Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Anne Jenkins Governance Team Leader
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Datgan Buddiannau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion Cyfarfod Mis Ionawr 2024 Y Cabinet PDF 170 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Ionawr 2024 eu derbyn fel cofnod cywir.
|
|
Strategaeth Gyfalaf A Strategaeth Rheoli Trysorlys 2024/25 PDF 1 MB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad cyntaf i gydweithwyr ar Strategaeth Gyfalaf a Rheoli Trysorlys 2024/25.
Dyma adroddiad blynyddol sy'n canolbwyntio ar gynlluniau gwariant cyfalaf y Cyngor, effaith ariannol y rheiny o ran benthyca, a strategaeth fuddsoddi ar gyfer y flwyddyn.
Er bod y Cyngor llawn yn cymeradwyo'r terfynau benthyca a'r dangosyddion darbodus a gynhwysir yn yr adroddiad yn y pen draw, gofynnwyd i'r Cabinet gymeradwyo'r rhaglen gyfalaf fanwl ei hun ac argymell yr adroddiad i'r Cyngor i'w gymeradwyo.
Ystyriodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yr adroddiad yn ei gyfarfod diweddaraf a chymeradwyodd y strategaethau arfaethedig, heb unrhyw argymhellion pellach.
Roedd nifer o bwyntiau allweddol yn yr adroddiad:
Mae'r rhaglen gyfalaf pum mlynedd yn cael ei rheoli ar sail dreigl, sy'n golygu bod blwyddyn newydd (2028/29) wedi'i hychwanegu at y rhaglen.
Parhaodd y rhaglen ei hun i adlewyrchu'r amgylchiadau ariannol heriol ac, o'r herwydd, parhaodd i gynnwys cynlluniau parhaus a chynlluniau a gymeradwywyd yn flaenorol, yn ogystal â symiau blynyddol ar gyfer gweithgareddau fel cynnal a chadw asedau ac adnewyddu fflyd.
Er nad oedd unrhyw gynlluniau newydd yn cael eu cynnwys, mae'r rhaglen, yn enwedig yn 2024/25, yn dal i fod yn sylweddol ac yn cynnwys nifer o gynlluniau blaenoriaeth uchaf y Cabinet fel prosiectau ysgol newydd, y Bont Gludo a darpariaeth Hamdden a Lles newydd.
Oherwydd yr heriau fforddiadwyedd, nid oedd hyblygrwydd benthyca newydd i'w cymeradwyo ar y pwynt hwn. Fodd bynnag, roedd y rhaglen yn cynnwys benthyca newydd dangosol o 2027/28 ymlaen, a fyddai, pe bai’n fforddiadwy yn nes at yr amser o hyd, ar gael i ddilyn cynlluniau newydd, fel y don nesaf o brosiectau datblygu ysgolion dan y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Hyd nes y gellir cymeradwyo benthyca newydd yn ffurfiol, mae hyblygrwydd cyfalaf wedi'i gyfyngu i'r symiau hynny sydd eisoes mewn cronfeydd wrth gefn clustnodedig penodol a derbyniadau cyfalaf heb eu hymrwymo. O ganlyniad, roedd angen blaenoriaethu gofalus wrth wneud ymrwymiadau newydd o'r hyblygrwydd ac roedd angen cymryd pob cyfle i'w hybu drwy ffynonellau undro, er mwyn parhau i ymateb i bwysau sy'n dod i'r amlwg wrth iddynt godi.
Er na chynhwyswyd unrhyw fenthyca newydd yn ystod blynyddoedd nesaf y rhaglen; byddai benthyca a gymeradwywyd yn flaenorol yn cael ei wneud dros y cyfnod hwnnw; byddai hyn yn cynyddu'r Gofyniad Cyllido Cyfalaf cyffredinol a lefel dyled y Cyngor.
Mae'r terfynau benthyca a gynigiwyd yn yr adroddiad yn ystyried hyn ac roedd canlyniad refeniw benthyca ychwanegol (e.e. llog sy'n daladwy ar fenthyciadau) eisoes wedi'i gyllidebu, yn dilyn y buddsoddiad cyllideb a wnaed yn 2021/22. Felly, mae'r rhaglen a gynigiwyd yn fforddiadwy, yn ddarbodus ac yn gynaliadwy, yn seiliedig ar wybodaeth a rhagdybiaethau presennol.
O ran Rheoli Trysorlys, roedd yr adroddiad yn manylu ar ddull y Cyngor o fenthyca a buddsoddi. Cadarnhaodd y byddai'r Cyngor yn parhau i ddilyn strategaeth fenthyca fewnol, trwy ddefnyddio adnoddau arian parod sydd ar gael i ohirio benthyca allanol cyhyd â phosibl a dim ond benthyca cyn angen pan oedd rhesymeg ariannol glir dros wneud hynny.
Mae'n bwysig tynnu sylw at ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Cynllun Ariannol Tymor Canolig A Chyllideb 2024/25 PDF 185 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i gydweithwyr a oedd yn ymdrin â chyllideb 2024/25 y Cyngor, gan nodi canlyniadau'r ymgynghoriad ar y gyllideb ddrafft, datblygiadau pellach mewn rhagdybiaethau cyllideb a diweddariad ar gyllid grant craidd a phenodol y Cyngor.
Rhoddodd yr Arweinydd y wybodaeth ddiweddaraf i gydweithwyr am y sefyllfa gyllideb ddiweddaraf heddiw fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. Nododd yr Arweinydd ddefnydd y Cabinet o'r arian sydd ar gael a fyddai'n cwblhau argymhelliad y Cabinet ar gyfer cyllideb 2024/25 i'r Cyngor ei ystyried ar 29 Chwefror.
Cymeradwyodd y Cabinet y gyllideb ddrafft ar 10 Ionawr, a oedd yn destun ymgynghoriad ar 9 Chwefror, fel yr amlinellodd yr adroddiad yn adran pedwar; gyda grwpiau mewnol presennol fel pwyllgorau craffu a’r fforwm ysgolion, undebau llafur ac yn allanol gyda'r cyhoedd ehangach.
Roedd rhai datblygiadau sylweddol hefyd yn y grant craidd a phenodol ar gyfer 2024/25 a diweddariadau i ragdybiaethau cyllideb. Felly, rhoddodd yr Arweinydd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet.
Yn gyntaf, cymeradwyodd y Cabinet ddiweddariadau i'r arbedion a’r pwysau cyllideb presennol a newydd a ystyriwyd a ddangoswyd ym mharagraff 1.3, Tabl 2 yr adroddiad. Roedd y rhain yn cynnwys pwysau ariannol a buddsoddiadau, yr angen i roi cyllid craidd ychwanegol i'r gwasanaeth tai a chynnydd i gyllideb wrth gefn refeniw y Cyngor; wedi'i liniaru'n rhannol gan arbedion effeithlonrwydd ychwanegol o ail-alinio cyllideb mewn cyllidebau nad ydynt yn ymwneud â gwasanaethau ac incwm treth gyngor ychwanegol o bremiymau y cytunwyd arnynt yn ddiweddar. Gwnaeth yr addasiadau cyllideb y cytunwyd arnynt ddiweddaru'r gyllideb a oedd ar gael i bron i £1.3m fel y dangoswyd yn Nhabl 2.
Yn ail, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru yn yr wythnos cyn y cyfarfod y byddai'n derbyn £25m o gyllid canlyniadol ychwanegol gan Lywodraeth y DU yn deillio o'i chyllid cynyddol i gynghorau yn Lloegr; byddai'r cyllid hwn yn cael ei ddyrannu i Gynghorau Cymru i gydnabod y pwysau sylweddol ar gyllidebau, yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol ac mewn ysgolion. Derbyniwyd gwybodaeth dros y dyddiau diwethaf ar sut y byddai hyn yn cael ei ddyrannu i Gynghorau unigol a byddai Casnewydd yn derbyn dyraniad Grant Cynnal Refeniw (GCR) ychwanegol o £755k, a chynnydd mewn cyllid grant a oedd yn benodol i ofal cymdeithasol. Gwnaeth hyn gynyddu'r gyllideb bresennol a oedd ar gael i ychydig dros £2m.
Roedd y materion allweddol yr oedd y Cabinet yn ymwybodol ohonynt wrth nodi ei argymhelliad cyllideb terfynol yn cynnwys y canlynol:
o Mae'r galw ar wasanaethau'r Cyngor yn parhau i gynyddu, yn sylweddol felly mewn gwasanaethau tai a gofal cymdeithasol plant. Roedd effaith y pandemig yn 2020 a 2021 yn dal i roi pwysau enfawr ar deuluoedd, unigolion a chymunedau agored i niwed.
o Ar yr un pryd, roedd lefelau gwariant y Cyngor yn is na chynghorau tebyg ym mhob gwasanaeth. Er ei fod yn gadarnhaol mewn sawl ffordd, rhaid cydnabod y capasiti cynyddol sydd ei angen i ddelio â'r galw cynyddol am wasanaethau a chymorth.
o Roedd gan y Cyngor lawer iawn o seilwaith ac asedau yr oedd yn gyfrifol amdanynt ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Diweddariad Canlyniadau Gwerth Cymdeithasol Yng Nghaffael Cyngor Dinas Casnewydd PDF 182 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yr adroddiad nesaf a gyflwynwyd gan yr Arweinydd oedd adroddiad cyntaf y canlyniadau a gyflwynwyd drwy ddefnyddio offeryn mesur Gwerth Cymdeithasol Casnewydd, neu, Themâu, Canlyniadau a Mesurau (a elwir yn ThCM Casnewydd), a fabwysiadwyd gan y Cabinet ym mis Mawrth 2023.
Roedd yr Arweinydd yn falch o gyflwyno’r adroddiad hwn i Gydweithwyr y Cabinet a diolchodd i'r tîm am gyflwyno'r papur a oedd yn adlewyrchu'r hyn y gellid ei gael yn gadarnhaol o fuddsoddiad sector cyhoeddus drwy gaffael.
Mae'r ThCM yn fecanwaith ar gyfer adrodd ar gyflawni Gwerth Cymdeithasol drwy broses y Cyngor o gaffael nwyddau, gwaith a gwasanaethau.
Tynnodd yr adroddiad sylw at y cyflawniadau a wnaed ar gyfer y cyfnod adrodd chwe mis cyntaf rhwng mis Mai a mis Hydref 2023.
Datblygwyd ThCM Casnewydd o fframwaith ThCM cyffredinol Cymru, a ddyluniwyd o amgylch saith nod lles Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Datblygwyd y fethodoleg ar y cyd â Rhwydwaith Caffael Cenedlaethol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Thasglu Gwerth Cymdeithasol Cenedlaethol Cymru, a oedd yn weithgor traws-sector yn cyfuno sefydliadau'r sector cyhoeddus a’r sector preifat. Roedd llawer o'r mesurau o fewn y fframwaith yn gynrychioliadol o'r gwerth ariannol a neilltuwyd iddynt ac roedd y mesur hwnnw'n cyflwyno gwerth cymdeithasol ychwanegol. Cafodd y rhain eu defnyddio'n gyson ar draws Cymru.
Ar gyfer y cyfnod adrodd cyntaf hwn, sef rhwng mis Mai a mis Hydref 2023, cyflawnwyd £991,984 o bunnoedd o werth cymdeithasol drwy dendrau a wnaed yn ystod y cyfnod hwn.
Roedd cyfran fawr o'r cyfanswm hwn yn cynnwys gweithwyr a oedd yn byw o fewn ffin Cyngor Dinas Casnewydd a oedd wedi cael eu cyflogi neu eu cadw i weithio ar y contractau. Gwnaeth hyn ychwanegu gwerth cymdeithasol ar gyfer gweithwyr lleol a oedd yn cynrychioli tua £890,000 o'r cyfanswm a gyflawnwyd.
Dangosodd yr holl gontractau a fesurwyd fod staff cysylltiedig yn cael eu talu o leiaf gyfradd Sylfaenol y Cyflog Byw Gwirioneddol, yn hytrach na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol sylfaenol.
Nododd y Cabinet gynnwys yr adroddiad, a'r cyflawniadau a wnaed yn ystod y cyfnod adrodd cyntaf hwn, a oedd yn dangos y gwerth cymdeithasol ychwanegol y creodd contractau i'r gymuned ehangach ac yn dangos ymrwymiad i les cenedlaethau'r dyfodol.
Sylwadau Aelodau’r Cabinet:
§ Roedd y Cynghorydd Davies yn falch o'r gwerth cymdeithasol gwerth £1M a gyflawnwyd mewn chwe mis a oedd yn rhagorol. Er bod hwn yn fesur yr oedd y Cyngor yn ei ddefnyddio, myfyriodd y Cynghorydd Davies ar y ffaith bod yr holl swyddogion yn gweithio'n galed i roi gwerth yn yr hyn yr oeddent hwy a phartneriaid yn y sector cyhoeddus yn ei wneud, gan weithio'n galed dros y gymuned.
§ Ychwanegodd y Cynghorydd Hughes fod yr adroddiad yn ymwneud â gwerthoedd cyffredin a chadarnhaodd y gellid gwneud penderfyniadau ariannol cryf tra'n parhau i flaenoriaethu ymrwymiadau'r Cyngor i werthoedd diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd. Roedd y Cynghorydd Hughes felly yn falch o nodi'r llwyddiannau.
§ Myfyriodd y Cynghorydd Forsey ar y gwaith a'r canlyniadau rhagorol a amlinellwyd yn yr adroddiad a oedd o ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Pwysau Allanol Cyngor Dinas Casnewydd (CDC) - Costau Byw PDF 119 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd y wybodaeth ddiweddaraf am y pwysau allanol a oedd yn effeithio ar y gwaith o ddarparu gwasanaethau'r Cyngor, a roddodd grynodeb o ymateb y Cyngor i'r pwysau hyn.
Y prif heriau’n wynebu Casnewydd oedd yr argyfwng costau byw, pwysau ar wasanaethau tai a digartrefedd, a newidiadau yn y broses loches.
Roedd y Cyngor yn ymateb i'r heriau hyn drwy gydweithio a gweithio mewn partneriaeth i roi cymorth, cyngor ac arweiniad i drigolion.
Rhoddodd yr adroddiad enghreifftiau o’r gweithgareddau a’r cymorth a oedd yn cael eu cynnig yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys cymorth targedig mewn hosteli llety dros dro, rhoi byrbrydau cynnes i bobl ifanc, hwyluso sesiynau i deuluoedd mewn dyled, a dosbarthu pecynnau bwyd i'r rheiny mewn angen.
Bu'r Cyngor hefyd yn gweithio'n agos gyda phartneriaid i gydlynu cymorth dros y misoedd nesaf.
Manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i annog trigolion a oedd yn cael anawsterau i gysylltu â'r Cyngor i gael gwybodaeth ac i gael eu cyfeirio at y cyngor a'r cymorth a oedd ar gael; gellid gwneud hyn yn bersonol, dros y ffôn neu drwy fynd i'r tudalennau Cymorth a Chyngor ar y wefan.
Dros y misoedd nesaf byddai swyddogion yn hyrwyddo'r cyfleuster i drigolion ddewis sut i ledaenu eu biliau treth gyngor fel ffordd o gefnogi trigolion i ostwng alldaliadau misol. Gallai trigolion ddewis y cynllun a oedd yn gweddu orau i'w hamgylchiadau unigol gyda chynlluniau bob 3, 6 ,10 a 12 mis ar gael.
Roedd yn galonogol gweld nifer y digwyddiadau a gweithgareddau partneriaeth ar draws y ddinas yn ystod y cyfnod diwethaf a gweld cynllunio ar gyfer digwyddiadau a sioeau teithiol.
Sicrhawyd Cyllid Ffyniant Cyffredin i gefnogi'r gwaith o gynnig Mannau Cynnes yn ystod misoedd y Gaeaf. Roedd y cyllid hwn yn rhoi grantiau bach yn uniongyrchol i sefydliadau trydydd sector wedi’u cefnogi gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent.
Parhaodd yr Arweinydd i eirioli dros weithio mewn partneriaeth fel rhywbeth sy'n hanfodol i gefnogi trigolion a busnesau ac anogodd unrhyw un a oedd mewn angen i gael gafael ar y cymorth a oedd ar gael.
Sylwadau Aelodau’r Cabinet:
§ Cyfeiriodd y Cynghorydd Harvey at y ffaith bod yr adroddiad yn nodi bod 16 o fannau cynnes ar waith. Roedd y Cynghorydd Harvey yn falch o nodi ein bod bellach â 25 o hybiau cynnes ac yn ystod y mis diwethaf, croesawodd yr hybiau hyn dros 3,000 o drigolion ar gyfer te/coffi a chwmni. Diolchodd y Cynghorydd Harvey i'r staff a fu'n rhan o'r fenter wych ac roedd yn falch o gefnogi hyn.
§ Soniodd y Cynghorydd Marshall am y digwyddiadau a gynhaliwyd yn ystod hanner tymor, yr oedd llawer ohonynt am ddim. Roedd y Cynghorydd Marshall hefyd eisiau atgoffa pobl bod lleoedd i fynd iddynt bob amser, gan gynnwys boreau coffi wedi’u rhedeg gan Gysylltwyr Cymunedol a oedd yn cynnig cwmni a chymorth.
§ Cyfeiriodd y Cynghorydd Davies at sioeau gwrthdlodi deithiol i ysgolion a oedd yn parhau. Diolchodd y Cynghorydd Davies i swyddogion am gefnogi teuluoedd a'u cyfeirio at ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |