Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Pobl - Dydd Mawrth, 9fed Hydref, 2018 10.00 am

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Daniel Cooke  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim.

2.

Cofnodion pdf icon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod ar 10 Gorffennaf 2018 fel rhai cywir, yn amodol ar y newid isod (yn y Saesneg):

Eitem 3 – ‘Diweddariad Perfformiad Gwasanaeth – Diwedd Blwyddyn 2017/18 – Addysg' 'Roedd thema amlwg o ran bod gan ysgolion mewn ardaloedd cefnog gyfraddau gwaharddiadau isel a bod gan ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig gyfraddau gwaharddiadau uwch. Addysg yn edrych ar sut i ddelio â hyn.’ 

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd yr Aelod Cabinet dros Addysg yn hapus gyda’r sylwadau yng nghofnodion y cyfarfod yn ymwneud â’i phresenoldeb. Yr oedd yr Aelod Cabinet wedi gofyn am wneud datganiad i’r cyfarfod mewn ymateb i hyn. Gofynnodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor a oedd yn cymeradwyo cyflwyno’r datganiad hwn i’r Pwyllgor, ac i’r datganiad gael ei atodi at gofnodion y cyfarfod hwn. Cytunodd y Pwyllgor i hyn, a darllenodd yr Aelod Cabinet y datganiad mewn ymateb i sylwadau’r Pwyllgor. (Atodiad 1)

 

3.

Deilliannau Asesiadau Athrawon Diwedd Cyfnod Allweddol 2018 a Chanlyniadau Profion Cenedlaethol - Casnewydd pdf icon PDF 139 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn bresennol

       Gail Giles – Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau

       Hayley Davies – Edwards – Prif Ymgynghorydd Herio GCA

       James Harris – Cyfarwyddwr Strategol - Pobl

       Katy Rees – Pennaeth Cynorthwyol Addysg - Cynhwysiant

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau a chynrychiolydd o’r GCA yr adroddiad a dod ag agweddau pwysig i sylw’r Pwyllgor.

Gofynnodd yr Aelodau y cwestiynau a ganlyn:

       Cwestiynodd yr Aelodau yr amser oedd yn cael ei dreulio ar gymharu ysgolion, a holi a fyddai’n fwy effeithiol gofalu fod y bobl ifanc yn cael yr addysg orau. Esboniodd cynrychiolydd y GCA fod Llywodraeth Cymru yn dadansoddi ac yn holi’r data a roddir gan y GCA a Chasnewydd am gyraeddiadau disgyblion. Byddai hyn yn gwella perfformiad, gan sicrhau lefelau uwch o gyraeddiadau disgyblion yn y dyfodol.

       Holoddyr Aelodau pam fod nifer y bobl ifanc yn cyrraedd Cyfnod Allweddol Dau mewn Saesneg yn is ers llynedd. Esboniodd cynrychiolydd y GCA y gall carfan mewn un flwyddyn wyro’r ffigyrau; fodd bynnag, byddai’n cael ei fonitro at y dyfodol i wneud yn si?r na fydd tuedd yn dod i’r amlwg.

       Gofynnodd y Pwyllgor pam fod y targed cenedlaethol am Gymraeg (Iaith Gyntaf) ar Gyfnod Allweddol 2 yn is na’r targed mae Casnewydd wedi’i osod iddi’i hun. Esboniodd y GCA fod hyn oherwydd y garfan fechan o bobl ifanc sydd â’r Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt. Po leiaf y nifer o bobl ifanc, y mwyaf o effaith a gânt ar y ganran, a dyna pam fod gan Gasnewydd darged uwch na Chymru.

       Canmoloddaelod o’r Pwyllgor Bennaeth yr ysgol y mae’n llywodraethwr arni. Yr oedd y Pennaeth wedi gwella’r deilliannau i bobl  ifanc nad oeddent yn gallu llwyddo yn yr ysgol. Esboniodd cynrychiolydd y GCA  mai dyma un o’r cyfrifoldebau yr oedd Penaethiaid yn ei gymryd o ddifrif. Hysbysodd y Cyfarwyddwr Strategol - Pobl  y Pwyllgor fod Gyrfa Cymru yn gyfrifol am olrhain yr holl bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol yng Nghasnewydd. Mae hyn yn sicrhau nad oes yr un person ifanc yn gadael heb gyrchfan, boed hynny yn addysg bellach neu uwch, gwaith neu hyfforddiant.

       Gofynnodd y Pwyllgor a oedd y Swyddogion yn credu y gallai perfformiad Addysg wella dros y ddwy flynedd nesaf yn wyneb y pwysau ariannol a wynebir gan yr awdurdod lleol. Esboniodd y Cyfarwyddwr Strategol - Pobl mai’r athrawon a’r berthynas oedd ganddynt gyda’r bobl ifanc oedd y rhesymau y tu ôl i berfformiad llwyddiannus. Yr oedd y Penaethiaid a’r staff cefnogi yn deall hyn a dyna sy’n eu galluogi i wneud penderfyniadau anodd o ran arbedion y gyllideb gan gyfyngu’r effaith ar addysg pobl ifanc.

       Yroedd Aelod eisiau gwybod pa ymrwymiad oedd yn cael ei wneud gyda’r ysgolion am Ddatblygu Proffesiynol Parhaus (DPP) eu staff. Esboniodd cynrychiolydd y GCA fod hyn yn rhan  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Monitro Argymhellion - Cynigion Arbed Cyllideb 2018/19 pdf icon PDF 142 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn bresennol;

       James Harris – Cyfarwyddwr Strategol - Pobl

       Chris Humphrey – Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol

       Katy Rees – Pennaeth Cynorthwyol Addysg - Cynhwysiant

Cyflwynodd y Swyddogion bob un o gynigion y gyllideb a thrafododd y Pwyllgor y diweddariad ar bob cynnig;

Adolygiad o Wasanaeth Seibiant Byr Oaklands

Esboniodd y Swyddogion eu bod weithiau yn dod o hyd i ffyrdd o beidio â gwneud arbediad neu wneud arbediad rhannol. Dyma oedd wedi digwydd gyda’r cynnig hwn; yn ystod yr ymgynghoriad, daethom o hyd i fannau eraill i wneud yr arbediad.

Ailstrwythuro’r cyllid yn y gwasanaethau ataliol

Hysbysodd y Swyddogion y Pwyllgor y gwnaed yr arbediad hwn.

Ailstrwythuro’r Tîm Integredig Cefnogi Teuluoedd

Hysbysodd y Swyddogion y  Pwyllgor y gwnaed yr arbediad hwn.

Adolygu’r Gwasanaeth Gofal Cartref

Yr oedd y Swyddog yn disgwyl i’r arbediad gael ei wneud dros ddwy flynedd. Byddai contract y gwasanaeth newydd yn dechrau ym mis Ionawr 2019. 

Ail-ddarparu’r Gwasanaeth Byw gyda Chefnogaeth

Credai’r Swyddog y byddai’r arbediad llawn yn cael ei wneud eleni. Lleisiodd yr Aelodau bryderon am yr unigolion hynny oedd yn dal i fyw yn y ddau gartref nad oedd yn addas at y diben ac nad ydynt yn cwrdd ag anghenion yr unigolion.

Gostyngiad yn y Gyllideb Oedolion

Dywedodd y Swyddog fod yr arbediad oedd yn gysylltiedig â’r cynnig hwn yn rhy optimistaidd ac na fyddai’n cael ei ateb yn llawn. Yr oedd yr Aelodau am wybod pa mor llwyddiannus y bu marchnata darpariaeth Centrica Lodge i awdurdodau lleol eraill. Esboniodd y Swyddogion fod rhai wedi manteisio ar y cynnig, ond bod lle i fwy o bobl ifanc.

Cyfuno’r Timau Seicoleg Addysg, Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Anghenion Dysgu Penodol yn ‘Dîm Cyfoethogi Cynhwysiant’

Cwestiynwyd y modd y mae athrawon yn cael eu paratoi am y newidiadau a ddaeth i rym ar 1 Medi. Esboniodd y Swyddogion eu bod yn defnyddio nifer o wahanol ddulliau ac anodau hyfforddi i gynyddu sgiliau a gwybodaeth athrawon a staff cefnogi i weithio gyda phobl ifanc. Esboniodd y Swyddog wrth yr Aelodau fod yr arbedion yn cynnwys chwech diswyddo gwirfoddol, un ymddiswyddiad ac un ail-leoli.

Ailfodelu’r Uned Cyfeirio Disgyblion

Gofynnodd y Cyfarwyddwr Strategol - Pobl am ganiatâd i roi diweddariad i’r Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf ar 26 Tachwedd gan nad oedd yr holl wybodaeth ganddo ar hyn o bryd. Sylw’r Cyfarwyddwr oedd bod nifer o faterion cymhleth nas rhagwelwyd yn golygu na allai’r adran wneud yr arbediad. Esboniodd y Pennaeth Cynorthwyol Addysg eu bod wedi datblygu cynllun cadarn mewn partneriaeth â’r GCA a staff oedd newydd eu recriwtio i wneud y gwaith hanfodol. Byddai’r Pwyllgor yn croesawu’r wybodaeth ychwanegol yn y cyfarfod nesaf.

Diolchodd y Pwyllgor i’r Swyddogion am eu presenoldeb a’r atebion manwl i’w cwestiynau.

Argymhellion a Sylwadau

Gwnaeth y Pwyllgor yr argymhellion a’r sylwadau a ganlyn:

       Y Cyfarwyddwr Strategol - Pobl i roi diweddariad am yr Uned Cyfeirio Disgyblion  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Data Cymharu Perfformiad Cymru Gyfan 2017 /18 pdf icon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn bresennol;

Rhys Cornwall – Pennaeth Pobl a Newid Busnes

Cyflwynodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes yr adroddiad ac esbonio’r rhesymau pam ei fod ar Flaen-Raglen Waith y Pwyllgor. Esboniodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes mai nifer cyfyngedig o fesurau oedd yn derbyn adroddiad am i fesurau’n ymwneud â Gwasanaethau Cymdeithasol gael eu tynnu ymaith. Mae’r mesurau sydd weddill yn dangos sut y mae Casnewydd yn cymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.

Yr oedd y Pwyllgor eisiau gwybod beth oedd y prif rwystrau i wella’r sefyllfa gyffredinol ar y tabl cenedlaethol. Amlinellodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes y prif rwystrau, sef adnoddau i’r gwasanaethau, a’r angen i gymryd penderfyniadau am drefnu gwasanaethau.

Diolchodd y Pwyllgor i’r Swyddog am fod yn bresennol.

6.

Adroddiad Cynghorydd Craffu pdf icon PDF 128 KB

a)      Forward Work Programme Update (Appendix 1)

b)      Information Reports (Appendix 2)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Blaen-Raglen Waith

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Craffu yr adroddiad i’r Pwyllgor ac esbonio, oherwydd arolygiad Estyn mewn Addysg, nad oedd y Pennaeth Gwasanaeth na’r Dirprwyon yn gallu bod yn bresennol. Cytunodd y Pwyllgor i symud dyddiad cyfarfod Cynllun y Gwasanaeth Addysg i 26 Tachwedd am 10am fel y gallai’r Swyddogion fod yn bresennol.