Agenda and minutes

Cabinet - Dydd Mercher, 19eg Mehefin, 2024 4.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Anne Jenkins  Governance Team Leader

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd Forsey.

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim wedi’u derbyn.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf pdf icon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mai yn gofnod cywir.

 

4.

Adroddiad Blynyddol Diogelu Corfforaethol pdf icon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol yr Adroddiad Diogelu Blynyddol i Gydweithwyr y Cabinet.  Dangosodd yr adroddiad sut y cyflawnodd Cyngor Dinas Casnewydd ei rwymedigaethau tuag at ddiogelu.

 

Hwn oedd y seithfed adroddiad blynyddol yn tynnu sylw at ddiogelu corfforaethol ac ymrwymiad Cyngor Dinas Casnewydd i gadw plant ac oedolion mewn perygl mor ddiogel â phosibl.

 

Dangosodd yr adroddiad yr hyn yr oedd Cyngor Dinas Casnewydd yn ei wneud i sicrhau bod yr holl staff yn gwybod ac yn deall sut i nodi ac adrodd unrhyw bryderon diogelu sydd ganddynt.

 

Felly, gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i'r Cabinet ystyried yr adroddiad Crynodeb Gweithredol Blynyddol ar gyfer Diogelu Corfforaethol, er mwyn craffu ac adolygu cynnydd y cynlluniau gwaith blaenoriaeth allweddol ar gyfer trefniadau diogelu corfforaethol a chanfyddiadau’r hunanasesiad diogelu ar gyfer y Cyngor cyfan.

 

Gofynnwyd i'r Cabinet hefyd benderfynu a oedd am wneud unrhyw sylwadau neu argymhellion ynghylch yr adroddiad a sut roedd y Cyngor yn rheoli diogelu corfforaethol.

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn derbyn yr Adroddiad Diogelu Blynyddol gan y Pennaeth Diogelu Corfforaethol.

 

5.

Adroddiad Blynddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 160 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad blynyddol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol.   Roedd gan y Cyfarwyddwr Strategol, fel y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol dynodedig, ddyletswydd statudol dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 i roi adroddiad blynyddol i’r Cyngor.

 

Rhaid i'r adroddiad nodi asesiad personol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol wrth gyflawni swyddogaethau gofal cymdeithasol yn ystod y 12 mis blaenorol.

 

Er gwaethaf problemau a heriau sylweddol 2023/2024, roedd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yn fodlon bod y Cyngor yn parhau i gydymffurfio â'i ddyletswyddau statudol.

 

Roedd staff y gwasanaethau cymdeithasol yn gallu edrych y tu hwnt i'r gofynion di-baid ac roeddent yn dal i allu darparu arloesedd, datblygiad parhaus mewn gwasanaethau ac yn wir rhagoriaeth.

 

Rhoddodd adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol drosolwg blynyddol o'r gwaith ar draws Oedolion, Plant ac Atal a Chynhwysiant. Rhoddodd yr astudiaethau achos gipolwg yn unig ar y gwaith ar draws Casnewydd gyda'r dinasyddion mwyaf agored i niwed. Roedd dyfnder ac ystod y gwaith yn rhyfeddol. Roedd deall effaith y gwasanaethau hyn yn hanfodol ac roedd y straeon yn rhoi bywyd i'r data.

 

Fel yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol newydd, diolchodd y Cynghorydd Lacey i'r Cynghorydd Jason Hughes a'r Cynghorydd Stephen Marshall am eu hymrwymiad, eu cyfraniad a'u diwydrwydd dyladwy fel yr Aelodau Cabinet blaenorol. Ychwanegodd y Cynghorydd Lacey ei bod yn fraint bwrw ymlaen â gwaith y Gwasanaethau Cymdeithasol gyda'r staff a chroesawodd y cyfle i ddysgu mwy am y gwasanaethau a'r cymorth dros y flwyddyn i ddod.

 

Yn olaf, cyflwynwyd adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Cabinet at ddibenion gwybodaeth ac nid ar gyfer ei ddiwygio.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

§  Diolchodd yr Arweinydd i'r Cynghorwyr Hughes a Marshall am eu gwaith aruthrol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, fel Aelodau Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol; Gwasanaethau Oedolion a Phlant yn y drefn honno a gwnaeth ddymuno'r gorau iddynt ar gyfer y dyfodol.  Croesawodd yr Arweinydd y Cynghorydd Lacey i'r rôl hefyd.  Nododd yr Arweinydd fod tîm y Gwasanaethau Cymdeithasol yn haeddu clod Aelodau'r Cabinet, a fyddai'n gwneud popeth o fewn eu gallu i'w gefnogi wrth symud ymlaen.

 

§  Manteisiodd yr Arweinydd hefyd ar y cyfle i ddiolch i Sally-Ann Jenkins, Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol, gan mai hwn oedd ei hadroddiad blynyddol olaf, gan ei bod yn ymddeol ym mis Awst.  Diolchodd yr Arweinydd i Sally-Ann am ei gwaith caled dros y blynyddoedd, gan weithio yn un o'r gwasanaethau anoddaf o fewn Llywodraeth Leol, yn enwedig o ran y Gwasanaethau Plant.

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn -

1                   Nodi adroddiad blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

2                   Sylwi ar gynnwys adroddiad blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

3                    

 

6.

Adroddiad Alldro Rheoli'r Trysorlys 2023/24 pdf icon PDF 356 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad ar Reoli'r Trysorlys ar gyfer Cyngor Dinas Casnewydd i gydweithwyr yn y Cabinet.  Amlinellodd yr adroddiad weithgareddau benthyca a buddsoddi yn ystod y flwyddyn, cydymffurfiaeth yn erbyn y dangosyddion ariannol y cytunwyd arnynt, a gwnaeth roi rhagolwg ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod a'r tymor canolig.

 

Roedd yr adroddiad eisoes wedi’i ystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, nad oedd wedi rhoi unrhyw sylwadau i'w hystyried gan y Cabinet. Yn y pen draw, byddai'r adroddiad yn mynd i'r Cyngor llawn i'w gymeradwyo.

 

Penderfyniad:

Gwnaeth y Cabinet nodi’r adroddiad ar weithgareddau rheoli'r trysorlys ar gyfer cyfnod 2023/24 a rhoi sylwadau i'r Cyngor.

 

7.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hwn oedd yr adroddiad misol rheolaidd ar y rhaglen waith.

 

Penderfyniad:

Cytunodd y Cabinet ar y rhaglen waith.