Agenda and minutes

Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu - Dydd Gwener, 29ain Ionawr, 2021 10.00 am

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Neil Barnett  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Dim.

2.

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf pdf icon PDF 149 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 30 Hydref 2020 yn gofnod gwir a chywir.

 

 

3.

Cyllideb 2021-22 a Rhagolygon Ariannol Tymor Canolig pdf icon PDF 157 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyllideb 2021-22 a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC)

Gwahoddedigion 

-                 Meirion Rushworth - Pennaeth Cyllid

-                 Amie Garwood-Pask – Uwch Bartner Busnes Cyllid (Strategaeth y Gyllideb)

-                 Rhys Cornwall - Pennaeth Pobl a Newid Busnes

 

Rhoddodd y Pennaeth Cyllid drosolwg o sefyllfa'r gyllideb a oedd wedi dilyn proses debyg i flynyddoedd blaenorol. Roedd y bwlch yn y gyllideb yn £4.1 miliwn ym mis Medi y llynedd. Wedyn, roedd y swyddogion wedi ystyried cynllunio arbedion lawr i hanner miliwn erbyn i'r setliad gael ei gyflwyno, ac felly roedd y gyllideb bron wedi’i mantoli ar yr adeg hon. Roedd yr arian grant a dderbyniwyd ychydig cyn y Nadolig yn £9 miliwn yn well na'r disgwyl. Defnyddiwyd niferoedd poblogaeth fel rhan fawr o'r cyfrifiad hwn ac roedd y niferoedd a ddefnyddiwyd ar gyfer Casnewydd yn hanesyddol wedi bod yn rhy isel. Roedd hyn bellach wedi'i gywiro ac felly roeddem wedi derbyn mwy o arian eleni. Hefyd, yn hytrach na'i gyflwyno fesul cam, cafwyd y grant yn llawn a oedd yn llawer gwell i'r Cyngor eleni. Byddai'r gyllideb derfynol yn cael ei gosod ym mis Chwefror yn dilyn adborth a dderbynnir ac a ystyrir.

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol: 

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English.

       Roedd yr Aelodau'n falch o'r adroddiad optimistaidd a diolchon nhw i'r tîm am baratoi'r Gyllideb drwy'r pandemig parhaus. Croesawon nhw hefyd setliad Llywodraeth Cymru. Wedyn, gofynnwyd sut mae’r setliad yn wahanol i’r llynedd?

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid nad oedd y manylion hynny ganddo, ond dywedodd ein bod yn bwriadu cyflwyno cynnydd cyffredinol o 1% a chyfran o’r cynnydd yn y boblogaeth. Esboniodd yr Uwch Bartner Busnes Cyllid, o ran y proffil, fod y rhestr a ragdybiwyd, yn seiliedig ar y dull graddol, yn £1.6 miliwn yn 2021-22, sef £3.8 miliwn dros y tair blynedd. Fodd bynnag, penderfynwyd talu'r cywiriad poblogaeth cyfan mewn un flwyddyn ariannol heb unrhyw godiadau eraill yn y setliad.

Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid y setlir ar ychydig dros 3% ar gyfartaledd ledled Cymru, ein nod yw setlo ar 1%. Fodd bynnag, roedd y taliad ychwanegol o'r cywiriad poblogaeth yn llawer mwy na'r disgwyl gan synnu pawb. Oherwydd hyn, setliad Casnewydd oedd y setliad gorau yng Nghymru.

   

       Dywedodd yr Aelodau fod y cynnydd oherwydd y cywiriad poblogaeth yn haeddiannol oherwydd twf y ddinas, ac y byddai'n annheg peidio â chyflwyno cynnydd yn unol â’r cynnydd yn y boblogaeth.

 

Cytunodd y Pennaeth Gwasanaeth fod y taliad uwch yn haeddiannol a bod ei angen ar y ddinas.

 

       A wyddom pa mor aml y bydd y cywiriadau poblogaeth yn digwydd yn y dyfodol? 

 

Esboniwyd bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio data i ragweld niferoedd poblogaeth ar draws pob ardal Cyngor, er enghraifft data poblogaeth, sy'n cael ei ddiweddaru bob blwyddyn. Bob 10 mlynedd rydym yn cynnal Cyfrifiad a gellir rhoi ffigur go iawn bryd hynny. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn rhagweld drwy ddefnyddio ffigurau genedigaethau a marwolaethau.  Amcangyfrifir y boblogaeth rhwng Cyfrifiadau. Hwn fydd y Cyfrifiad olaf cyn y  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Adroddiad Cynghorydd Craffu pdf icon PDF 139 KB

a)      Forward Work Programme Update (Appendix 1)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn bresennol:

                         Neil Barnett (Ymgynghorydd Craffu)

 

                       a)     Diweddariad ar y Flaenraglen Waith

 

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Craffu’r Flaenraglen Waith, a dywedodd wrth y Pwyllgor am y pynciau oedd i’w trafod yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor:

 

Dydd Gwener 19 Chwefror 2021, eitemau'r agenda;

                                            Ymateb i'r Normal Newydd