Agenda and minutes

Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu - Dydd Gwener, 28ain Gorffennaf, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid Meeting

Cyswllt: Samantha Schanzer  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Y Cynghorwyr S Cocks a P Bright.

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf pdf icon PDF 104 KB

Cofnodion:

Gofynnodd y Pwyllgor am i’r cofnodion egluro siom cyfeiriwr yr eitem am y bid Codi’r Gwastad am y cais i’r Swyddogion fod yn bresennol.

·       Cytunoddyr Ymgynghorydd Craffu i wneud hyn.

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor fod y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 29 Medi wedi ei symud i 9 Hydref 2023.

·       Nododdyr Ymgynghorydd Craffu y byddai’r cyfarfod hwn yn dechrau’n gynt i roi amser i ymdrin â’r ddau adroddiad.

·       Deallodd y Pwyllgor fod yn rhaid i’r cyfarfod ddechrau’n gynt, ond yr oeddent yn dymuno cychwyn awr yn hwyrach na’r 2pm a drefnwyd.

·       Cytunoddyr Ymgynghorydd Craffu i newid yr amser cychwyn.

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd unrhyw faterion yn codi.

Nododd y Pwyllgor fod problem gyson gyda swyddi gwag yn y tîm Archwilio mewnol a gofynnodd i’r Cadeirydd a oedd modd lleisio eu pryderon fel y gwnaeth Pwyllgorau eraill.

·       Rhoddodd y Cyfarwyddwr Strategol Trawsnewid a Chorfforaethol drosolwg byr o’r problemau ac esbonio fod nifer o swyddogion wedi symud i swyddi eraill o’r tîm Archwilio a bod hyn wedi gadael swyddi gwag yn y Cyngor.

·       Nododd y Cyfarwyddwr Strategol Trawsnewid a Chorfforaethol fod y mater wedi ei godi yn y Pwyllgor Craffu Lle a Chorfforaethol wrth ystyried yr adroddiad diwedd blwyddyn, ac yn y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio fel rhan o’r cylch gorchwyl. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr fod y Pennaeth Cyllid wedi cytuno i ddychwelyd i’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio gyda Chynllun Archwilio wedi’i gyfoesi am weddill 2023/24, sy’n debyg o gynnwys sicrhau adnoddau ychwanegol o gorff allanol.

·       Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Strategol Trawsnewid a Chorfforaethol fod hysbysebion allan ar hyn o bryd am y swyddi gwag, a bod y gwasanaeth yn edrych i mewn i ddulliau eraill o recriwtio, fel prentisiaethau. Mae’r Cyngor yn cynnal trafodaethau anffurfiol am gyfloed o ran gwasanaeth rhanbarthol, ond bydd angen ystyried hyn ymhellach.

·       Nododd y Cadeirydd y bu llawer o symud dros y blynyddoedd yn y tîm Archwilio a swyddi gwag am amser.

·       Esboniodd y Cyfarwyddwr Strategol Trawsnewid a Chorfforaethol y bu swydd wag yn y tîm ond ei bod wedi ei symud o’r tîm fel rhan o weithgaredd i gydbwyso’r gyllideb. Esboniodd, er nad oes gallu ar hyn o bryd i ostwng lefelau staffio, y bydd angen cydbwyso’r gyllideb eto yn y flwyddyn i ddod.

·       Holodd y Pwyllgor faint o bobl sydd wedi eu cyflogi yn y  tîm archwilio mewnol, a dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol Trawsnewid a Chorfforaethol mai un person fydd yn y tîm erbyn yr haf.

·       Gofynnodd y Pwyllgor a fyddai cyflogi'r mudiad Archwilio allanol yn ddrutach na llenwi’r swyddi yn fewnol. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Strategol Trawsnewid a Chorfforaethol fod y Cyngor eisoes yn defnyddio’r cwmni am rai tasgau archwilio ac y gofynnwyd i’r Pennaeth Cyllid greu adroddiad manwl y gellir ei anfon wedyn at y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio.

·       Gofynnodd y Pwyllgor a oedd unrhyw gefnogaeth y gallant ei roi o ran pecyn  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Adroddiad Risg Gwybodaeth Blynyddol 22-23 pdf icon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddwyd:

Y Cynghorydd Yvonne Forsey - Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Bioamrywiaeth
Paul Jones - Cyfarwyddwr Strategol Amgylchedd a Chynaliadwyedd
Silvia Gonzales-Lopez - Pennaeth Amgylchedd a Gwarchod y Cyhoedd.
Ross Cudlipp - Rheolwr Gwasanaeth Newid Hinsawdd.

Cytunodd y Pwyllgor i glywed yr eitem hon yn gyntaf.

Atgoffodd y Cadeirydd y Pwyllgor mai dyma’r flwyddyn gyntaf o adrodd.

Cyflwynoddyr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Bioamrywiaeth yr adroddiad a rhoddodd y Pennaeth Amgylchedd a Gwarchod y Cyhoedd drosolwg ohono.

Cwestiynau:

Holodd y Pwyllgor am y ffigyrau am deithio ar fusnes a gweithwyr yn cymudo, gan ofyn pam fod hyn wedi cynyddu a beth fyddai heriau gostwng hyn.

·       Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y bu cynnydd yn 22-23 o gymharu â’r blynyddoedd blaenorol oherwydd y pandemig. Dywedodd y byddai’n well cymharu data â 2019 fel gwaelodlin. Hysbysodd y Rheolwr Gwasanaeth y Pwyllgor y byddant yn darganfod pam fod allyriadau yn uwch pan fo gweithio o gartref wedi cynyddu, a byddai’r Pwyllgor yn cael y wybodaeth honno.

Nododd y Pwyllgor y newidiadau yn y modd y mae Llywodraeth Cymru yn priodoli allyriadau carbon sefydliadau, gan ofyn a oedd y fethodoleg hon wedi ei chymhwyso yn ôl-weithredol i flynyddoedd blaenorol, ac ai barn y Swyddogion oedd bod lefelau cyffredinol allyriadau wedi gostwng.

·       Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth wrth y Pwyllgor nad oeddent wedi eu cymhwyso yn ôl-weithredol  ond fod modd gwneud hyn a rhoi’r wybodaeth i’r Pwyllgor.

·       Ychwanegodd y Pennaeth Gwasanaeth yr adroddir am hyn bob blwyddyn, ac na fyddai modd newid y data swyddogol.

·       Esboniodd y Cyfarwyddwr Strategol fod y fethodoleg yn esblygu’n gyson, gan ddweud y bydd mwy o newidiadau yn debyg o ddod.

·       Dywedodd y Cadeirydd y byddai’r Pwyllgor yn derbyn y wybodaeth, ond na ddylid synied amdano fel data swyddogol.

·       Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol eu bod yn hyderus fod yr allyriadau yn gostwng.

Nododd y Pwyllgor fod gan Weithred y Strategaeth Pobl a Diwylliant graddfa goch, a gofynnwyd beth oedd yr heriau.

·       Nododd y Penaneth Pobl, Polisi a Thrawsnewid y bu hyn ar y cynllun ers y flwyddyn cynt, ac esboniodd, ers cynhadledd y staff, fod yr amserlen ddatblygu wedi ei gosod a’i bod yn cael ei ddrafftio i’w ddwyn yn ôl i’r Pwyllgor.

Nododd y Pwyllgor y cam ar ddefnyddio dylanwad y Cyngor i annog cynllun pensiwn y staff i fuddsoddi yn foesegol, gan ddweud y byddai hyn yn gwestiwn ie neu na, a holwyd felly pam ei fod wedi ei nodi yn oren a pha heriau oedd yn gysylltiedig â hyn. 

·       Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddai’n gwirio hyn ac yn rhoi ateb i’r Pwyllgor.

·       Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol fod y Cynllun Newid Hinsawdd yn cwmpasu popeth ac efallai na fydd modd rhoi pob ateb ar hyn o bryd.

·       Nododd y Pwyllgor mai eu profiad personol hwy oedd y bu oedi wrth  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Adroddiad Blynyddol Cynllun Newid Hinsawdd 22-23 pdf icon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddwyd:

Y Cynghorydd Dimitri Batrouni – Aelod Cabinet dros Drawsnewid Sefydliadol
Rhys Cornwall – Cyfarwyddwr Strategol Trawsnewid a Chorfforaethol
Tracy McKim – Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid
Mark Bleazard - Rheolwr Gwasanaethau Digidol

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaeth yr adroddiad gan nodi nad oedd yn un statudol.

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Digidol drosolwg bras o’r adroddiad a thynnu sylw at rai pwyntiau allweddol.

Cwestiynau:

Llongyfarchodd y Cadeirydd y Swyddogion am gynnwys manylion am fersiwn ac awdur yr adroddiad ond holodd pam mai ond ym mis Ebrill y dechreuodd hyn ac a fu unrhyw fersiynau blaenorol.

·       Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Digidol mai adroddiad am flwyddyn ydynt, a’u bod yn dechrau ysgrifennu’r adroddiad ym mis Ebrill ond y byddai’r tîm yn cofnodi data trwy gydol y flwyddyn.

Gofynnodd y Pwyllgor am i’r data gael ei gyflwyno fel canrannau yn ogystal â ffigyrau er mwyn rhoi cyd-destun.

Holodd y Pwyllgor pam na fu’r Cyngor yn cydymffurfio â’r PSN am gyfnod o flwyddyn ac a oedd risgiau yn gysylltiedig â hyn.

·       Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Digidol na chydymffurfiodd y Cyngor yn ffurfiol oherwydd i’r gwiriad iechyd fod yn hwyr. Bu’r Cyngor wrthi yn rhoi system ariannol newydd yn ei lle, ac yr oedd hyn wedi creu heriau arbennig, ond nododd, er y bu risg weddol fychan, y cafodd hyn ei liniaru. Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaethau Digidol fod y gwiriad am eleni eisoes yn ei le. 

·       Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Digidol fod darparwr allanol yn gwneud y gwiriad iechyd, ac yn nodi pwyntiau bregus. Pan wnaed cais am gydymffurfio, ni chafodd ei dderbyn oherwydd y pwyntiau bregus a restrwyd.

Gofynnodd y Pwyllgor i’r Swyddogion ddweud peth oedd y pwyntiau bregus.

·       Rhestrodd y Rheolwr Gwasanaethau Digidol rai o’r pwyntiau bregus anodi fod y rhestr yn ymddangos yn fawr am i’r pwyntiau bregus gael eu rhestru’n unigol.

·       Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth y cafwyd anhawster i symud rhai o’r pwyntiau bregus oherwydd bod systemau gwybodaeth arnynt.

·       Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Digidol er bod llawer ar y rhestr, eu bod oll yn ymwneud ag un system.

Gofynnodd y Cadeirydd pa systemau oedd yn cael eu rhannu gydag awdurdodau lleol eraill, a phwy oedd yn arwain ar hyn.

·       Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Digidol y byddai llawer o’r awdurdodau lleol yn rhannu seilwaith craidd cyffredin wedi ei yrru gan wytnwch yn ogystal ag arbedion cost, ond y byddai fersiynau unigol o hyd  i osgoi pryderon am ddata. Ychwanegodd, tra’u bod yn cydweithio gyda’r CWA, eu bod wedi gwneud yn si?r fod gan y Cyngor amryw o systemau gwahanol gan gynnwys y system gyflogres.

·       Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol fod llawer o awdurdodau wedi symud i’r Cwmwl ond fod ganddynt eu system eu hunain na fyddai’n cael ei rhannu.

Gofynnodd y Pwyllgor pa mor aml y gofynnir i drydydd parti gynnal prawf.

·       Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Digidol fod hyn yn digwydd yn flynyddol.

·       Holodd y Pwyllgor a oedd hyn yn ddigon aml o ystyried mor gyflym y mae technoleg yn newid.

·       Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Digidol fod y prawf blynyddol yn broses ffurfiol,  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Casgliad Adroddiadau Pwyllgorau

Cofnodion:

Gofynnodd y Pwyllgor am i’r rhain gael eu cofnodi ar derfyn pob eitem berthnasol ar yr agenda.

 

7.

Adroddiad Cynghorydd Craffu pdf icon PDF 140 KB

a)      Camau Gweithredu'n Codi (Atodiad 1)

b)      Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol (Atodiad 2)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

a) Camau yn Codi (Atodiad 1)

Adroddoddyr Ymgynghorydd Craffu am y camau heb weithredu arnynt i’r Pwyllgor.

Adroddoddyr Ymgynghorydd Craffu wrth y Pwyllgor fod tua 250 o bwyntiau gwefru cerbydau trydan yng Nghasnewydd.

Nododdyr Ymgynghorydd Craffu y byddai’r Cyfarwyddwr Strategol Trawsnewid a Chorfforaethol yn cysylltu â’r Brifysgol ar ran y Pwyllgor.

      b) Blaen-Raglen Waith (Atodiad 2)

Nododdyr Ymgynghorydd Craffu fod un eitem ar yr agenda am 8 Medi a bod dwy eitem ar agenda cyfarfod 9 Hydref ac ychwanegodd y bydd cyfarfod yr Hydref yn dechrau am 2pm.

Cadarnhawyddyddiad y cyfarfod nesaf fel 8 Medi 2023.

 

8.

Digwyddiad Byw

Cofnodion:

’Mae modd gwylio recordiad o’r cyfarfod yma.  <https://www.youtube.com/watch?v=cxbY3rzhMgw>