestru, hunangyflogaeth ffug, defnydd annheg o gynlluniau ymbarél a chontractau dim oriau, a Thalu'r Cyflog Byw.

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i Awdurdodau Lleol yng Nghymru gytuno â'r polisi a'i fabwysiadu, ac ymwreiddio deuddeg egwyddor y Cod Ymarfer yn y Cyngor mewn modd ystyrlon a chymesur.  Y cam cyntaf wrth ymrwymo i'r Cod yw creu Cynllun Gweithredu.  Mae drafft y cynllun gweithredu wedi cael ei gyflwyno i'r UDA, ac yn awr yn cael ei gyflwyno gerbron y Cabinet i'w fabwysiadu'n ffurfiol.

Mae’r Cyngor eisoes yn cyflawni rhai o’r amcanion sydd o fewn y deuddeg egwyddor, ee, cael polisi chwythu’r chwiban ysgrifenedig ar gyfer arferion gwaith anfoesegol neu anghyfreithlon, cael mecanwaith i bobl o'r tu allan i’r Cyngor godi amheuon ynghylch arferion gwael ynghyd â phethau eraill fel talu cyflenwyr o fewn 30 diwrnod a chael canllawiau ysgrifenedig i reolwyr ynghylch defnyddio contractau cyflogaeth a hunangyflogaeth.

Bydd angen datblygu a gweithio tuag at egwyddorion eraill; bydd rhai yn cael eu rhoi ar waith yn eithaf cyflym, er enghraifft cwestiynau cymhwyso newydd i'w cwblhau gan dendrwyr wrth ymgeisio am waith, ynghyd ag amodau contract newydd. Bydd yn cymryd mwy o amser i ymgorffori egwyddorion eraill o fewn y Cyngor fel rhaglenni hyfforddi i reolwyr ar Gaethwasiaeth Fodern, ynghyd â gweithio gyda chyflenwyr penodol i asesu risg eu cadwynau cyflenwi.

Prif fyrdwn yr adroddiad yw dangos ymrwymiad Cyngor Dinas Casnewydd i'r polisi pwysig hwn a dangos yr ymagwedd gadarnhaol er mwyn helpu i gael gwared â chaethwasiaeth fodern ac arferion cyflogaeth eraill anghyfreithlon ac anfoesegol ledled Casnewydd, Cymru a gweddill y byd.

Diolchwyd i'r swyddogion am y modd yr oeddent yn mynd ati i hyrwyddo'r gwaith hwn, a'u harbenigedd wrth wneud hynny.

 

Penderfyniad:  Cytunodd y Cabinet:

i)             i gymeradwyo ymrwymo i'r Cod Ymarfer

i gymeradwyo'r cynllun gweithredu a ddangosir yn Atodiad 1, i'w oruchwylio gan y Dirprwy Arweinydd yn ei rôl fel 'hyrwyddwr' caffael/arferion moesegol

8.

Diogelu Corfforaethol 2017/19 pdf icon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a chadarnhau mai dyma oedd yr adroddiad diogelu corfforaethol cyfun cyntaf i'r Cabinet.  Mae’n ddogfen gynhwysfawr a’i phwrpas yw rhoi sicrwydd o fewn y Cyngor fod yr holl elfennau diogelu yn destun craffu.  Prif fyrdwn yr adroddiad yw rhoi sicrwydd ynghylch y broses a chadarnhau bod y Cyngor yn cyflawni diwydrwydd dyladwy.

 

Gofynnodd yr Arweinydd i'r Cabinet nodi'r sylw yn Adroddiad  Blynyddol Estyn, sef: ‘Mae gan yr Awdurdod Lleol bolisïau clir a gweithdrefnau priodol ar gyfer diogelu sy'n bodloni'r gofynion.’

Canmolodd Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol y gwaith sy'n cael ei wneud gyda'r holl bartneriaid yn yr Hyb Diogelu.

 

9.

Marchnad Dan Do Casnewydd pdf icon PDF 181 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a chydnabod bod y Cabinet yn ymwybodol bod dirywiad y Stryd Fawr wedi effeithio ar Farchnad Dan Do Casnewydd dros nifer o flynyddoedd. Nodwyd bod marchnadoedd ledled y wlad wedi’i chael hi'n anodd parhau i gynnig darpariaeth sy'n berthnasol i brynwyr, heb arallgyfeirio a buddsoddi'n sylweddol yn y ddarpariaeth honno, yn yr amgylchedd masnachu ac ym mhrofiad ymwelwyr. 

 

Er mwyn ceisio atal dirywiad adeilad amlycaf a mwyaf adnabyddus y ddinas, buddsoddodd y Cyngor yn flaenorol i wella'r amgylchedd masnachol ym Marchnad Dan Do Casnewydd, gan gwblhau cynllun gwerth £1m i adnewyddu'r fynedfa a'r fforwm ochr yn ochr â gwelliannau helaeth i dir y cyhoedd ar y Stryd Fawr gerllaw yn 2012/13. 

 

Cafwyd buddsoddiad pellach yn 2016, pan gafodd prosiect Lleoedd Bywiog a Dichonadwy ei gynnal ar y cyd gan Gyngor Dinas Casnewydd a Chartrefi Dinas Casnewydd.

 

Fodd bynnag, er gwaethaf y buddsoddiadau hynny, mae'r farchnad yn parhau i wynebu heriau sylweddol. Nid yw'r adeilad yn masnachu i'w lawn botensial ac mae cyfraddau'r stondinau gwag yn datblygu'n broblem barhaus a'r incwm rhent yn gostwng.

 

Ar ddiwedd tymor y gwanwyn 2018, derbyniodd y Cyngor fynegiant o ddiddordeb gan y datblygwr Loft Co, cwmni datblygu eiddo o Dde Orllewin Cymru, a chanddo brofiad blaenorol o ailddychmygu ac ailddefnyddio eiddo treftadol.  Mae portffolio'r cwmni hyd yma yn cynnwys ailddatblygu'r Tramshed yng Nghaerdydd, yr Orsaf Bwmpio yn y Barri ac adeilad Jennings ym Mhorthcawl. 

 

Mae Loft Co wedi gweithio gyda'r cyngor i ddatblygu cysyniad i adnewyddu'r adeilad yn llwyr gan arallgyfeirio'r defnydd ohono i'r dyfodol.  Bydd y cynnig datblygu yn cynnwys y cynigion allweddol canlynol:

 

        Parhau i ddarparu marchnad dan do draddodiadol o ansawdd uchel

        Cwrt bwyd, ochr yn ochr â darpariaeth stondinau'r farchnad.

        Darparu gofod i ddeori busnesau, i gychwyn busnesau ac i alluogi cydweithio rhwng busnesau ar lawr y mesanîn, gan anelu i ddenu busnesau gwybodaeth-ddwys, sef cwmnïau digidol a thechnoleg yn benodol.

        Darparu unedau preswyl un a dwy ystafell wely newydd, deiliadaeth gymysg

        Creu fflatiau â gwasanaeth

Bydd y cynllun hwn yn angor economaidd allweddol ar gyfer Canol y Ddinas a Phorth y Gogledd ac yn parhau â thraddodiad gwych Marchnad Casnewydd fel ased allweddol i gymuned Casnewydd.

 

Er y byddai'r Cabinet yn penderfynu bwrw ymlaen â'r datblygiad arfaethedig heddiw a chefnogi'r cynllun yn ariannol, Pwysleisiodd yr Arweinydd ei bod hi'n bwysig nodi y gallai fod angen newid y prosiect ymhellach y sgil gofynion cynllunio a chaniatâd adeilad rhestredig. Gan hynny, roedd yn dal angen rhoi awdurdod dirprwyol i'r swyddogion gytuno ar unrhyw newidiadau a chwblhau a phenderfynu'n derfynol ynghylch y dogfennau cyfreithiol ac ariannol, ar yr amod nad oedd unrhyw newid i natur a hyfywedd y cynllun.

Diolchodd yr Arweinydd i Bennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio a'r Pennaeth Cyllid am eu gwaith hyd yma wrth symud y cynllun hwn yn ei flaen.

 

Penderfyniad:

Cytunodd y Cabinet:

 

i)                 Nodi'r cynnydd a wnaed ar y cynllun hyd yma a chanlyniad boddhaol y gwaith diwydrwydd dyladwy cyfreithiol ac ariannol;

ii)                Cadarnhau eu  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Uwchgynllun Canol y Ddinas pdf icon PDF 163 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a chadarnhau mai taith barhaus ac ymrwymiad hirdymor yw adfywio yng Nghasnewydd.  Mae angen i Gasnewydd allu ymaddasu ac ymateb i ofynion economaidd a diwylliannol newidiol a gwneud y mwyaf o gyfleoedd datblygu a gyflwynir.  Er mwyn sicrhau fframwaith addas i lywio ac annog y math cywir o ddatblygiad yn y mannau cywir, ystyriwyd bod angen adolygu ac ailwampio Uwchgynllun Canol y Ddinas.  

 

Mae’r weledigaeth ar gyfer canol y ddinas yn glir.  Rydym am greu “craidd bywiog wedi’i adfywio i’r ddinas gyda hunaniaeth gref ac annibynnol sydd wedi’i hymwreiddio yn hanes Casnewydd ac sy’n flaengar, gan barhau â’r momentwm yn sgil llwyddiannau diweddar”.  

Gyda’r weledigaeth honno mewn golwg, lansiwyd yr Uwchgynllun drafft yn swyddogol yn Uwchgynhadledd y Ddinas yn 2018, a gwahoddwyd preswylwyr, busnesau a phartneriaid, gan gynnwys y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, Rhwydwaith Economaidd Casnewydd ac Ardal Gwella Busnes Casnewydd i fynegi eu barn ar ddrafft y cynllun, a'r blaenoriaethau a nodwyd er mwyn adfywio Canol y Ddinas.

 

Dros y 12 mis diwethaf, mae nifer o brosiectau a nodwyd yn yr Uwchgynllun wedi symud ymlaen yn gyflym, ac mae hi bellach yn amserol i fwrw ymlaen i fabwysiadu'r Uwchgynllun a chadarnhau ein hymrwymiad i'r weledigaeth a'r amcanion ynddo. Bydd hyn yn rhoi ffocws ar strategaethau manylach ar gyfer pob un o’r tri maes a nodir yn yr Uwchgynllun ac yn galluogi gwireddu’r nodau adfywio ar gyfer Canol y Ddinas.

 

Canmolodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Thai y gwaith a wnaed gan y

 

Cyngor a’i bartneriaid a chyfeirio at adroddiad Centre for Cities 2019 a nodai mai

Casnewydd sydd a'r gyfradd orau o fusnesau newydd o blith y gr?p o ddinasoedd a oedd wedi'u cynnwys yn yr ymchwil.  Mae'r Cyngor yn cynllunio prosiectau â blaenoriaeth, ac adeiladau â blaenoriaeth; mae rhai adeiladau'n heriol ond yn adeiladau sy'n bwysig iawn i bobl Casnewydd.  Mae'r Cyngor hefyd yn cefnogi busnesau annibynnol, ac mae'r Uwchgynllun yn cyd-fynd â'r saith amcan llesiant, yn unol â deddfwriaeth.  Y mae hefyd yn dangos dulliau newydd o weithio er mwyn sicrhau canol dinas bywiog i'r dyfodol, a bydd y Cyngor yn parhau i gydweithio â phartneriaid i sicrhau hyn.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd y bu'n bresennol yn lansiad yr Adroddiad ar Ddinasoedd Allweddol, 'Cities in Action', a gynhaliwyd yn San Steffan. Rhoddir cryn sylw i Gasnewydd yn yr adroddiad.

 

Penderfyniad:

 

Cytunodd y Cabinet i fabwysiadu'n ffurfiol y weledigaeth, yr amcanion a'r prosiectau â blaenoriaeth ar gyfer Uwchgynllun Canol y Ddinas 2019-29, fel fframwaith strategol y Cyngor ar gyfer Adfywio Canol y Ddinas.

 

11.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 116 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Raglen Waith y Cabinet.

 

Penderfyniad:

Cytuno ar y rhaglen arfaethedig.

 

12.

Dyddiad y Cyfarfod Nesaf - 13 Mawrth 2019, 4pm, Ystafell Bwyllgor 1, Y Ganolfan Ddinesig

Cofnodion:

Cynhelir y cyfarfod nesaf ddydd Mercher 13 Mawrth 2019, am 4.00pm yn Ystafell Bwyllgor 1, yn y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd