Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Lleoedd a Materion Corfforaethol - Dydd Llun, 11eg Medi, 2023 2.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Neil Barnett  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Dim.

2.

Datgan diddordeb

Cofnodion:

Dim.

3.

Strategaeth Ddewisol y Cynllun Datblygu Lleol Newydd ar gyfer Ymgynghori pdf icon PDF 208 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddedigion:

-       Y Cynghorydd James Clarke – yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol, Rheoleiddio a Thai

-       Andrew Ferguson – Rheolwr Cynllunio a Pholisi

-       Victoria Gee – Rheolwr Polisi Cynllunio

 

Rhoddodd y Rheolwr Cynllunio a Datblygu drosolwg o'r adroddiad.

 

Gofynnodd y Pwyllgor y canlynol: 

  • Holodd y Pwyllgor am y posibilrwydd o wneud arwyddion stryd yn ddwyieithog. Eglurodd y Rheolwr Cynllunio a Datblygu ei fod y tu allan i gwmpas y Cynllun Datblygu Lleol Newydd. Fodd bynnag, soniodd y Cyfarwyddwr Strategol ei fod yn rhan o'u gwaith Cymraeg, a byddai arwyddion stryd newydd yn ddwyieithog pan fydd arwyddion ffyrdd Saesneg yn cael eu disodli.

 

  • Cydnabu'r Pwyllgor yr angen am 10,000 o gartrefi yn ystod y 10 mlynedd nesaf a gofynnodd am y broses o wneud penderfyniadau ar gyfer datblygu ardaloedd Llain Las.  Dywedodd y Rheolwr Cynllunio a Datblygu fod penderfyniadau’n ymwneud â pharthau llain las yn cael eu trin gan y Cynllun Datblygu Strategol, a baratowyd gan Gyd-bwyllgorau Corfforaethol. Cafodd y Cynllun Datblygu Lleol ei weithredu cyn y Cynllun Datblygu Strategol.
  • Holodd y Pwyllgor a oes angen i ardaloedd Llain Llas arfaethedig fynd trwy ymgynghoriad cyhoeddus neu gydymffurfio â'r Cynllun Datblygu Strategol. Eglurodd y Rheolwr Cynllunio a Datblygu fod materion Llain Las posibl yn cael eu hymchwilio wrth ystyried safleoedd ymgeisiol. Fe wnaethant hefyd dynnu sylw at alwad am safleoedd posibl ac ystyried defnydd safle am wahanol resymau.
  • Gofynnodd y Pwyllgor a oedd angen mwy o awgrymiadau cyhoeddus ar gyfer safleoedd i gyrraedd y targed o 10,000 o gartrefi newydd. Eglurodd y Rheolwr Cynllunio a Datblygu fod safleoedd allweddol, yn ogystal â dyraniadau nad ydynt wedi'u dosbarthu fel safleoedd allweddol, yn cael eu hystyried, ynghyd ag adeiladau oedd eisoes â chaniatâd cynllunio.
  • Gofynnodd y Pwyllgor am y ffactorau sy'n pennu'r swm tai gofynnol.  Soniodd y Rheolwr Cynllunio a Datblygu eu bod yn edrych ar ystadegau poblogaeth a datblygu strategaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth i sicrhau darpariaeth.  Fe wnaethant dynnu sylw at uchelgais a chyflawnadwyedd y cynllun, gyda'r ymgynghoriad yn caniatáu i bobl gytuno neu anghytuno â'r amcangyfrifon.
  • Holodd y Pwyllgor am y mathau o ddarpariaeth tai oedd yn ofynnol a'r niferoedd. Dywedodd y Rheolwr Cynllunio a Datblygu y byddai amrywiaeth o fathau o dai, yn seiliedig ar Asesiad o Anghenion y Farchnad Dai Leol, yn cael eu ceisio ac y byddai'r asesiad hwnnw'n cael ei gynnal yn fuan.
  • Gofynnodd y Pwyllgor a oedd anghenion y farchnad yn y dyfodol yn cael eu hystyried. Nododd y Rheolwr Cynllunio a Datblygu fod datblygiadau â nifer o dai arnynt yn cael eu hystyried i ddefnyddio cyn lleied o dir â phosibl.
  • Cydnabu'r Pwyllgor y newid i Gasnewydd tuag at ddod yn ddinas dechnoleg a thrafododd yr effaith bosibl ar ddemocratiaeth. Eglurodd y Rheolwr Cynllunio a Datblygu mai'r nod oedd dyrannu tir a chyfleoedd.
  • Holodd y Pwyllgor ynghylch gorfodadwyedd anghenion tai fforddiadwy a amlygwyd yn yr adroddiad. Tynnodd y Rheolwr Cynllunio a Datblygu sylw at y targedau uchelgeisiol a'r gwaith parhaus o fonitro'r ddarpariaeth er mwyn deall y realiti’n well. Dywedon nhw pe  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2023 a 24 Gorffennaf 2023 pdf icon PDF 151 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2023 yn gofnod gwir a chywir. Derbyniwyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 24 Gorffennaf 2023 fel cofnod gwir a chywir, gyda'r diwygiad canlynol:

 

Tudalen 13 - Holodd y Pwyllgor am yr amserlen ar gyfer adeiladu'r ganolfan hamdden a dymchwel yr hen safle. Soniodd Pennaeth Adfywio a Datblygu Economaidd am gyfnod adeiladu 18 mis o hyd a nododd fod gwahanol dimau yn trin y cyllid ar gyfer dymchwel ac adeiladu.

 

5.

Adroddiad Cynghorydd Craffu pdf icon PDF 135 KB

a) Diweddariad ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol (Atodiad 1)

b) Cynllun Gweithredu (Atodiad 2)

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddedig:

-          Samantha Schanzer – Ymgynghorydd Craffu

 

a)    Diweddariad ar y Flaenraglen Waith

 

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Craffu’r Flaenraglen Waith, a dywedodd wrth y Pwyllgor am y pynciau a oedd i’w trafod yn y ddau gyfarfod pwyllgor nesaf:

 

Dydd Llun 27 Tachwedd 2023, yr eitem ar yr agenda;

  • Adolygiadau Canol Blwyddyn Cynlluniau Gwasanaeth 2023-24 ar gyfer:
    • Yr Amgylchedd a Diogelu’r Cyhoedd
    • Tai a Chymunedau
    • Seilwaith

 

Dydd Mercher 8 Tachwedd 2023, eitemau'r agenda;

  • Adolygiadau Canol Blwyddyn Cynlluniau Gwasanaeth 2023-24 ar gyfer:
    • Adfywio a Datblygu Economaidd
    • Cyllid
    • Y Gyfraith a Safonau
    • Pobl, Polisi a Thrawsnewid

 

Trafododd y Pwyllgor amser dechrau'r cyfarfodydd yn y dyfodol, gan gytuno i ddiwygio cyfarfodydd pwyllgor yn y dyfodol i ddechrau am 2pm.

 

b)    Taflen Weithredu

 

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Craffu y daflen weithredu i'r Pwyllgor. Nodwyd eu bod yn dal i ddisgwyl am ymatebion i'r ymholiadau a wnaed ar gyfer Adolygiadau Diwedd Blwyddyn Cynlluniau Gwasanaeth Adfywio a Datblygu Economaidd, ond bod y rhain yn cael eu siasio. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad pellach ar ddau gam gweithredu yn y Daflen Weithredu:

 

17 Ebrill 2023:

Eitem Agenda: Cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2023

Cam gweithredu - “Gofynnodd y Pwyllgor am y wybodaeth ddiweddaraf am sgyrsiau gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig sy'n cyfrannu tuag at y gwasanaeth Warden Diogelwch Cymunedol.”

 

Dywedodd y Pwyllgor nad oedd yr ymateb yn egluro a ofynnwyd i'r Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig gyfrannu tuag at y gwasanaeth a ph’un a oeddent wedi gwrthod neu dderbyn. Gofynnodd y Pwyllgor am ddiweddariad ynghylch a oedd unrhyw sgyrsiau wedi digwydd gyda'r Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i geisio cyllid a beth oedd y canlyniad.

 

10 Gorffennaf 2023:

Eitem Agenda: Adolygiadau Diwedd Blwyddyn Cynlluniau Gwasanaeth 2022/23

Cam Gweithredu:  “Seilwaith - Gofynnodd y Pwyllgor am gynllun i fynd i'r afael â chyflwr gwael ffyrdd ac i wella'r rhwydwaith ffyrdd, yn enwedig gan fod mwy o draffig a materion eraill yn effeithio arnynt. Cadarnhaodd y Pwyllgor y byddai’r Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd yn cael ei gyflwyno i’r Aelodau ym mis Chwefror 2024, ond gofynnodd yr Aelodau i ddata ychwanegol gael ei anfon at y Pwyllgor cyn hynny.

 

Gofynnodd y Pwyllgor a wnaed dadansoddiad cost a budd i benderfynu a yw'n briodol parhau i atgyweirio ffyrdd gydag atgyweiriadau adweithiol neu a oedd yn fwy priodol buddsoddi mewn rhai newydd gan negyddu'r costau cynnal a chadw adweithiol parhaus yn y tymor byr / canolig a beth oedd y meini prawf a ddefnyddir ar gyfer gwneud y penderfyniadau hynny.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Craffu y byddent yn cysylltu â’r swyddogion perthnasol am y ceisiadau hyn.

 

6.

Cyfarfod byw

Cofnodion: