Lleoliad arfaethedig: Virtual Meeting
Cyswllt: Neil Barnett Cynghorydd Craffu
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Dim. |
|
Datganiadau o ddiddordeb Cofnodion: Dim. |
|
Adolygiadau Diwedd Blwyddyn Cynllun Gwasanaeth 2020/21 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 1. AdolygiadDiwedd Blwyddyn Cynllun Gwasanaeth 20/21 ar gyfer y Gwasanaethau Addysg
Rhoddodd y Dirprwy Brif Swyddog Addysg drosolwg o'r adroddiad gan ddweud fod mesurau perfformiad yn gysylltiedig â deilliannau disgyblion, gwaharddiadau a phresenoldeb wedi'u dal yn ôl oherwydd y pandemig. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno dulliau newydd o ddyfarnu graddau i ddysgwyr yng Nghyfnodau Allweddol 4 a 5 felly nid oedd yn briodol cymharu â'r blynyddoedd cynt. Oherwydd y cyfyngiadau cenedlaethol a oedd yn weithredol oherwydd y pandemig roedd olrhain cyrchfannau dysgwyr ôl-16 yn heriol, ac roedd canran y bobl ifanc y tybiwyd eu bod wedi cyrraedd 'cyrchfan anhysbys' ar ôl gadael yr ysgol yn uwch nag yn y blynyddoedd cynt. Serch hynny, roedd data Casnewydd ar gyfer pobl ifanc h?n nag oedran ysgol gorfodol mewn Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant yn dal i fod yn gryf a chyda'r gorau yng Nghymru.
Er gwaethaf y pandemig roedd gwaith sylweddol wedi parhau gan ysgolion ac addysg ganolog a bu cynnydd gyda'r rhan fwyaf o'r camau o fewn y cynllun gwasanaeth. Cafodd pandemig Covid effaith sylweddol ar yr ysgolion, fel y gwelwyd yn y cyfnodau pan fuont ar gau'n llawn, neu'n cynnig dysgu o bell yn unig, yn ogystal â'r ymgyrch fawr i gynnig dulliau dysgu cyfunol fel bo modd i ddisgyblion barhau i ddysgu wrth hunanynysu, naill ai fel unigolion neu fel cohortau o fewn ysgol.
Gofynnodd yr Aelodau'r canlynol:
· Aoedd y Maes Gwasanaeth ar y trywydd i gyrraedd y targed o ran ei gyllideb ac, os ddim, pa fesurau lliniarol oedd ar waith a beth oedd sefyllfa ysgolion unigol penodol?
Cadarnhaodd y Dirprwy Brif Swyddog Addysg fod y Gwasanaeth ar hyn o bryd ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed eleni. Bu tanwariant sylweddol y llynedd o bron i ddwy filiwn, a hynny'n bennaf gan na chafodd gwasanaethau trafnidiaeth, lleoliadau y tu allan i'r Sir, clybiau brecwast ac ati, eu defnyddio dros y flwyddyn ddiwethaf. Byddai'r taliadau hynny'n cael eu hailsefydlu eleni, felly rhagamcannwyd y byddai'r gyllideb yn gytbwys. O ran sefyllfa ysgolion unigol, rhagamcannwyd y byddai gan 4 ysgol ddiffyg wrth gau, ond roedd hyn yn dal i fod yn welliant sylweddol. Roedd un o’r rhain i fod i gau ac uno ag ysgol arall ac roedd y tair arall yn ysgolion Uwchradd a oedd yn cael eu monitro’n agos ac ar y trywydd iawn i leihau eu lefelau gorwariant, Byddai'r rhain yn cael eu monitro'n agos yn rheolaidd i sicrhau bod eu trefniadau cynllunio ariannol yn gadarn heb unrhyw beryg iddynt lithro'n ôl i'r coch.
· Wrthweithredu mewn ffordd wahanol, gofynnodd un o'r aelodau a oedd ysgolion wedi canfod ffyrdd i arbed arian, ac a ellid defnyddio unrhyw un o'r dulliau hyn o hyn allan?
Esboniodd y Pennaeth Addysg Cynorthwyol fod y Gwasanaeth ar hyn o bryd yn archwilio cydweithrediad Ôl-16 ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Adroddiad Cynghorydd Craffu Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: . Y Diweddaraf am y Flaenraglen Waith
Gwahoddedigion; - Neil Barnett – Cynghorydd Craffu
Cyflwynodd y Cynghorydd Craffu y Flaenraglen Waith, a dywedodd wrth y Pwyllgor pa bynciau fyddai'n cael eu trafod yn nau gyfarfod nesaf y Pwyllgor:
Dydd Mawrth 21 Medi 2021
Dydd Mawrth 2 Tachwedd 2021
- Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc - Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol
|