Agenda and minutes

Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu - Dydd Iau, 20fed Medi, 2018 10.00 am

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Daniel Cooke  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Gadeirydd y Pwyllgor, y Cynghorydd John Guy. Yn absenoldeb y Cadeirydd, hysbyswyd y Pwyllgor y byddai angen enwebu aelod arall o'r Pwyllgor i weithredu fel Cadeirydd yn y cyfarfod hwn, a phleidleisio ar hynny. Enwebodd y Pwyllgor y Cynghorydd Miqdad Al-Nuaimi i Gadeirio’r cyfarfod, a chytunodd y Pwyllgor yn unfrydol i hynny.

 

2.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim

 

3.

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2018 pdf icon PDF 136 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2018 yn gywir, yn amodol ar gywiro'r canlynol:

 

                        Eitem 2, 'Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2018’:

Dywedodd y Pwyllgor nad oedd y cais am fanylion ynghylch cyfreithlondeb y gwaharddiad cyffredinol ar gardota a oedd wedi cael ei weithredu gan drefi fel Swindon a Kettering wedi'i gynnwys yn y cofnodion, ac y gofynnwyd am hynny yng nghyfarfodydd mis Mehefin a mis Gorffennaf.  

 

4.

Swyddfa Archwilio Cymru - 'Trosolwg a Chraffu - Yn Addas i'r Dyfodol?' Adroddiad pdf icon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn bresennol;

-        Alison Rees – SAC - Archwilydd Perfformiad

-        Non Jenkins – SAC - Rheolwr Rhanbarthol Llywodraeth Leol (Rhanbarth De-ddwyrain Cymru) 

-        Elizabeth Blayney – Rheolwr Craffu a Llywodraethu

-        Eleanor Mulligan – Rheolwr Democratiaeth a Chyfathrebu

 

Cyflwynodd cynrychiolwyr SAC yr Adroddiad 'Trosolwg a Chraffu – Addas i'r Dyfodol? 'yn Atodiad 1 ac amlinellu prif ganfyddiadau'r adroddiad a'r chwe chynnig a oedd yn cael eu hawgrymu i wella trefniadau Craffu Cyngor Dinas Casnewydd. 

 

Amlinellodd y Rheolwr Democratiaeth a Chyfathrebu Ymateb y Rheolwyr i gynigion SAC ar gyfer gwella, yn Atodiad 2.  Dywedwyd bod yr hyn a oedd yn cael ei argymell eisoes wedi'i adlewyrchu yn yr Adroddiad Blynyddol Craffu, yn y Camau ar gyfer eleni, a oedd wedi cael eu hystyried a'u cymeradwyo gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod diwethaf. 

 

Amlinellir cwestiynau'r Pwyllgor a'r ymatebion cysylltiedig isod:   

 

             Holodd y Pwyllgor a allai SAC gynnig enghreifftiau o arfer da wrth ymgynghori â'r cyhoedd i'r Cyngor, yn enwedig o ran sut y gallai'r Pwyllgorau ymgysylltu'n fwy effeithiol â'r cyhoedd, a sut i nodi pwy i'w gwahodd i gyfarfodydd ac annog y cyhoedd i gymryd rhan yn y broses. Gan fod yr adolygiad yn cael ei gynnal ar raddfa genedlaethol, dywedwyd wrth yr Aelodau y gellid rhannu enghreifftiau o arfer da â'r Cynghorau'n ddiweddarach.  Byddai cyfarfod rhwydwaith yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd i rannu enghreifftiau o arfer da, lle gellid cynnwys hyn.  Cytunodd cynrychiolydd SAC i ystyried casglu enghreifftiau penodol a'u dosbarthu i'r Awdurdodau Lleol. Roedd SAC yn parhau i ddweud eu bod yn herio'r holl Awdurdodau Lleol i fynd i mewn i'r Gymuned i gynnal cyfarfodydd craffu, fel ei bod hi'n haws i'r cyhoedd gymryd rhan.

 

             Trafododd y Pwyllgor yr argymhellion a'r sylwadau yn yr adroddiad a oedd yn ymwneud ag ymgysylltu â'r Weithrediaeth. Cytunai'r Pwyllgor â'r sylwadau yn yr adroddiad a nodai fod Craffu yn tueddu i gyfeirio cwestiynau i sylw Swyddogion yn hytrach na'r Weithrediaeth. Cytunai'r Pwyllgor fod angen i bob Pwyllgor fynd i'r afael â hyn, gan gredu y byddai angen 'newid diwylliant' er mwyn gweithredu rhai o'r argymhellion yn effeithiol. 

 

             Bu'r Pwyllgor yn trafod cyfathrebu rhwng y Cabinet a Chraffu, gan nodi bod blaenraglen waith y Cabinet yn fwy deinamig na'r Rhaglen Waith Craffu, a bod hynny'n golygu y bu'n anodd alinio'r rhaglenni gwaith yn y gorffennol.  Cytunai'r Pwyllgor fod angen gwneud gwaith pellach i alinio'r rhaglenni gwaith er mwyn datblygu perthynas waith effeithiol rhwng Craffu a'r Cabinet. Eglurodd y Rheolwr Democratiaeth a Chyfathrebu fod yr adran wedi cael ei hailstrwythuro yn ddiweddar a bod hyn wedi effeithio ar yr amser yr oedd hi'n ei gymryd i weithredu newidiadau.  Roedd meysydd gwasanaeth Democratiaeth a Chyfathrebu wedi'u huno o dan un adran, ac roedd newidiadau eraill yn cynnwys creu Swyddfa Cabinet ar wahân gyda Rheolwr Swyddfa penodedig a fyddai'n rheoli Rhaglen Waith y Cabinet.

 

      Nododd y Pwyllgor bwysigrwydd gwella'r trefniadau i ymgynghori ar y gyllideb flynyddol, gan nodi'n arbennig argymhellion blaenorol y Pwyllgor y dylid cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) Pillgweli - Monitro Gweithredu pdf icon PDF 138 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn bresennol;

-        Jonathan Keen – Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio - Yr Amgylchedd a Chymunedau

-        Yr Arolygydd Jason Williams – Heddlu Gwent 

-        Tracey Holyoake – Cynghorydd Ward Pillgwenlli 

 

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio yr adroddiad i'r Pwyllgor ac amlinellodd mai diweddariad oedd yr adroddiad ar gynnydd wrth weithredu'r PSPO ym Mhillgwenlli. Roedd y Pwyllgor wedi gofyn am y diweddariad yn ei gyfarfod blaenorol lle bu'n trafod y PSPO. Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am gyfyngiadau'r Gorchymyn, gweithredu'r cyfyngiadau hynny a'r ffigurau ar gyfer y defnydd o Hysbysiadau Cosb Benodedig (FPNs) a'r heriau wrth orfodi. Esboniodd y Swyddog y prif bwyntiau i'r Pwyllgor:

 

             Tynnodd y Swyddog sylw at adran tri yr adroddiad, ynghylch gwasgaru pobl a oedd yn ymgasglu mewn grwpiau o dri neu fwy. Eglurodd y Swyddog fod mwyafrif y grwpiau'n gwasgaru heb orfod cyflwyno FPN.  Amlinellodd y Swyddog fod hyn yn adlewyrchu effaith y PSPO, gan fod aelodau o'r cyhoedd, wrth ofyn iddynt beidio yfed alcohol, neu ildio cynwysyddion alcohol, wedi gwneud hynny heb fod angen cyflwyno FPN.

 

             Roedd wyth FPN wedi'u cyflwyno, saith am beidio rhoi'r gorau i yfed ac un am beidio gwasgaru.

 

             Bu heriau yn y flwyddyn gyntaf, ac roedd hyn wedi'i drafod yn adran pump - yr her amlycaf oedd grwpiau a oedd yn gwrthod gwasgaru. Byddai rhai grwpiau'n gwasgaru am gyfnodau byr cyn ffurfio gr?p unwaith eto. Nid oedd Swyddogion yr Heddlu yn si?r am ba mor hir yr oedd angen i'r gr?p wahanu, ac roedd cyngor wedi'i geisio gan gyfreithwyr Cyngor ynghylch sut i weithredu yn y sefyllfaoedd hyn. Y cyngor cyfreithiol oedd bod yn rhaid i'r Heddlu ddangos eu bod wedi bod yn rhesymol os oedd FPN yn cael ei gyflwyno ar ôl i gr?p ailffurfio. Er enghraifft, roedd angen i'r Heddlu gyfleu'n glir am ba mor hir yr oedd angen i'r gr?p aros ar wasgar wrth ofyn i'r gr?p wasgaru. Pe bai'r gr?p yn ailffurfio o fewn y cyfnod hwn, gallent gyflwyno FPN.  Rhagwelwyd y byddai'r cadarnhad hwn yn rhoi mwy o hyder i'r Heddlu gyflwyno FPN lle bo hynny'n briodol ac y angenrheidiol. 

 

             Ni chafwyd unrhyw alwadau gan y Wardeiniaid Diogelwch Cymunedol i ychwanegu neu ddileu unrhyw gyfyngiadau. Credai'r Rheolwr fod y cyfyngiadau wedi'u geirio'n glir bellach ac y gellid gwneud defnydd helaethach ohonynt lle bo hynny'n briodol ac yn angenrheidiol.

 

Cyflwynodd yr Arolygydd ei hun i'r Pwyllgor. Dywedodd wrth yr Aelodau fod yr Heddlu wedi adolygu'r PSPO. Dywedwyd wrth yr aelodau bod y GMC yn arf ardderchog, yn enwedig er mwyn ymdrin â grwpiau o bobl ifanc. Er cydnabod bod nifer yr FPNs a roddwyd yn isel, roedd y Swyddogion yn defnyddio proses y PSPO i ofyn i bobl wasgaru heb orfod rhoi FPN. Ychwanegodd y bu peth rhwystredigaeth ynghylch pryd i roi Hysbysiad Cosb Benodedig, ond roeddem wedi ymdrin â hynny drwy wrando ar gyngor cyfreithwyr y Cyngor. Dywedodd yr Arolygydd fod yr Heddlu eisiau i'r PSPO barhau, ond o bosib gyda  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Adroddiad Blynyddol drafft Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2017/18 pdf icon PDF 158 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn bresennol

       James Harris – Cyfarwyddwr Strategol – Pobl 

       Sally Anne Jenkins – Pennaeth Plant a Phobl Ifanc

       Jenny Jenkins - Rheolwr Gwasanaeth 

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Strategol – Pobl - yr adroddiad i’r Pwyllgor, a dywedodd fod fformat yr adroddiad yn unol ag argymhellion Llywodraeth Cymru. Dywedwyd wrth y Pwyllgor mai'r bwriad fu gwneud yr adroddiad yn symlach, ac yn fwy hydrin a darllenadwy. Y gair olaf gan y Cyfarwyddwr Strategol oedd bod yr adroddiad ar ffurf drafft ar hyn o bryd ac, ar sail  sylwadau ac argymhellion y Pwyllgor, y byddai'r drafft yn cael ei ddiweddaru cyn ei gyflwyno gerbron y Cabinet a'r Cyngor. 

 

Trafododd yr Aelodau y canlynol:

 

       Canmolodd yr Aelodau'r Swyddog am lunio adroddiad a oedd mor hygyrch a rhwydd ei ddarllen. Nodwyd bod nifer o ystadegau ar dudalen 31-33, ond nad oedd unrhyw wybodaeth er mwyn cymharu. Argymhellodd y Pwyllgor y dylid cynnwys ffigurau'r flwyddyn gynt a chyflawniadau awdurdodau lleol eraill er cymhariaeth. Gwnaeth yr aelodau sylw hefyd ynghylch y ddibyniaeth ar arolygon. 

 

       Trafododd yr Aelodau ymweliadau Rota y Gwasanaethau Cymdeithasol, sef ymweliadau â chartrefi plant ac oedolion. Holodd y Pwyllgor a oedd yr Aelodau'n cynnal digon o ymweliadau, a pha werth yr oedd yr ymweliadau hynny'n ei ychwanegu. Eglurodd y Swyddog fod ymweliadau'n cael eu cynnal unwaith y mis, ac mai pwrpas yr ymweliadau oedd cael adborth gan y staff a'r preswylwyr ac edrych ar y cyfleusterau i weld a oedd yr adeiladau'n addas i'r diben. Roedd ymweliadau gan yr Aelodau wedi creu gwerth ac adborth, a adroddwyd yn ôl i'r cartrefi, ac roedd y camau a gymerwyd yn briodol.

 

       Roedd yr Aelodau'n falch o'r gydnabyddiaeth a roddwyd i reolwr Oaklands yn yr adroddiad, gan ddweud bod hynny'n enghraifft dda o waith cymunedol. Yna holodd yr Aelodau ynghylch Gwasanaeth Maethu De Ddwyrain Cymru, gan ofyn a oedd perygl i blant gael eu lleoli y tu allan i'w cymuned leol. Cyfeiriwyd at enghraifft o blentyn a leolwyd ym Mlaenau Gwent, a allai olygu bod cadw cysylltiad â'r teulu yn her. Gofynnodd y Pwyllgor hefyd am sicrwydd bod plant a oedd yn cael eu lleoli gan gwmnïau preifat wedi derbyn gofal a threfniadau monitro o'r un ansawdd ag y byddent gyda'r Cyngor. Hysbyswyd yr Aelodau fod y boblogaeth a oedd yn maethu yn heneiddio, felly roedd angen recriwtio gofalwyr maeth newydd. Roedd pob rhanbarth wedi edrych ar yr hyn y gallent ei gyfrannu gyda'i gilydd, ac ar yr hyn a oedd yn gweithio i bob Awdurdod Lleol. Roedd parodrwydd i gydweithio a rhannu adnoddau er mwyn gwella ansawdd gwasanaethau ar draws y pum awdurdod. Mae'r Cyngor yn rheoli cyswllt plant yn ein gofal â'u teuluoedd, a bydd teuluoedd yn cael cefnogaeth i gadw cyswllt. Dywedwyd wrth yr Aelodau hefyd nad oedd unrhyw wahaniaeth o gwbl rhwng y gefnogaeth a gynigir yn y sector cyhoeddus a'r gefnogaeth yn asiantaethau'r sector preifat, a bod mynediad yr un peth i bob plentyn. 

 

       Gofynnodd y Pwyllgor am gael cynnwys rhagor o wybodaeth ynghylch trosglwyddo  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Adroddiad Cynghorydd Craffu pdf icon PDF 129 KB

a)       Forward Work Programme Update (Appendix 1)

b)       Actions Arising (Appendix 2)

c)       Information Reports

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn bresennol:

                                 -   Daniel Cooke – Cynghorydd Craffu

 

a) Diweddariad ar y Flaenraglen Waith

Cyflwynodd y Cynghorydd Craffu y Flaenraglen Waith, a rhoi gwybod i'r Pwyllgor pa bynciau fyddai'n cael eu trafod yn nau gyfarfod nesaf y pwyllgor:

 

Dydd Iau 15 Tachwedd 2018

Roedd yr eitemau ar yr agenda yn cynnwys:

-   Y Cynllun Corfforaethol – Monitro Argymhellion

-   Strategaeth Rheoli Perfformiad – Monitro Argymhellion

-   Adolygu Ymgynghori ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd

 

Yn dilyn trafodaeth ynghylch yr angen i sicrhau cynrychiolydd o'r Weithrediaeth ar gyfer yr eitem ar yr agenda a oedd yn ymwneud â'r Cynllun Corfforaethol, penderfynodd y Pwyllgor y dylid gwahodd Arweinydd y Cyngor i fod yn bresennol yn y cyfarfod ar 15 Tachwedd ar gyfer Eitem Y Cynllun Corfforaethol - Monitro Argymhellion ar yr Agenda. 

 

Dydd Iau 31 Ionawr 2019

Roedd yr eitem ar yr agenda yn cynnwys:

-   Cynigion Cyllideb Ddrafft y Cabinet 2019/2020

 

b) Camau Gweithredu'n Codi

 

Gofynnodd y Pwyllgor am gael cynnwys y daflen camau gweithredu wrth ymyl y cofnodion ar flaen yr agenda, yn hytrach nag yn y cefn. Dywedwyd hefyd fod llawer o'r camau'n disgwyl ymateb. Dywedodd y Cynghorydd Craffu wrth y Pwyllgor fod llythyrau'n cael eu hanfon at y Swyddog perthnasol i'w gweithredu lle bo'n briodol. Lle bo camau heb eu cwblhau, byddent yn cael eu cadw ar y daflen camau gweithredu nes i'r Pwyllgor dderbyn ymateb digonol. 

 

Gofynnodd yr Aelodau hefyd a ellid cyflwyno adroddiadau'n fertigol yn hytrach na llorweddol. Dywedodd y Cynghorydd Craffu wrth y Pwyllgor nad oedd hi bob amser yn bosibl cyflwyno adroddiadau'n fertigol. 

 

O ran yr argymhellion a wnaed i'r Cabinet ar Eitem 3 y cofnodion 'Proses y Gyllideb ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd - Monitro Argymhellion', nododd y Pwyllgor nad oedd eto wedi derbyn ymateb oddi wrth y Cabinet.  Yn benodol, roedd y Pwyllgor wedi gwneud nifer o argymhellion ynghylch y trefniadau i ymgynghori â'r cyhoedd ar y gyllideb, a fyddai'n effeithio ar ymgynghoriad eleni ym mis Rhagfyr.  Nododd y Cynghorydd Craffu y byddai'r ymateb yn cael ei roi yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.  

 

Gwnaed ymholiad ychwanegol ynghylch pam roedd Craffu yn dal i ddisgwyl am ymatebion yn gysylltiedig â phroses y gyllideb. Dywedodd y Cynghorydd Craffu wrth y Pwyllgor mai ond yn ddiweddar y cafodd y broses ei sefydlu i alluogi'r Cabinet i dderbyn llythyrau Craffu, a byddai'r ymateb yn gynt yn y dyfodol.

 

 

c)      Adroddiadau Gwybodaeth  

         Dim. 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.00 pm