Agenda and minutes

Cabinet - Dydd Mercher, 16eg Hydref, 2019 4.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Tracy Richards  Rheolwr Swyddfa’r Cabinet

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Cofnodion:

Agorodd yr Arweinydd y cyfarfod drwy groesawu Sheila Davies fel Prif Weithredwr y Cyngor.  Cadarnhaodd yr Arweinydd fod panel penodi trawsbleidiol wedi cytuno'n unfrydol ar y penodiad.

 

Llongyfarchiadau

 

Llongyfarchodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau yr Arweinydd ar gael ei wneud yn Farwnes yn dilyn ei dyrchafiad i D?'r Arglwyddi fel Arglwyddes Gydol Oes, a oedd yn gydnabyddiaeth haeddiannol o oes o ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus fel athro a chynghorydd.  Mynegodd cydweithwyr yn y Cabinet yn unfrydol eu cefnogaeth bersonol a'u llongyfarchiadau am yr agwedd agored, dryloyw a gonest a'r arweinyddiaeth wych y mae'r Arweinydd wedi'i rhoi ers iddi gael ei hethol yn Arweinydd y Cyngor.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'w chydweithwyr yn y Cabinet am eu geiriau caredig a'u cefnogaeth a roddwyd iddi ers dod yn Arweinydd.

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. 

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol a gynhaliwyd ar 18 Medi 2019 pdf icon PDF 125 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Medi 2019 fel cofnod cywir.

 

4.

Adroddiad Blynyddol y Cynllun Corfforaethol pdf icon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd ail Adroddiad Blynyddol y Cynllun Corfforaethol (2018/19) ar Gynllun Corfforaethol Cyngor Dinas Casnewydd 2017/22, yn seiliedig ar Faniffesto'r Gr?p Llafur.

Diben yr adroddiad oedd myfyrio’n ôl ar gyflawniadau 2018/19, nodi beth mwy y gellir ei wneud ac edrych ar uchelgeisiau'r Cyngor ar gyfer gweddill y Cynllun Corfforaethol.

Cyflwynwyd yr Adroddiad Blynyddol ym mis Medi i'r Pwyllgor Craffu Trosolwg a Rheoli a chynhwyswyd eu hadborth a'u hargymhellion yn yr adroddiad i'r Cabinet.  Roedd yr Arweinydd wedi bod yn hapus i fynychu'r Pwyllgor Craffu i ateb cwestiynau.

Bydd fersiwn Gymraeg o'r adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar y cyd â'r adroddiad blynyddol.

Esboniodd yr Arweinydd cefndir yr adroddiad i’r Cabinet gan ddweud:

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff gwasanaethau cyhoeddus (gan gynnwys Cyngor Dinas Casnewydd) gyflwyno adroddiad blynyddol sy'n adlewyrchu'r cynnydd a wnaed o ran cyflawni'r pedwar Amcan Llesiant, sef:

1.    Gwella sgiliau, deilliannau addysgol a chyfleoedd cyflogaeth;

2.    Hyrwyddo twf economaidd ac adfywio wrth amddiffyn yr amgylchedd;

 

3.    Galluogi pobl i fod yn iach, annibynnol a gwydn, ac

 

4.    Adeiladu cymunedau cydlynol a chynaliadwy.

 

Canolbwyntiodd yr Adroddiad Blynyddol ar y cynnydd o ran cyflawni yn erbyn y pedair thema (Cymunedau Cryf/Pobl Ddyheadol/Dinas Lewyrchus/Cyngor wedi'i Foderneiddio) sy'n cefnogi'r Amcanion Llesiant.

Yn 2018/19 wynebodd y Cyngor bwysau ariannol heriol, a reolwyd yn effeithiol gan arwain at danwariant o £2.4 m ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. 

Nododd yr adroddiad fod y gyllideb tymor canolig yn dangos bwlch ariannu o £30 miliwn ac y bydd yn rhaid i'r Cabinet hwn fod yn ddewr, yn dryloyw ac yn agored i'w drigolion a defnyddwyr ei wasanaethau yn y penderfyniadau a wneir wrth symud ymlaen.

Wrth adrodd mesurau perfformiad cenedlaethol y Cyngor ar gyfer 2018/19 yn erbyn y 21 o gynghorau eraill yng Nghymru, nododd Cyngor Casnewydd ei fod yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer naw Mesur allan o'r 18 o fesurau, a oedd yn cynnwys eitemau pwysig megis:

o    Lleihau’r nifer o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant;

o    Nifer y cartrefi newydd sy'n cael eu creu o ganlyniad i ailddechrau defnyddio cartrefi gwag.

Lle mae Cyngor Casnewydd yn tanberfformio yn erbyn cyfartaledd Cymru, bydd Prif Weithredwr y Cyngor, yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a'r Tîm Rheoli Corfforaethol yn monitro'r mesurau er mwyn sicrhau bod gwelliannau'n cael eu gwneud i'r modd y cyflenwir y gwasanaethau hynny.

Amlygodd yr Arweinydd rai o'r llwyddiannau a wnaed yn 2018/19:

·      Cyflwyno’r Addewid Pobl Ifanc sydd wedi’i ddatblygu gan bobl ifanc Casnewydd ar gyfer pobl ifanc Casnewydd.  Mae’r Addewid wedi gosod 6 Addewid i Gyngor Casnewydd eu gweithredu a’u hymgorffori yn y prosesau penderfynu a gweithgareddau’r Cyngor.  (Bydd cyfosodiad yn cael ei leoli yn Ystafell Bwyllgor 1 i ddathlu hyn).  Mae'r Arweinydd, ar ei traul ei hun, wedi gofyn am gopi o'r cyfosodiad i fynd gyda hi i D?'r Arglwyddi.

 

·      Mae ymrwymiad y Cyngor i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc weithio i Gyngor Casnewydd drwy’r Rhaglen Brentisiaethau sydd unwaith eto wedi eu gweld yn cyflawni eu potensial ac  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Adroddiad Diweddariad Brexit pdf icon PDF 132 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, a'i ddiben oedd rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am y paratoadau sy'n cael eu gwneud gan Gyngor Dinas Casnewydd.

 

Ym mis Gorffennaf 2019 rhoddwyd diweddariad i'r Cabinet ar baratoadau'r Cyngor yn y cyfnod cyn y dyddiad cau gwreiddiol sef Mawrth 2019 a'r digwyddiadau wedi hynny. 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod pob Cyngor ledled Cymru yn gorfod gwneud paratoadau ar gyfer gadael yr UE ar 31ain Hydref 2019 o fewn yr adnoddau presennol.

Gan ddefnyddio arweiniad gan CLlLC, mae Cyngor Casnewydd wedi sefydlu Gr?p Tasg a Gorffen i sicrhau dull cyffredin sy'n defnyddio pecyn cymorth CLlLC.

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod y Cyngor wedi asesu'r effeithiau a'r materion yng Nghasnewydd sy'n cwmpasu tri maes cyffredinol:

 

1.    Sefydliad (Blaenoriaethau'r Cyngor/Llywodraethu/Cyllideb ac Ariannu

 

2.    Cyflenwadau a Gwasanaethau (y Gadwyn Gyflenwi/Gweithrediadau Craidd/Gweithgareddau Cyfreithiol, Data a Rheoleiddio)

 

3.    Eich Lle (Cydlyniant Cymunedol/Argyfyngau Sifil)

 

I baratoi, mae'r gwasanaethau’n monitro ac yn adrodd am ddiweddariadau’n gyson i'r Gr?p Tasg a Gorffen sydd wedi bod yn cyfarfod bob pythefnos yn ddiweddar ac mae'r Gr?p hwnnw'n barod i gynnal cyfarfodydd yn amlach yn y cyfnod hyd at y dyddiad cau o’r 31ain Hydref 2019, gan ddibynnu ar sefyllfa'r DU gyfan.

O'i gymharu â'r dyddiad cau cychwynnol o fis Mawrth 2019, mae ffactorau eraill fel bygythiad tywydd gaeafol bellach wedi gorfod cael eu hystyried pe bai senario Heb Gytundeb yn digwydd.

Mae swyddogion ar draws y Cyngor wedi amlygu'r meysydd canlynol fel rhai a fydd yn cael eu heffeithio ac maent wedi cymryd mesurau/sicrwydd priodol:

 

·      Bwyd a chyflenwadau meddygol

·      Sefydlogrwydd darparwyr gofal a chartrefi cymdeithasol

·      Costau TGCh/seiberddiogelwch/diogelu data

·      Cynllun Statws Preswylydd Sefydlog yr UE (Mae'r Arweinydd wedi lobïo Llywodraethau Cymru a'r DU i gyflwyno hyn ar draws y 22 awdurdod lleol yng Nghymru); mae staff CDC yn cael eu hyfforddi i fwrw ymlaen â hyn

·      Cydlyniant Cymunedol

·      Busnesau sy'n masnachu gyda'r UE

 

Mae pryderon nad yw pob busnes bach a chanolig yn gwneud y paratoadau angenrheidiol ar gyfer senario Brexit Heb Gytundeb.  Mae tîm Datblygu Economaidd y Cyngor yn codi ymwybyddiaeth ymhlith busnesau o'r angen i wneud paratoadau a'u cyfeirio at wefan Llywodraeth y DU a digwyddiadau yng Nghymru a De-orllewin Lloegr.

 

Mae'r tabl yn Atodiad 1 yr adroddiad yn rhoi manylion llawn ar draws y meysydd a gwmpesir gan y Gr?p Tasg a Gorffen.

Mae trefniadau Argyfyngau Sifi yn dechrau ym mis Hydref 2019, gyda diweddariadau rheolaidd yn cael eu darparu drwy Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Gwent a Llywodraeth Cymru.  Bydd swyddogion o'r Cyngor yn rhoi cymorth gyda'r broses hon.

Mae trefniadau ar y gweill i roi mwy o wybodaeth a chyfathrebu i gynghorwyr, staff, trigolion, cymunedau a busnesau y gallai Brexit effeithio arnynt dros yr ychydig fisoedd nesaf.

Croesawodd yr Arweinydd sylwadau gan gydweithwyr yn y Cabinet mewn perthynas â'r wybodaeth a gynhwyswyd yn yr adroddiad a cheisiwyd eu cytundeb i'r Cabinet dderbyn cynnwys yr adroddiad a derbyn diweddariadau rheolaidd wrth i’r ddyddiad cau o’r 31ain Hydref 2019 nesáu.

 

Croesawodd cydweithwyr yn y Cabinet yr adroddiad sy'n rhoi  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Adroddiad WAO - Diogelu Corfforaethol pdf icon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a chadarnhaodd mai dyma'r Adolygiad dilynol Swyddfa Archwilio Cymru o'r trefniadau corfforaethol ar gyfer diogelu plant.

 

Mae'r canfyddiadau yn yr adroddiad yn dangos y cynnydd sylweddol sydd eisoes wedi'i gyflawni gan y Cyngor o ran mynd i'r afael â'r argymhellion cenedlaethol a chynigion lleol blaenorol ar gyfer gwella trefniadau corfforaethol ar gyfer diogelu plant. Mae cynllun gweithredu clir ar waith i fynd i'r afael â'r cynigion ar gyfer gwella a fodlonwyd yn rhannol ac mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu'r argymhellion yn barhaus. Bydd y camau rheoli yn cael eu monitro a'u hadrodd yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu gan y Cyngor.

Gofynnodd yr adroddiad i'r Cabinet ystyried cynnwys yr adroddiad a chael adroddiadau rheolaidd ar weithredu'r camau rheoli.

Cyflwynodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Wwasanaethau Cymdeithasol i drafod yr adroddiad:

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Wwasanaethau Cymdeithasol bod diogelu plant sydd yng ngofal yr awdurdod, neu y mae gan yr awdurdod gysylltiad â hwy, yn hollbwysig er mwyn darparu gwasanaethau ar draws pob rhan o'r Cyngor.  Mae gan bawb ddyletswydd, boed fel aelodau etholedig, swyddogion, rhieni neu ofalwyr, i sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn a'u bod yn gallu cyflawni eu potensial. 

Roedd yr Aelod Cabinet yn falch bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cael sicrwydd am yr hyn a gyflawnwyd hyd yma ers yr adolygiadau gwreiddiol, sydd hefyd yn ailadrodd y gwaith parhaus sydd angen ei wneud i sicrhau bod y prosesau presennol yn cael eu gwella ymhellach, ac fe ail-adroddodd ddatganiad yr Arweinydd i sicrhau y bydd y camau sy'n weddill a nodir yn yr adroddiad yn cael eu gweithredu.

Croesawodd yr Arweinydd Gareth Jones, sef Arweinydd Archwilio Perfformiad Swyddfa Archwilio Cymru, i siarad am yr adroddiad.  Cadarnhaodd fod yna ethos cryf iawn i ddangos bod diogelu wedi'i ymgorffori'n dda yng Nghasnewydd gyda chydnabyddiaeth yn cael ei roi i bwysigrwydd y gweithgaredd hwn, a bod camau rheoli wedi'u cymryd/yn parhau er mwyn mynd i'r afael â'r argymhellion a fodlonwyd yn rhannol. 

 

Diolchodd yr Arweinydd i Gareth Jones a thîm Swyddfa Archwilio Cymru am eu dull o weithio mewn partneriaeth a gweithio gyda'r Cyngor, yn ogystal ag archwiliwr i'r Cyngor mae SAC hefyd yn gweithredu fel cyfaill beirniadol.  

 

Cynigiodd yr Arweinydd fod y Cabinet yn nodi'r canlyniadau o adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ac yn cael diweddariadau rheolaidd ar weithredu'r camau rheoli.

 

Penderfyniad:

 

Cytunodd y Cabinet i nodi canlyniadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ac i gael diweddariadau rheolaidd ar weithredu'r camau rheoli a nodir yn yr adroddiad.

 

7.

Tystysgrif Cydymffurfiaeth WAO 1 pdf icon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad ar Dystysgrif Gydymffurfiaeth Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) yn dilyn archwiliad o drefniadau cynllunio gwelliant 2019/20 y Cyngor.

 

Gofynnodd yr Arweinydd i'r Cabinet ystyried cynnwys yr adroddiad ac i ailddatgan yr ymrwymiad i gyflawni'r amcanion a nodwyd yng Nghynllun Corfforaethol 2017/22.

Gofynnodd yr Arweinydd i Gareth Jones o Swyddfa Archwilio Cymru ddarparu trosolwg o'r Dystysgrif Gydymffurfiaeth i'r Cabinet a chadarnhaodd y byddai'n fodlon derbyn unrhyw gwestiynau a/neu adborth gan y Cabinet.

Cadarnhaodd Gareth Jones hynny yng nghyfarfod y Cabinet ym mis Medi, cytunodd y Cabinet i ystyried a derbyn y casgliad a gynhwysir yn Adroddiad Gwella Blynyddol yr Archwilydd Cyffredinol ar weithgarwch gwelliant parhaus y Cyngor ac i gadarnhau ei ymrwymiad i gyflawni Amcanion Lles y Cyngor o'r Cynllun Corfforaethol yn 2019/20.  Yn dilyn y penderfyniad hwnnw, cadarnhaodd Swyddfa Archwilio Cymru, ar ôl adolygu'r ddogfen, fod y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau ac yn cynnig y Dystysgrif Gydymffurfiaeth.  Yn amodol ar yr adolygiad o'r adroddiad blynyddol bydd SAC yn ystyried cyhoeddi'r 2il dystysgrif maes o law.

Diolchodd yr arweinydd i SAC unwaith eto am ei dull o weithio mewn partneriaeth a gweithio gyda'r Cyngor.

 

Cynigiodd yr Arweinydd fod y Cabinet yn derbyn y casgliad sydd yn Adroddiad Tystysgrif Cydymffurfio'r Archwilydd Cyffredinol.

Penderfyniad:

 

Cymeradwyodd y Cabinet yr adroddiad a derbyniodd y casgliad sydd yn Adroddiad Tystysgrif Cydymffurfio'r Archwilydd Cyffredinol.

 

8.

Adroddiad Blynyddol ar Reoli Canmoliaeth, Sylwadau a Chwynion 2019 pdf icon PDF 257 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a chadarnhaodd ei fod yn ofynnol i holl Wasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru gofnodi ac ymateb i adborth gan breswylwyr yn unol â'r canllawiau a'r ddeddfwriaeth a gyhoeddir gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Ombwdsmon).

 

Cadarnhaodd yr adroddiad fod gofynion statudol ychwanegol y mae'n rhaid eu bodloni ar gyfer cwynion o ran Gofal Cymdeithasol.

 

Cofnodir adborth, gan gynnwys canmoliaeth, sylwadau a chwynion, ar y llwyfan Fy Nghasnewydd.

 

Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r cwynion a dderbyniwyd yn 2018/2019 ac yn gwneud argymhellion ar gyfer camau i wella'r gwasanaeth a ddarperir gan y Cyngor.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau ac Adnoddau i siarad am yr adroddiad a chadarnhaodd fod yr Ombwdsmon yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus wrando ar adborth gan y cyhoedd a defnyddio'r adborth hwnnw i lywio gwasanaethau a sbarduno gwelliant parhaus.  Mae hyn yn cynnwys cael systemau ar waith i gofnodi, dadansoddi ac adrodd ar yr adborth a geir gan breswylwyr.

 

Ar hyn o bryd, mae'r Ombwdsmon yn ymgynghori ynghylch y cynnydd yn ei bwerau ymchwilio o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019, yn enwedig mewn perthynas â derbyn cwynion anffurfiol ac ymgymryd ag ymchwiliadau lles y cyhoedd ar liwt ei hun, heb unrhyw g?yn.  Nododd adroddiad y Cabinet y gallai fod angen i'r Cyngor adolygu ei weithdrefnau mewnol ei hun maes o law yng ngoleuni'r newidiadau hyn i bwerau statudol yr Ombwdsmon.

 

O ran canmoliaeth a sylwadau, mae'r Cyngor yn cael llawer o ganmoliaeth gan y preswylwyr am y gwasanaethau a ddarperir ac roedd y nifer a dderbyniwyd eleni yn uwch nag yn y blynyddoedd blaenorol. Mae mwyafrif y cwynion a ddaw i law yn ymwneud â Gwasanaethau'r Ddinas, fel y gwasanaeth mwyaf gweladwy gyda'r mwyaf o ryngweithio â thrigolion.

 

Mae sylwadau yn ffordd o gofnodi'r adborth gan gwsmeriaid sy'n anhapus â'r polisïau a'r penderfyniadau a wnaed gan y Cyngor. Cafodd Gwasanaethau'r Ddinas y sylwadau mwyaf cofnodedig am bolisïau am yr un rhesymau a gaiff fwyaf o gwynion.

 

Mae nifer y cwynion a dderbyniwyd gan y Cyngor yn cyfrif am 0.001% o gyfanswm y cysylltiadau cwsmer a gofnodwyd gan Wasanaethau Cwsmeriaid y llynedd.

 

Roedd llai o gwynion anffurfiol wedi cael eu cofnodi flwyddyn ar ôl blwyddyn, a mwy ohonynt yn arwain at adolygiad ffurfiol neu'n cael eu cyfeirio at yr Ombwdsmon.

 

Derbyniodd Gwasanaethau'r Ddinas a Gwasanaethau’r Gyfraith a Rheoleiddio’r nifer fwyaf o gwynion, gan adlewyrchu natur eu gwaith a'u rhyngwyneb uniongyrchol â phreswylwyr.

 

Mae nifer y cwynion a dderbyniwyd ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol yn cyd-fynd â'r niferoedd a dderbyniwyd yn y flwyddyn flaenorol.

 

Cafodd nifer fach o gwynion eu hystyried yn annibynnol yng Ngham 2 a'u cyfeirio at yr Ombwdsmon.  Cadarnhawyd un g?yn yn rhannol yng Ngham 2 gan arwain at Adroddiad er Budd y Cyhoedd.

 

Mae nifer y cwynion a gyfeirir at Swyddfa'r Ombwdsmon yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru.

 

Roedd deg o'r cwynion a godwyd i'r Ombwdsmon yn ymwneud â methu ag ymateb neu fodloni terfynau amser ar gyfer  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 86 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Raglen Waith y Cabinet.

 

Penderfyniad:

 

Cytunodd y Cabinet i’r rhaglen wedi’i diweddaru.