Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Pobl - Dydd Mawrth, 26ain Mawrth, 2024 10.00 am

Lleoliad: Cyfarfod hybrid

Cyswllt: Samantha Schanzer  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Bright a B Davies

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Dim.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 105 KB

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2024 yn gofnod gwir a chywir o’r cyfarfod.

 

4.

Adroddiad Recriwtio a Chadw pdf icon PDF 117 KB

a)      Cyflwyniad gan Swyddog

b)    Trafodaeth a chwestiynau i’r Pwyllgor

c)     Casgliad ac argymhellion 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddedigion:

Sally Ann-Jenkins (Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Cymdeithasol),
Luke Butcher (Uwch Bartner Busnes AD a DS),
Caroline Ryan-Phillips (Pennaeth Atal a Chynhwysiant),
Mary Ryan (Pennaeth Gwasanaethau i Oedolion),
y Cyng. Jason Hughes (Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Gwasanaethau Oedolion)),
y Cyng. Stephen Marshall (Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Gwasanaethau Plant)),
y Cyng. Debbie Harvey (Aelod Cabinet dros Les Cymunedol)

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Cymdeithasol. 

Trafododd y Pwyllgor y canlynol:

·       Gofynnodd y Pwyllgor am ganran y swyddi gwag. Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y Pwyllgor fod y trosiant blynyddol presennol yn 11.7% a chytunodd i roi'r wybodaeth y gofynnwyd amdani.


·       Holodd y Pwyllgor ynghylch effaith swyddi gwag ar ddarparu gwasanaethau. Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y Pwyllgor fod gan rai meysydd o'r gwasanaeth weithlu sefydlog, ac roedd yr her mewn meysydd penodol gan gynnwys gofal preswyl, y Tîm Amddiffyn Plant a'r Gwasanaeth Ieuenctid. Nodwyd mai'r effaith fwyaf oedd pwysau’n cynyddu ar staff a nodwyd yr her o ran recriwtio a chadw staff sydd â'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol.

·       Nododd y Pwyllgor beryglon sydd ynghlwm wrth ddibynnu ar staff asiantaeth a gofynnodd pa ddewisiadau eraill oedd wedi'u profi. Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y Pwyllgor mai sicrhau gweithlu parhaol oedd y nod, a bod staff asiantaeth yn cael eu defnyddio o fewn gofal preswyl yn bennaf. Hysbyswyd y Pwyllgor bod cyflenwi’n cael ei annog o fewn timau presennol lle bo hynny'n briodol cyn defnyddio asiantaeth. Hysbyswyd y Pwyllgor bod trafodaethau i adeiladu banc rhanbarthol o staff wrth gefn ar gyfer gofal preswyl plant yn parhau, ond roedd yn faes heriol. Tynnwyd sylw at y ffaith bod gwaith wedi'i wneud i reoli taliadau asiantaethau ar draws holl awdurdodau lleol Cymru er mwyn sicrhau bod taliadau'n cael eu cadw’n isel er mwyn lleihau’r awydd ymhlith staff i adael am waith asiantaeth.

·       Holodd y Pwyllgor a fu unrhyw gydweithrediad â'r GIG ynghylch y system fanciau. Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y Pwyllgor nad oeddent yn gweithio gyda'r GIG gan y byddai angen system fwy pwrpasol.

·       Holodd y Pwyllgor a allai annog staff i beidio â cheisio gwaith asiantaeth effeithio ar hyfforddiant mewnol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y Pwyllgor nad oedd y trosiant o 11.7% yn cael ei gyflenwi'n gyfan gwbl gyda staff asiantaeth ac nad oedd y defnydd o staff asiantaeth yn sylweddol. Cawsant wybod bod adolygiadau cyson o raddfeydd cyflog a bod cyflogau yng Nghasnewydd yn uchel yn y cyd-destun rhanbarthol. Nodwyd bod buddion yn cael eu hyrwyddo wrth weithio i'r awdurdod lleol gan gynnwys hyfforddiant a phensiwn.

·        Holodd y Pwyllgor a oedd asiantaethau'n tynnu arian o'r gwasanaeth. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion wrth y Pwyllgor bod staff yn gweithio ar draws y 3 safle preswyl i ddarparu sefydlogrwydd a chynefindra. Tynnwyd sylw at y ffaith bod rhai staff asiantaeth wedi cael eu recriwtio gan CDC a bod rhai staff blaenorol wedi dychwelyd ar ôl gadael am waith asiantaeth.

·       Holodd y Pwyllgor pa waith cydweithredol oedd yn cael ei wneud gydag awdurdodau lleol eraill. Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Adroddiad Cynghorydd Craffu pdf icon PDF 141 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

a.     Diweddariad am y Flaenraglen Waith

Dywedodd yr Ymgynghorydd Craffu wrth y Pwyllgor mai dyma gyfarfod olaf y flwyddyn a bod y cyfarfod nesaf wedi'i drefnu ar gyfer 11 Mehefin 2024.

b.    Materion yn Codi  

Dywedodd yr Ymgynghorydd Craffu wrth y Pwyllgor y bydd rhai eitemau heb eu penderfynu’n cael eu cario ymlaen i'r flwyddyn nesaf.

c.         Adroddiadau Gwybodaeth

Dywedodd yr Ymgynghorydd Craffu wrth y Pwyllgor fod ychydig o adroddiadau gwybodaeth wedi’u dosbarthu ond ni chafwyd unrhyw sylwadau gan y Pwyllgor.

 

6.

Digwyddiad Byw

Cofnodion:

Gellir gweld recordiad o’r cyfarfod yma.