Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Daniel Cooke Cynghorydd Craffu
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr 2018 PDF 98 KB Cofnodion: Cadarnhawydcofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr 2018 fel rhai cywir yn amodol ar newid y cofnod presenoldeb i gyfleu ymddiheuriadau i’r Cynghorydd Kate Thomas am ei bod yn y cyfarfod.
|
|
Cyllideb 2019/20 a Chynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) PDF 155 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid drosolwg byr o broses y gyllideb, a dweud fod y gyllideb wedi adeiladu ar y Cynllun Ariannol Tymor Canol, gan ddefnyddio rhagdybiaethau allweddol i gyfoesi’r CATC lle bo angen. Hysbysodd y Swyddog y Pwyllgor fod galw cynyddol ym meysydd gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Addysg, oedd yn gofyn am wneud addasiadau. Drafftiwyd cyllideb o derfyn arian yn haf 2018 ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/2020. Yna cafodd y Cyfarwyddwyr Strategol a’r Penaethiaid Gwasanaeth darged penodol o’r gyllideb gyfan am y flwyddyn, ac yr oedd gofyn i Swyddogion ddarparu eu gwasanaethau o fewn y gyllideb benodol honno. Gwnaed yr Uwch-Swyddogion yn ymwybodol o’r cyllidebau arian yn gynnar yn yr hydref, a chafwyd sgyrsiau gydag Aelodau’r Cabinet i weld ym mha feysydd y gellid gwneud arbedion. Yna, penderfynwyd ar yr achosion busnes, a dechreuodd y prosesau ffurfiol o ran penderfyniadau gan Aelodau Cabinet a’r ymgynghoriadau cyhoeddus. Yr un broses oedd hon a ddefnyddiodd yr awdurdod dros y blynyddoedd blaenorol, ac yr oedd yn broses sy’n para trwy’r flwyddyn. Y brif her oedd yn wynebu’r tîm cyllid oedd y safbwynt tymor canol, ond yr oedd y swyddogion yn cynnal sgyrsiau cyson gyda meysydd gwasanaeth er mwyn eglurder a rhoi dealltwriaeth am y rhagdybiaethau a chynlluniau at y dyfodol. Esboniodd y Pennaeth Cyllid ei bod yn anodd ond nid yn amhosib cynllunio at y dyfodol. Er mwyn deall yn iawn effeithiau pwysau ac arbedion ar y gyllideb, yr oedd y Cyngor yn gyson yn adolygu a mireinio ei ragdybiaethau. Gwnaed hyn yn fwy anodd gan daliadau unwaith-am-byth a grantiau oedd ar gael trwy gydol y flwyddyn. Yn y flwyddyn flaenorol, gwnaed taliad unwaith-am-byth i ysgolion, ac yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, bydd taliad tebyg ar gael i Ofal Cymdeithasol. Yr oedd hyn wedi caniatáu i’r Cyngor fwrw ymlaen â rhai o’r arbedion angenrheidiol, ond fe’i gwnaeth hefyd yn anodd cynllunio. Esboniodd y Pennaeth Cyllid, wrth greu cynigion y gyllideb a’r achosion busnes rhaid oedd i’r Swyddogion wneud rhai rhagdybiaethau, ar sail y wybodaeth fwyaf manwl oedd ar gael iddynt. Yr oedd y tîm cyllid hefyd yn rhan o unrhyw drafodaethau am gynhyrchu incwm petai hynny yn ddeilliant a fwriadwyd o’r achos busnes. Gofynnodd yr Aelodau y cwestiynau canlynol a derbyn yr atebion a ganlyn gan y Swyddogion: • Yr oedd y Pwyllgor yn pryderu am lefel y manylion yn yr achosion busnes. Esboniodd y Pennaeth Cyllid fod yn rhaid iddynt fod yn ddethol gyda’r wybodaeth oedd yn yr achosion busnes er mwyn sicrhau mai dim ond y wybodaeth fwyaf hanfodol oedd yn cael ei gynnwys yn yr achos busnes ar gyfer ymgynghori. Cafwyd yn wastad wybodaeth oedd yn cael ei ddefnyddio i greu ac ysgrifennu’r achosion busnes a bennwyd nad oedd yn angenrheidiol, ond nid oedd hynny’n golygu nad oedd yn bwysig i’r Swyddogion. Bwriadwyd i achosion busnes fod mor gryno ag oedd modd. Teimlai’r Pwyllgor nad oedd hyn yn dderbyniol, a dywedodd, er mwyn i’r cyhoedd wneud penderfyniad gwybodus ar unrhyw bwnc, byddai arnynt angen cymaint o wybodaeth ag ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Adroddiad Cynghorydd Craffu PDF 113 KB a) Forward Work Programme Update (Appendix 1) b) Actions Arising (Appendix 2) c) Referral letter (Appendix 3)
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn bresennol: Daniel Cooke – Ymgynghorydd Craffu a) Blaen-Raglen Waith Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Craffu y blaen-raglen waith a hysbysu’r Pwyllgor o’r pynciau i’w trafod yn y ddau gyfarfod nesaf: 7 Mawrth 2019 o Adolygiad Dilynol ac Argymhellion Archwilio Cymru ar Wastraff Monitro –Strategaeth Gwastraff o Diogelu Corfforaethol Blynyddol 2018/2019 18 Ebrill 2019 o Drafft o Strategaeth Adfywio Economaidd o Drafft o Strategaeth Cyfleusterau Cyhoeddus b) Camau yn Codi Gofynnodd y Pwyllgor am gynnwys y daflen weithredu gyda’r cofnodion yn agendau’r dyfodol. Nododd y Pwyllgor y daflen weithredu a ddarparwyd oedd yn cynnwys un cam ers y cyfarfod blaenorol sydd heb ei gyflawni eto. Bydd yr Ymgynghorydd Craffu yn ceisio diweddariad cyn y cyfarfod. c) Llythyr Cyfeirio Pwnc Craffu Cyflwynoddyr Ymgynghorydd Craffu y Llythyr Cyfeirio Pwnc Craffu gan y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio - Amgylchedd a Chymuned. Gofynnodd y Pwyllgor am i’r adroddiad drafft terfynol gael ei ddwyn gerbron y Pwyllgor wedi’r ymgynghoriad, fel y gall y Pwyllgor wneud unrhyw argymhellion neu sylwadau y teimlant sy’n angenrheidiol. Daeth y cyfarfod i ben am 12.30 pm
|