Lleoliad: Virtual Meeting
Cyswllt: Neil Barnett Cynghorydd Craffu
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Dim. |
|
Datganiadau o ddiddordeb Cofnodion: Dim. |
|
Adolygiadau Diwedd Blwyddyn Cynllun Gwasanaeth 2020/21 PDF 499 KB Cofnodion: 1. Adolygiad Diwedd Blwyddyn Cynllun Gwasanaeth 20/21 ar gyfer y Gwasanaethau Addysg
Rhoddodd y Dirprwy Brif Swyddog Addysg drosolwg o'r adroddiad gan ddweud fod mesurau perfformiad yn gysylltiedig â deilliannau disgyblion, gwaharddiadau a phresenoldeb wedi'u dal yn ôl oherwydd y pandemig. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno dulliau newydd o ddyfarnu graddau i ddysgwyr yng Nghyfnodau Allweddol 4 a 5 felly nid oedd yn briodol cymharu â'r blynyddoedd cynt. Oherwydd y cyfyngiadau cenedlaethol a oedd yn weithredol oherwydd y pandemig roedd olrhain cyrchfannau dysgwyr ôl-16 yn heriol, ac roedd canran y bobl ifanc y tybiwyd eu bod wedi cyrraedd 'cyrchfan anhysbys' ar ôl gadael yr ysgol yn uwch nag yn y blynyddoedd cynt. Serch hynny, roedd data Casnewydd ar gyfer pobl ifanc h?n nag oedran ysgol gorfodol mewn Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant yn dal i fod yn gryf a chyda'r gorau yng Nghymru.
Er gwaethaf y pandemig roedd gwaith sylweddol wedi parhau gan ysgolion ac addysg ganolog a bu cynnydd gyda'r rhan fwyaf o'r camau o fewn y cynllun gwasanaeth. Cafodd pandemig Covid effaith sylweddol ar yr ysgolion, fel y gwelwyd yn y cyfnodau pan fuont ar gau'n llawn, neu'n cynnig dysgu o bell yn unig, yn ogystal â'r ymgyrch fawr i gynnig dulliau dysgu cyfunol fel bo modd i ddisgyblion barhau i ddysgu wrth hunanynysu, naill ai fel unigolion neu fel cohortau o fewn ysgol.
Gofynnodd yr Aelodau'r canlynol:
· A oedd y Maes Gwasanaeth ar y trywydd i gyrraedd y targed o ran ei gyllideb ac, os ddim, pa fesurau lliniarol oedd ar waith a beth oedd sefyllfa ysgolion unigol penodol?
Cadarnhaodd y Dirprwy Brif Swyddog Addysg fod y Gwasanaeth ar hyn o bryd ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed eleni. Bu tanwariant sylweddol y llynedd o bron i ddwy filiwn, a hynny'n bennaf gan na chafodd gwasanaethau trafnidiaeth, lleoliadau y tu allan i'r Sir, clybiau brecwast ac ati, eu defnyddio dros y flwyddyn ddiwethaf. Byddai'r taliadau hynny'n cael eu hailsefydlu eleni, felly rhagamcannwyd y byddai'r gyllideb yn gytbwys. O ran sefyllfa ysgolion unigol, rhagamcannwyd y byddai gan 4 ysgol ddiffyg wrth gau, ond roedd hyn yn dal i fod yn welliant sylweddol. Roedd un o’r rhain i fod i gau ac uno ag ysgol arall ac roedd y tair arall yn ysgolion Uwchradd a oedd yn cael eu monitro’n agos ac ar y trywydd iawn i leihau eu lefelau gorwariant, Byddai'r rhain yn cael eu monitro'n agos yn rheolaidd i sicrhau bod eu trefniadau cynllunio ariannol yn gadarn heb unrhyw beryg iddynt lithro'n ôl i'r coch.
· Wrth weithredu mewn ffordd wahanol, gofynnodd un o'r aelodau a oedd ysgolion wedi canfod ffyrdd i arbed arian, ac a ellid defnyddio unrhyw un o'r dulliau hyn o hyn allan?
Esboniodd y Pennaeth Addysg Cynorthwyol fod y Gwasanaeth ar hyn o bryd yn archwilio cydweithrediad Ôl-16 i weld a oedd elfennau y gellid eu darparu'n rhithiol. Roedd hyn yn golygu na fyddai’n rhaid i ysgolion o reidrwydd weithredu ar ffurf y clystyrau cyfredol, ac y gallent o bosib gynnig y ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid - Adroddiad Covid 19 PDF 85 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn bresennol: Sally Jenkins - Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc Caroline Ryan Phillips - Rheolwr Gwasanaeth Cymorth Integredig i Deuluoedd
Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc yr adroddiad ar y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a sut yr oedd wedi bod yn gweithredu yn ystod cyfnod y pandemig. Roedd yr Adroddiad ar y Cynllun Adfer yn manylu ar y dull gweithredu a fabwysiadwyd gan y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ers dechrau'r pandemig, gan gynnwys gwybodaeth am sut yr oedd holl feysydd allweddol y gwasanaeth wedi parhau i gael eu darparu drwy gydol y pandemig. Bu'n flwyddyn anodd a heriol ac roedd y staff wedi mynd i drafferth fawr i ddarparu dilyniant a hefyd i ddatblygu'r gwasanaeth a symud pethau ymlaen.
Gofynnodd yr Aelodau y canlynol: Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English.
• Pa gamau a gymerwyd ym maes cyfiawnder adferol?
Ymatebodd Pennaeth y Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc nad oedd llawer o'r gweithgareddau a ddilynwyd flwyddyn yn ôl wedi gallu parhau yn ystod y pandemig yn anffodus. Fodd bynnag, ni ddefnyddiodd Cyngor Dinas Casnewydd yr hen ddulliau o gosbi, fel casglu sbwriel. Roedd unrhyw weithgaredd yn ystyrlon ac roedd elfen addysgol iddo. Rhoddwyd enghraifft o berson ifanc a gollfarnwyd am achos o losgi bwriadol ac fel rhan o’i gwaith unioni, defnyddiodd ei sgiliau celf i greu poster yn amlygu'r peryglon. Y syniad oedd addysgu'r troseddwyr ifanc fel eu bod yn dysgu o'u cyfnod yn y gwasanaeth cyfiawnder adferol.
• Dywedodd aelod fod yr adroddiad yn amlygu sut yr oedd yr addasiadau a wnaed yn ystod y pandemig i'w gweld yn gweithio mor effeithiol fel eu bod yn bwriadu parhau ar ôl y pandemig. Holodd hefyd beth oedd yr effaith negyddol o ran bod y gwahanol bartneriaid yn defnyddio gwahanol systemau TG.
Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaeth - Cymorth Integredig i Deuluoedd y bu problemau i ddechrau oherwydd y defnydd o wahanol systemau TG ond eu bod wedi'u datrys i ryw raddau. Rydym bellach yn gallu defnyddio’r platfform rhithiol sy’n cael ei ddefnyddio gan yr Heddlu. Yn ddelfrydol byddem i gyd ar systemau cydnaws ond roeddem wedi llwyddo i oresgyn y rhan fwyaf o rwystrau’n amserol. Roeddem i gyd wedi elwa o gyfarfodydd rhithwir. Erbyn hyn, roedd mwy o bresenoldeb yng nghyfarfodydd rhithwir gorchmynion ôl-lys nag o'r blaen ac wrth symud ymlaen byddem yn parhau i gynnal cyfarfodydd rhithwir o ryw fath. Roedd yn amlwg mai cyfarfodydd cyfunol fyddai'r ffordd ymlaen yn y dyfodol.
• Gofynnodd aelod pam nad oeddem wedi croesawu cyswllt wyneb yn wyneb â phobl ifanc a'u teuluoedd eto. Mynegodd bryder ei bod yn anodd asesu deinameg teuluol yn llawn gan ddefnyddio dulliau ymgysylltu rhithwir yn unig ac y gallai fod materion diogelu.
Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc ein bod wedi parhau i gynnal ymweliadau wyneb yn wyneb yn ystod y pandemig. Roedd yr holl ymweliadau wedi'u cynllunio ymlaen llaw gan gynnal asesiad risg ymlaen llaw i sicrhau bod gan y staff y cyfarpar diogelu personol ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Casgliad Adroddiadau Pwyllgorau Following the completion of the Committee reports, the Committee will be asked to formalise its conclusions, recommendations and comments on previous items for actioning. Cofnodion:
• Canmolodd y Pwyllgor faint o wybodaeth am staff y maes gwasanaeth a'u ffordd o weithio a gafwyd. Nodwyd nifer y newidiadau cadarnhaol sy'n deillio o'r ffordd newydd o weithio. Soniwyd nad oedd llawer o wybodaeth am y plant a nifer y plant a'r oedolion ifanc sydd yn y system ar hyn o bryd a'r gwahanol gamau yr oeddent arnynt . Y gobaith yw y gellid cynnwys mwy o wybodaeth mewn adroddiadau yn y dyfodol.
• Roedd y Pwyllgor yn falch o glywed bod y maes gwasanaeth yn gwybod beth yw'r rhan fwyaf o'r heriau a sut y maent yn gweithio drwyddynt. Canmolodd y Pwyllgor hefyd gryfder y berthynas rhwng y timau a'r cyfeiriad y mae eu gwaith yn ei ddilyn.
• Cododd y Pwyllgor bryderon ynghylch materion TG parhaus gyda phartneriaid, yn enwedig gyda'r Heddlu. Y gobaith oedd y byddai hyn yn cael ei ddatrys yn fuan. |
|
Forward Work Programme Update Cofnodion: Yn bresennol: - Neil Barnett (Ymgynghorydd Craffu)
a) Diweddariad ar y Flaenraglen Waith
Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Craffu’r Flaenraglen Waith, a dywedodd wrth y Pwyllgor am y pynciau oedd i’w trafod yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor:
Dydd Mawrth 8 Mehefin 2021 am 10am Adolygiad Diwedd Blwyddyn Cynlluniau Gwasanaeth 2020/21 - Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc - Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol
Dydd Mawrth 22 Mehefin 2021 am 10am Adolygiad Diwedd Blwyddyn Cynlluniau Gwasanaeth 2020/21 - Addysg
Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:
Holwyd am Ganolfan Gyflawni'r Bont (CGB).. Gofynnwyd a allai'r Pwyllgor gael y wybodaeth ddiweddaraf am sut mae'r CGB wedi bod yn gweithredu a'r nodau adfer ehangach. Dywedodd yr Ymgynghorydd Craffu wrth y Pwyllgor y byddai'r cais hwn yn cael ei drosglwyddo i'r Tîm Addysg er mwyn i wybodaeth gael ei throsglwyddo i'r Aelodau.
Daeth y cyfarfod i ben am 11.22 am
|