Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Neil Barnett Cynghorydd Craffu
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o ddiddordeb Cofnodion: None |
|
Cofnodion cyfarfodydd blaenorol a gynhaliwyd ar 3 a 17 Tachwedd 2020 PDF 457 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd bod cofnodion y cyfarfodydd blaenorol a gynhaliwyd ar 3 a 17 Tachwedd 2020 yn gofnod gwir a chywir.
|
|
Cyllideb 2021-22 ac Amcanestyniadau Ariannol Tymor Canolig PDF 392 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyllideb 2021-22 a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) Yn bresennol: - Chris Humphrey, Cyfarwyddwr Dros Dro y Gwasanaethau Cymdeithasol - Meirion Rushworth - Pennaeth Cyllid - Sally Jenkins - Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc
Rhoddodd y Pennaeth Cyllid drosolwg o sefyllfa'r gyllideb a oedd wedi dilyn proses debyg i flynyddoedd blaenorol. Roedd y bwlch yn y gyllideb yn £4.1 miliwn ym mis Medi y llynedd. Wedyn, roedd y swyddogion wedi ystyried cynllunio arbedion lawr i hanner miliwn erbyn i'r setliad gael ei gyflwyno, ac felly roedd y gyllideb bron wedi’i mantoli ar yr adeg hon. Roedd yr arian grant a dderbyniwyd ychydig cyn y Nadolig yn £9 miliwn yn well na'r disgwyl. Defnyddiwyd niferoedd poblogaeth fel rhan fawr o'r cyfrifiad hwn ac roedd y niferoedd a ddefnyddiwyd ar gyfer Casnewydd yn hanesyddol wedi bod yn rhy isel. Roedd hyn bellach wedi'i gywiro ac felly roeddem wedi derbyn mwy o arian eleni. Hefyd, yn hytrach na'i gyflwyno fesul cam, cafwyd y grant yn llawn a oedd yn llawer gwell i'r Cyngor eleni. Byddai'r gyllideb derfynol yn cael ei gosod ym mis Chwefror yn dilyn adborth a dderbynnir ac a ystyrir.
· Gofynnodd Aelod a gafodd unrhyw arian cyfalaf ei ddefnyddio i leihau costau refeniw, yn enwedig yn ymwneud â mentrau amgylcheddol mewn ysgolion.
Atebodd y Pennaeth Cyllid fod y rhaglen gyfalaf yn cynnwys nifer o gynlluniau effeithlonrwydd ynni gan gynnwys goleuadau arbed ynni, toeau gwyrdd ac ati ond roedd hynny'n dibynnu i raddau helaeth ar yr amgylchedd dysgu mewn rhai ysgolion yn ogystal ag ystyried cyflwr adeiladau presennol yr ysgol.
· Gofynnodd Aelod am gostau pensiwn amcanestynedig. Mewn ymateb i'r cwestiwn hwn am gostau pensiwn, cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid fod 2 gynllun pensiwn perthnasol, cronfa'r NGAC a'r gronfa Athrawon. Roedd yr olaf wedi cynyddu y llynedd ond byddai angen i gyfraniadau cyflogwyr yr NGAC gynyddu y flwyddyn nesaf, ac roedd hyn wedi'i gynnwys yn y gofynion cyllidebol yn y dyfodol.
· Gofynnodd Aelod pa newidiadau i'r gyllideb a ragwelwyd o ganlyniad i gynllun adfer Covid?
Cafwyd trafodaethau parhaus yngl?n â'r gyllideb oherwydd costau uwch parhaus, yn enwedig yn y cyllidebau gofal yn y cartref a phreswyl. Roedd cymorth ariannol ychwanegol wedi bod ar gael yn ystod y pandemig ond roedd y cyllid hwn (cronfa caledi) i fod i ddod i ben ddiwedd mis Mawrth. Roedd hyn yn golygu y byddai angen iddynt ystyried beth fyddai diwedd y cyllido’n golygu wrth symud ymlaen i'r flwyddyn nesaf. Efallai y byddai angen dod o hyd i fodel mwy cynaliadwy wrth symud ymlaen. Roedd heriau penodol hefyd mewn rhai gwasanaethau oherwydd costau ychwanegol fel cyfarpar diogelu personol a fyddai'n fater ariannu parhaol ac nid oedd unrhyw gronfeydd wrth gefn penodol wedi'u neilltuo ar gyfer hyn ar hyn o bryd.
Diolchodd y Cadeirydd i'r Pennaeth Cyllid am ei adroddiad.
Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol Cynnig 1 - AS122/03 Trawsnewid Gwasanaethau Dydd i Oedolion
Cyflwynodd Cyfarwyddwr Dros Dro y Gwasanaethau Cymdeithasol y cynnig arbedion: Ar hyn o bryd roedd y gwasanaeth yn rhedeg nifer o wasanaethau ... view the full Cofnodion text for item 3. |