Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Pobl - Dydd Mawrth, 19eg Ionawr, 2021 10.00 am

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Neil Barnett  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

None

2.

Cofnodion cyfarfodydd blaenorol a gynhaliwyd ar 3 a 17 Tachwedd 2020 pdf icon PDF 457 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd bod cofnodion y cyfarfodydd blaenorol a gynhaliwyd ar 3 a 17 Tachwedd 2020 yn gofnod gwir a chywir.

 

3.

Cyllideb 2021-22 ac Amcanestyniadau Ariannol Tymor Canolig pdf icon PDF 392 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyllideb 2021-22 a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC)

Yn bresennol:

-       Chris Humphrey, Cyfarwyddwr Dros Dro y Gwasanaethau Cymdeithasol

-       Meirion Rushworth - Pennaeth Cyllid

-       Sally Jenkins - Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc

 

Rhoddodd y Pennaeth Cyllid drosolwg o sefyllfa'r gyllideb a oedd wedi dilyn proses debyg i flynyddoedd blaenorol. Roedd y bwlch yn y gyllideb yn £4.1 miliwn ym mis Medi y llynedd. Wedyn, roedd y swyddogion wedi ystyried cynllunio arbedion lawr i hanner miliwn erbyn i'r setliad gael ei gyflwyno, ac felly roedd y gyllideb bron wedi’i mantoli ar yr adeg hon. Roedd yr arian grant a dderbyniwyd ychydig cyn y Nadolig yn £9 miliwn yn well na'r disgwyl. Defnyddiwyd niferoedd poblogaeth fel rhan fawr o'r cyfrifiad hwn ac roedd y niferoedd a ddefnyddiwyd ar gyfer Casnewydd yn hanesyddol wedi bod yn rhy isel. Roedd hyn bellach wedi'i gywiro ac felly roeddem wedi derbyn mwy o arian eleni. Hefyd, yn hytrach na'i gyflwyno fesul cam, cafwyd y grant yn llawn a oedd yn llawer gwell i'r Cyngor eleni. Byddai'r gyllideb derfynol yn cael ei gosod ym mis Chwefror yn dilyn adborth a dderbynnir ac a ystyrir.

 

·      Gofynnodd Aelod a gafodd unrhyw arian cyfalaf ei ddefnyddio i leihau costau refeniw, yn enwedig yn ymwneud â mentrau amgylcheddol mewn ysgolion.

 

Atebodd y Pennaeth Cyllid fod y rhaglen gyfalaf yn cynnwys nifer o gynlluniau effeithlonrwydd ynni gan gynnwys goleuadau arbed ynni, toeau gwyrdd ac ati ond roedd hynny'n dibynnu i raddau helaeth ar yr amgylchedd dysgu mewn rhai ysgolion yn ogystal ag ystyried cyflwr adeiladau presennol yr ysgol.

 

·      Gofynnodd Aelod am gostau pensiwn amcanestynedig.

Mewn ymateb i'r cwestiwn hwn am gostau pensiwn, cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid fod 2 gynllun pensiwn perthnasol, cronfa'r NGAC a'r gronfa Athrawon. Roedd yr olaf wedi cynyddu y llynedd ond byddai angen i gyfraniadau cyflogwyr yr NGAC gynyddu y flwyddyn nesaf, ac roedd hyn wedi'i gynnwys yn y gofynion cyllidebol yn y dyfodol.

 

·      Gofynnodd Aelod pa newidiadau i'r gyllideb a ragwelwyd o ganlyniad i gynllun adfer Covid?

 

     Cafwyd trafodaethau parhaus yngl?n â'r gyllideb oherwydd costau uwch parhaus, yn enwedig yn y cyllidebau gofal yn y cartref a phreswyl. Roedd cymorth ariannol ychwanegol wedi bod ar gael yn ystod y pandemig ond roedd y cyllid hwn (cronfa caledi) i fod i ddod i ben ddiwedd mis Mawrth. Roedd hyn yn golygu y byddai angen iddynt ystyried beth fyddai diwedd y cyllido’n golygu wrth symud ymlaen i'r flwyddyn nesaf. Efallai y byddai angen dod o hyd i fodel mwy cynaliadwy wrth symud ymlaen. Roedd heriau penodol hefyd mewn rhai gwasanaethau oherwydd costau ychwanegol fel cyfarpar diogelu personol a fyddai'n fater ariannu parhaol ac nid oedd unrhyw gronfeydd wrth gefn penodol wedi'u neilltuo ar gyfer hyn ar hyn o bryd.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Pennaeth Cyllid am ei adroddiad.

 

Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol

Cynnig 1 - AS122/03 Trawsnewid Gwasanaethau Dydd i Oedolion

 

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Dros Dro y Gwasanaethau Cymdeithasol y cynnig arbedion:

Ar hyn o bryd roedd y gwasanaeth yn rhedeg nifer o wasanaethau  ...  view the full Cofnodion text for item 3.