Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Pobl - Dydd Mawrth, 19eg Chwefror, 2019 10.00 am

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Daniel Cooke  Scrutiny Adviser

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim

 

2.

Cofnodion pdf icon PDF 91 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2019 fel rhai cywir.

 

3.

Adroddiad Arolwg Estyn pdf icon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn bresennol:

-                S Morgan (Prif Swyddog Addysg)

-                J Harris (Cyfarwyddwr Strategol – Pobl)

-                K Rees (Pennaeth Addysg  Cynorthwyol – Cynhwysiant)

-                A Powles (Dirprwy Brif Swyddog Addysg)

-                Cynghorydd Gail Giles (Aelod Cabinet dros Addysg)

-                C Phillips (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Estyn),

Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Addysg drosolwg gryno i’r Pwyllgor, ac amlygu’r meysydd allweddol i’w hystyried.

‘Cyhoeddwyd adroddiad Estyn o arolygiad Gwasanaeth Addysg Casnewydd ar 31 Ionawr 2019.  Dyma’r arolygiad cyntaf i’w gynnal dan y fframwaith arolygu newydd i awdurdodau lleol a gyflwynwyd gan Estyn ym Medi 2018. Hwn hefyd oedd yr arolygiad cyntaf o Awdurdod Addysg Lleol ers ffurfio Gwasanaeth Cyrhaeddiad Addysg (GCA) De Ddwyrain Cymru, sydd bellach yn arwain ar wella ar draws pum awdurdod lleol De Ddwyrain Cymru. 

Rhoddwyd briffiad ar yr adroddiad i’r Aelodau Etholedig a’r Penaethiaid, ac fe’i rhyddhawyd fel datganiad i’r wasg. Mae wedi ei ddarparu hefyd i Gefnogaeth Llywodraethwyr GCA i’w ddosbarthu i holl lywodraethwyr ysgolion Casnewydd.

Mae’r adroddiad yn amlygu nifer o nodweddion cadarnhaol gan gynnwys yr isod am y tair blynedd a aeth heibio:

-                Mae cyfran yr ysgolion cynradd yng Nghasnewydd a fernir o leiaf yn dda am safonau yn cymharu’n ffafriol a deilliannau arolygiadau yn genedlaethol;

-                Mae nifer yr ysgolion cynradd sy’n derbyn barn ragorol am safonau yn y cyfnod hwn yn sylweddol uwch nag ar draws Cymru gyfan;

-                Mae gwelliant mewn perfformiad yng nghyfnod allweddol 4 (TGAU) dros y tair blynedd ddiwethaf mewn dangosyddion allweddol gan gynnwys Saesneg a Mathemateg yn awr yn cymharu’n ffafriol ag awdurdodau lleol ledled Cymru. 

Ymysg nodweddion cadarnhaol eraill mae:

-                Mae gan uwch-Aelodau Etholedig a Swyddogion weledigaeth glir a disgwyliadau uchel o ran deilliannau

-                Mae swyddogion ar draws ystod eang o wasanaethau yn sicrhau eu bod yn addasu eu darpariaeth yn effeithiol i gwrdd â’r her o ran blaenoriaethau lles plant a phobl ifanc;

-                Mae canran y disgyblion nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) wedi cwympo’n sylweddol dros y pedair blynedd ddiwethaf, ac y mae bellach yn is na chyfartaledd Cymru;

-                Mae ystod dda o brosiectau ar draws yr awdurdod lleol i gefnogi’r gostyngiad hwn, oherwydd y gwasanaethau gwerthfawr a gynigiant i ddisgyblion bregus, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd;

-                Mae arweinwyr yn ymateb yn briodol i bwysau ariannol allweddol ac y maent yn hyblyg eu hagwedd at gyflwyno blaenoriaethau.

-                Gwnaeth Estyn bum argymhelliad i’r Gwasanaeth Addysg gan gynnwys:

-                Gwella perfformiad ehangach mewn ysgolion uwchradd a deilliannau i ddysgwyr sy’n gymwys am Brydau ysgol am Ddim (PYADd);

-                Addasu gweithgareddau hunanasesu canolog addysg i ganoli mwy ar ddeilliannau a gwerth am arian;

-                Cryfhau cyfleoedd ar lefel yr awdurdod lleol i blant a phobl ifanc ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio arnynt hwy;

-                Cyflwyno’r cynlluniau strategol i ddatblygu addysg cyfrwng-Cymraeg ymhellach. 

Mae camau i ymdrin â’r argymhellion eisoes ar waith a chânt eu hymgorffori yn y Cynllun Gwasanaeth Addysg am 2019/20

Yn y cyfamser, gofynnodd Estyn i Wasanaeth Addysg Casnewydd ysgrifennu astudiaeth achos o’r arferion gorau, y bydd  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Fframwaith a Deddf ADY - BRIFFIO pdf icon PDF 208 KB

Cofnodion:

Yn bresennol:

-                T Pead – Arweinydd Trosi Anghenion Dysgu Ychwanegolledled Gwent

-                K Rees – Prif Swyddog Addysg - Cynhwysiant

Rhoddodd yr Arweinydd Trosi gyfoesiad i’r Pwyllgor am y gwaith sy’n cael ei wneud ar Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Ngwent.

Diolchodd y Pwyllgor i’r Arweinydd Trosi a’r Swyddog am eu hamser a thrafodwyd pwysigrwydd y newidiadau yn y sector ADY dros y blynyddoedd i ddod. Cytunodd y Pwyllgor i anfon unrhyw gwestiynau ymlaen at y Prif Swyddog AddysgCynhwysiant.

 

5.

Adroddiad Cynghorydd Craffu pdf icon PDF 115 KB

a)      Forward Work Programme Update (Appendix 1)

b)      Actions Arising (Appendix 2)

c)      Referral letter (Appendix 3)

d)      Information Reports (Appendix 4)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn bresennol:

                         Daniel Cooke (Ymgynghorydd Craffu)

                       a)     Cyfoesiad am y Blaen-Raglen Waith

Cyflwynoddyr Ymgynghorydd Craffu y Blaen-Raglen Waith, a hysbysu’r Pwyllgor o’r pynciau i’w trafod yn nau gyfarfod nesaf y pwyllgor:

9 Ebrill 2019, yr eitem ar yr agenda i gynnwys;

                                  o       Trosi o wasanaethau Plant i wasanaethau Cymdeithasol Oedolioncyfoesiad llafar

11 a 25 Mehefin 2019,  yreitemau ar yr agenda i gynnwys;

                                  o      AdolygiadauCynllun Gwasanaeth Diwedd Blwyddyn Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol

b)         Camauyn Codi

Hysbysodd yr Ymgynghorydd Craffu’r Pwyllgor am y camau fesul un. Ni ofynnodd y Pwyllgor am fwy o wybodaeth.

c)          Adroddiadau er Gwybodaeth

Trafododd yr Ymgynghorydd Craffu bob un o’r adroddiadau gwybodaeth gyda’r Pwyllgor. Gwnaeth y Pwyllgor y ceisiadau, sylwadau ac argymhellion a ganlyn:

     Cais am Adroddiad Interim

     MynegoddAelodau bryder am ddefnyddio’r priflythrennau PDG, gan deimlo y byddai plant yn cael eu labelu gan blant eraill. Carai’r Pwyllgor ddefnyddio’r teitl llawn, ‘plant sy’n derbyn gofal’.

     Gofynnodd y Pwyllgor am adroddiad ar gategorïau ysgolion cynradd 2018/2019 ac i gynnwys Adroddiad Estyn  

     Gofynnodd y Pwyllgor am wybodaeth ar rôl Mentor y Plant sy’n Derbyn Gofal ac os mai dim ond 4 clwstwr sydd â Mentor PDG, pa gefnogaeth sydd gan y clystyrau eraill?

     Gofynnodd y Pwyllgor am adroddiadau neu ganlyniadau yr arolygiadau a gynhaliodd Barnardos yn haf 2017. 

     Pa gefnogaeth sydd ar gael i bobl ifanc Haen Un nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na gwaith?

      

     Mynegodd yr Aelodau bryder am blant oed Cynradd sy’n mynychu’r Uned Cyfeirio Disgyblion, gan ofyn am fwy o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i’r bobl ifanc hyn yn benodol, ac a oes rheidrwydd arnynt i fynychu’r Uned Cyfeirio Disgyblion?

                       d)      Llythyron Craffu

Derbyniodd y Pwyllgor gyfeiriad cyfeirio pwnc Craffu gan Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol, Oedolion a Chymuned. Yr oedd yn gofyn i’r Pwyllgor dderbyn Strategaeth Gofalwyr newydd Casnewydd am 2019 – 2022.

Gofynnodd y Pwyllgor am i’r Strategaeth Gofalwyr gael ei gyflwyno yng nghyfarfod mis Ebrill er mwyn caniatáu cynnwys y Pwyllgor yn yr ymgynghoriad ar y strategaeth.