Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Lleoedd a Materion Corfforaethol - Dydd Llun, 18fed Ionawr, 2021 4.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Neil Barnett  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan diddordeb

Cofnodion:

Dim.

2.

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf pdf icon PDF 563 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd bod cofnodion y cyfarfodydd blaenorol a gynhaliwyd ar 5 a 19 Tachwedd 2020 yn gofnod gwir a chywir.

 

3.

Cyllideb 2021-22 ac Amcanestyniadau Ariannol Tymor Canolig pdf icon PDF 394 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn Bresennol: 

-       Paul Jones - Pennaeth Gwasanaethau’r Ddinas

-       Rhys Cornwall - Pennaeth Pobl a Newid Busnes

-       Meirion Rushworth - Pennaeth Cyllid

-       Owen James – Pennaeth Cyllid Cynorthwyol

-       Amie Garwood-Park – Uwch Bartner Busnes Cyllid

 

Cyllid a Gwybodaeth nad yw’n Ymwneud â Gwasanaethau

Cynnig 9 – Amh – Cynyddu'r dreth gyngor o ragdybiaeth sylfaenol o 4% gan 1% i 5%

Rhoddodd y Pennaeth Cyllid drosolwg o sefyllfa'r gyllideb a oedd wedi dilyn proses debyg i flynyddoedd blaenorol. Roedd y bwlch yn y gyllideb yn £4.1 miliwn ym mis Medi y llynedd. Wedyn, roedd y swyddogion wedi ystyried cynllunio arbedion lawr i hanner miliwn erbyn i'r setliad gael ei gyflwyno, ac felly roedd y gyllideb bron wedi’i mantoli ar yr adeg hon. Roedd yr arian grant a dderbyniwyd ychydig cyn y Nadolig yn £9 miliwn yn well na'r disgwyl. Defnyddiwyd niferoedd poblogaeth fel rhan fawr o'r cyfrifiad hwn ac roedd y niferoedd a ddefnyddiwyd ar gyfer Casnewydd yn hanesyddol wedi bod yn rhy isel. Roedd hyn bellach wedi'i gywiro ac felly roeddem wedi derbyn mwy o arian eleni. Hefyd, yn hytrach na'i gyflwyno fesul cam, cafwyd y grant yn llawn a oedd yn llawer gwell i'r Cyngor eleni. Byddai'r gyllideb derfynol yn cael ei gosod ym mis Chwefror yn dilyn adborth a dderbynnir ac a ystyrir.

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

 

·         Dywedodd yr Aelodau fod yr adroddiad yn nodi bod y Cyngor £9 miliwn yn well ei fyd na'r disgwyl, ond mae hefyd yn nodi "o ystyried yr holl heriau hyn, mae'n rhaid dod o hyd i o leiaf £9 miliwn arall erbyn 2025 yn seiliedig ar ragdybiaethau ac amcanestyniadau cynllunio cyfredol. Gofynnwyd wedyn a yw'r £9 miliwn hwnnw wedi dileu'r angen i ddod o hyd i arbedion pellach ac a ydym yn dal mewn sefyllfa heriol.

 

Dywedwyd y bydd y Cabinet yn penderfynu beth y mae am ei wneud â'r setliadau ychwanegol a gawsom eleni. Mae nifer o bwysau cyllidebol a buddsoddiadau cyllidebol yn y dyfodol sy'n ofynnol ac y mae angen eu hystyried yn y gyllideb. Mae rhagdybiaethau wedi'u gwneud yngl?n â beth fydd y setliadau yn y blynyddoedd i ddod, ac mae angen ystyried y rhagdybiaethau hynny cyn cyfarfod y Cyngor ym mis Mawrth a chyfarfod y Cabinet ym mis Chwefror.

Wedyn, dywedodd y Pennaeth Cyllid, yn seiliedig ar y cynnydd o 1% yn ein Grant Cymorth Refeniw (GCR) bob blwyddyn, y 4% ar y Dreth Gyngor bob blwyddyn a'r pwysau sydd eisoes wedi'u nodi yn y blynyddoedd i ddod, fod gennym y £9miliwn hwnnw o hyd. Mae'r ail ffigur o £9miliwn ar gyfer y blynyddoedd i ddod yn gyd-ddigwyddiad yn unig. Dywedwyd ein bod yn dal mewn sefyllfa heriol.

O ran cyd-destun ychwanegol, dywedwyd wrth y pwyllgor fod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) yn adroddiad drafft y Cabinet, ac mai’r £9miliwn yw'r bwlch yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod a soniwyd hefyd am y GCR ynghyd â’r cynnydd 1% yn y dreth gyngor bob blwyddyn. Rhagdybiaethau cynllunio yw'r  ...  view the full Cofnodion text for item 3.