Lleoliad: Hybrid Meeting
Cyswllt: Samantha Schanzer Cynghorydd Craffu
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Y Cynghorydd Bright a'r Cynghorydd Harvey fel yr Aelod Cabinet dros Les Cymunedol.
|
|
Datganiadau o ddiddordeb Cofnodion: Dim.
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 136 KB Cofnodion: Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2023 yn gofnod gwir a chywir.
|
|
Adroddiad Canol Blwyddyn Cynllun Gwasanaeth 2023-24 - Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 149 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Atal a Chynhwysiant
Gwahoddedigion: Mandy Shide - Rheolwr Gwasanaeth Atal a Chynhwysiant Rhianydd Williams – Rheolwr Gwasanaeth Cymorth Integredig i Deuluoedd
Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaeth Cymorth Integredig i Deuluoedd (CID) a Rheolwr y Gwasanaeth Atal a Chynhwysiant (ACh) yr adroddiad.
· Llongyfarchodd y Pwyllgor y Gwasanaeth Ieuenctid am ei nod o gyflawni'r Marc Ansawdd Arian.
· Gofynnodd y Pwyllgor pwy a oedd yn rhoi cymorth y tu allan i oriau i'r Gwasanaethau Ieuenctid. Nododd y Rheolwr Gwasanaeth (ACh) fod y rhan fwyaf o gymorth yn cael ei roi'n fewnol ond bod rhai contractau gyda sefydliadau cymunedol sydd â sgiliau arbenigol.
· Roedd y Pwyllgor yn gwerthfawrogi’r astudiaethau achos wedi’u cynnwys.
· Mynegodd y Pwyllgor bryder bod camau gweithredu anghyflawn yn cael eu hadrodd fel rhai gwyrdd a thynnodd sylw at y cam gweithredu ar gyfer Darpariaeth Wirfoddoli Gadarn. Sicrhaodd y Rheolwr Gwasanaeth (ACh) y Pwyllgor am waith parhaus gyda Chyfathrebu ac Adnoddau Dynol a rhagwelodd y byddai'r camau gweithredu wedi'u cwblhau erbyn y dyddiad cau, a dyna pam yr oeddent wedi’u nodi'n wyrdd. Nododd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol – Gwasanaethau Oedolion y gallai camau gweithredu gael eu dylanwadu gan bartïon allanol ac yn destun oedi a allai newid eu sgôr COG ond tynnodd sylw at y ffaith bod sgoriau gwyrdd yn dangos bod camau gweithredu ar y trywydd iawn. Tynnodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol – Gwasanaethau Plant sylw at y ffaith y byddai'r sylwebaeth ar gyfer camau gweithredu'n cynnig cyd-destun ac yn tynnu sylw at unrhyw anawsterau. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (ACh) wrth y Pwyllgor nad oedd unrhyw risgiau wedi'u nodi ynghylch y prosiect gwirfoddoli.
Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc
Gwahoddedigion: Y Cynghorydd Stephen Marshall - Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol - Gwasanaethau Plant Sally Ann Jenkins - Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Cymdeithasol Mary Ryan - Pennaeth Gwasanaethau Oedolion Rhian Brook – Rheolwr Gwasanaeth Timau Plant
Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaeth y Timau Plant (TP) yr adroddiad.
· Gofynnodd y Pwyllgor am y materion yn ymwneud â chadw staff. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (TP) wrth y Pwyllgor ei fod yn fater cenedlaethol a bod anawsterau o fewn gwasanaethau preswyl yn benodol. Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion mai ychydig iawn o Weithwyr Cymdeithasol mewn hyfforddiant a oedd yn creu diffyg a thynnodd sylw at bwysigrwydd cadw a hyfforddiant a oedd yn cael ei gynnig gan Gyngor Dinas Casnewydd trwy'r Brifysgol Agored.
· Gofynnodd y Pwyllgor a oedd cynlluniau wrth gefn yngl?n â'r prosiect Dielw/Dileu. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (TP) wrth y Pwyllgor ei fod wedi ceisio mynd i'r afael â'r pwysau cost uchaf fel lleihau'r defnydd o staff asiantaeth trwy ddod â staff mewnol i mewn ac adeiladu ar y portffolio presennol, gan nodi Cambridge House yr oedd disgwyl iddo fod yn barod ym mis Gorffennaf 2024.
· Gofynnodd y Pwyllgor beth y gellid ei wneud i gydweithio’n fwy â'r GIG. Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol – Gwasanaethau Plant wybod i'r Pwyllgor am y berthynas agos â'r Gwasanaeth Iechyd a oedd yn ymdrin â sbectrwm ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Casgliad Adroddiadau Pwyllgorau Following the completion of the Committee reports, the Committee will be asked to formalise its conclusions, recommendations and comments on previous items for actioning. Cofnodion: · Gwnaeth y Pwyllgor ddiolch i staff am eu gwaith caled a’u llongyfarch hefyd. · Gofynnodd y Pwyllgor am adroddiad gwybodaeth ynghylch y gwaith sy'n cael ei wneud ar gyfer pobl sy'n gadael gofal, gan gynnwys tai. · Tynnodd y Pwyllgor sylw at bwysigrwydd cyllid ar gyfer y gwasanaeth VAWDASV. · Argymhellodd y Pwyllgor edrych ar ddarpariaeth fewnol amgen ar gyfer Canolfan Ddementia Casnewydd.
|
|
Adroddiad Cynghorydd Craffu PDF 140 KB a) Actions Arising (Appendix 1) b) Forward Work Programme Update (Appendix 2)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: a) Materion yn Codi
Rhoddodd yr Ymgynghorydd Craffu ddiweddariad i'r Pwyllgor ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.
b) Blaenraglen Waith
Dywedodd yr Ymgynghorydd Craffu wrth y Pwyllgor fod dyddiad cyfarfod y Gyllideb wedi'i aildrefnu i 16 Ionawr i sicrhau ei fod o fewn y cyfnod ymgynghori.
|
|
Digwyddiad Byw Cofnodion: |