Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Tracy Richards , Cabinet Office Manager E-bost: Cabinet@newport.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau dros Absenoldeb Cofnodion: Y Cynghorydd Paul Cockeram.
|
|
Datganiadau o ddiddordeb Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf PDF 127 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr 2019 fel cofnod cywir.
|
|
Monitro Cyllideb Refeniw PDF 713 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a ddangosodd ragolwg o’r sefyllfa ar ddiwedd mis Tachwedd.
Cadarnhaodd yr Arweinydd fod y sefyllfa wedi gwella ers yr adroddiad blaenorol (pan yr adroddwyd bod y Cyngor yn wynebu gorwariant o tua £700 mil); cadarnhaodd yr adroddiad diweddaraf hwn sefyllfa gytbwys.
Mae’r gwelliant oherwydd nifer o ffactorau, gan gynnwys cyhoeddi grantiau penodol newydd yn ddiweddar, a fydd yn talu ar rywfaint o’r gorwariant craidd yn ogystal â’r rhewi a dargedwyd ar wariant a gytunwyd o’r blaen gan y Cabinet.
Mae risgiau’n parhau, oherwydd bod y sefyllfa’n cynnwys yr holl gyllideb refeniw wrth gefn i gydbwyso’r gyllideb gyffredinol; mae gorwariant sylweddol ar wasanaethau yn parhau a gaiff ei liniaru o danwariant heb fod yn y gwasanaeth; mae gorwariant ysgolion yn parhau ar lefel uchel o hyd.
Nid yw patrwm cyffredinol y meysydd gorwariant a thanwariant wedi newid a chadarnhaodd yr adroddiad orwariant mewn nifer fach iawn o weithgareddau’r Cyngor. Fodd bynnag, mae’r gorwariant yn sylweddol ac yn cael ei achosi’n bennaf gan alw sy’n tyfu o ran gwasanaethau gofal cymdeithasol, sefyllfa nad yw’n unigryw i Gasnewydd.
Ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn ymgynghori ar ei gyllideb ddrafft 2020/21 sy’n cynnwys cynigion i fuddsoddi’n sylweddol yn y meysydd sy’n parhau i wynebu heriau parhaus o ran galw. Dylai hyn leddfu’r problemau presennol o ran gorwario ond dim ond os bydd galw’n sefydlogi, ac nid oes gwarant o hynny.
Diolchodd yr Arweinydd i’r staff ar draws y Cyngor am y gwaith a wnaed i reoli cyllidebau o dan amgylchiadau sydd weithiau’n anodd a gofynnodd y gwneir pob ymdrech i barhau i reoli’r cyllid yn gadarn wrth i ddiwedd y flwyddyn ddod yn agosach.
Gofynnwyd i'r Cabinet:
· Nodi'r sefyllfa gyffredinol o ran rhagolygon y gyllideb, gan gynnwys y defnydd o'r holl gyllideb wrth gefn gyffredinol, yn ogystal â'r tanwariant sylweddol mewn cyllidebau di-wasanaeth er mwyn lliniaru, yn rhannol, y gorwariant a ragwelir o fewn gwasanaethau; · Cytuno bod y Cyfarwyddwyr Corfforaethol a’r Prif Weithredwr yn parhau i weithio gyda Phenaethiaid Gwasanaeth er mwyn achosi gostyngiadau a dargedir o ran gwariant gwasanaethau. Rhagwelir y bydd y rhain yn dangos cynnydd a monitro'r ddarpariaeth ac y cytunir arnynt gydag Aelodau Cabinet unigol yn eu briffiau rheolaidd; · Nodi lefel yr arbedion nas cyflenwyd o fewn pob cyfarwyddiaeth a'r risgiau sy'n gysylltiedig â hyn; · Nodi'r symudiadau rhagweledig yn y cronfeydd wrth gefn; · Nodi'r balansau a ragwelir ar gyfer ysgolion unigol dros y flwyddyn nesaf a bod gwaith yn mynd rhagddo o ran lleihau'r gorwariant mewn ysgolion yn y sector uwchradd.
Penderfyniad:
Cytunodd y Cabinet y dylai’r Tîm Arweinyddiaeth Strategol barhau i osod ostyngiad targedig o ran gwariant ar draws wasanaethau a pharhau i adolygu a rheoli cyllidebau a risgiau allweddol yn ofalus. |
|
Monitro ac Ychwanegu Rhaglenni Cyfalaf - Rhagfyr 2019 PDF 202 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a ddarparodd yr ychwanegiadau cyfalaf rheolaidd a’r wybodaeth monitro.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys:
· projectau y gofynnir i’r Cabinet gymeradwyo ar y rhaglen; · diweddariad i’r cyfalaf cyfalaf; · costau cyfalaf yr aethpwyd iddynt hyd yn hyn; · rhagamcanion o wariant hyd at ddiwedd y flwyddyn, a; · y sefyllfa bresennol o ran derbyniadau cyfalaf. Adrodd yr Arweinydd am ychwanegiadau newydd i’r rhaglen. Roedd y rhain yn cynnwys chwe phroject yn costio bron £2 miliwn a ddisgrifir yn yr adroddiad. Cadarnhaodd yr adroddiad bod y projectau hyn yn cael eu hariannu gan grant allanol neu o arbedion cyllideb refeniw yn y gwasanaethau dan sylw a gaiff eu trosglwyddo i ariannu’r costau benthyca cysylltiedig; felly, nid oes unrhyw effaith ar yr arian cyfalaf ychwanegol wrth gefn presennol. Yn benodol, tynnodd yr Arweinydd sylw at y project ailwampio Arcêd y Farchnad y mae swyddogion yn gweithio’n galed iawn i’w symud ymlaen ac roedd yn falch o adrodd y bydd yn gam da arall ymlaen wrth ddatblygu canol y ddinas.
Cadarnhaodd yr Arweinydd fod cynnydd o ran cyflawni’r rhaglen a’r gwariant yn symud ymlaen ar brojectau’r flwyddyn bresennol; fodd bynnag, mae’r gwahaniaeth rhwng y cyllidebau ar gyfer eleni, sef £39 miliwn a’r gwariant presennol, sef £15 miliwn yn sylweddol iawn o hyd. Dywedodd yr Arweinydd, yn hanesyddol mae gwariant uwch yn nau chwarter olaf y flwyddyn ariannol ond wedi adolygu ac ailgyflwyno cyllidebau rhaglen cyfalaf eleni eisoes, mae’n bosibl y bydd angen rhagor o waith.
Er gwaethaf hyn, roedd yr Arweinydd yn falch o adrodd am gynnydd da yn cael ei wneud ar brojectau gwerthfawr a chyffrous iawn ar gyfer y ddinas, megis:
· Symud ymlaen gwaith cynllunio a dylunio ar gyfer projectau adeiladau ysgol Band B. Mae hyn y cynrychioli dechrau buddsoddiad mawr o £70 miliwn mewn ysgolion dros y pum mlynedd nesaf; · Hyb cymdogaeth dwyrain Casnewydd sydd erbyn hyn yn gweithredu’n dda iawn; · Mae project Arcêd y Farchnad yn broject heriol ond mae cynnydd cyson yn cael ei wneud; · Mae project 123-129 Commercial Street bron wedi’i gwblhau ac mae’n creu effaith weledol gadarnhaol iawn yn rhan honno canol y ddinas; mae’r llety hefyd o safon uchel iawn; · Mae gwaith cynllunio ar gyfer y Bont Gludo bron wedi’i gwblhau; · Gwneir cynnydd da ar y cartrefi preswyl newydd i blant a fydd yn gwneud gwelliant cadarnhaol iawn i blant sy’n derbyn gofal y Cyngor. Cadarnhaodd yr Arweinydd bod y galw am adnoddau cyfalaf yn fwy nag argaeledd cyllid ac mae’n fforddiadwy ar hyn o bryd, ond mae rhaglen tymor canolig sylweddol iawn o hyd sy’n cynrychioli bron £200 miliwn o fuddsoddiadau yn y ddinas dros y pum mlynedd nesaf.
Cadarnhaodd yr adroddiad fod derbyniadau cyfalaf yn cael eu cynnwys yn y cyflaf ychwanegol wrth gefn.
Roedd y Cyng. Jeavons yn falch o adrodd bod y gwaith a wnaed ym Maes Parcio Park Square ar waith effeithlonrwydd ynni LED wedi arwain at lai o ddigwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Canmolodd y Cyng. Giles y gwaith sy’n cael ei wneud ar fenter Band B Ysgolioon y ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Dadansoddiad Canol Blwyddyn o Berfformiad 2019/20 PDF 200 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gyda’r diben o roi trosolwg o’r cynnydd ar gyflawni yn erbyn y cynlluniau gwasanaeth a’r mesurau perfformiad ar gyfer chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon (2019/20)
Roedd yr adroddiad yn cynnwys adborth ac argymhellion Pwyllgor Craffu ar Bobl a’r Pwyllgor Craffu Lle a Chorfforaethol yn dilyn cyflwyno’r cynlluniau gwasanaeth ym mis Tachwedd 2019. Cadarnhaodd yr adroddiad:
· Yn 2017, lansiodd Cyngor Casnewydd ei Gynllun Corfforaethol pum mlynedd a nododd ei weledigaeth a’i nodau ar gyfer darparu gwasanaethau’ Cyngor a chyflawni ei amcanion Lles ar gyfer dinasyddion Casnewydd. · Er mwyn sicrhau y cyflawnwyd yr amcanion hyn, datblygodd pob gwasanaeth yn y Cyngor gynlluniau gwasanaeth unigol ategol a gymeradwywyd gan Aelodau’r Cabinet ar gyfer pob gwasanaeth. Nododd yr adroddiad:
· Y dangosodd chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon fod 97% o’r camau gweithredu mewn cynlluniau gwasanaeth ‘ar y gweill’ a chafodd 11% o’r camau gweithredu eu cwblhau. (Mae’r adroddiad hwn yn rhoi manylion llawn o’r cynnydd): · Adroddwyd bod 43 allan o 74 o fesurau perfformiad ‘ar darged’ o ran cyflawni yn erbyn eu targed blynyddol; · Roedd 8 allan o 74 o fesurau perfformiad ‘yn brin o’r targed’ o ran cyflawni yn erbyn eu targed blynyddol; · Roedd 15 o’r 74 o’r mesurau perfformiad yr adroddwyd arnynt ‘oddi ar y targed’ o ran cyflawni yn erbyn eu targed blynyddol.
Cafodd y perfformiad ei adolygu’n fanwl gan Bwyllgorau Craffu ac mae uwch reolwyr yn parhau i fonitro canlyniadau’n agos drwy ail ran y flwyddyn.
· Hefyd amlygodd yr adroddiad ddatblygiadau nodedig wrth gyflawni’r Cynllun Corfforaethol a oedd wedi cynnwys y Cyngor yn gwneud penderfyniadau beiddgar yn erbyn cefndir pwysau ariannol parhaus. Er bod manylion llawn am y datblygiadau yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad, amlygodd yr Arweinydd rywfaint o’r cynnydd a wnaed hyd yn hyn:
o Mae’r Cyngor wedi cael llwyddiant o ran cyflawni Rose Cottage ac anogaeth yn natblygiad plant yn y lleoliad ar ôl iddynt ddod yn ôl i’r Ddinas; mae’r plant yn ffynnu yn y lleoliad hwn. Bellach mae’r Cyngor yn y broses o brynu ail eiddo a fydd yn rhoi rhagor o gyfleoedd i ddod â lleoliadau y tu allan i’r sir yn ôl i mewn i’r Ddinas; o Mae cydweithredu rhwng Casnewydd, Caerffili a Sir Fynwy wrth ddarparu’r gwasanaeth Teleofal yn gwbl weithredol erbyn hyn; o Bu Gorfodaeth Parcio Sifil yn llwyddiant er ei gweithredu’r haf diwethaf sydd wedi trawsnewid amgylchedd y ddinas a gwelwyd gostyngiad o ran parcio anghyfreithlon ledled y ddinas; o Mae llwyddiant Strategaeth Wastraff newydd y cyngor a gweithredu biniau olwynion llai wedi gweld cynnydd yng nghyfradd ailgylchu’r Cyngor a chefnogi targed Llywodraeth Cymru sef lleihau gwastraff yr eir ag ef i safleoedd tirlenwi; o Bu datblygiadau sylweddol o ran adfywio Canol y Ddinas gydag ailddatblygu T?r y Siartwyr, Arcêd y Farchnad a’r Bont Gludo; o Mae lansiad Hyb Ringland a’r model Hyb newydd ledled y ddinas yn dod â gwasanaethau’r Cyngor ynghyd gan alluogi preswylwyr i gael mynediad at y gwasanaeth y mae eu hangen arnynt yn haws; |
|
Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a chadarnhaodd od y broject yn cynnwys tair elfen allweddol:
1. Adleoli’r Orsaf Wybodaeth i’r adeilad y Llyfrgell a’r Amgueddfa; 2. Is-brydlesu’r Orsaf Wybodaeth gyfredol i Ddarparwr Hyb Technoleg er mwyn cyflawni dyhead corfforaethol Cyngor Dinas Casnewydd i fod yn Ddinas Ddigidol; 3. Darparu a defnyddio adeiladau o eiddo’r Cyngor yn well gan ailwampio’r Amgueddfa a’r Llyfrgell i gynnwys gwasanaethau wedi’u gwella a’u cydleoli.
Cadarnhaodd yr adroddiad fod y project yn denu arianwyr allanol fel Llywodraeth Cymru a’r sector preifat gyda chyfanswm pecyn ariannu o £1.75 miliwn. Bydd y project hefyd yn darparu arbedion MTRP i’r Cyngor.
Hefyd bydd y project yn creu cam pellach at ddarparu canol dinas bywiog ac yn helpu i ddarparu “Rhodfa Ddigidol Casnewydd”.
Y cynigion a roddwyd gerbron y Cabinet oedd:
· Mynd ati i chwilio am gyfleoedd i fasnacheiddio adeilad yr Orsaf Wybodaeth; · Awdurdodi swyddogion i fwrw ymlaen gyda phrosesau perthnasol i chwilio am feddianwyr newydd ar gyfer yr Orsaf Wybodaeth a chyllid allanol dydd ei angen i gyflawni’r project; · Yn amodol ar lwyddo i dderbyn cyllid TRI allanol, rhent masnachol boddhaol yn unol â’r arfarniad ariannol sylfaenol ar gyfer y project hwn, adleoli staff presennol a gwasanaethau o’r Orsaf Wybodaeth i’r Amgueddfa/Llyfrgell Ganolog a sicrhau meddianwyr newydd ar gyfer yr Orsaf Wybodaeth; · Cytuno ar y defnydd o gronfeydd wrth gefn Buddsoddi i Arbed er mwyn cefnogi’r project hwn yn amodol ar gyflawni cyfnod ad-dalu gofynnol; · Cymeradwyo’r £350 mil o gyllid cost cyfalaf y Cyngor sydd ei angen yn y rhaglen gyfalaf. Cytunodd y Cabinet fod yr Amgueddfa/Llyfrgell Ganolog lawer mwy addas ar gyfer cyfleuster siop un stop gyda’i chysylltiadau agosach a’r orsaf fysus. Bydd y lleoliad newydd yn helpu i ddenu rhagor o ymwelwyr i ganol y ddinas.
Penderfyniad:
Bod y Cabinet yn cytuno:-
i) bwrw y ymlaen gyda chyfleoedd i fasnacheiddio adeilad yr Orsaf Wybodaeth, ar y sail y gall swyddogion sicrhau meddianwyr newydd a chyllid allanol sydd ei angen i gyflawni’r project; ii) adleoli’r staff presennol o’r Orsaf Wybodaeth i’r Amgueddfa a’r Llyfrgell Ganolog
|
|
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus - Crynodeb PDF 581 KB Cofnodion:
Roedd y rhestr hon at ddibenion gwybodaeth yn unig. Cadarnhaodd yr Arweinydd ei bod yn falch o gael ei hethol fel Cadeirydd Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus Un Casnewydd.
Cyfeiriodd y Prif Weithredwr ar gyfarfod y Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus a gynhaliwyd yn ddiweddar lle roedd partneriaid yn ganmoliaethus am arddull cynnal y cyfarfod oherwydd ymagwedd y Cadeirydd newydd.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd Raglen Waith y Cabinet.
Penderfyniad:
Cytunodd y Cabinet i’r rhaglen wedi’i diweddaru.
|
|
Rhan 2 Eitemau Cyfrinachol neu Eithriad I ystyried a ddylid gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd wrth ystyried yr eitem ganlynol, oherwydd y bydd yn debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig neu gyfrinachol fel y diffinnir yn Atodlen 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r gwaharddiad yn gorbwyso budd y cyhoedd mewn datgeliad Cofnodion: Ystyried a ddylid gwahardd y wasg a’r cyhoedd yn ystod ystyried yr eitem ganlynol ar y sail bod ei hystyried yn cynnwys datgelu tebygol gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Neddf Llywodraeth Leol 1972 ac mae’r esemptiad yn gorbwyso budd y cyhoedd mewn datgelu.
|
|
Cyflwyniad Adfywio Canol y Ddinas Cofnodion: Rhoddodd y Swyddogion y Cabinet gyflwyniad a archwiliodd gyfle adfywio posibl yng nghanol y ddinas sy’n canolbwyntio ar Ganolfan y Cambrian, Cam 2.
Cadarnhaodd y Swyddogion y canlynol:
· 2013 - rhoddwyd prydles 250 mlynedd i Scarborough Development Group (SDG) gan Gyngor Dinas Casnewydd; · 2014 - cwblhaodd SDG Canolfan y Cambrian Cam 1: Admiral House - yr unig swyddfa Gradd A yng Nghanol y Ddinas; · 2016 - Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer Canolfan y Cambrian Cam 2; · 2018 - Nodwyd y safle fel project allweddol yn Uwchgynllun Canol y Ddinas;
Cynigiwyd y byddai’r Cyngor yn dod i gytundeb gydag SDG i gymryd prydles 25 mlynedd am dâl rhent a gwasanaeth y cytunwyd arno er mwyn hwyluso datblygu swyddfeydd Gradd A ar y safle hwn, yn unol â’r caniatâd cynllunio manwl ar gyfer Cam 2 ailddatblygu Canolfan y Cambrian. Byddai gwerth cyfalafu cyfamod rhentu’r Cyngor yn darparu cyllid llenwi bwlch er mwyn galluogi SDG i ymgymryd â’r gwaith datblygu. Wedyn byddai’r Cyngor yn gyfrifol am isosod yr adeilad cyflawn er mwyn adennill y costau rhent.
Derbyniodd y Cabinet gyngor ariannol, cyfreithiol a phrisio manwl parthed y risgiau a’r rhwymedigaethau dan sylw, y galw am ofod swyddfa Gradd A yng Nghasnewydd a ffigurau rhent cymaradwy.
Ceisiwyd cytundeb gan y Cabinet i:
i) Gymeradwyo caffael buddiant prydles 25 mlynedd yng Nghanolfan y Cambrian Cam 2: ii) Cymeradwyo elw’r Datblygwr o 17.5%: iii) Cymeradwyo lefel y rhent y bydd y Cyngor yn ei dalu; iv) Bydd y cytundeb yn amodol ar ddiwydrwydd dyladwy cyfreithiol ac ariannol; v) Awdurdodi swyddogion i negodi Penawdau Telerau manwl a chwblhau Cytundeb Prydlesu.
Penderfyniad:
Cytunodd y Cabinet i fwrw ymlaen â’r cynigion fel y’u nodir uchod.
|
|
Dyddiad y Cyfarfod Nesaf 4pm on 12 Chwefror 2020, Ystafell 1. Cofnodion: Cynhelir y cyfarfod nesaf ar ddydd Mercher 12 Chwefror 2020, am 4.00 pm yn Ystafell Bwyllgor 1, yn y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd.
|