Agenda and minutes

Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu - Dydd Iau, 26ain Medi, 2019 4.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Daniel Cooke  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim

2.

Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 12/07/2019 pdf icon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd y cofnodion fel cofnod gwir a chywir.

 

Materion yn codi

 

Taflen Weithredu:

 

§  Pwynt 1: Dywedwyd nad yw’r wybodaeth monitro hyfforddiant orfodol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn gyfredol. Rhoddwyd data ar gael bob mis Tachwedd, gwnaed yr hyfforddiant fel rhaglen dreigl felly roedd angen monitro.

 

Cysylltid â’r Pennaeth Diogelu Corfforaethol am ragor o wybodaeth.

 

§  Pwynt 5: Rhyddid Gwybodaeth i sicrhau ehangu’r wefan ar gyfer dinasyddion - cwblhawyd, gwybodaeth wedi ei negyddu.

 

 

 

3.

Adroddiad Blynyddol y Cynllun Corfforaethol 2018/19 pdf icon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Yn bresennol:

-           Debbie Wilcox, Arweinydd

-           Will Godfrey, Prif Weithredwr

-           James Harris – Cyfarwyddwr Strategol – Pobl

-           Beverly Owen - Cyfarwyddwr Strategol - Lle

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor i’r Pwyllgor am gael y cyfle i gyflwyno’r cynllun cyn diswyddo fel Arweinydd y Cyngor.

 

Hwn oedd yr ail Adroddiad Blynyddol ar y Cynllun Corfforaethol sy’n nodi amcanion y weinyddiaeth.  Roedd y cynllun yn gipolwg ar beth roedd y Cyngor wedi ei weithredu; fodd bynnag; dywedodd yr Arweinydd ei bod yn bwysig bod yr aelodau’n deall y byddai gwybodaeth fwy manwl ar gael petai ar y Pwyllgor ei hangen.

 

§  Cyfeiriodd yr Arweinydd at yr heriau ariannol y mae’r Cyngor yn eu hwynebu.  Trafodwyd y gyllideb mewn Is-Bwyllgor Cyllid gyda’r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Pobl a gobeithid y byddai cyllid gan Lywodraeth Cymru’n cael ei basio i lawr i’r Awdurdod Lleol. 

 

§  Roedd galw cynyddol am wasanaethau allweddol yn y rheng flaen, megis y Gwasanaethau Cymdeithasol; fodd bynnag; deuai’n anodd rhoi cyllid ychwanegol yn y meysydd hyn. 

 

§  Mewn cymhariaeth â’r 22 Cyngor yng Nghymru, o ddangosyddion Perfformiad Cyngor Dinas Casnewydd, roedd 9 o’r 18 dros y Cymedr Cenedlaethol yng Nghymru a 9 o’r 18 dano.   Roedd pobl Nad ydynt Mewn Addysg, Hyfforddiant na Chyflogaeth a Tai yn dangos fel meysydd lle bu gwelliant sylweddol.  Roedd y meysydd a oedd yn tangyflawni yn cael eu monitro gan yr Uwch Dîm Rheoli a’r Tîm Rheoli Corfforaethol.

 

§  Roedd Themâu'r Pedair Amcan Lles yn y Cynllun Corfforaethol yn cael eu datblygu.

 

§  Cawsai Addewid Pobl Ifanc ei weithredu, a allai arwain at raglen prentisiaeth a rhaglen graddedigion.  Roedd diogelu plant yn dal i fod yn her. Helpodd Rose Cottage, a agorodd ym mis Ionawr 2019, i ostwng effaith lleoliadau allan o’r sir gan wneud arbedion trwy ail-leoli.  Roedd ail eiddo yng Nghasnewydd ar fin cael ei brynu.

 

§  Yn ddiweddar, agorodd yr Arweinydd Oaklands gyda’r Maer a soniodd am y gwaith hyfryd a wnaed gan y staff ar gyfer y rhai sydd mewn gofal seibiant. 

 

§  Roedd yr adborth a gafwyd yn archwiliad diweddar Estyn yn gadarnhaol, roedd y canlyniadau Lefel A yn 53% a’r graddau TGAU A*-C yn 58%.

 

§  Roedd y portffolio Adfywio yn gwella canol y ddinas ynghyd â’r Ganolfan Gynhadledd Ryngwladol yn y Celtic Manor, adeilad Swyddfa'r Post ac adrannau Israddedig ac Ôl-raddedig yr Orsaf Wybodaeth.

 

§  Roedd ailgynhyrchu wedi cynyddu yn fwy na’r rhagfynegiadau.

 

§  Lleihaodd Swyddogion Gorfodi Parcio Sifil o 1 Gorffennaf barcio anghyfreithlon a chael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd.

 

§  Roedd hyb Cymdogaeth Ringland bron wedi ei gwblhau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Arweinydd am ei chyflwyniad a chymerodd y pwyllgor y cyfle i longyfarch yr arweinydd a’r Prif Weithredwr ar eu hymdrechion newydd.

 

Gofynnodd y Pwyllgor y cwestiynau canlynol:

 

§  Gofynnodd aelod pam roedd academi’r meddalwedd ac IQE yn y cynllun oherwydd mai llwyddiant y ddinas oedd y rhain ac nid llwyddiant y Cyngor.  Eglurwyd er nad oedd y gwaith y tu cefn i’r cwmnïau technoleg hyn dan reolaeth y Cyngor, defnyddiwyd IQE, cyfleuster  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Diweddariad Drafft y Strategaeth Adfywio Economaidd pdf icon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn bresennol:

-           Beverly Owen - Cyfarwyddwr Strategol - Lle

-           Keir Duffin (Pennaeth Adfywio, Buddsoddi a Thai)

-           Tracey Brooks, Rheolwr Datblygiad ac Adfywio

 

Traddododd y Pennaeth Adfywio a Thai gyflwyniad i’r Pwyllgor ar y Diweddariad Strategaeth Twf Economaidd drafft ar gyfer 2020.

 

Gofynnodd y Pwyllgor y cwestiynau canlynol:

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Pennaeth Adfywio a Thai am y cyflwyniad diddorol ac addysgol a theimlai fod y ddogfen yn anelu at y lefel gywir a bod yr wybodaeth yn berthnasol a chywir.  Roedd yn ddogfen dda iawn â’r gydbwysedd gywir o raffeg.  Roedd hefyd digon o graffu i fesur.

 

Soniodd aelod o’r Pwyllgor fod y saethau ychydig yn ddryslyd. Sylwyd fodd bynnag, mai’r bwriad oedd i’r saethau ddangos y cyfeiriad teithio ac nid y targedau.

 

Gofynnodd y Pwyllgor pam mae Hyb Casnewydd dan pobl sy’n ysbrydoli ond dylai fod dan lles.  Roedd hyn mewn perthynas ag ymwelwyr i’r ddinas, cesglid gwybodaeth i ddysgu pam mae pobl yn dod i’r ddinas oherwydd ei bod yn bwysg gwybod beth oedd yn denu ymwelwyr.  Enghraifft a roddwyd oedd Llong Casnewydd, pwy oedd yn mynychu, a oedd potensial ac a ddylai’r cyngor adeiladu hyn oherwydd bod y nifer yn codi i dros 100 mil.

 

Gofynnodd y Pwyllgor pa ddata a gâi ei gasglu ar bob hunan-gyflogedig oherwydd eu bod yn brif gyfranwyr at economi Casnewydd. Byddai’r Rheolwr Datblygu a Adfywio yn darganfod a oedd dangosyddion perfformiad mewn perthynas â phobl hunangyflogedig.

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at Banel y Dinasyddion a Rhwydwaith Economaidd Casnewydd oherwydd bod prif arweinwyr wedi eu tynnu ynghyd gan y ddau gr?p hyn a theimlid fod angen mwy o eglurhad.

 

Roedd y Pwyllgor yn hoffi’r cynllun dadansoddiad SWOT; fodd bynnag, teimlai fod angen mwy o dystiolaeth.

 

O ran Cynnal a Chadw Eiddo, roedd 19% landlord yn landlord anghyfreithlon. Hoffai’r Pwyllgor weld hyn yn symud i’r categori ‘Heriau’ ac ychwanegu landlordiaid sy’n esgeuluso at y categori Bygythiadau.

 

Nid oedd sôn am effaith coridor yr M4 ar fusnesau ac er bod hon yn broblem genedlaethol, roedd ganddi rôl bwysig i’w chwarae yn y broses ymgynghori.

 

Cyfeiriodd aelod o’r Pwyllgor at yr enillion cyfatebol ag amser llawn oherwydd roedd gwaith â chyflog uchel ond roedd y swydd â chyflog isel yn cynyddu.  Teimlid pe na ddeuai ‘gyrwyr’ i Gasnewydd, y câi’r ddinas ei gadael ar ôl a dylen felly geisio creu enillion uwch.  Roedd hefyd angen myfyrwyr o’r brifysgol i aros yn y ddinas.  Mae nifer o fyfyrwyr sy’n mynd i Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn aros yng Nghaerdydd ac yn helpu i adfywio’r ddinas. Pe gallent gadw canran fechan o’r garfan, byddai hyn yn llwyddiant; felly gellid cyflwyno ffigyrau mewn modd mwy deniadol.

 

Dywedodd aelod o’r pwyllgor fod y ddogfen wedi ei gwella’n fawr ac y cwtogwyd arni gan 10 tudalen o ailadrodd.  Byddai angen rhoi ffordd liniaru’r M4 yn y categori ‘Bygythiadau’ ac roedd pryder am y myfyrwyr ac economi’r nos.   Yn gyffredinol, bu gwelliant ers y ddogfen ddiwethaf.

 

Cyfeiriodd aelod o’r Pwyllgor at y cyflogeion yn gobeithio cael cyflogau uwch a  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Adroddiad Cynghorydd Craffu pdf icon PDF 88 KB

a)      Forward Work Programme Update (Appendix 1)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddiadau Cynghorwr Craffu - Blaengynllun

 

Trafododd y Pwyllgor yr hysbyseb blaengynllun y cyfeiriwyd ato yn ochr lawr y nant o wastraff a gwastraff heb ei gofrestru, y gellid ei godi fel cynllun gwasanaeth.

 

Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

 

1 Tachwedd 2019

            Eitemau agenda i’w cynnwys:

·         Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2018/2019

·         Strategaeth Rheoli Perfformiad - Monitro Argymhellion

·         Strategaeth Toiledau Lleol

 

24 Ionawr 2020

            Eitemau agenda i’w cynnwys:

·         Cynigion Cyllideb Ddrafft a Chynllun Ariannol Tymor Canolig 2020/21