Agenda and minutes

Cabinet - Dydd Mercher, 10fed Mai, 2023 4.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Anne Jenkins, Arweinydd Tîm Llywodraethu  Governance Team Leader

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd y Cofnodion o 12 Ebrill fel rhai cywir.

4.

Cronfa Ffyniant Gyffredin pdf icon PDF 168 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad cyntaf ar yr agenda, y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

 

Ym mis Ebrill 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fanylion y  Gronfa Ffyniant Gyffredin newydd gwerth £2.6bn oedd â’r nod o gynnal amcanion Codi’r Gwastad y Llywodraeth.

 

Yr amcanion yw:

Hybu cynhyrchedd, tâl, swyddi a safonau byw trwy dyfu’r sector preifat

Creu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus

Adfer ymdeimlad o gymuned, balchder lleol a pherthyn, a

Grymuso arweinwyr a chymunedau lleol, yn enwedig yn y mannau hynny lle nad oes cyrff lleol.

 

I wneud hyn, yr oedd y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn canoli ar dair blaenoriaeth buddsoddi, sef:

 

o   Cymunedau a Lle

o   Cefnogi Busnesau Lleol

o   Pobl a Sgiliau

o   Yr oedd hefyd gronfa o’r enw Multiply, oedd yn canoli ar wella sgiliau rhifedd oedolion.

 

Dyrannwyd arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar draws y DU ar sail angen a aseswyd, a derbyniodd y 10 awdurdod lleol yn Ninas-Ranbarth Caerdydd gyfanswm dyraniad o  ychydig dros £230m, a £48m yn ychwanegol ar gyfer Multiply.  Cafodd Casnewydd ychydig dros £27m ar gyfer gwariant craidd a £5.6m ymhellach ar gyfer Multiply, am y cyfnod o Ebrill 2022 tan ddiwedd Mawrth 2025.

 

I gael yr arian hwn, roedd gofyn i bob awdurdod lleol yn Ninas-Ranbarth Caerdydd ddatblygu un cynllun buddsoddi rhanbarthol. Cytunodd y Cabinet ym mis Gorffennaf 2022 i gadarnhau cyflwyno’r cynllun buddsoddi rhanbarthol gan yr Awdurdod Arweiniol.

 

Er i’r penderfyniad gael ei gymryd ym mis Gorffennaf llynedd, bu cryn oedi o du Llywodraeth y DU cyn cymeradwyo’r cynlluniau buddsoddi rhanbarthol a datblygu cytundebau ffurfiol ar gyfer y trefniadau llywodraethiant.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y problemau hyn wedi eu datrys, ond y collwyd rhyw 10 mis o gyflwyno Blwyddyn 1 y rhaglen. Serch hynny, gwariwyd peth o arian CFfG yn 2022/23.  Nododd yr adroddiad fod bron i £700,000 yn cael ei hawlio am Flwyddyn 1 ar gyfer sawl prosiect, a gofynnwyd i’r Cabinet gadarnhau’r gwariant hwn.

 

Er y nodwyd fod yr oedi sylweddol wedi golygu fod y gwariant yn is na chyfanswm dyraniad Blwyddyn 1, yr oedd Llywodraeth y DU wedi cydnabod hyn ac wedi cadarnhau y byddai’r tanwariant yn cael ei gludo drosodd i Flwyddyn 2.  Mae gofyn i’r Awdurdod Arweiniol gyflwyno cynllun credadwy sy’n dangos sut y gwerir yr arian a gariwyd drosodd yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae manylion pellach am hyn yn yr adroddiad.

 

Gwnaed llawer o waith i sicrhau bod y gronfa’n cael ei rheoli a’i monitro’n briodol trwy drefniadau llywodraethiant mewnol cadarn,

 

O gofio’r angen i fwrw ymlaen â chyflwyno’r Cynllun Buddsoddi Lleol, gofynnwyd i’r Cabinet gytuno i amrywiaeth o swyddogaethau dirprwyedig i swyddogion penodol, a chreu bwrdd mewnol o uwch-swyddogion perthnasol o bob rhan o’r Cyngor. Byddid yn cytuno ar brosiectau penodol trwy ymgynghori â’r Arweinydd, gan y byddai’r Aelod Cabinet dros Dwf Economaidd a Buddsoddi Strategol ac Aelodau Cabinet eraill yn cael y newyddion diweddaraf trwy gael eu briffio gan arweinyddion y meysydd gwasanaeth perthnasol.

 

Tynnodd yr Arweinydd sylw cydweithwyr at y Cynllun Buddsoddi Lleol arfaethedig yn Atodiad 1. Mae’r cynllun hwn yn rhestru’r  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Prif Gynllun Pillgwenlli pdf icon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Trodd yr Arweinydd at yr adroddiad nesaf ar yr agenda, Prif Gynllun Pilgwenlli. Yr oedd yr adroddiad a dolen i ddogfen y Prif Gynllun wedi eu cynnwys ym mhecyn yr agenda.

 

Comisiynodd Un Casnewydd, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, fudiad dylunio trefol a phrif gynllunio o’r enw The Urbanists i weithio gyda phartneriaid, busnesau, a’r gymuned, i ddatblygu Prif Gynllun heriol ac uchelgeisiol ar gyfer Pilgwenlli.

 

Yroedd hyn yn dilyn pryderon a godwyd gan drigolion Pilgwenlli am nifer o broblemau yn y Ward.

 

Yroedd menter gymdeithasol o’r enw MELA Cymru hefyd yn rhan o’r gwaith ac wedi cynnal ymarferiad dwys o ymwneud â’r gymuned yn yr ardal.

 

Yroedd y cynllun yn canolbwyntio ar gyfres o Uchelgeisiau Cymunedol a hefyd yn cydnabod gwaith oedd eisoes yn digwydd yn yr ardal.

 

Gofynnwydi’r Cabinet gymeradwyo’r bwriadau strategol y Prif Gynllun,  a ddatblygwyd wedi llawer o ymwneud â thrigolion, busnesau, a phartneriaid Pilgwenlli.

 

Dechreuodd y gwaith ar y Prif Gynllun ym mis Tachwedd 2021 ac yr oedd yn cynnwys llawer o ymwneud cymunedol, gyda 51 o gyfweliadau unigol gyda rhanddeiliaid allweddol yn y gymuned, 14 o ddigwyddiadau ymwneud gyda grwpiau a dargedwyd, 2650 o unigolion a gyrhaeddwyd trwy’r cyfryngau cymdeithasol, a Chyswllt Pilgwenlli,  a barn a gasglwyd gan 605 o bobl o wahanol gefndiroedd.

 

Yn dilyn dadansoddi’r gofod daearyddol, darpariaeth manwerthu a gwasanaethau, mannau gwyrdd, a dangosyddion diogelwch cymunedol, ffurfiwyd tri Uchelgais Cymunedol o ganlyniad i adborth gan y gymuned a busnesau:

 

·         Gwellmannau gwyrdd a chyhoeddus

·         Gwellcynnig gan fusnesau a siopau a’r amgylchedd

·         Cymysgedd o gyfleusterau i’r gymuned ac ieuenctid

 

 

Yroedd yr adroddiad hefyd yn cydnabod y gwaith oedd eisoes yn digwydd, ac a ddatblygodd dros y cyfnod. Mae hyn yn cynnwys Pilgwenlli Ddiogelach, oedd yn ail-flaenoriaethu gwaith o ganlyniad i’r ymwneud cymunedol ac sy’n dal ymlaen, dan arweiniad Cyngor Dinas Casnewydd a Heddlu Gwent ar y cyd.

 

Yroedd y Prif Gynllun hefyd yn cynnwys gwaith i wella cyfathrebu, mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon, gwella tai, rhoi gwell cefnogaeth i fusnesau, a gwella’r amgylchedd ffisegol a mannau gwyrdd.

 

Cytunodd Un Casnewydd â’r Prif Gynllun a rhaid yn awr ei fabwysiadu gan bob partner.

 

Teimlai’rArweinydd ei bod yn bwysig ail-bwysleisio fod y Cabinet yn cytuno a bwriadau strategol y Prif Gynllun ac i asio penderfyniadau a wneid â dyheadau’r gymuned, fel y manylir arnynt yn y Prif Gynllun.

 

Ychwanegoddyr Arweinydd fod yn rhaid i’r Cabinet sicrhau eu bod yn dal i gydweithio fel partneriaid i nodi a denu cyllid allanol i helpu i gefnogi cyflwyno’r prosiectau allweddol a nodwyd yn y Prif Gynllun. Ymrwymiad tymor-hir yw hwn, a rhaid i’r Cabinet sicrhau eu bod yn parhau i ymwneud â’r gymuned i ddatblygu cynlluniau a pheri newid.

 

Yn bwysig iawn, ni wnaiff y Cabinet wneud  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Pwysau allanol NCC - Costau Byw pdf icon PDF 141 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd y cyfoesiad diweddaraf am y prif bwysau allanol oedd yn wynebu’r cyngor, busnesau, trigolion, a chymunedau.

 

Parhau y mae’r argyfwng costau byw, gydag adroddiad gan y Swyddfa Ystadegau Genedlaethol yr wythnos ddiwethaf yn dweud fod 95% o 450 o eitemau bwyd yn y fasged chwyddiant brisiau cwsmeriaid wedi codi o ran pris dros y flwyddyn a aeth heibio, a rhai o gymaint â 50%. 

 

Hefyd, yr oedd y gyfradd sylfaen yn uwch na chyfartaledd llynedd.

 

Yng nghyd-destun yr ardaloedd a nodwyd yn yr adroddiad, yr oedd gweithio ar y cyd gyda phartneriaid ledled y ddinas yn dal yn flaenoriaeth. Denodd y digwyddiad costau byw amlasiantaethol yn y Riverfront ar 26 Ebrill tua 180 o drigolion a allodd fynd at gyngor a chyfarwyddyd ar reoli arian, gwneud y mwyaf o incwm, a chael cefnogaeth gyda threuliau’r cartref.

 

Anogodd yr Arweinydd drigolion oedd yn cael anawsterau i gysylltu â’r cyngor am wybodaeth a chael eu cyfeirio at y cyngor a’r gefnogaeth sydd ar gael: yn bersonol, dros y ffôn neu trwy ymweld â’r tudalennau cefnogaeth a chynghori ar wefan y Cyngor. 

 

Fel y byddai’r Aelodau yn gweld yn yr adroddiad, canfu arolwg diweddar o banel dinasyddion Involve fod tua thri chwarter y bobl a ymatebodd (164) wedi dweud eu bod ychydig yn bryderus neu’n bryderus iawn am yr argyfwng costau byw.

 

Mae ysgolion Casnewydd yn dal i gefnogi’r plant a’r bobl ifanc fwyaf bregus, ac yn cynllunio ffyrdd o gefnogi teuluoedd yn ystod gwyliau hanner tymor Mai a gwyliau banc. Byddai ysgolion hefyd yn hwyluso dosbarthu gwerth saith diwrnod o dalebau bwyd i’r teuluoedd hynny sydd â hawl i ginio ysgol am ddim.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd ei bod yn fraint ymweld ag Ysgol Gynradd St Julian, lle’r oedd ganddynt y Big Bocs Bwyd oedd yn helpu i gefnogi’r teuluoedd hynny mewn angen yn yr ysgol ac yn y gymuned. Roedd y fenter yn addysgu pobl ifanc, nid yn unig am wastraff bwyd ond hefyd am gyfrifoldeb cymdeithasol a datblygu sgiliau rhifedd. Dywedodd yr Arweinydd fod hon yn fenter wych ac yr oedd wrth ei bodd gweld y byddai ysgolion cynradd eraill yng Nghasnewydd  yn rhoi menter debyg ar waith. Bu’r Arweinydd yn ymweld yn ddiweddar ag ysgol Gynradd Maendy ac yr oeddent bron yn barod i agor eu siop. Ar bob lefel, yr oedd Cyngor Dinas Casnewydd yn cefnogi ac yn gwneud popeth yn eu gallu i helpu pobl. Os oedd unrhyw un yn wynebu heriau, anogodd yr Arweinydd hwy i ddod ymlaen gan fod help ar gael iddynt.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

§  Soniodd y Cynghorydd Harvey am y ffaith sobreiddiol fod 77% o drigolion yn pryderu am gostau byw, a phwysleisiodd fod yn rhaid i’r trigolion estyn allan am help gan y Cyngor. Diolchodd yr Aelod Cabinet i’r Arweinydd am gydnabod y gwaith sy’n digwydd yn ei phortffolio, ac yr oedd hefyd am gydnabod y gefnogaeth gan staff oedd yn gwneud eu heithaf i ofalu am bawb yng Nghasnewydd.  Gallai trigolion ffonio 01633 656656 neu gysylltu â chynghorydd  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yradroddiad misol rheolaidd oedd hwn ar y rhaglen waith.

 

Penderfyniad:

 

Cytunodd y Cabinet ar y Rhaglen Waith.