Agenda and minutes

Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu - Dydd Gwener, 19eg Chwefror, 2021 10.00 am

Lleoliad: Virtual Meeting

Cyswllt: Neil Barnett  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Dim.

 

Dywedodd Aelod ei fod wedi treulio llawer o amser gyda grwpiau ym Mhilgwenlli ac yn gweithio gyda’r Tîm Helpu Gofalu (THG)  fel ymgynghorydd, ac elusennau eraill sydd wedi gofyn am fynegi barn. Gofynnwyd i hyn gael ei gofnodi. 

 

Dywedodd y Pennaeth Cyfraith a Rheoleiddio nad oedd hyn yn ddatganiad o ddiddordeb. 

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf pdf icon PDF 127 KB

Cofnodion:

Nodwyd fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2021 yn rhai cywir, gyda’r newidiadau a ganlyn:

 

       Tudalen 4 - “Gallai hyn gael effaith fawr ar ysgolion unigol o ran niferoedd athrawon a chefnogaeth.” Gofynnwyd am newid hyn i - “Gallai hyn gael effaith fawr ar ysgolion unigol o ran niferoedd athrawon a staff cefnogi, gan fod hyn yn effeithio ar y staff cefnogi am nad oes ganddynt hwy’r un warchodaeth ag athrawon. 

Materionyn codi:

       Gwnaed sylw nad oedd unrhyw daflen weithredu wedi ei chynnwys ar yr agenda a dim cyfoesiadau am argymhellion o’r cyfarfod. Atebodd yr Ymgynghorydd Craffu y byddai’r rhain yn cael eu cynnwys ar agenda mis Ebrill. 

 

3.

Pill PSPO - 2021-2024 (Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus) pdf icon PDF 6 MB

Cofnodion:

Gwahoddwyd:

 

This document is available in English / Mae'r ffurflen hon ar gael yn Saesneg

Gareth Price Pennaeth Cyfraith a Rheoleiddio

Rhys Thomas Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio

Sergeant Mervyn Priest Heddlu Gwent

Claire Drayton Rheolwr Gwarchod Cymunedol

Cyng. Ibrahim Hayat Cynghorydd Ward Pilgwenlli - Cyngor Dinas Casnewydd

 

Cyhoeddodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio yr adroddiad am y GGMC. Daethai’r GGMC blaenorol oedd mewn grym ym Mhilgwenlli i ben yng nghanol 2020, ac oherwydd bod hyn yn ystod y pandemig, hwn yw’r cyfle cyntaf i ddod â chynnig newydd gerbron.  

Mae swyddogion gwarchod cymunedol wedi bod yn gweithio ar y GGMC mewn partneriaeth â’r heddlu. Y nod yw adnabod cyfyngiadau blaenorol, ystyried a fuont yn effeithiol ai peidio ac a oes angen eu newid, ac ystyried a oes angen unrhyw gamau rheoli pellach. Bydd y GGMC hwn a gynigir am 2021 yn gweld cynnydd mewn cyfyngiadau yn y GGMC, cynyddu gallu gorfodi rhwng wardeniaid diogelwch cymunedol a Heddlu Gwent. Nod y GGMC yw atal ymddygiad gwrthgymdeithasol lefel isel ac ymateb i broblemau, a gallu rhoi rhybudd cosb benodol os bydd angen. 

 

Gofynniri’r Pwyllgor ystyried y GGMC, a oes angen ei roi ar waith eto, ac amodau’r GGMC. Mae angen i’r pwyllgor ystyried a ydynt yn fodlon ai peidio gyda’r broses ymgynghori cyhoeddus. Soniwyd fel pwynt esboniadol mai drafft yw hwn sy’n mynd ymlaen i ymgynghori arno.

Yroedd y Sarsiant Priest yn adleisio sylwadau Mr Rhys Thomas, gan gytuno â’r hyn a gyflwynwyd. Dywedodd y Sarsiant Priest y byddai’n croesawu unrhyw gwestiynau wrth i’r ymgynghoriad fynd rhagddo.

Dywedodd y Cynghorydd Ibrahim Hayat, sy’n cynrychioli Ward Pilgwenlli, y bu’r GGMC yn effeithiol o ran gwneud Pilgwenlli yn lle gwell i fyw ynddo. Mae’n bwysig gwneud yr ardal yn lle mwy dymunol. Fel cyngor, fe ddylem fod yn annog busnesau lleol i fuddsoddi yn yr ardal (h.y., Stryd Masnachol). Mae buddsoddiad wedi ail-gychwyn ers y GGMC. Mae angen sicrhau bod y GGMC hwn yn cael ei ymestyn a’i ail-sefydlu, gan roi i bobl yr hyder i fyw a buddsoddi yn ward Pilgwenlli. 

 

Gofynnodd yr Aelodau y cwestiynau canlynol a’u trafod:

 

       Dywedoddaelod ei fod yn llawn gefnogi cynghorwyr Pilgwenlli sydd eisiau adfer y GGMC. Dywedwyd ei bod yn bwysig cydnabod y pwysau arbennig sy’n bodoli yn ward Pilgwenlli. Mae’r adroddiad yn sôn mai bychan iawn oedd sancsiynau blaenorol (tudalen 22), ac mai ychydig o ddirwyon a roddwyd, yn enwedig mewn achosion o’r rhai sy’n cam-fanteisio’n rhywiol. Pam parhau i gynnwys y dirwyon os na fu llawer ohonynt yn y gorffennol? 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio, yn ychwanegol at yr heddlu, fod wardeniaid diogelwch cymunedol hefyd wedi defnyddio pwerau GGMC. Defnyddiodd yr heddlu a’r wardeniaid diogelwch cymunedol y mesurau gorfodi hyn. Dywedodd y Sarsiant Priest nad cyhoeddi RhCB yw’r unig waith fyddai’n cael ei wneud gyda menywod sy’n  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Ymateb i'r Normal Newydd pdf icon PDF 203 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddwyd: 

Rhys Cornwall, Pennaeth Pobl a Newid Busnes

 

 

Cyflwynodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes yr adroddiad am ymateb i’r normal newydd. Bu newid mawr yn y ffordd yr ydym yn gweithredu fel sefydliad. Parheir i gyflwyno gwasanaethau mewn sawl ffordd; er enghraifft, bu ysgolion ar agor ar gyfer amrywiaeth o ddibenion. Yr ydym hefyd wedi dangos ein bod wedi gallu parhau i ddarparu gwasanaethau tra’n gweithio o bell. Pwrpas dwyn hyn i graffu arno yw cychwyn y sgwrs am yr hyn fydd yn digwydd dros y misoedd nesaf. Dywedwyd y bydd yn annhebygol y byddwn yn dychwelyd i’r normal newydd am rai misoedd eto. Rhaid pennu sut beth fydd normalrwydd fel sefydliad. Y cynllun yw dwyn hyn i’r Cabinet dros y 3 i 6 mis nesaf i ystyried sut beth fydd ein model newydd.

 

Ymhenrhai dyddiau ar ddiwedd Mawrth, yr oedd tua 1200 o weithwyr yn gweithio o gartref. Yr oedd gan y rhan fwyaf o staff y cyngor liniaduron eisoes, ac yr oedd Office 365 eisoes ar waith. Dechreuwyd defnyddio Microsoft Teams hefyd, ac yr oedd Net Motion wedi hwyluso symudedd rhwydweithiau gweithio o bell. Yr oeddem eisoes mewn sefyllfa weddol dda i allu gweithio o bell. Efallai y dylid ystyried pam na wnaed mwy o weithio o bell o’r blaen? Rhoddwyd cyfarpar gweithio-o-bell i’r staff fel y gallant weithio o gartref yn ddiogel ac yn effeithiol. Mae gennym rai aelodau staff o hyd yn gweithio yn y Ganolfan Ddinesig ar gyfer gwasanaethau hanfodol, ond gorau po leiaf o bobl fydd yno. Bu’n rhaid gwneud rhai newidiadau i’r polisi hefyd, er enghraifft, atal amser fflecsi, a arweiniodd at dalu goramser i rai yn lle hynny. Mae’n bwysig hefyd ystyried yr effaith ar leihau carbon  - mae’r milltiredd a hawliwyd am deithio wedi gostwng yn sylweddol. Mae parcio a thagfeydd traffig hefyd wedi gwella o gwmpas y ddinas. 

 

Cafwydeffaith ar recriwtio hefyd - mae heriau yn gysylltiedig â dwyn pobl i mewn, eu harwain, eu hyfforddi, a rhoi gwybod iddynt am ddiwylliant y sefydliad. Fodd bynnag, y mae’r dull hwn o weithio o gartref yn apelio at lawer o bobl a all weld y math hwn o drefniant yn fwy deniadol am resymau personol. Bu gweithio o gartref yn gyfle i wneud pethau yn wahanol, er enghraifft, hyrwyddo gwell cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd. Mae’n ddefnyddiol gallu gweithio mewn dull mwy hyblyg. Un o’r heriau allweddol yw lles y staff a’r aelodau. Mae dod i mewn i’r gwaith a bod gyda chydweithwyr yn fantais fawr, oherwydd yr elfen gymdeithasol, yn ogystal â chael cefnogaeth gyda materion gwaith. Mae’n hollbwysig cefnogi lles.

 

Felcyngor, mae gennym oblygiadau ehangach hefyd i ddinas Casnewydd - rydym eisiau i’r canol fod yn ffyniannus, ac eisiau i bobl fyw yno.  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Adroddiad Cynghorydd Craffu

Cofnodion:

Yn bresennol: 

Neil Barnett (Ymgynghorydd Craffu) 

 

a) Cyfoesiad am y Blaen-Raglen Waith

 

Cyflwynoddyr Ymgynghorydd Craffu y Blaen-Raglen Waith, a hysbysu’r Pwyllgor am y pynciau i’w trafod yn nau gyfarfod nesaf y pwyllgor: 

 

30 Ebrill 2021, yr eitem ar yr agenda; 

GGMC Pilgwenlli - 2021-2024 (Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus)

 

3 Mehefin 2021, yr eitemau ar yr agenda; 

  Adroddiad Blynyddol Diogelu Corfforaethol 

  Normal Newydd

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.47 pm