Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Lleoedd a Materion Corfforaethol - Dydd Llun, 24ain Gorffennaf, 2023 4.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Neil Barnett  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Y Cynghorydd Jane Mudd

 

2.

Datgan diddordeb

Cofnodion:

Dim.

3.

Adolygiadau Perfformiad Diwedd Blwyddyn 2022-23 pdf icon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adfywio a Datblygu Economaidd

Gwahoddedigion:

-       Paul Jones – Cyfarwyddwr Strategol – Yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd

-       Y Cynghorydd James Clarke – Yr Aelod Cabinet dros

-       Tracey Brooks – Pennaeth Adfywio a Datblygu Economaidd

-       Andrew Ferguson – Rheolwr Cynllunio a Pholisi

-       Matt Tribbeck – Rheolwr Adfywio

 

Rhoddodd Pennaeth Adfywio a Datblygu Economaidd drosolwg o'r adroddiad.

Trafodwyd y canlynol:

·   Nododd y Pwyllgor fod Brexit a'r argyfwng costau byw yn effeithio ar dwristiaeth, a gofynnodd am ffigyrau ychwanegol. Nododd Pennaeth Adfywio a Datblygu Economaidd y gallai'r gostyngiad yn y ffigurau fod yn gysylltiedig â'r rhesymau hyn, er bod y dystiolaeth yn anecdotaidd.

·   Mynegodd y Pwyllgor bryderon am beidio â gorffen y bont gludo ar amser, er gwaethaf iddi gael ei hamlygu mewn gwyrdd. Rhoddodd Pennaeth Adfywio a Datblygu Economaidd sicrwydd bod y cynnydd yn 2023 yn foddhaol a bod y prosiect bellach wedi dechrau, gan leihau'r risgiau cysylltiedig.

·   Gofynnodd y Pwyllgor am hen adeilad IAC. Soniodd Pennaeth Adfywio a Datblygu Economaidd am gostau adeiladu cynyddol oherwydd Covid-19 ac ymdrechion parhaus i godi arian ychwanegol.

·   Gofynnodd y Pwyllgor am wybodaeth am y ganolfan frechu dros dro yn Friars Walk. Eglurodd Pennaeth Adfywio a Datblygu Economaidd fod diddordeb wedi'i ddangos yn hen siop Debenhams yng Nghasnewydd, ond mae maint y gofod wedi creu heriau wrth ddod o hyd i denant newydd. Pwysleisiodd y Pennaeth hefyd fod y safle brechu’n un dros dro.

·   Gofynnodd y Pwyllgor am ddangosyddion perfformiad ar gyfer unedau tai fforddiadwy. Soniodd Pennaeth Adfywio a Datblygu Economaidd am ddefnyddio'r flwyddyn ariannol bresennol fel meincnod a mynegodd yr angen am ddangosydd canrannol ar gyfer nifer yr unedau.

·   Gofynnodd y Pwyllgor am adroddiadau ar gyfraniad y Cyngor i'r cyfraniadau 106. Cadarnhaodd Pennaeth Adfywio a Datblygu Economaidd y gellir darparu'r wybodaeth hon.

·   Roedd y Pwyllgor o’r farn y dylai’r gwaith o gwblhau'r Cynllun Rheoli Cyrchfannau fod yn flaenoriaeth uwch. Eglurodd Pennaeth Adfywio a Datblygu Economaidd fod y cynllun yn rhan o ystod ehangach o gynlluniau rhyng-gysylltiedig. Roedd y Pwyllgor eisiau diweddariadau cynnydd ar y gwaith a wnaed, a nododd y Pennaeth y bydd y cynlluniau hyn yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Craffu i'w holi.

·   Gofynnodd y Pwyllgor am fwy o wybodaeth am storio'r Llong Ganoloesol. Soniodd y Rheolwr Adfywio am yr angen am le storio gyda ffactorau allweddol penodol.

·   Gofynnodd y Pwyllgor a yw'r chwiliad am eiddo wedi'i gyfyngu i eiddo'r Cyngor. Eglurodd y Rheolwr Adfywio fod yr holl opsiynau sydd ar gael yn cael eu hystyried.

·   Holodd y Pwyllgor am gael mwy o gyllid ar gyfer y prosiectau. Soniodd Pennaeth Adfywio a Datblygu Economaidd am y gronfa Ffyniant Gyffredin a'r gronfa Ffyniant Bro, gan nodi y bydd y penderfyniadau ar gyllid yn dibynnu ar fwy o wybodaeth.

·   Nododd y Pwyllgor lwyddiannau wrth adfer eiddo i’w defnyddio eto. Pwysleisiodd Pennaeth Adfywio a Datblygu Economaidd mai eiddo masnachol yw'r rhain yn bennaf, a bod rhestr flaenoriaeth o eiddo. Mae'r Swyddog Gorfodi yn gyfrifol am wneud cynnydd ar yr eiddo hwn, ond bydd yn cymryd amser.

·   Gofynnodd y Pwyllgor am gynlluniau i greu  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Adroddiad Cynghorydd Craffu pdf icon PDF 135 KB

a)      Forward Work Programme Update (Appendix 1)

b)      Actions Plan (Appendix 2)

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddedig:

- Neil Barnett – Ymgynghorydd Craffu

 

a)    Diweddariad ar y Flaenraglen Waith

 

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Craffu’r Flaenraglen Waith, a dywedodd wrth y Pwyllgor am y pynciau a oedd i’w trafod yn y ddau gyfarfod pwyllgor nesaf:

 

Dydd Llun 11Medi 2023, yr eitem ar yr agenda;

·   Cynllun Datblygu Lleol Newydd - Strategaeth a Ffefrir

 

Dydd Llun 27 Tachwedd 2023, yr eitem ar yr agenda;

·   Adolygiadau Canol Blwyddyn Cynlluniau Gwasanaeth 2023-24

 

b)    Taflen Weithredu

 

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Craffu y daflen weithredu i'r Pwyllgor.

 

 

5.

Recording of the meeting

Cofnodion: