Agenda and minutes

Cabinet - Dydd Mercher, 13eg Tachwedd, 2019 4.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Tracy Richards  Rheolwr Swyddfa’r Cabinet

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Cofnodion:

Cadarnhaodd yr Arweinydd mai hwn oedd ei chyfarfod olaf yn y Cabinet fel Arweinydd a diolchodd i'w chydweithwyr yn y Cabinet am eu cefnogaeth yn ystod ei chyfnod yn y swydd; cymorth sydd wedi gwneud ei gwaith gymaint â hynny'n haws.  Canmolodd y Weinyddiaeth Lafur wych a'r gwaith sy'n mynd rhagddo i sicrhau'r dyfodol gorau posibl i drigolion Casnewydd.  Cadarnhaodd yr Arweinydd mai dyma'r swydd orau a fu ganddi erioed, drwy amseroedd da a drwg. 

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd hefyd fod James Harris, Cyfarwyddwr Strategol - Lle, yn mynychu ei gyfarfod Cabinet diwethaf gan ei fod yn ymddeol o'r Cyngor.  Rhoddodd yr Arweinydd ei diolch ar gofnod am y gwaith a wnaed gan James yn ei gyfnod yng Nghasnewydd, yn enwedig o ran ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol.  

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 128 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Hydref 2019 fel cofnod cywir. 

 

4.

Monitor Cyllideb Refeniw: Gorffennaf pdf icon PDF 734 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y monitor cyllideb refeniw.  Cadarnhaodd yr adroddiad fod y rhagolygon wedi dirywio drwy gydol y flwyddyn gyda'r galw yn parhau i dyfu y tu hwnt i'r cyllidebau sydd ar gael.  Yn y diweddariad diwethaf gan y Cabinet, yr oedd y gyllideb llinell waelod yn gytbwys iawn ac mae'r sefyllfa bresennol yn dangos gorwariant cyffredinol o ychydig dros £700,000.

Roedd yr adroddiad yn egluro'r rhesymau a'r tueddiadau ar gyfer hyn ac yn dilyn patrwm penodol; patrwm sydd wedi bod yn ei le ers tua 2-3 o flynyddoedd.  Er bod y rhan fwyaf o weithgareddau'r Cyngor yn gweithredu'n agos at y gyllideb, mae gorwariant sylweddol mewn rhai ardaloedd.  Er bod rhywfaint o danwariant mewn cyllidebau nad ydynt yn gyllidebau gwasanaeth a chyllideb refeniw wrth gefn, nid yw'r eitemau hyn yn ddigon o hyd i liniaru'r gorwario, felly mae'r adroddiad yn cadarnhau gorwariant net cyffredinol o £700,000.

 

Mae gwasanaethau, heb gynnwys ysgolion, yn gorwario o dros £4 miliwn gyda gofal cymdeithasol yn cyfrannu at dros £3m o hynny, oherwydd galw cynyddol.  Mae £3.5 miliwn wedi'i fuddsoddi yn y meysydd gweithgareddau allweddol sy'n cael eu harwain gan y galw ym maes gofal cymdeithasol yng nghyllideb eleni, ond mae'r galw wedi parhau i dyfu'n gyflymach. 

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod rhai achosion o danwario diwasanaeth yn y Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor oherwydd llai o alw am hynny ac mewn Incwm o'r Dreth Gyngor wrth i fwy o dai gael eu hadeiladu yn y ddinas - mae'r rhain yn cyfateb i tua £2 miliwn, ynghyd â chyllideb wrth gefn y gyllideb refeniw o £1.4 miliwn, yn darparu lefel dda o liniaru, ond dim digon.

 

Mae'r sefyllfa'n heriol, fodd bynnag, mae angen i'r Cyngor reoli'r gyllideb gyffredinol gan y bydd angen arian o'r cronfeydd wrth gefn ar gyfer unrhyw orwariant ac nid oes unrhyw gronfeydd wrth gefn sydd heb eu clustnodi'n ar gael yn rhwydd, hefyd mae'r cronfeydd wrth gefn cyffredinol ar lefelau isafswm.  Hefyd, mae gan y Cyngor gyllideb heriol iawn i'w hystyried maes o law.  Felly, bydd unrhyw ddefnydd heb ei gynllunio o’r cronfeydd wrth gefn yn broblem ac yn arwain at ganlyniadau ac effeithiau anodd.

 

Mae sefyllfa ariannol ysgolion yn edrych yn heriol iawn hefyd ac mae cydweithwyr ym maes addysg a chyllid yn gweithio'n galed gydag ysgolion uwchradd i weld pa arbedion y gellir ac y dylid eu gwneud i ddod â gwariant yn agosach at yr arian a gaiff ei wario.  Mae cynnydd yn cael ei wneud a mynegodd yr Arweinydd ei diolch i'r ysgolion, y swyddogion addysg a chyllid am gyflawni hyn, fodd bynnag, cadarnhaodd yr Arweinydd fod mwy o waith i'w wneud cyn y gellir sefydlogi'r sefyllfa. 

 

Diolchodd yr Arweinydd i swyddogion am eu gwaith caled wrth reoli'r gyllideb o dan amgylchiadau anodd iawn.  Croesawodd yr Arweinydd y Prif Weithredwr sydd â swydd enfawr o'i blaen o ran ymdrin â materion yn ymwneud â'r gyllideb.  Gobeithiai'r Arweinydd y bydd y setliad Grant Cynnal Refeniw ar gyfer cyllideb y flwyddyn  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Rhaglen Gyfalaf - Medi 2019 pdf icon PDF 228 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a oedd yn ymdrin ag agweddau ar y Rhaglen Gyfalaf, unrhyw ychwanegiadau newydd oedd i'w hystyried a'u cymeradwyo gan y Cabinet, y cynnydd a wnaed eleni a'r sefyllfa bresennol o ran yr arian cyfalaf ychwanegol a'r derbyniadau cyfalaf.

 

Y newid mwyaf a nodir yn yr adroddiad yw'r rhaglen.  Mae swyddogion wedi bod yn adolygu cyflawnadwyedd y rhaglen ac mae'r rhan fwyaf o'r gwaith hwnnw bellach wedi'i gwblhau.  Bydd y rhaglen pum mlynedd gyfredol yn cymryd dwy flynedd arall i'w chyflawni ac o gofio ei maint ac mewn rhai mannau, cymhlethdod, nid yw hyn yn ormod o syndod.  Felly, mae gwariant project wedi cael ei ailgyflwyno dros yr amserlen saith mlynedd newydd yn unol ag amcangyfrifon ar gyfer pryd y gellir cyflawni projectau.  Roedd yr adroddiad yn cadarnhau nad yw projectau wedi'u rhoi o'r neilltu – dim ond eu hadolygu i weld pryd y gellir eu cyflwyno.

 

Yn y ddwy flynedd ychwanegol, roedd gwariant cyfalaf eisoes wedi'i ymrwymo i:

 

a)    Gorffen y rhaglen Band B addysg.  Felly, caiff hyn ei gynnwys yn yr amserlen saith mlynedd newydd ac mae'r rhaglen bellach yn cynnwys y rhaglen lawn gwerth £70m ar gyfer Ysgolion Band B.

 

b)    Cyfraniad CDC i Fargen Ddinesig Caerdydd.  Mae hwn yn ymrwymiad hirdymor a bydd Cyngor Casnewydd, fel awdurdodau eraill yn y rhanbarth, yn cyfrannu at hyn am lawer o flynyddoedd, hyd yn oed y tu hwnt i'r amserlen saith mlynedd a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Yn ogystal ag ail-gyflwyno'r projectau presennol yn raddol, ychwanegwyd y ddwy eitem hyn gan eu bod eisoes wedi'u cymeradwyo ac mae angen eu cynnwys yn yr adroddiad er mwyn bod yn gyflawn.  (Mae Atodiad A yn cyfeirio at hyn).

 

O ran gwariant y rhaglen, cadarnhaodd yr adroddiad y cafwyd y gwariant cymharol araf arferol yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn, a rhagwelir y bydd yn cyflymu yn ail hanner y flwyddyn.  Mae cynnydd da yn cael ei wneud ar lawer o brojectau o fewn y rhaglen.  Yn benodol, roedd yr Hyb gwasanaeth newydd, a agorodd ar y 7fed Tachwedd ac sy'n gyfleuster gwych i drigolion dwyrain y ddinas. 

 

Mae'r adroddiad yn cadarnhau'r cynnydd ar y projectau proffil uchel.

 

Cynhwyswyd diweddariad ar hyblygrwydd yr adnoddau cyfalaf yn yr adroddiad, mae rhywfaint o hyblygrwydd yn y rhaglen ond bydd y galw am adnoddau bob amser yn gorbwyso'r adnoddau sydd ar gael.  Cadarnhaodd yr adroddiad fod y rhaglen eisoes yn cyflawni'n agos at £200m, mae llawer o brojectau ar y gweill a bydd y ddinas yn elwa'n aruthrol o'r gwariant hwn a'r gwasanaethau a'r cyfleusterau sy'n deillio o hynny.  Daw rhan o'r arian ychwanegol o dderbyniadau cyfalaf, a rhoddodd yr adroddiad ddiweddariad ar hyn a chynhyrchu derbynebau hyd yma.

 

Mynegodd y Cynghorydd Jane Mudd ei diolch i'r Arweinydd am ei gwaith gyda Llywodraeth Cymru ar sicrhau'r grant i hwyluso'r project Commercial Street, heb ymyrraeth yr Arweinydd ni fyddai'r project wedi dwyn ffrwyth.

 

Yn yr un modd, cadarnhaodd y Cynghorydd Gail Giles gyfraniad yr Arweinydd ar Raglen Band B Ysgolion yr  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Rhaglan Waith pdf icon PDF 86 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Raglen Waith y Cabinet.

 

Penderfyniad:

 

Cytunodd y Cabinet i’r rhaglen wedi’i diweddaru.

 

7.

Un Porthladd Newydd pdf icon PDF 108 KB

Cofnodion:

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod y diweddariad hwn at ddibenion gwybodaeth/ymwybyddiaeth

 

8.

Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

Cofnodion:

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar ddydd Mercher 18 Rhagfyr 2019, am 4.00 pm yn Ystafell Bwyllgor 1, yn y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd.