Lleoliad: Hybrid Meeting
Cyswllt: Samantha Schanzer Cynghorydd Craffu
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyng. P Bright
|
|
Datganiadau o ddiddordeb Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 118 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2022 eu derbyn fel cofnod cywir. |
|
Adroddiad Diwedd Blwyddyn y Gwasanaethau Plant PDF 129 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Sally-Anne Jenkins - Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Cymdeithasol Cynghorydd Stephen Marshall – Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol Cynghorydd Jason Hughes – Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol Amlygoddyr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol waith cyson y staff, a diolchodd iddynt. Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Strategol yr adroddiad. Soniodd y Cyfarwyddwr Strategol fod rhan o’r flwyddyn wedi bod dan gyfyngiadau’r pandemig, ond bod y staff wedi parhau i gyflwyno pob gwasanaeth, bron. Tynnodd y Cyfarwyddwr Strategol sylw at ymrwymiad ac ymroddiad y staff i bobl fregus. Hysbysodd y Cyfarwyddwr Strategol y pwyllgor fod Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cynnal gwiriad sicrwydd, a bod eu sylwadau’n dangos fod gwasanaethau wedi eu cyflwyno’n ddiogel ac effeithiol. Teimlai’r Cyfarwyddwr Strategol fod yr adroddiad yn dangos fod staff y Gwasanaethau Plant yn parhau i weithio’n greadigol ac arloesol, ar waethaf yr heriau cyson. Soniodd y Cyfarwyddwr Strategol am y datblygu cyson mewn gofal preswyl, a phwysleisiodd fod ganddynt ymrwymiad cryf i ddatblygu gwell darpariaeth i blant Casnewydd. Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol fod Cyngor Dinas Casnewydd o flaen awdurdodau lleol eraill o ran rhoi’r gorau i elw mewn gofal plant, am eu bod wedi datblygu eu darpariaeth eu hunain. Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y pwyllgor y dylai Fferm Windmill fod ar agor yn fuan, a bod disgwyl i’r adeiladwyr drosglwyddo i’r Gwasanaethau Cymdeithasol ymhen pythefnos. Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y pwyllgor eu bod wedi llwyddo i gefnogi plant oedd yn ceisio lloches nid yn unig yng Nghasnewydd ond yn y rhanbarth oherwydd lefel eu harbenigedd. Roedd y Cyfarwyddwr Strategol yn cydnabod y bu tanwariant, ond dywedodd wrth y pwyllgor nad arwydd oedd hyn nad oedd ar y meysydd gwasanaeth angen yr adnoddau. Dywedodd eu bod wedi derbyn cyllid a grantiau gan Lywodraeth Cymru, a bod hyn wedi helpu’r gyllideb ond ei fod yn dod i ben. Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol eu bod yn awyddus i fwrw ymlaen â bod yn Rhiant Corfforaethol, ond y bu oedi yn genedlaethol. Ategodd y Cyfarwyddwr Strategol ddiolchiadau’r Aelod Cabinet, a llongyfarchodd staff y maes gwasanaeth. Diolchodd y pwyllgor i’r
Cyfarwyddwr Strategol a’i
thimau am eu gwaeth yn wyneb yr heriau, gan ychwanegu
eu gwerthfawrogiad o’r fideos. Cwestiynau: Gofynnodd y pwyllgor a yw’r Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweld unrhyw heriau yn deillio o’r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i adawyr gofal? · Cydnabu’rCyfarwyddwr Strategol y pryder am ddiogelwch pobl ifanc yn y peilot ac unrhyw heriau fyddai’n dod yn ei sgil. Sicrhaodd y pwyllgor mai’r prif ganolbwynt fyddai ar gefnogi pobl ifanc yn y cynllun i aros yn ddiogel. Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol eu bod wedi llwyddo i argyhoeddi Llywodraeth Cymru i newid taliadau o fod yn fisol i bob pythefnos, ac y byddai rhent yn cael ei dalu’n uniongyrchol i landlordiaid. Hysbysodd y Cyfarwyddwr Strategol y pwyllgor eu bod eisoes wedi nodi’r 43 plentyn yng Nghasnewydd fyddai’n gymwys am y cynllun peilot ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Adroddiad Diwedd Blwyddyn y Gwasanaethau Oedolion PDF 542 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwahoddwyd:
Mary Ryan – Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion Cynghorydd Stephen Marshall – Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol Cynghorydd Jason Hughes – Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad. Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol y staff am eu gwaith a’u gwytnwch. Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion yr adroddiad. Roedd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion yn teimlo’n bositif ar waetha’r pwysau cynyddol. Hysbysodd y pwyllgor fod problemau gyda staffio, ac roedd yn bwysig felly cadw hyn mewn cof wrth gyflwyno gwasanaethau er mwyn sicrhau bod y mwyaf bregus yn cael help. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion ei bod yn bwysig sicrhau fod pobl yn cael eu cadw allan o’r ysbytai yn ystod y gaeaf lle bo modd, a’u bod yn ddiogel ac yn derbyn gofal yn eu cartrefi. Hysbysodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion y pwyllgor fod hyn yn cael ei wneud trwy ddefnyddio arian i ganolbwyntio ar ofalwyr sy’n cefnogi pobl yn y gymuned. Hysbysodd Pennaeth y
Gwasanaethau Oedolion y pwyllgor am yr achrediad a enillodd Casnewydd fel Dinas Pobl H?n. Cwestiynau: Gofynnodd y pwyllgor a oedd dyddiad ar gyfer cychwyn datblygu gwasanaeth penodi rhanbarthol. ·
Hysbysodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion y
pwyllgor y buont yn cydweithio’n agos gyda Chaerffili, a bod
y gwasanaeth penodi bron yn talu amdano’i hun. Mae cynllun
dirprwyon ar gael hefyd sy’n helpu i wneud yn si?r fod arian
yn cael ei ddefnyddio’n ddoeth, a bod y rhai sydd angen
dirprwyon wedi cael eu rheoli gan Gaerffili, a’r penodi
fyddai’r cam nesaf. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau
Oedolion eu bod yn fodlon gyda’r bartneriaeth gyda
Chaerffili, a bod angen i’r cynllun dyfu. Esboniodd Pennaeth
y Gwasanaethau Oedolion nad oedd amserlen o ran cael gwasanaeth
rhanbarthol oherwydd bod y gwaith yn dal ymlaen. Gofynnodd y pwyllgor am esboniad o benodi ac o ddirprwyo. ·
Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion fod
gwasanaeth penodi yn wasanaeth a gyflenwir gan y cyngor i
helpu’r sawl nad oedd yn gallu rheoli eu harian eu hunain
trwy roi lwfansau iddynt a’u cefnogi i reoli eu harian eu
hunain. Esboniodd fod gwasanaeth dirprwyo yn ymdrin â’r
sawl oedd â chryn swm o arian er mwyn sicrhau eu bod yn
edrych ar ei ôl yn gywir ac yn y ffordd fwyaf effeithiol fel
ffurf ar ddiogelu. Holodd y pwyllgor beth oedd yn cael ei wneud i ymdrin â phrinder staff a llai o allu mewn gofal cartref. ·
Hysbysodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion y
pwyllgor y cymerwyd rhan mewn grwpiau panel oedd yn edrych i weld
beth ellid ei wneud ar bob lefel. Hysbysodd y pwyllgor fod
Casnewydd yn rhoi ei gwasanaethau cartref allan i ddarparwyr
eraill, a’u bod mewn sefyllfa dda, yn gweithio gydag
amrywiaeth o ddarparwyr. Mynegodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion
bryder am y dyfodol oherwydd bod llawer o ofalwyr yn gadael y
proffesiwn, a hyn yn creu prinder, heb sôn am yr angen i
sicrhau cysondeb i bobl sy’n derbyn gofal Holodd y pwyllgor am grantiau a chyllid i ofalwyr megis grantiau i helpu gyda gwersi ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Casgliad Adroddiadau Pwyllgorau Following the completion of the Committee reports, the Committee will be asked to formalise its conclusions, recommendations and comments on previous items for actioning. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Teimlai’rpwyllgor fod yr adroddiadau yn gynhwysfawr, a diolchwyd i’r Swyddogion a’u timau am eu gwaith caled yn eu meysydd gwasanaeth. Gofynnodd y pwyllgor am i gopi o’r llythyr a ddarparwyd i’r Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc am ganfyddiadau Arolygiaeth Gofal Cymru gael ei ddosbarthu iddynt er gwybodaeth. Gofynnodd y pwyllgor am ddadansoddiad o’r tanwariant yn y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc er gwybodaeth. Gofynnodd y pwyllgor, unwaith i ddyddiad gael ei gadarnhau i drosglwyddo Fferm Windmill, i ymweliad safle gael ei drefnu i’r pwyllgor. Gofynnodd y pwyllgor am i sesiynau gwybodaeth gael eu trefnu iddynt hwy a’r Penaethiaid Gwasanaeth /Cyfarwyddwyr Strategol i roi manylion am y gwahaniaethau rhwng CDAR a CDGRh ac i fynd trwy’r mesuriadau perfformiad cenedlaethol yn fanylach. Gofynnodd y pwyllgor am i wybodaeth am fenter Gartref yn Gyntaf oedd yn benodol i ardal Casnewydd. Cododd y pwyllgor rai sylwadau am gyflwyniadau: · Nodwydfod modd cyflwyno graff a thabl Ardaloedd Risg y Gwasanaeth ar dudalen ar wahan, gyda’r cyd-destun yn cael ei ddarparu i’r ddau adroddiad er mwyn eglurder.
· Nodwydei bod yn gamarweiniol pan oedd ardaloedd a) wedi eu marcio fel rhai wedi eu cwblhau ond lle’r oedd gwaith yn dal i fynd ymlaen a b) fod D/G yn cael ei ddangos lle’r oedd gwaith yn dal i fynd ymlaen. Croesawodd y pwyllgor y bartneriaeth rhwng Aelodau Cabinet a Chyfarwyddwyr/Penaethiaid Gwasanaeth.
|
|
Adroddiad Cynghorydd Craffu PDF 136 KB a) Actions Arising (Appendix 1)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adroddoddyr Ymgynghorydd Craffu wrth y pwyllgor nad oedd Blaen-Raglen Waith ar y pryd, ac y byddai’n cael ei gyflwyno i’r pwyllgor cyn gynted ag y bo modd.
|
|
Dyddiad y Cyfarfod Nesaf: 13 Medi 2022 am 10am.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 13 Medi 2022 am 10am. |