Lleoliad: Virtual Meeting
Cyswllt: Neil Barnett Cynghorydd Craffu
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau dros Absenoldeb Cofnodion: Cyng. Hussain a Jennie Judd.
|
|
Datganiadau o ddiddordeb Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf PDF 106 KB Cofnodion: Gofynnodd y pwyllgor i’r Cyng. C Evans gael ei enwi ar d. 3 i osgoi dryswch. Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 29 Hydref 2021 fel rhai cywir.
|
|
Strategaeth 5 Mlynedd yr Iaith Gymraeg PDF 125 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwahoddwyd: Rhys Cornwall – Cyfarwyddwr Strategol Trawsnewid a Chorfforaethol Heather Powell – Rheolwr Cymunedau Cysylltiedig Hywel Jones – Swyddog Polisi’r Gymraeg
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Strategol yr adroddiad. Hysbysodd y Cyfarwyddwr Strategol y pwyllgor fod y cyfnod ymgynghori wedi dod i ben ond eu bod yn dal i gymryd sylwadau. Hysbysodd y Cyfarwyddwr Strategol y pwyllgor mai amserlen yr adroddiad oedd iddo fynd at y Cabinet ym mis Chwefror a’r Cyngor ym mis Mawrth. Nododd y Rheolwr Cymunedau Cysylltiedig fod rhai rheoliadau penodol oedd eu hangen dan y safonau presennol, gan gynnwys targed twf yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghasnewydd, oedd yn asio gyda’r Cynllun Strategol Addysg Gymraeg. Hysbysodd y Rheolwr Cymunedau Cysylltiedig y pwyllgor fod y rhain yn canoli ynghylch 3 thema strategol - addysg, bod yn weladwy, ac ymwneud. Hysbysodd y pwyllgor fod hyn yn destun ymgynghori, ac yn cael ei anfon at bartneriaid yr iaith Gymraeg a gwefan Dinas Casnewydd ar ddydd Llun. Dywedodd hefyd fod arolwg derbyn hefyd wedi ei gynnal dros yr haf.
Cwestiynau: Gwnaed sylw am y diffyg defnydd o’r Gymraeg yn yr adroddiad A oedd y galw am ysgolion Cymraeg yn cyfateb â’r ddarpariaeth o lefydd? • Hysbysodd Swyddog Polisi’r Gymraeg y pwyllgor y cynhaliwyd cyfarfod cynllunio llefydd ysgol y diwrnod blaenorol, a bod hyn yn eitem sefydlog ar yr agenda. Ar hyn o bryd, yr oedd dim ond digon o lefydd yn yr ysgolion cynradd, ond byddai’r ddarpariaeth yno tan 2032, er bod hyn yn cael ei adolygu’n gyson. • Dywedodd Swyddog Polisi’r Gymraeg wrth y pwyllgor eu bod yn ceisio cynyddu’r niferoedd yn ysgol Gymraeg newydd Pilgwenlli. Beth oedd y costau am gyfieithu a mentrau Cymraeg eraill? • Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y pwyllgor y byddai’n hapus i ddarparu ffigurau gwirioneddol ar gyfer hyn. • Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y pwyllgor, pan gawsant Safonau’r iaith Gymraeg yn wreiddiol oedd yn gymwys i Gasnewydd, fod rhan o’r broses ymgynghori â’r awdurdod lleol yn ymwneud â chost gweithredu rhai o’r safonau, sef costau cyfieithu yn bennaf. Dywedodd wrth y pwyllgor mai’r gyllideb gyfredol ar gyfer cyfieithu oedd £101,100 y flwyddyn, sef cyfran fwyaf cost cwrdd â’r safonau. Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol nad yw hyn yn cynnwys unrhyw ddatblygu ar y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg, gan fod hyn wedi ei gynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf Addysg ar gyfer ysgolion. Ymysg costau eraill mae darpariaeth ar gyfer Swyddog Polisi’r Gymraeg a Swyddog Hyrwyddo’r Gymraeg. • Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y pwyllgor fod gwaith yn cael ei wneud i recriwtio mwy o staff Cymraeg eu hiaith ac i annog staff i ddysgu Cymraeg. • Teimlai’r Rheolwr Cymunedau Cysylltiedig y gellid edrych eto ar eiriad y cwestiwn ynghylch ystadegau am siaradwyr Cymraeg yng Nghasnewydd ac ymwneud y ganolfan gyswllt â siaradwyr Cymraeg. Pa gynlluniau oedd ar gael i gynyddu amlygrwydd, ymwneud a chyflogaeth i ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Parciau - Rheoli Cwn PSPO PDF 2 MB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwahoddwyd:
Joanne Gossage (Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden)
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth yr adroddiad, gan nodi ei fod wedi ei newid ac y bu ymwneud â rhanddeiliaid ynghylch yr adroddiad fel y’i diwygiwyd, ac y llwyddwyd i gynnal ymarferiad ymgynghori trylwyr. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth fod baneri a hysbysiadau wedi eu cynhyrchu, a bod yr ymarferiad ymgynghori wedi ei gysylltu trwy’r cyfryngau cymdeithasol a gwefan Cyngor Dinas Casnewydd. Hysbysodd y Rheolwr Gwasanaeth y pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei ddangos i Aelodau’r Cabinet cyn cael ei ddwyn yn ôl i’r pwyllgor. Yr oedd dros 3000 o bobl wedi gweld y dudalen GGMC, a bu ymwneud o holl wardiau’r ddinas. Nododdaelod o’r pwyllgor y bu nifer dda o ymatebion a chanmolodd y tîm am ddefnyddio agwedd mor amrywiol i gael ymateb i’r ymgynghoriad.
Cwestiynau: Sut byddai’r GGMC yn cael ei orfodi? Aoes digon o finiau ar gael i’r sawl sy’n mynd â’u c?n am dro i roi gwastraff ynddynt? • Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth nad pwrpas y GGMC oedd bod yn rhy llym. Teimlai mai nod geiriad y gorchymyn fyddai troi pobl ymaith oddi wrth rai gweithgareddau, ac y buasent yn plismona eu hunain i ryw raddau. Teimlai y dylai’r mesurau fod yn gymesur a mynd yn llymach yn unig lle’r oedd yn rhaid. • Holodd yr aelod pwyllgor a oedd staff ar gael i orfodi’r gorchymyn. • Hysbysodd y Rheolwr Gwasanaeth y pwyllgor mai swyddogion y Cyngor fyddai’n gyfrifol am orfodi’r mesurau meddalach, tra gellid cyfeirio problemau mwy cyson at Wardeiniaid Diogelwch Cymunedol, Wardeiniaid C?n neu’r Heddlu i’w monitro. • Holodd yr aelod pwyllgor a fyddai dirwyon yn cael eu rhoi yn y fan a’r lle. • Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddai hyn yn digwydd.
Sut byddai’r maes gwasanaeth yn argymell i’r cyhoedd adrodd am achosion o dorri’r gorchymyn? • Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth wrth y pwyllgor, petai’r gorchymyn yn llwyddiannus, y byddai darpariaeth ar y wefan a’r ganolfan gyswllt i adrodd am faterion. A fydd arwyddion yn cael eu codi i hysbysu’r cyhoedd am y gorchymyn? • Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth fod hyn yn cael ei hysbysebu’n ffurfiol ar draws yr holl barciau.
Sut y dylai trigolion roi gwybod am achosion o g?n yn brathu? • Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth mai mater i’r heddlu fyddai hyn. Fyddai mwy o finiau gwastraff yn cael eu darparu? • Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth eu bod wedi adolygu hyn ac wedi gosod mwy o finiau ar safleoedd oherwydd eu bod wedi derbyn arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Anogodd y Rheolwr Gwasanaeth y pwyllgor i roi gwybod iddi os oedd unrhyw safleoedd penodol y carent i’r tîm eu hadolygu o ran darparu biniau.
Beth petai gormod o leiniau yn cael eu marcio? • Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth wrth y pwyllgor fod lleiniau ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Adroddiad Cynghorydd Craffu PDF 166 KB a) Forward Work Programme Update (Appendix 1) b) Actions Arising (Appendix 2) c) Information Reports (Appendix 3) Join Live Event as an attendee.
Cofnodion: Strategaeth Iaith Gymraeg • Hoffai’r Pwyllgor ffigyrau cost manwl am bob agwedd o Strategaeth yr Iaith Gymraeg. • Hoffai’rpwyllgor ystadegau am nifer y siaradwyr Cymraeg a faint sy’n cysylltu â’r Ganolfan Gyswllt yn Gymraeg. • Argymhellodd y Pwyllgor y dylai mwy o’r adroddiad fod yn Gymraeg i adlewyrchu ei gynnwys. GGMC Parciau Canmolodd y Pwyllgor y defnydd o gyfryngau cymdeithasol a nifer yr ymatebion.
Gyda’r naill adroddiad a’r llall, yr oedd y pwyllgor yn gyffredinol yn hapus gyda’r cynnwys, fformat ac eglurder.
|
|
Adroddiad Cynghorydd Craffu Cofnodion: Ni nodwyd amser terfynu’r cyfarfod
|