Agenda and minutes

Pwyllgor Safonau - Dydd Iau, 18fed Ionawr, 2024 5.30 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Richard Morgan

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf pdf icon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd.

 

Penderfynwyd:

 

Cytunwyd bod Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2023 yn gofnod gwir a chywir.

 

4.

Materion yn codi

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

5.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau y mae’r Cadeirydd yn dymuno eu gwneud.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

6.

Cwynion

Bydd y Swyddog Monitro yn adrodd ar unrhyw gwynion a dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Monitro ddiweddariad llafar i'r Pwyllgor ar gwynion.

 

Nododd y Swyddog Monitro fod yr Ombwdsmon wedi darparu'r Hysbysiad Penderfynu ar gyfer un g?yn a wnaed gan aelod o'r cyhoedd yn honni bod Cynghorydd wedi methu â dangos parch, wedi defnyddio bwlio ac ymddygiad aflonyddu a'i fod wedi ymddwyn mewn modd a allai fod wedi dwyn anfri ar yr Awdurdod. Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Pwyllgor y cynhaliwyd ymchwiliad llawn i'r g?yn a chanfuwyd y bu’r Aelod yn gweithredu mewn rhinwedd bersonol ac nad oedd digon o dystiolaeth bod yr Aelod wedi dwyn anfri ar yr Awdurdod. Dywedodd y Swyddog Monitro felly nad oedd y g?yn wedi ei chadarnhau ac felly ni fu unrhyw gamau pellach. 

 

Penderfynwyd:

 

Nododd y Pwyllgor Safonau yr Adroddiad Cwynion.

 

7.

Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon 2022/23 pdf icon PDF 258 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon i'r Pwyllgor.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Pwyllgor fod yr adroddiad yn cynnwys dwy ran. Dywedodd y Swyddog Monitro fod y rhan gyntaf ar gyfer cwynion cyffredinol yn erbyn yr Awdurdod a oedd wedi'i chynnwys er diddordeb, er nad oedd o dan gylch gwaith y Pwyllgor Safonau.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro, er y bu cynnydd bach yn nifer yr adroddiadau, fod y ganran oedd wedi ei chynnal yn gymharol isel. Dymunai'r Swyddog Monitro dynnu sylw'r Pwyllgor at adroddiad Cyngor Dinas Casnewydd (CDC) a nododd y bu cynnydd yn nifer y cwynion yn ymwneud â Thai a Chymunedau yn bennaf. Dywedodd y Swyddog Monitro fod 4% o gwynion yn erbyn CDC wedi’u gwneud i'r Ombwdsmon yn uniongyrchol gan yr achwynydd.

 

Nododd y Swyddog Monitro fod cwynion am y Cod Ymddygiad yn isel ar gyfer CDC. Dywedodd y Swyddog Monitro fod 7 cwyn wedi eu gwneud ac eglurodd i'r Pwyllgor fod 6 ohonyn nhw wedi dod i ben a'r llall wedi ei chyfeirio at y Pwyllgor Safonau yn flaenorol.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Pwyllgor fod 7 cwyn wedi'u gwneud yn erbyn Cynghorau Cymuned Casnewydd ac nad oedd unrhyw gamau pellach ar yr un ohonynt.

 

Nododd y Swyddog Monitro y camau y cynghorwyd CDC i'w cymryd a thynnodd sylw at yr ymgysylltiad rhwng CDC a'r Awdurdod Safonau Cwynion. Nododd y Swyddog Monitro hefyd ddymuniad i drefnu cynrychiolydd o'r Ombwdsmon i ddod i gyfarfod Pwyllgor Safonau i hyrwyddo ymgysylltiad pellach yn ogystal â darparu cefnogaeth i'r Arweinwyr Gr?p wrth gyflawni eu dyletswyddau.

 

Codwyd cwestiwn p’un a oedd tabl cynghrair wedi'i ddarparu a oedd yn dangos y cymariaethau rhwng yr Awdurdodau Lleol. Tynnodd y Swyddog Monitro sylw'r Pwyllgor at yr adroddiad a nododd fod Casnewydd mewn safle ger y canol a fyddai'n cael ei ystyried yn isel o'i gymharu â'i maint fel Awdurdod Lleol.

 

Nodwyd, er bod cwynion uwch yn aml yn cael eu hystyried yn negyddol, y gallai fod yn arwydd o system gwyno hawdd ac effeithiol a bod hyn yn gadarnhaol. Nododd yr Aelod Pwyllgor ei bod yn bwysig bod yr Awdurdodau yn hapus i glywed a gwrando ar gwynion.

 

Penderfynwyd:

 

Nododd y Pwyllgor Safonau Adroddiad Blynyddol 2022/23 yr Ombwdsmon.

 

8.

Adroddiad Rhoddion a Lletygarwch. pdf icon PDF 196 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro yr Adroddiad Rhoddion a Lletygarwch i'r Pwyllgor. Rhoddodd y Swyddog Monitro wybod i'r Pwyllgor am y trothwy Rhoddion a Lletygarwch presennol a nododd y cafwyd trafodaethau yn Fforwm Cenedlaethol y Swyddogion Monitro ynghylch trothwy sefydlog ledled Cymru.

 

Nododd y Cadeirydd fod cymharu'r gwerthoedd ar draws Awdurdodau Cymru o ddiddordeb a nododd y gallai rhai rhoddion fod wedi eu derbyn yn ogystal chydnabyddiaeth ariannol ychwanegol. 

 

Nodwyd ei bod yn gadarnhaol gwybod bod Rhoddion a Lletygarwch wedi parhau i gael eu monitro a nodwyd eu cytundeb â’r trothwy presennol o £25. Codwyd y pwynt bod diffyg manylion yn yr adroddiad y dylid eu cynnwys at ddibenion tryloywder. Awgrymwyd y dylid monitro Rhoddion a Lletygarwch a wrthodwyd hefyd.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Pwyllgor fod yr adroddiad wedi darparu detholiad a bod y manylion llawn ar gael ar ffurf rhestr ar y wefan. Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Pwyllgor nad yw'n ofynnol i'r Aelodau ddatgan unrhyw Roddion na Lletygarwch nad oeddent wedi'u derbyn ond nododd y gellid argymell hyn i'r Aelodau at ddibenion tryloywder.

 

Nodwyd nad oedd yr wybodaeth ar gael yn rhwydd ar y wefan ac argymhellwyd gwneud y ffordd o gael gafael ar wybodaeth am Roddion a Lletygarwch yn gliriach.

 

Mynegwyd y farn y byddai’n llai pwysig datgan Rhoddion a Lletygarwch a wrthodwyd a gwnaeth un arall y pwynt, os nad oedd datgan Rhoddion a Lletygarwch a wrthodwyd yn orfodadwy yna ni ddylid ei gynnwys.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y gallai fod yn ddefnyddiol trafod Rhoddion a Lletygarwch gydag Arweinwyr Gr?p.

 

Nododd y Pwyllgor eu syndod nad oedd dull unffurf o weithredu’r trothwy Rhoddion a Lletygarwch ar waith eisoes ond eu bod yn cytuno bod £25 yn teimlo'n ddigonol ac yn cyd-fynd ag awdurdodau eraill.

 

Penderfynwyd:

 

Nododd y Pwyllgor Safonau yr Adroddiad Rhoddion a Lletygarwch a phenderfynwyd, er y cytunwyd bod y trothwy yn ymddangos yn rhesymol, y dylid trafod Rhoddion a Lletygarwch ymhellach gydag Arweinwyr Gr?p.

 

9.

Canllawiau Statudol ac Anstatudol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prif Gynghorau yng Nghymru - rôl y Pwyllgor Safonau. pdf icon PDF 68 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Swyddog Monitro y rhoddwyd diweddariad ar Ganllawiau Statudol ac Anstatudol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prif Gynghorau Cymru yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau a oedd wedi arwain at faterion yn codi ar y gwaith yr oedd angen ei wneud i gydymffurfio â'r canllawiau wedi'u diweddaru. 

 

Tynnodd y Swyddog Monitro sylw at yr adran yn ymwneud ag amlder a dull y diweddariadau gan Arweinwyr Gr?p a nododd y byddai'r Pwyllgor yn cytuno ar bresenoldeb Arweinydd Gr?p wrth symud ymlaen ar ddechrau'r cylch cyfarfod blynyddol. Tynnodd y Swyddog Monitro sylw’r Pwyllgor eu bod hefyd yn gallu penderfynu a oedd cynnwys yr adroddiadau wedi bod yn ddigonol.

 

Nododd y Swyddog Monitro yr awydd i gyflawni cofnod presenoldeb o 100% ar gyfer hyfforddiant y Cod Ymddygiad yn 2024 a chododd y posibilrwydd o gyflwyno modiwl e-ddysgu i'r rhai a oedd eisoes wedi ymgymryd â'r hyfforddiant y gellid ei ddefnyddio fel cwrs gloywi.

 

Adroddodd y Swyddog Monitro ar yr angen i roi cyngor a hyfforddiant i Arweinwyr Gr?p newydd ar eu rolau a'u cyfrifoldebau. Awgrymodd y Swyddog Monitro y gellid cwblhau ymchwil i feincnodi o’i gymharu ag awdurdodau lleol eraill. Argymhellodd y Swyddog Monitro y dylai'r Pwyllgor wahodd cynrychiolydd yr Ombwdsmon i fynychu'r cyfarfod nesaf ynghyd â’r Arweinwyr Gr?p i gynnig cefnogaeth ac adborth iddynt ar eu dyletswyddau yn ogystal ag ymdrin â chwynion.

 

Nododd y Cadeirydd ei syndod nad oedd hyfforddiant y Cod Ymddygiad eisoes yn cael ei gynnig fel modiwl e-ddysgu. Nododd y Cadeirydd ei gydnabyddiaeth o fanteision hyfforddiant wyneb yn wyneb ond nododd bwysigrwydd cynnydd. Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn cytuno y dylai presenoldeb cynrychiolydd yr Ombwdsmon gyd-fynd â phresenoldeb Arweinwyr Gr?p i sicrhau neges gyson.

 

Tynnwyd sylw bod gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) blatfform ar-lein y gallai fod yn bosibl ei addasu i'w ddefnyddio gan Gyngor Dinas Casnewydd (CDC). Cytunodd y Swyddog Monitro i ymchwilio i hyn.

 

Mynegwyd y farn bod y crynodeb a ddarparwyd wedi bod yn ddefnyddiol a'i bod yn gadarnhaol bod llawer o faterion wedi'u trafod eisoes. Nodwyd bod brwdfrydedd yr Arweinwyr Gr?p yn amlwg ac y dylai'r Pwyllgor fanteisio ar eu parodrwydd i ymgysylltu yn ogystal â chroesawu unrhyw gyfle i'w cefnogi yn eu rôl.

 

Mynegwyd pryder na fyddai aelodau'n talu sylw manwl i hyfforddiant wrth ei gyflwyno ar-lein. Nododd y Cadeirydd, er ei fod yn cytuno, fod dulliau i geisio sicrhau bod sylw yn cael ei roi i'r hyfforddiant. Ystyriodd y Pwyllgor y gellid mabwysiadu dull cyfunol. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro mai dim ond ar gyfer hyfforddiant gloywi y byddai unrhyw fodiwl e-ddysgu yn cael ei ddefnyddio ac na fyddai'n cael ei ystyried yn safonol i'r holl Aelodau.

 

Penderfynwyd:

 

Nododd y Pwyllgor Safonau yr adroddiad.

 

10a

Unrhyw Fater Arall

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad i’r Pwyllgor ar ei bresenoldeb yn y Cyngor Llawn lle cyflwynodd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau.  Nodwyd ei bod yn well cael Cadeirydd y Pwyllgor Safonau i gyflwyno'r adroddiad yn hytrach nag Aelod.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor y byddai'n bresennol yng nghyfarfod Fforwm y Pwyllgor Safonau Cenedlaethol sydd ar ddod ac y byddai'n rhoi adborth yn y cyfarfod nesaf.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor fod y Swyddog Monitro yn gadael ei rôl a dymunodd y Pwyllgor Safonau bob lwc iddi yn y dyfodol.

 

10b

Dolen i'r Recordiad Cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion: