Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Meryl Lawrence Cynghorydd Craffu
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Dim. |
|
Cynllun Busnes y Gwasanaeth Cyflawniad Addysg 2020-21 PDF 122 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwahoddedigion: Sarah Morgan - Prif Swyddog Addysg Andrew Powles - Dirprwy Brif Swyddog Addysg Ed Pryce - Cyfarwyddwr Cynorthwyol Polisi, Strategaeth a’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) Hayley Davies-Edwards - Prif Gynghorydd Herio, y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA)
Cyflwynodd y Prif Swyddog Addysg Ed Price a Hayley Davies-Edwards i’r pwyllgor. Mae Hayley yn goruchwylio’r Ymgynghorwyr Herio, ac mae Ed yn rheoli’r Tîm Cefnogi Llywodraethwyr hefyd. Hefyd nodwyd bod y Pennaeth Addysg Cynorthwyol yn gweithredu fel cleient deallus, sy’n sicrhau bod y GCA yn darparu’r gwasanaeth sydd ei angen i fodloni angen plant Casnewydd a bod y cynllun gwasanaeth addysg yn ategu cynlluniau ar gyfer ysgolion.
Wedyn rhoddodd EP drosolwg o’r adroddiad i’r pwyllgor; mae’r fformat yn debyg iawn i’r hyn y daethpwyd ag ef i’r pwyllgor o’r blaen, er bod agweddau allweddol sy’n wahanol yn nhermau dulliau cyflawni. Roedd uchafbwyntiau a roddwyd i’r pwyllgor yn cynnwys:
Mae’r GCA yn gwmni cyfyngedig dielw sy’n eiddo i’r pum awdurdod lleol (ALl) yn ne-ddwyrain Cymru. Mae’r GCA yn darparu, trwy Gynllun Busnes y cytunwyd arno, ystod eang o wasanaethau gwella ysgolion i bob ysgol (pob cyfnod allweddol, gan gynnwys ysgolion pob oed ac ysgolion arbennig), unedau cyfeirio disgyblion a lleoliadau meithrin nas cynhelir ar ran pob ALl. Mae’r cynllun hwn yn cefnogi’r rôl sydd gan ALlau wrth gyflawni eu swyddogaeth statudol, gan fynd i’r afael â’u blaenoriaethau gwella unigol a hyrwyddo canlyniadau gwell i ddisgyblion.
Mae angen i’r Gwasanaeth Cynghori ar Addysg gyflwyno Cynllun Busnes rhanbarthol trosfwaol blynyddol gydag atodiadau cysylltiedig ar gyfer pob un o’r pum ALl. Mae’r Cynllun Busnes (2020-21) yn amlinellu’r rhaglen waith sydd ei hangen er mwyn parhau i gyflymu canlyniadau i blant a phobl ifanc ar draws pob ysgol yn ne-ddwyrain Cymru. Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar yr angen taer i godi dyhead a chyflymu gwelliant o ran canlyniadau i ddisgyblion, gwella ansawdd addysgu ac arweinyddiaeth ac adeiladu system hunan-wella o fewn ac ar draws ysgolion a lleoliadau. Mae’r blaenoriaethau ar gyfer Cynllun Busnes 2020-2021 wedi deillio o’r cynnydd a wnaed tuag at y Cynllun Busnes blaenorol a chynnydd a wnaed ar draws y rhanbarth gyda’r meysydd a nodwyd fel rhai sydd angen eu gwella trwy brosesau hunanarfarnu ac adborth gan Estyn ar arolygu’r GCA.
Mae pob ysgol yn cael pecyn cymorth pwrpasol sy’n ategu’r blaenoriaethau a nodwyd o fewn ei Gynllun Datblygu Ysgol (CDY) ei hun yn unol â lefelau’r cymorth sydd eu hangen arni. Caiff lefelau’r cymorth eu llywio gan y broses gategoreiddio genedlaethol, canlyniadau arolygiadau Estyn neu ddeallusrwydd lleol. Mae rhywfaint o hyblygrwydd yn y model lleoli er mwyn caniatáu newidiadau yn ystod y flwyddyn o ran amgylchiadau. Mae’r cynnydd y mae ysgolion yn ei wneud tuag at eu blaenoriaethau yn eu CDY ac yn erbyn eu targedau lleol yn cael ei gofnodi bob tymor a’i adrodd i awdurdodau lleol.
Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:
- O ran mesur mynediad, sut rydym yn gwybod beth yw llwyddiant? Dywedwyd wrth yr Aelodau y câi ei fesur yn ôl deilliannau disgyblion. Nid yw Cyfnodau Allweddol 2 a 3 ... view the full Cofnodion text for item 2. |