Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Tracy Richards , Rheolwr Swyddfa’r Cabinet E-bost: Cabinet@newport.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 223 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mai 2019 fel cofnod cywir.
|
|
Adroddiad Diwedd Blwyddyn Rheoli Trysorlys PDF 189 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a nododd waith rheoli strategol dydd i dydd a thymor hwy gweithgareddau benthyg a buddsoddi’r Cyngor.
Ymwnâi’r adroddiad yn benodol â gweithgareddau’r flwyddyn ariannol flaenorol 2018/19 gan asesu sut mae’r Cyngor wedi cydymffurfio â’r strategaeth rheoli’r trysorlys a nodwyd ar ddechrau’r flwyddyn ariannol honno a chanlyniad hynny’n erbyn yr amryw ddangosyddion a chyfyngiadau a bennwyd bryd hynny.
Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor Archwilio ac fe’i cyflwynir i’r Cyngor llawn ym mis Gorffennaf.
O ran gweithgareddau benthyg, dywedodd yr Arweinydd: - I’r Cyngor gynnal ei sefyllfa fenthyg fewnol i’r graddau y bo’n bosibl. - - I £40m o fenthyciadau gael eu trefnu tua 2-3 wythnos yn gynharach nag oedd angen, ychydig cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Roedd hyn er ail-gyllido Bond a aeddfedodd yn nechrau mis Ebrill ond oherwydd ansicrwydd Brexit, a oedd yn sylweddol ddiwedd Mawrth, ac ar ôl cael cyngor gan Ymgynghorwyr y Trysorlys, trefnwyd benthyciad amgen fymryn yn gynnar.
- Manylodd yr adroddiad lefel ac effaith benthyca mewnol ar hyn o bryd. - - O ran gweithgareddau buddsoddi:
- Parhaodd y Cyngor i fuddsoddi’n y byrdymor lle caniatâi llif arian hynny, a wnaed yn unol â’r partïon cymeradwy hynny a oedd yn berthnasol i’r strategaeth. -
Parthed yr amryw ddangosyddion a chyfyngiadau trysorlys a bennwyd i 2018/19, cadarnhaodd yr adroddiad i’r Cyngor fodloni’r holl amodau’n foddhaol.
Argymhellodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cyngor. Penderfyniad: Nododd y Cabinet gynnwys yr adroddiad a chytunwyd i’w gyflwyno i Gyngor mis Gorffennaf.
|
|
Diweddariad am y Gofrestr Risg Gorfforaethol PDF 158 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, fel y câi Aelodau Cabinet ddiweddariad Chwarter 4 ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol, sy’n ategu’r gwaith i gyflawni Cynllun Corfforaethol 2017/22 y Cyngor. Gofynnwyd i’r Cabinet ystyried cynnwys yr adroddiad a nodi’r newidiadau’r Gofrestr Risg ar gyfer Chwarter 4.
Yn gryno, dangosodd y newidiadau i’r Gofrestr Risg Gorfforaethol ar ddiwedd Chwarter 4 fod 14 risg gorfforaethol gan gynnwys 5 risg uchel ac 8 risg ganolig ac un risg isel.
Rhoes Atodiad 1 yr adroddiad grynodeb i Aelodau o’r risgiau a’r symud o ran sgorau risg dros y flwyddyn ddiwethaf. Rhoes Atodiad 2 yr adroddiad manwl ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol. Manylodd y Arweinydd ar y materion canlynol: Yn Chwarter 4, newidiodd sgôr risg tair risg:
Risg 1 (Gofynion Deddfwriaethol)
· Canolbwyntiai’r risg hon ar y newidiadau deddfwriaethol o ran Deddf yr Iaith Gymraeg, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, y Ddeddf Diogelu Data a Rheoli Gwastraff. · Roedd y sgôr risg wedi symud o 12 i 6 yn chwarter 4 i adlewyrchu’r gwaith a wnaed i gydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. · Caiff y risg hon ei hadolygu yn Chwarter 1 2019/20 fel rhan o asesiad risg corfforaethol ehangach. Risg 4 (Brexit)
· Yn y Chwarter olaf gwnaeth y Cyngor baratoadau digonol i derfyn amser cychwynnol Brexit ar 29 Mawrth 2019. · Gyda’r Llywodraeth Wladol yn gohirio Brexit tan 31 Hydref 2019 a’r gwaith a wnaed gan y Cyngor i reoli bygythiad Sefyllfa Dim Dêl, lleihaodd y Cyngor y sgôr o 16 i 12. · Fodd bynnag, mae swyddogion a’r weinyddiaeth yn wyliadwrus wrth fonitro’r sefyllfa a byddant yn barod i gynyddu paratoadau Brexit pe newidiai’r sefyllfa.
Risg 5 (Rheoli Ariannol yn ystod y Flwyddyn)
· Symudodd y sgôr risg hwn o 8 (risg ganolig) i 4 (risg isel) ar ddiwedd y flwyddyn ariannol i adlewyrchu’r tanwariant cyffredinol yng nghyllideb y Cyngor. · Fodd bynnag, yn sgîl pwysau galw cynyddol ar wasanaethau allweddol y Cyngor yn 2019/20 caiff y risg hon ei hadolygu gan ei hadlewyrchu yn y gyllideb a ragfynegir i ddiwedd y flwyddyn ariannol hon 2019/20.
Cadarnhaodd yr Arweinydd i’r Gofrestr Risg Gorfforaethol ar gyfer Chwarter 4 gael ei chyflwyno i Bwyllgor Archwilio’r Cyngor ar 6 Mehefin 2019, gan nodi cynnwys yr adroddiad a’r broses rheoli risg.
Cafodd y Pwyllgor Archwilio hefyd wybod bod y Cyngor yn paratoi Datganiad Awydd Risg i ategu ei Bolisi Rheoli Risg cyffredinol; byddai’r Pwyllgora Archwilio’n croesawu’r cyfle hwn i gefnogi’r Cabinet a’r Cyngor i lunio’r datganiad hwn ac i roi unrhyw sylwadau a/neu argymhellion angenrheidiol i’r Cabinet eu hystyried.
Holodd y Cyng. Whitcutt a fyddai’r sgôr risg Brexit pe na ddigwyddai Brexit ar 31 Hydref. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod y gofrestr risg yn ddogfen ddeinamig sy’n cael ei gwerthuso’n gyson ac y caiff ei diweddaru’n ôl y galw.
Cododd y Cyng Cockeram bryder am y pwysau cynyddol ar wasanaethau a arweinir gan galw, yn benodol materion sy'n gysylltiedig â chadw staff o fewn gofal cartref. Cytunodd yr Arweinydd i ysgrifennu i Lywodraeth Cymru ar y mater hwn ac i ymholi pa gynlluniau wrth gefn sydd ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Rhifau Gweddilliwyd o PGA PDF 103 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, i roi’r wybodaeth lawnaf i’r Cabinet am ddisgwyliadau Llywodraeth Cymru i’r Gwasanaethau Plant a’r heriau a wyneba.
Rhannai’r Arweinydd ddisgwyliad Llywodraeth Cymru i leihau nifer y plant sy’n derbyn gofal ar draws y Cyngor.
Cadarnhaodd yr adroddiad fod Casnewydd ers nifer o flynyddoedd wedi gweithio’n gyson i ofalu’n ddiogel am blant a phobl ifanc a rhoi cymorth iddynt aros â’u teuluoedd. At hynny mae’r Cyngor wedi gweithio i ddatblygu a chynnal ystod o wasanaethau ataliol yn ogystal â chymorth mewn argyfwng a chymorth dwys i deuluoedd.
Roedd nifer y plant a ddaeth i ofal yng Nghasnewydd, tan 2017, yn sefydlog gyda’r gyfradd i bob 10,000 yn is o lawer nag Awdurdodau Lleol eraill. Ers 2017 bu cynnydd sefydlog yn y niferoedd hynny.
Cadarnhaodd yr adroddiad fod cynnydd ar draws Cymru a Lloegr a yrrir gan ystod o ffactorau fel y tystiolaethir yn yr Adolygiad Argyfwng Gofal gan gynnwys:
· dod â llymder i ben (tlodi, cynnydd yn y defnydd o fanciau bwyd, colli swyddi) · arfer sy’n osgoi risg yn sgîl gweithgarwch y cyfryngau · cyfraith achosion sy’n gwrthdaro ac weithiau’n cael ei chamddeall · dealltwriaeth well o effaith cam-drin domestig ar blant · camddefnyddio sylweddau a’r effaith ar blant a rhieni · risgiau o Droseddau Difrifol a Threfniadol · nifer uwch o blant ar eu pen eu hunain yn ceisio lloches O ran Casnewydd mae’r holl ffactorau uchod yn berthnasol. Blaenoriaeth Prif Weinidog Cymru yw lleihau nifer y plant sy’n derbyn gofal ledled Cymru, ac er bod hwnnw’n fwriad da, mae angen ei graffu’n gadarn ac mae angen deall yr amrywiadau cenedlaethol a lleol. Mae Gwasanaethau Plant Cyngor Dinas Casnewydd yn gwbl ymroddedig i weithio’n ddiogel gyda holl blant Casnewydd gan sicrhau y gallant fyw bywydau hapus a chyflawn fel plant ac oedolion. Bydd gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddeall y darlun lleol ac i sicrhau y caiff adnoddau llawn eu rhoddi'n allweddol i fwrw unrhyw dargedau sy’n gysylltiedig â’r gwaith hwn.
Diolchodd yr Arweinydd i ofalwyr maeth a staff y cyngor am eu hymrwymiad i’r gwasanaeth i blant sy’n derbyn gofal gan gadarnhau bod Llywodraeth Cymru’n croesawu mewnbwn ar lefel genedlaethol gan Sally Jenkins, Pennaeth Gwasanaethau Plant A Phobl Ifanc y Cyngor.
Penderfyniad:
Nododd y Cabinet yr adroddiad.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd Raglen Waith y Cabinet.
Penderfyniad:
Cytunodd y Cabinet i’r rhaglen wedi’i diweddaru.
|