Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Daniel Cooke Cynghorydd Craffu
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Councillor K Thomas ddiddordeb yn eitem 3 Cynllun Corfforaethol – Argymhellion Monitro, oherwydd bod yr adroddiad yn cyfeirio at waith byrddau a wneir gan GAVO.
|
|
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2018 PDF 108 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2018 fel rhai cywir.
|
|
Cynllun Corfforaethol - Monitro Argymhellion PDF 137 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn bresennol: - Cynghorydd Debbie Wilcox – Arweinydd y Cyngor - Will Godfrey – Prif Weithredwr - Bev Owen – Cyfarwyddwr Strategol – Lle a Chorfforaethol - James Harris – Cyfarwyddwr Strategol – Pobl Rhoes yr Arweinydd drosolwg o’r broses Graffu a phwysigrwydd holi ac ateb mewn Craffu. Yr oedd gofyniad yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) i’r Cyngor fod â chynllun tymor-hir, a’i fod yn cyflwyno ar y nodau llesiant. Yn 2017, cafwyd cynllun corfforaeth 5-mlynedd oedd yn gosod allan y weledigaeth a’r ymrwymiad i’r Cyngor oll, gyda chyfrifoldeb i wneud i’r cynllun weithio ar draws pob sector. Mae angen cynllunio a chyllidebu yn ofalus yn y cyfnod ariannol anodd hwn. Gofynnoddyr Aelodau y canlynol: • Gofynnodd y Pwyllgor am wybodaeth ar y cynigion neu’r prosiectau a fwriadwyd neu a anelwyd at ddwyn y gymuned leol yn Stow Hill i mewn, i adfywio’r gymuned a chwrdd â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Dywedoddyr Arweinydd na fwriadwyd eithrio unrhyw ardal o Gasnewydd, ond bod yn rhaid ystyried y cyfyngiadau ariannol ar y Cyngor. Byddai’r Cyfarwyddwr Strategol - Lle a Chorfforaethol yn ateb yn ôl i’r Pwyllgor am y cynigion penodol a’r prosiectau yn ardal Stow Hill. Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth y Pwyllgor fod y pedwar Parth Buddsoddi Cymunedol wedi eu dewis ar sail eu safle ym Mynegai Aml-Amddifadedd Cymru. Bu Hwb Gwybodaeth CDC yn hanfodol o ran casglu a dadansoddi data i sicrhau bod y wybodaeth orau’n cael ei ddefnyddio i addasu’r Cynllun Corfforaethol. • Holodd Aelod am yr Hybiau y cyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad, a lleisiodd bryder am nifer y gwahanol fathau o ‘hwb’ yng Nghasnewydd, a sut y gallai hyn beri dryswch i’r cyhoedd. Cytunodd yr Arweinydd, a gofyn i’r Swyddogion ystyried eu labelu yn wahanol i osgoi dryswch. Soniodd yr Arweinydd wrth y Pwyllgor am yr Hwb peilot a ddatblygir yn Ringland, gyda chyllid Llywodraeth Cymru. • Yr oedd y Pwyllgor yn pryderu am ‘agwedd plastr’ at gyflwyno gwasanaethau. Yr esiampl a roddwyd oedd y bartneriaeth oedd yn dirywio gyda Linc Cymru. Cytunodd yr Arweinydd â theimladau’r Aelod, a thynnu sylw’r Pwyllgor at y ffaith fod yn rhaid i’r Cyngor weithio o fewn cyfyngiadau’r gyllideb. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid cyflwyno pob gwasanaeth yn y ffordd orau bosib gyda’r arian sydd ar gael. • Esboniodd y Prif Weithredwr fod gweithio mewn partneriaeth wedi dod yn amlycach dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a’i bod yn duedd fyddai’n parhau. Gwaith y swyddogion oedd gwerthuso’r dewisiadau i gael y canlyniadau gorau, waeth beth fyddai’r wleidyddiaeth, a chyflwyno hyn i’r Cynghorwyr. • Holodd Aelod pam na chrybwyllwyd y Byrddau Partneriaeth a gweithio mewn partneriaeth yn y cyfoesiad monitro i’r Cynllun Corfforaethol. Atebodd yr Arweinydd trwy esbonio fod y Cynllun Corfforaethol yn ddogfen fyw ac y gellid cynnwys y wybodaeth. • Gofynnodd y Pwyllgor am i ... view the full Cofnodion text for item 3. |