Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Daniel Cooke Cynghorydd Craffu
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Dim
|
|
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2019 PDF 104 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2019 fel rhai cywir.
|
|
Adolygiad Gwasanaeth Gwastraff PDF 117 KB a) Wales Audit Office – Waste Service Follow Up Review b) Recommendations Monitoring – Waste Strategy Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn bresennol: - Gareth Jones, Arweinydd Swyddfa Archwilio Cymru - Paul Jones, Pennaeth Strydwedd a Gwasanaethau’r Ddinas - Silvia Gonzalez-Lopez Rheolwr Gwasanaeth Gwastraff a Glanhau - Cynghorydd Roger Jeavons, Aelod Cabinet dros Strydwedd a Gwasanaethau’r Ddinas RhoddoddArweinydd Swyddfa Archwilio Cymru drosolwg byr i’r Pwyllgor ac amlygu’r ardaloedd allweddol i’w hystyried. Casgliad yr adolygiad dilynol oedd bod yr Awdurdod wedi gwneud cynnydd wrth ymdrin â rhai o gynigion Swyddfa Archwilio Cymru am wella, ond nad oedd cyfeiriad strategol o hyd er mwyn sicrhau gwell deilliannau cynaliadwy. Gofynnodd Aelodau y canlynol: • Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor i Bennaeth Gwasanaethau’r Ddinas a oedd yn derbyn canfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. Cadarnhaodd y Swyddogion fod rhai o ganfyddiadau’r adroddiad wedi eu hanelu at lefel gorfforaethol, a bod a wnelo rhai o’r materion â’r bwrdd gwastraff. • Gofynnoddyr Aelodau i’r Swyddogion gadarnhau a oeddent wedi cyhoeddi strategaeth gwastraff ai peidio. Esboniodd y Swyddogion fod gwaith maes yr adolygiad wedi ei gynnal 6 mis yn ôl, a bod canlyniadau’r adolygiad wedi eu cyflwyno i’r Aelod Cabinet yn ddiweddar. Yr oedd yr Aelod Cabinet wedi gwneud y penderfyniadau allweddol i roi cyfeiriad strategol i’r Strategaeth Gwastraff a bod deilliannau allweddol argymhellion y Gr?p Adolygu Polisi yn cael eu hystyried fel rhan o wneud y penderfyniadau hyn. • Teimlai Aelod mai addysg oedd y prif fecanwaith i gynyddu ailgylchu yn yr Awdurdod, a gofynnodd i’r Swyddogion a allai’r Strategaeth Gwastraff gynnwys addysg ailgylchu, gan gychwyn yn yr ysgolion fel rhan bwysig. Cadarnhaodd y Swyddogion fod ymwneud ag ysgolion yn digwydd. Nid oedd tystiolaeth i awgrymu mai addysg yn unig fyddai’n cynyddu ailgylchu heb gyfyngau ar swm y gwastraff tirlenwi y gellid ei gasglu. Mae gan Gasnewydd gyfradd o 60% o ailgylchu ac y mae wedi cymryd camau allweddol i sicrhau bod y ffigwr hwn yn cynyddu yn unol â’r newidiadau sydd eu hangen i gwrdd â thargedau Cynulliad Cymru. • Mynegodd Aelod bryderon am ailgylchu bwyd, gan gyfeirio at yr adroddiad. Gofynnodd yr Aelodau i’r swyddogion gadarnhau pa broblemau oedd yn wynebu’r awdurdod o ran gwastraff bwyd. Cadarnhaodd y Swyddog fod ailgylchu bwyd yn weddol isel, ond fod yr Awdurdod yn ddiweddar wedi rhedeg ymgyrch ym Mhapur Materion Casnewydd, yn ategu pwysigrwydd ailgylchu, oedd yn cynnwys ailgylchu bwyd. • Holoddyr Aelodau am y berthynas rhwng yr Awdurdod a Wastesavers, gan ofyn am gadarnhad am lefel y cyfathrebu rhwng y sefydliadau, pa mor aml yr oedd adroddiadau’n cael eu rhoi a’u herio. Esboniodd y Swyddogion fod gan yr Awdurdod berthynas contract gwasanaeth da gyda Wastesavers, gan gyfathrebu’n ddyddiol, cynnal cyfarfodydd bob mis i ddadansoddi nifer tunelli gwastraff, a thrafod dangosyddion perfformiad allweddol. • Mynegodd Aelod bryder am y ffaith y gallai’r Awdurdod ddirwyo trigolion am beidio â chydymffurfio. Gofynnodd yr Aelodau hefyd a oedd y targedau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yn realistig. Cadarnhaodd ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Adroddiad Cynghorydd Craffu PDF 111 KB a) Forward Work Programme Update (Appendix 1)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn bresennol Elizabeth Blayney – Rheolwr Craffu a Llywodraethiant a) Cyfoesiad y Blaen-Raglen Waith Cyflwynoddyr Ymgynghorydd Craffu y Blaen-Raglen Waith, a hysbysu’r Pwyllgor am y pynciau fyddai’n cael eu trafod yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor: 18 Ebrill 2019, yr eitemau ar yr agenda; • AdfywioEconomaidd • DiogeluCorfforaethol Amlinellodd y Rheolwr Craffu a Llywodraethiant y newidiadau i’r rhaglen waith y cytunodd y Pwyllgor arnynt eisoes. Byddai Diogelu Corfforaethol yn cael ei ystyried yn y cyfarfod hwn, ond yr oedd y cadeirydd wedi cytuno i ohirio, er mwyn gwneud newidiadau i’r adroddiad. AdfywioEconomaidd - byddai’r Pwyllgor yn awr yn derbyn Adolygiad gan SAC o Adfywio Economaidd cyn adolygu’r strategaeth. Cymeradwyodd y Pwyllgor y rhaglen waith a gyfoeswyd.
|